Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i benodi Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac unrhyw Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Paneli, a chyrff eraill y mae'r Cyngor o'r farn eu bod yn briodol, i ymdrin â materion nad ydynt wedi'u neilltuo i'r Cyngor llawn nac yn swyddogaethau gweithredol.
Dywedodd fod Rhan 3 o Gyfansoddiad y Cyngor, dan deitl Cyfrifoldeb am Swyddogaethau'r Cyngor, yn nodi holl Bwyllgorau, Is-bwyllgorau, Paneli a chyrff eraill y Cyngor sydd ar waith ar hyn o bryd. Yn yr adroddiad roedd rhai Pwyllgorau penodol a lywodraethir gan ddarpariaethau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 o ran eu cyfansoddiad a/neu eu penodiad o Gadeiryddion.
Amlinellodd yr adroddiad y broses y dylid ei dilyn mewn perthynas â phenodi Aelodau i'r cyrff uchod, ond yn fwy penodol, i benodi Cadeiryddion a lle y bo'n gymwys, Is-gadeiryddion, yn unol â'r darpariaethau a amlinellir uchod.
Enghraifft o hyn fyddai penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Archwilio yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor ar ôl y cyfarfod blynyddol. Ni allai'r penodiadau hyn fod yn Aelodau o gr?p gwleidyddol mwyaf y Cyngor.
Cynigwyd fod cylch gwaith a swyddogaethau presennol Pwyllgorau a chyrff eraill y Cyngor heb eu newid, fel y nodir yn Rhan 3 o'r Cyfansoddiad – Cyfrifoldeb am Swyddogaethau'r Cyngor a oedd ynghlwm yn Atodiad 1 i'r adroddiad.
Mae cydbwysedd gwleidyddol yn hanfodol er mwyn pennu'r ffordd y dyrennir seddi ar Bwyllgorau. Dangosir cydbwysedd gwleidyddol presennol Pwyllgorau a chyrff eraill yn Atodiad 2 yr adroddiad.
Dangoswyd strwythur presennol y pwyllgorau yn Atodiad 3 yr adroddiad, tra bod aelodaeth bresennol pwyllgorau a fydd yn sail i unrhyw newidiadau i aelodaeth y pwyllgorau wedi'i hatodi yn Atodiad 4.
PENDERFYNIAD: Fod y Cyngor wedi:-
(1) Cytuno i ailenwi'r Pwyllgor Archwilio yn Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a chymeradwyo y dylid diwygio Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio yn Rhan 3 o'r Cyfansoddiad yn unol â hynny i adlewyrchu'r newid yn enw'r Pwyllgor Archwilio, yn unol â pharagraff 4. 2.3 o'r adroddiad, ac i ddileu'r cyfeiriad at y Polisi Chwythu'r Chwiban ym mharagraff 4.2.4 o'r adroddiad;
(2) Penodi’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac unrhyw Bwyllgorau eraill y mae'r Cyngor o'r farn eu bod yn briodol i ymdrin â materion nad ydynt wedi'u neilltuo i'r Cyngor nac yn swyddogaethau gweithredol;
(3) Pennu maint a chylch gorchwyl y Pwyllgorau hynny fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad;
(4) Penderfynu dyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â'r rheolau cydbwysedd gwleidyddol fel y nodir yn Atodiad 2 yr adroddiad;
(5) Penderfynu pa grwpiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Cyngor sydd â hawl i wneud pa benodiadau o Gadeiryddion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu;
(6) Derbyn enwebiadau a chynghorwyr penodedig i wasanaethu ar bob un o'r Pwyllgorau, y Paneli a chyrff eraill (fel y dangosir fel Atodiad i'r cofnodion hyn);
• Panel Apeliadau
• Y Pwyllgor Penodiadau
• Y Pwyllgor Archwilio
• Y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
• Pwyllgor Rheoli Datblygu
• Y Pwyllgor Trwyddedu
• Pwyllgor Deddf Trwyddedu 2003
• Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned
• Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1
• Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2
• Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3
• Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol
(7) Derbyn enwebiadau a phenodi Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion y Pwyllgorau, y Paneli a chyrff eraill canlynol (fel y nodwyd), ac wedi nodi y bydd y Pwyllgor Archwilio yn penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn ei gyfarfod cyntaf:
• Panel Apeliadau
Cafwyd dau enwebiad ar gyfer penodi Cadeirydd i'r Panel Apeliadau am weddill y flwyddyn ddilynol, hyd Mai 2021, fel a ganlyn:-
Y Cynghorydd PA Davies
Y Cynghorydd R Penhale-Thomas
Cynhaliwyd pleidlais felly, a’r canlyniad fel a ganlyn:-
Y Cynghorydd PA Davies Y Cynghorydd R Penhale-Thomas
30 pleidlais 23 pleidlais
O ganlyniad, penodwyd y Cynghorydd PA Davies yn Gadeirydd y Panel Apeliadau
Is-gadeirydd – y Cynghorydd J McCarthy – (heb wrthwynebiad)
• Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Cadeirydd E Venables (yn ddiwrthwynebiad)
• Pwyllgor Rheoli Datblygu
Cafwyd dau enwebiad ar gyfer penodi Cadeirydd i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu am weddill y flwyddyn ddilynol, hyd Mai 2021, fel a ganlyn:-
Y Cynghorydd G Thomas
Y Cynghorydd S Dendy
Cynhaliwyd pleidlais felly, a’r canlyniad fel a ganlyn:-
Y Cynghorydd G Thomas Y Cynghorydd S Dendy
30 pleidlais 23 pleidlais
O ganlyniad, penodwyd y Cynghorydd G Thomas yn Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu
Cafwyd dau enwebiad ar gyfer penodi Is-gadeirydd i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu am weddill y flwyddyn ddilynol, hyd Mai 2021, fel a ganlyn:-
Y Cynghorydd RM Granville
Y Cynghorydd S Dendy
Cynhaliwyd pleidlais felly, a’r canlyniad fel a ganlyn:-
Y Cynghorydd RM Granville Y Cynghorydd S Dendy
28 pleidlais 25 pleidlais
O ganlyniad, penodwyd y Cynghorydd RM Granville yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu
• Y Pwyllgor Trwyddedu a Phwyllgor Deddf Trwyddedu 2003 – Cadeirydd - Y Cynghorydd D Lewis (heb wrthwynebiad)
Is-gadeirydd – Y Cynghorydd PA Davies (heb wrthwynebiad)
• Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned – Cadeirydd
– Y Cynghorydd HJ David (heb wrthwynebiad)
Is-gadeirydd – Y Cynghorydd CE Smith (heb wrthwynebiad)
(8) Derbyn enwebiadau a phenodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu canlynol yn unol â darpariaethau paragraff 4.3 o'r adroddiad:
• Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1 – Y Cynghorydd T Giffard (heb wrthwynebiad)
• Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2 – Y Cynghorydd CA Green (heb wrthwynebiad)
• Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3 – Y Cynghorydd JP Blundell (heb wrthwynebiad)
Dogfennau ategol: