Agenda item

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd ei adroddiad fel a ganlyn:-

 

"Hoffwn ddechrau drwy longyfarch Ken a Julia, a John a Susan. Rwy'n gwybod y byddant yn gynrychiolwyr ac yn llysgenhadon gwych dros y Fwrdeistref Sirol, diolchaf i'm cydweithwyr am fy ail-benodi’n Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Rhoddaf fy llongyfarchion cyhoeddus i Megan a Tino hefyd.

 

Mae bod yn Arweinydd yn fraint ac yn gyfrifoldeb eithriadol, addawaf roi fy sylw a'm ffocws llawn i'r rôl unwaith eto, a gwneud fy ngorau bob amser i'r holl bobl a'r holl gymunedau a wasanaethwn.

 

 

Yn 2019, pan anerchais gyfarfod blynyddol y Cyngor diwethaf, soniais am sut yr oeddem yn parhau i fod yn un o'r cyfnodau anoddaf a heriol y mae llywodraeth leol wedi'i wynebu erioed.

 

Ar y pryd, roeddwn yn cyfeirio at fesurau cyni, ac effaith gorfod torri £60 miliwn o gyllidebau craidd cynghorau dros gyfnod o ddeng mlynedd.

 

Pwy allai fod wedi rhagweld y byddai'r senario parhaus hwn, o fewn ychydig fisoedd yn unig, yn cael ei ddwysáu ymhellach gan yr achosion byd-eang o Covid-19?

 

Yr ydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r modd y mae'r cyngor hwn wedi esgyn unwaith eto i wynebu’r her ddiweddaraf ac anoddaf hon.

 

Mae'r ymateb gan staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn hynod.

 

Maent wedi addasu, arloesi, a dyfalbarhau o dan yr amgylchiadau anoddaf, ac maent wedi sicrhau bod yr awdurdod hwn wedi gallu parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i bobl y fwrdeistref sirol.

 

Yr wyf yn sicr y bydd aelodau o bob plaid am ymuno â mi i gydnabod eu hymdrechion, ac i gynnig ein diolchgarwch a'n parch diffuant i staff y cyngor.

 

Yn ail, mae'r pandemig wedi dod ag ystod eang o sefydliadau ac asiantaethau ynghyd i gydweithio a chyflawni nod cyffredin ar draws ein hysgolion a'n cymunedau.

 

Mae hyn wedi cynnwys cyflawniadau fel sefydlu chwe chanolfan gofal plant brys dros nos, sicrhau nad oedd dros bum mil o blant mynd ar lwgu, troi depo cyngor yn orsaf ambiwlans dros dro o fewn ychydig ddyddiau, sefydlu Abergarw Manor fel cyfleuster cam-i-lawr dros dro i bobl sy'n gadael yr ysbyty, a darparu mwy na £28 miliwn o gymorth ariannol i 2,300 o fusnesau anghenus.

 

Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â BAVO a grwpiau cymunedol gwych i gefnogi miloedd o bobl agored i niwed a oedd gwarchod, ac wedi sefydlu system ymarferol, a reolir yn lleol, er mwyn monitro, olrhain, ac amddiffyn mewn pythefnos yn unig.

 

Er mor heriol, mor galed, ac, mewn llawer o achosion, mor drasig ag y bu'r pandemig, rydym wedi gweld y gorau o bobl, a'r agwedd hon yn anad dim sydd wedi ein hatgoffa'n ysbrydoledig o’r rheswm ein bod ni yma.

 

Wrth gwrs, yr ydym hefyd wedi wynebu'r ergyd drom o golli'r Ford Engine Plant, gan golli 1,700 o swyddi a thros £250 miliwn y flwyddyn o'r economi leol.

 

Dywedais wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn Nh?'r Cyffredin fod buddsoddi brys a gweithredu cyflym yn hanfodol i ddiogelu cymunedau a'r economi leol y fwrdeistref sirol, ac mae hyn yn dal yn wir.

 

Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â phartneriaid tasglu megis Llywodraeth Cymru a Bargen Ddinesig Prifddinas-ranbarth Caerdydd i gynnig cymorth i'r holl weithwyr yr effeithir arnynt ac i weld pa fuddsoddiadau newydd y gellir eu cynnwys yn yr ardal, ac yr ydym yn parhau i wneud hynny.

 

Mae'n galonogol gweld bod y rhan fwyaf o weithwyr Ford wedi manteisio ar gyfleoedd i ailhyfforddi a datblygu sgiliau newydd, a bod mwy na 360 ohonynt wedi dod o hyd i waith newydd, tra bod 230 arall wedi dewis ymddeol.

 

Fodd bynnag, mae'r ffaith bod cwmni Ford, am fwy na phedwar degawd, wedi bod yn gwmni angori ac yn un o bwerdai'r economi leol.

 

Dyna pam ei bod yn bwysicach nag erioed i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y Fargen Ddinesig yn y dyfodol, ac i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru weithio'n ddiflino ochr yn ochr â ni i gyflwyno buddsoddiad, busnesau, a swyddi newydd.

 

Mae hyn wrth gwrs yn ychwanegol at gefnogi'r rheini sydd yma eisoes, a sicrhau bod cyfleoedd ar gael o hyd i genedlaethau'r dyfodol.

 

Yn hyn o beth, mae ffocws y cyngor hwn yn parhau'n gadarn ar sicrhau twf a ffyniant yn y dyfodol, ac rydym yn gwahodd pob busnes i ddod i weld beth sydd gan yr ardal i'w gynnig.

 

Er gwaethaf effaith y pandemig a chau’r Ford Engine Plant, mae'r cyngor hwn hefyd wedi darparu nifer o wasanaethau a chyfleusterau y dylem deimlo'n falch ohonynt.

 

Fel rhan o'n rhaglen i foderneiddio gwasanaethau i bobl h?n, ac mewn partneriaeth â Linc Cymru, rydym wedi agor dau gyfleuster gofal ychwanegol newydd yn Nh? Ynysawdre a Th? Llwynderw ym Maesteg.

 

Nid oes ond rhaid ichi ymweld â'r cyfleusterau hyn i weld eu gwerth a'r newid cadarnhaol y maent yn ei wneud ym mywydau trigolion h?n.

 

Mae sicrhau y gall pobl fyw'n annibynnol gyda'u partneriaid, yn eu fflatiau eu hunain, lle gallant gael y cymorth sydd ei angen arnynt, wrth wraidd ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gofal cymdeithasol a thai ar draws y fwrdeistref sirol.

 

Pan gododd materion yn ymwneud â chartref gofal preswyl T? Cwm Ogwr yn Lewistown, cymerodd y cyngor hwn gamau cyflym a phendant i sicrhau bod y cartref yn aros ar agor, a gallai preswylwyr barhau i elwa o ofal o ansawdd uchel.

 

Yn yr un modd, rydym wedi adeiladu ar lwyddiant ailfodelu ein cartrefi plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl i ddatblygu cynlluniau newydd ar gyfer cyfleuster preswyl i blant ar hen safle Ysgol Brynmenyn.

 

Mae hon yn fenter allweddol gan y bydd yn ein galluogi i ddod â rhai o'n plant mwyaf agored i niwed 'y tu allan i'r sir' adref i leoliad mewnol.

 

Rydym hefyd wedi parhau i sicrhau datblygiadau sylweddol ym maes addysg.

 

Mae Band A o'n Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yr 21ain Ganrif eisoes wedi darparu cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf mewn ardaloedd fel Pencoed, Betws, Coety a Brynmenyn.

 

Gan ein bod bellach wedi cadarnhau ein hymrwymiad tuag at Fand B y fenter, byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn drwy fuddsoddi mwy na £68 miliwn i welliannau pellach.

