Agenda item

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb yn y Gweithlu (2019/20)

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad, i roi crynodeb i Bwyllgor y Cabinet Cydraddoldeb o broffil cydraddoldeb gweithlu'r Cyngor ar 31 Mawrth 2020 a gwybodaeth am y gofyniad am sgiliau iaith Cymraeg ar gyfer swyddi gwag.

 

Cadarnhaodd fod darparu gwybodaeth berthnasol a chywir am y gweithlu yn galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau a'i rwymedigaethau statudol mewn perthynas â Deddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Safonau'r Gymraeg.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, fod Atodiad 1 i'r adroddiad yn darparu proffil cydraddoldeb o weithlu'r Cyngor ar 31 Mawrth 2020, gyda data cymharol o flynyddoedd blaenorol.

 

Roedd set ddata lawn ar gael ar sail rhyw ac oedran, fodd bynnag, nododd nad oedd yn orfodol i weithwyr ddatgelu eu gwybodaeth bersonol sensitif at ddibenion monitro cydraddoldeb. Ychwanegodd, fod gwaith yn mynd rhagddo ac wedi'i gynllunio i annog gweithwyr i ddarparu a/neu ddiweddaru manylion o'r fath, er gwaethaf y ffaith bod gweithwyr yn rhoi hyn yn wirfoddol (ac nad yw'n rhywbeth gorfodol.)

 

Gan gyfeirio at Atodiad yr adroddiad, dywedodd y Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod gan CBSPenybont gyfran fwy o weithwyr benywaidd o gymharu ag awdurdodau lleol eraill, er na ellid cymharu hyn yn llwyr ar sail debyg am debyg, o ystyried bod gwahanol awdurdodau yn allanoli gwasanaethau o wahanol faint.

 

Cadarnhaodd fod mwy o bobl dros 60 oed yn gweithio o fewn yr awdurdod a dyma'r duedd yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Roedd hyn hefyd yn gyson ag awdurdodau lleol eraill.

 

Cadarnhaodd data hefyd bod yna gynnydd o oddeutu 1.9% mewn preswylwyr o leiafrif ethnig yn y fwrdeistref sirol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf.

 

Yn 2020, gwelwyd gostyngiad bach yng nghanran y gweithlu a oedd wedi datgan cyfrifoldebau gofalwr. Er yn ddiddorol, roedd 20% o'r staff a oedd wedi ymateb i'r arolwg (sy'n cyfateb i 350 o weithwyr, wedi nodi bod ganddynt ryw lefel o gyfrifoldebau gofalu.

 

O ran rhai ymholiadau a godwyd yn y Pwyllgor diwethaf ynghylch prosesau recriwtio'r Cyngor a'r angen i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn siaradwr Cymraeg ar gyfer unrhyw swydd benodol, cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol, pan fydd swydd wag yn codi, rhaid i reolwyr gynnal asesiad o'r sgiliau Cymraeg sy'n ofynnol trwy ystyried dyletswyddau a chyfrifoldebau'r swydd unigol yn ogystal â dyletswyddau'r tîm.  Mewn perthynas â'r swydd, mae'r meini prawf yn cynnwys, cyswllt â'r cyhoedd a'r disgwyliad i allu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg, maint y cyswllt â siaradwyr Cymraeg a'r angen i ymgymryd â gweinyddiaeth fewnol yn Gymraeg a Saesneg.  O safbwynt tîm, pa un a oes yna swyddog arall ar gael sy'n gallu darparu gwasanaeth Cymraeg.

 

Er mwyn cynyddu nifer y gweithwyr sy'n siarad Cymraeg a gwella'r gwasanaeth Cymraeg a ddarperir gan y cyngor, mae'r Polisi cyfredol ar Ddefnyddio'r Gymraeg yn y Gweithle, yn nodi y bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu gyda'r Gymraeg yn ddymunol, oni bai bod yr asesiad yn nodi bod y Gymraeg yn hanfodol.

 

Ychwanegodd, bod y trefniadau hyn wedi'u hadolygu'n fewnol a bod argymhellion yn cael eu datblygu.  Bydd y rhain nawr yn cael eu hystyried ochr yn ochr â chanlyniadau gwaith monitro 2019-20 Comisiynydd y Gymraeg, a oedd yn ymwneud â recriwtio. Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol y gallai canlyniadau terfynol hyn newid protocolau cyfredol y Cyngor o ran recriwtio siaradwyr Cymraeg ar gyfer rhai swyddi. Un o'r materion a godwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg fel rhan o'u gwaith monitro blaenorol o fewn Adnoddau Dynol, oedd bod angen i CBSPenybont fod yn fwy penodol ynghylch yr hyn sy'n ofynnol, wrth hysbysebu swyddi gwag ac yn nodi yn y fanyleb swydd, mai un o'r meini prawf ar gyfer y swydd yw y byddai'n ddymunol i ymgeiswyr siarad Cymraeg. Dywedodd y Rheolwr Gr?p bod yr Adran Adnoddau Dynol yn ail-edrych ar y mater hwn ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd Aelod at Bwynt 5. yn yr Atodiad i'r adroddiad, lle mae'n nodi bod cyfeiriadedd rhywiol staff o ran y rhai a ddatganodd eu bod yn ddeurywiol neu'n lesbiaidd ac ati, yn gyfanswm o 1.5% (h.y. o staff). Roedd hyn yn is na'r 1.8% o staff a gadarnhaodd eu bod yn dod o leiafrif ethnig. Teimlai y gallai gwir adlewyrchiad o'r data hwn fod yn uwch nag y mae'r ganran hon yn ei adlewyrchu ac oherwydd hyn, dylid rhoi mwy o anogaeth i weithlu'r Cyngor ddarparu'r wybodaeth hon. Byddai hyn yn caniatáu rhoi adlewyrchiad mwy cywir o ran data'r Cyngor yn gyffredinol, yn hytrach na chyfrifo'r ganran yn unig o'r rhai sy'n darparu'r wybodaeth. 

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol y byddai hyn yn cael ei ystyried ymhellach, er pwysleisiodd, nad oedd yn orfodol i staff ddarparu manylion o'r fath.

 

Dywedodd Aelod, er y dylai'r Awdurdod annog siaradwyr Cymraeg fel rhan o'i broses recriwtio, ei bod yn anodd ac yn afresymol o bosibl, i gael gweithlu a allai ddarparu gwasanaeth Cymraeg yn ei holl feysydd gwasanaeth. Teimlai serch hynny ei bod yn hanfodol mewn rhai meysydd, er enghraifft, ar brif Dderbynfeydd yn ein hadeiladau (fel pwynt cyswllt cyntaf) a thrwy unrhyw gyswllt â'r Awdurdod dros y ffôn, h.y. i Wasanaethau Cwsmeriaid/Canolfannau Cyswllt. Ychwanegodd y gallai nodi'r angen am siaradwyr Cymraeg mewn gormod o swyddi, lle nad oedd hynny'n hanfodol, arwain at CBSPenybont ddim yn recriwtio'r person gorau ar gyfer y swydd benodol honno.

 

Teimlai Aelod y dylid annog gweithwyr hefyd i ddatgan cyfrifoldebau gofalu, yn enwedig ers dyfodiad y pandemig Covid-19. Roedd yn teimlo bod hyn yn hanfodol, oherwydd efallai y bydd angen cefnogaeth ychwanegol gan y Cyngor ar rai o'r unigolion hyn.

 

Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth ar yr eitem hon i ben, trwy gynghori, er na allai'r Awdurdod roi pwysau ar ei gweithlu presennol i ddod yn siaradwyr Cymraeg, roedd angen lle'r oedd galw neu reidrwydd am hyn, i recriwtio pobl a oedd yn gallu sgwrsio trwy gyfrwng y Gymraeg, mewn rhai swyddi allweddol yn yr Awdurdod.    

 

PENDERFYNWYD:                              Y byddai Pwyllgor y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: