Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan y Maer newydd

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd K Watts, y Maer newydd, ei anerchiad fel a ganlyn:-

 

"Mr. Maer, Cynghorwyr, gwesteion, a theulu, sydd 'bron' yn bresennol, , diolch i ryfeddodau technoleg fodern.

 

Yn naturiol, yr wyf yn falch iawn ac yn anrhydeddus o gael fy ethol i swydd Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rhywbeth nad oeddwn erioed wedi disgwyl iddo ddigwydd. Er mwyn ymhelaethu rhywfaint ar yr hyn y mae’n ei olygu i mi a'i realiti annisgwyl, bydd angen egluro ychydig ar sut y gwnaeth Sais fel fi gyrraedd y pwynt yma.

 

Ond, cyn i mi fynd ymhellach, rhaid imi ddweud fy mod yn falchach fyth, a’n fwy anrhydeddus, o gael un person penodol i gytuno i fod yn gonsort i mi, yn enwedig o ystyried y newyddion a gafodd yr adeg hon y llynedd a'r effaith ddilynol y cafodd arni. Ni allaf ond edmygu ei chryfder a'i phenderfynoldeb o ystyried yr amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'i phenderfyniad, ac mae’n cadarnhau ei bod yn fenyw arbennig.

 

Felly, mae'n fater o falchder a phleser pan ddywedaf wrthych fod y Cynghorydd Julia Williams wedi cytuno i fod yn gonsort i mi.

 

Ond i ddod yn ôl at yr hyn y mae'r anrhydedd hwn yn ei olygu i mi.

 

Des i Dde Cymru am y tro cyntaf yn 1964, yn 18 oed a’m bryd ar ferch ifanc o Gymru o Gwm Garw, a ddaeth yn ddiweddarach i fod yn wraig i mi.

 

Bryd hynny, roedd y tipiau glo yn dal yn amlwg iawn, a d?r yr afon farw yn ddu. Roedd fy narpar fam yng nghyfraith, er nad oedd hi’n gynghorydd, yn llafar iawn ar fater glanhau'r llanastr a adawyd gan y diwydiant glo, diwydiant lle bu ei g?r, fy narpar dad yn y gyfraith, yn gweithio drwy gydol ei oes. A minnau o Loegr, gwnaeth y sefyllfa a'r dinistr a wnaed gan y diwydiant argraff barhaol arnaf. Ond, dros y blynyddoedd, gwnaethpwyd mwy o argraff fyth gan y gwaith glanhau dilynol gan Gyngor Bwrdeistref Ogwr i ddechrau, a chan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach. I mi, mae hyn hyd yn oed yn fwy trawiadol o ystyried sefyllfa Dyffryn Garw cyn dechrau ei adferiad.

 

Pe bai rhywun wedi dweud wrthyf yn ôl yn y 60au y byddwn yn dod yn Faer Sir Pen-y-bont ar Ogwr (Cyngor Bwrdeistref Ogwr ar y pryd hynny) byddwn wedi meddwl eu bod wedi drysu’n lan! A byddai fy rhieni yng nghyfraith yn meddwl hynny hefyd!  Doedd gen i ddim math o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ar y pryd.

 

Yn anffodus, nid oes yr un o'r rhai yr wyf wedi sôn amdanynt yma heddiw, ond rwy'n falch o ddweud fod fy mhlant a'm hwyrion yma.

 

Wedi i mi symud i Dde Cymru ym 1976 dechreuais gymryd rhan mewn materion lleol ym Mhorthcawl. Ar ôl gweld beth yr hyn a wnaethpwyd yng Nghwm Garw, doedd dim byd i’n hatal rhag gwneud yr un fath mewn mannau eraill, felly dyma fi heddiw.

 

Fel y gwyddom, mae pethau o'r diwedd yn dechrau symud ym Mhorthcawl.

 

Bydd fy mlwyddyn yn y swydd, 8 mis mewn gwirionedd, yn fyrrach nag arfer ac mae'n amlwg bod angen ei chynnal mewn ffordd gwbl wahanol i rai fy rhagflaenwyr. O ystyried yr amgylchiadau, ac rydym oll yn ymwybodol iawn ohonynt, rwyf am geisio cyflawni a hyrwyddo rôl a swydd Maer hyd eithaf fy ngallu drwy gefnogi digwyddiadau cymunedol lle bynnag a phryd bynnag y bo modd, heb unwaith anghofio’r angen i bob un ohonom aros yn ddiogel yn ystod y pandemig ofnadwy hwn.

 

O ran y Pandemig, credaf ei bod yn ddyletswydd arnom i gyd osod esiampl i'n hetholwyr, nid yn unig drwy gadw at y rheolau a dilyn y cyngor ond, yn bwysicach, drwy gydweithio i ddarparu'r gwasanaethau niferus y mae'r Awdurdod wedi ymrwymo iddynt. Bydd yn hanfodol i ni wneud hynny er mwyn amddiffyn trigolion y Sir am, mae’n debyg, fisoedd lawer i ddod.

 

Rydym i gyd yn ymwybodol o etholiadau arfaethedig y Senedd fis Mai nesaf ac rwy'n mawr obeithio y gallwn ddisgwyl nes yr adegau cywir i drafod unrhyw wahaniaethau gwleidyddol yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond gan barhau i ddarparu her a chraffu cadarn lle bo angen.

 

Mae hefyd yn gyfnod anodd iawn i elusennau, yn enwedig wrth godi arian, bydd hyn yn heriol a dweud y lleiaf. Felly, gofynnaf i bob aelod ystyried rhoi rhodd i'm helusennau dewisol, sef Parkinson's UK a’r Gymdeithas Epilepsi, drwy gyfrif Just Giving y Maer. Rwy'n gwybod y gofynnir hyn i chi bob blwyddyn, ond eleni rwy'n credu ei bod hyd yn oed yn fwy hanfodol gwneud rhoddion gan mai’r rhain yn sicr fydd yn ffurfio’r gyfran fwyaf o arian a godir.

 

Yn olaf, hoffwn longyfarch y Cynghorydd Stuart Baldwin, y Maer sy'n ymadael. Bu’n gyfnod unigryw ac anodd i awdurdodau lleol ym mhobman, ac mae Stuart wedi cynnal swydd y Maer â balchder ac angerdd drwy gydol y 17 mis diwethaf. Felly longyfarchiadau mawr ar gyfnod llwyddiannus yn y swydd, sy’n golygu mai chi, tybiaf, yw’r maer sydd wedi gwasanaethu hiraf yn CBSP. Bu’n fraint bod yn ddirprwy i chi, a chael gweithio gyda chi a’ch Cynghorydd consort. Nicole Burnett."