 

Mae hyn yn cynnwys cynlluniau cyffrous ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg yng ngorllewin y Fwrdeistref, Corneli, i ddatblygu ysgol arbennig newydd newydd ar gyfer plant ag anghenion cymhleth, a llawer mwy.

 

Mae'r cyngor hefyd yn parhau i fod yn un o'r awdurdodau blaenllaw yng Nghymru o ran meysydd fel ailgylchu gwastraff a'i ddargyfeirio oddi wrth safleoedd tirlenwi.

 

Er bod arolwg annibynnol wedi canfod mai ein cyfraddau ailgylchu plastig yw’r gorau yn y wlad, a'r ail uchaf yn y DU, rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol, ac mae gennym gynlluniau ar waith i ddarparu canolfan ailgylchu aelwydydd modern newydd yn y Pîl a fydd yn disodli'r cyfleuster h?n yn Tythegston.

 

Rydym hefyd yn cyflawni cynigion arloesol i leihau allyriadau carbon mewn meysydd eraill, a chyda cynllun mwynglawdd cyntaf erioed y DU yng Nghaerau a’r rhwydwaith wres ardal yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr oll yn gwneud cynnydd, mae'n hawdd deall y farn bod y fwrdeistref sirol yn flaengar yn rhaglen chwyldro ynni'r dyfodol y DU.

 

Boed yn brosiectau fel y rhain, neu fuddsoddi miliynau o bunnoedd mewn llwybrau beicio a cherdded, neu sefydlu adeiladau newydd sy'n defnyddio ynni'n effeithlon, mae ein hymrwymiad i leihau ôl troed carbon y fwrdeistref sirol wedi arwain at weithredu gwirioneddol, fel y dangosir gan ein prosiect gwerth £3 miliwn i ddarparu llwybrau cerdded a beicio newydd ym Mhencoed a Phen-y-bont ar Ogwr.

 

Rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi ffigwr hanesyddol o dros £5 miliwn mewn ail-wynebu ffyrdd a throedffyrdd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac wedi neilltuo £2 filiwn arall ar gyfer gwelliannau pellach i dir y cyhoedd.

 

Mae'r cyngor yn parhau i fuddsoddi yn ein mannau gwyrdd, ac wedi sicrhau £400,000 drwy Dasglu'r Cymoedd i'w fuddsoddi yng Nghronfa Natur Parc Slip. Gwnaethom hefyd sicrhau buddsoddiad ychwanegol o £500,000 ar gyfer Parc Gwledig Bryngarw i ganiatáu gwaith cadwraeth ynghyd â phlannu coed, sefydlu perllan gymunedol, gardd bywyd gwyllt, gardd law, pyllau newydd, adeiladau addysgol newydd, a mwy.  

 

Mae'r cyngor hwn wedi cynnal ymrwymiad hirdymor i hyrwyddo'r Gymraeg, ac yr ydym yn cyflawni hyn drwy ddatblygu pedair canolfan gofal plant cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, a chymoedd Ogwr a Garw.

 

Bydd y rhain yn galluogi mwy o deuluoedd i fanteisio ar ofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio.

 

Mae ein cynlluniau ar gyfer y ganolfan gyntaf, i’w sefydlu ym Melin Ifan Ddu, eisoes ar y gweill.

 

Mae gofal plant, wrth gwrs, yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn gallu gweithio a chael hyfforddiant.

 

Yn yr un maes, mae ein rhaglen cyflogadwyedd wedi cael ei chydnabod fel y rhai mwyaf llwyddiannus yn Ne Cymru, ac mae'n parhau i helpu cannoedd o bobl sy'n ddi-waith neu sy'n wynebu diweithdra.

 

Mae Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Caerdydd yn cyfrannu at hyn gyda rhaglen ar gyfer lleoliadau i raddedigion sydd o fudd i fyfyrwyr a chwmnïau lleol.

 

Mae'r cyngor hefyd yn croesawu'r rhaglen, ac wrthi’n cwblhau'r cylch diweddaraf o recriwtio prentisiaid newydd ar draws nifer eang o feysydd busnes.

 

Mae ein prosiectau adfywio'n parhau i wneud cynnydd, gyda datblygiadau cyffrous pellach ar y gweill ym Mhorthcawl gyda Salt Lake, a'r buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn amddiffynfeydd arfordirol newydd a Phromenâd y Dwyrain.

 

Mae adfywio hefyd yn mynd rhagddo ym Maesteg, gyda gwaith yn cael ei wneud yn neuadd eiconig y dref i sicrhau y bydd yn ganolfan i’r cwm am genedlaethau i ddod, yn ogystal â chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, lle'r ydym yn paratoi i ddadorchuddio templed cynllun meistr newydd i sicrhau ffyniant.

 

Fel lleoliad lle gwneir llawer o weithgynhyrchu, mae Mynegai Cystadleurwydd y DU wedi cydnabod yn swyddogol mai'r fwrdeistref sirol yw'r seithfed rhanbarth mwyaf cystadleuol o Gymru.

 

Gyda'r ail orsaf drenau brysuraf yn rhanbarth y Fargen Ddinesig, rydym yn ardal sy'n gweithredu fel cyswllt pwysig yn y rhwydwaith trafnidiaeth genedlaethol, i fusnesau yn ogystal â’r bobl sydd angen teithio i'r gwaith neu i dderbyn hyfforddiant.

 

Diolch i fuddsoddiad o £5 miliwn gan raglen Metro Plus, mae cynlluniau ar y gweill i ehangu gorsaf reilffordd y Pîl a'r system parcio a theithio, gan wella cysylltiadau ag Ystâd Ddiwydiannol Village Farm.

 

Yn ogystal â hyn, bydd gorsaf reilffordd newydd yn cael ei hadeiladu yn Bracla, ym Mhencoed mae seilwaith i alluogi cau'r groesfan reilffordd, a bydd gwelliannau i’r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Maesteg, Pen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl a Chaerdydd yn cynnwys terminal trafnidiaeth newydd ym Mhorthcawl.

 

Gyda phrosiectau fel y rhain a’r llawer mwy sydd ar y gweill, mae'r cyngor hwn yn parhau i fuddsoddi mewn seilwaith newydd ar gyfer y fwrdeistref sirol, hyd yn oed wrth inni edrych ar fanteisio ar ddatblygiadau’r dyfodol ledled y rhanbarth, a darparu gwasanaethau a chyfleusterau o ansawdd uchel i'r bobl a wasanaethwn.

 

Cyn i mi orffen, hoffwn wneud rhai cyhoeddiadau yngl?n â newidiadau yn uwch-reolwyr y cyngor.

 

Yn gyntaf oll, ymunodd Janine Nightingale â ni'n ddiweddar fel Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau newydd.

 

Gyda thros ddau ddegawd o brofiad fel uwch reolwr mewn llywodraeth leol, mae Janine yn gynllunydd cymwysedig sydd wedi gweithio ar lefel prif swyddog â Chyngor Caerdydd.

 

Ei safle diweddaraf oedd Pennaeth Prosiectau Cyfalaf Datblygu Economaidd, lle'r oedd yn gyfrifol am ddarparu cyfeiriad strategol ac arwain ar raglen gyfalaf £300m Caerdydd.

 

A hithau’n ferch falch o Faesteg, mae gan Janine yr un angerdd dros ddatblygu adfywiad ein cymunedau â’r gweddill ohonom. 

 

Yn sgil ymddeoliad Sue Cooper, bydd Claire Marchant yn cymryd yr awenau fel Cyfarwyddwr Corfforaethol newydd y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles hefyd.

 

Mae Claire wedi bod yn Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghaerdydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a chanddi dros 20 mlynedd o brofiad lefel uwch ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

 

A hithau wedi ymgartrefu ym Mhorthcawl i fagu ei theulu, mae Claire mor frwd ag un rhyw un dros amddiffyn ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ogystal â gwelliant parhaus ac ailfodelu ein gwasanaethau cymdeithasol.

 

Rwy’n saff fod yr holl aelodau yn ymuno â mi i'w croesawu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn fy rôl fel Arweinydd, rwy’n dibynnu ar gefnogaeth fedrus fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet.

 

Yr wyf yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth, a hoffwn gydnabod eu hymroddiad parhaus.

 

Gallaf gyhoeddi heddiw y bydd un newid i dîm y Cabinet am y flwyddyn i ddod.

 

Bydd y Cynghorydd Philip White yn ymddeol o swydd yr Aelod Cabinet a'r Cynghorydd Nicole Burnett fydd yr Aelod Cabinet newydd dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.

 

Wrth gyflawni'r swydd dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r Cynghorydd White wedi cynnig gwasanaeth diflino.

 

Mae hefyd wedi gweithredu fel hyrwyddwr brwd dros hawliau gofalwyr, pobl h?n, a phlant a phobl ifanc.

 

Mae'r Cynghorydd White yn ymddeol o'r Cabinet ond, o ran y Cyngor, bydd yn parhau i fod yn gynrychiolydd gweithgar iawn ar gyfer ei gymuned yng Nghaerau, er enghraifft fel Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Nantyffyllon. 

 

Mae'r Cynghorydd Burnett wedi dangos ymroddiad ac ymrwymiad tebyg, ac nid oes gennyf amheuaeth o gwbl y bydd yn bodloni gofynion y rôl bwysig hon yn fedrus, a’i bod yn rhannu'r un angerdd.

 

Yr wyf yn ddiolchgar bod y Cynghorydd Burnett wedi derbyn y swydd ac, ar y cyd â'm cyd-Aelodau yn y Cabinet, hoffwn estyn croeso cynnes iddi a chynnig ein diolch diffuant i'r Cynghorydd White am ei gyfraniad amhrisiadwy.

 

Gan nad wyf yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau pellach ym mhortffolio presennol y Cabinet, hoffwn orffen drwy fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn ddiffuant i'r Dirprwy Arweinydd, y Cynghorwyr Patel, Smith a Young am eu cefnogaeth barhaus a gwerthfawr.

 

Mae'n cael ei werthfawrogi, fel pob tro.

 

Hoffwn hefyd estyn fy niolch personol i bob aelod am eu cefnogaeth yn ystod yr argyfwng iechyd byd-eang hwn. Er bod gennym rai gwahaniaethau gwleidyddol, ond â gaeaf anodd o’n blaenau, mae'r gwahaniaethau hyn yn eilradd i'n hamcan pennaf, sef amddiffyn y trigolion rhag firws Covid-19 gystal ag y gallwn. Rwy'n gwybod ein bod ni, fel Cyngor, a’n bryd ar barhau mewn undod wrth gefnogi ac amddiffyn ein dinasyddion." 

 

Rhoddodd y Dirprwy Arweinydd a phob un o Aelodau'r Cabinet yn eu tro, eu teyrngedau personol i'r Cynghorydd PJ White am ei ymrwymiad, ei gefnogaeth a'i ymroddiad wrth ei waith fel Aelod Cabinet ar gyfer portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar.

 

Atebodd y Cynghorydd White drwy gadarnhau ei fod wedi mwynhau'r rôl hon yn aruthrol, ac er ei fod wedi rhoi ystyriaeth hir i’w benderfyniad i ymddiswyddo fel Aelod o'r Cabinet, teimlai mai dyna'r dewis cywir ar hyn o bryd. Diolchodd i'r Arweinydd ac Aelodau'r Cabinet am eu geiriau caredig ac am y gefnogaeth yr oeddent hwy ac Aelodau Eraill y Fwrdeistref Sirol wedi'i roi iddo ers dod yn aelod o'r Weithrediaeth.