Agenda item

Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb - Adolygiad Blynyddol 2019/2020

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad, i roi diweddariad blynyddol i aelodau ar ofyniad y cyngor i gynnal Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AECau), trosolwg o ddull y cyngor o ymdrin ag AECau ac amlinelliad o AECau a gynhaliwyd ym meysydd gwasanaethau Cyngor Bwrdeistref Sirol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn 2019/20.  

 

Fel cefndir, dywedodd fod Deddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi dyletswydd gyffredinol bod yn rhaid i CBSPenybont, fel corff cyhoeddus yng Nghymru, roi sylw dyladwy i dri ffactor yn ei brosesau gwneud penderfyniadau (gan gynnwys penderfyniadau ariannol) sef:

 

Ø  Ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon:

Ø  Hyrwyddo cyfle cyfartal, a;

Ø  Meithrin cysylltiadau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydyn nhw.

 

Esboniodd bod Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn offeryn i asesu a allai polisïau/gwasanaethau/swyddogaethau newydd (neu newidiadau i rai presennol), neu gael gwared ar wasanaethau, effeithio ar wahanol sectorau o gymdeithas mewn gwahanol ffyrdd. Pe bai'r Cyngor yn creu polisi neu'n gwneud newid mawr i wasanaeth neu swyddogaeth, trwy adroddiad er enghraifft, i'r Cabinet, yna dylai AEC gyd-fynd â'r adroddiad, neu os na, yna dylid gwneud gwiriad AEC.

 

Dywedodd bod Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb (AECau) yn helpu'r cyngor i wneud penderfyniadau gwell, adnabod sut y gall gwasanaethau fod yn fwy hygyrch neu well ac ystyried y naw nodwedd warchodedig yn ogystal â'r effaith ar y Gymraeg.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y bydd y pecyn cymorth AEC yn cael ei ddiwygio yn barod ar gyfer gweithredu'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol ym mis Mawrth 2021, i gynnwys arweiniad i swyddogion ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol a phryd y mae angen ystyried hyn.

 

Bydd gweinyddiaeth y prosesau AEC hefyd yn cael ei hadolygu, a rhoddir ystyriaeth i broses asesu ar-lein i gynorthwyo gyda choladu a chyhoeddi data. Ar hyn o bryd, mae AECau llawn yn gysylltiedig ag adroddiadau Cabinet ac felly maen nhw'n dod yn ddogfennau cyhoeddus. Mae'r holl wiriadau AEC yn cael eu cadw gan y maes gwasanaeth. 

 

O ran hyfforddiant, cadarnhaodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb bod modiwl e-ddysgu yn parhau i fod ar gael i weithwyr sy'n darparu trosolwg o AECau, eu rôl mewn gwella gwasanaethau a chanllawiau i'w cynnal. Ar ddiwedd y modiwl, mae gan staff gyfle i gwblhau AEC a chymharu hyn yn erbyn fersiwn sydd eisoes wedi'i chwblhau i asesu sut mae'r modiwl wedi cynorthwyo o ran gwybodaeth a dealltwriaeth. Ychwanegodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, fod 225 o weithwyr y cyngor hyd yma wedi cwblhau'r modiwl e-ddysgu ar AECau.

 

Ychwanegodd rhwng Chwefror 2019 a Mawrth 2020, bod 8 AEC llawn wedi'u cynnal gydag adroddiadau Cabinet i gyd-fynd â nhw, a'u bod wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 i'r adroddiad.

           

Nodwyd bod 68 gwiriad AEC wedi'u cynnal yn ystod y cyfnod hwn a bod y rhain wedi'u hatodi yn Atodiad 2. Cyfeiriwyd at y gwiriadau hyn yn yr adroddiad(au) Cabinet perthnasol ac roeddent yn dangos y gallai'r polisi(au) sy'n cael eu hasesu naill ai gael eu hepgor neu y byddai angen gwneud AEC llawn. Roedd hyn wedi cymharu’n ffafriol â’r llynedd, pan gynhaliwyd 6 AEC llawn a 33 gwiriad AEC.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn falch o nodi bod Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb wedi'u datblygu ar-lein fel rhan o e-ddysgu a bod nifer y Gwiriadau AEC ac AECau llawn yn cynyddu o'i gymharu â'r llynedd.

 

Nododd Aelod fod y Cabinet wedi ystyried adroddiad Rheoli Llygredd Aer yn ddiweddar a chyda hyn yn effeithio ar bobl â phroblemau anadlu, roedd yn synnu gweld nad oedd dogfen AEC wedi dod gyda'r adroddiad hwnnw.

 

Gofynnodd hefyd faint o'r rheolwyr a oedd yn gymwys i wneud yr hyfforddiant AEC oedd wedi gwneud yr hyfforddiant hyd yn hyn.

 

Dywedodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb y byddai'n trafod y pwynt uchod gyda'r adran Adnoddau Dynol ac yn rhoi ateb i'r Aelod, y tu allan i'r cyfarfod.

 

Y flwyddyn cyn y llynedd, cadarnhaodd fod yr hyfforddiant wedi'i gyflwyno wyneb yn wyneb gan sefydliad hyfforddi allanol o'r enw Red Shiny Apple. Roedd y gyfran hon o hyfforddiant wedi nodi y dylai 60 - 65 o Reolwyr fod wedi cofrestru ar gyfer yr hyfforddiant a bod 56 o'r rhain wedi cwblhau'r hyfforddiant, felly roedd hon yn ganran eithaf uchel yn gyffredinol.

 

O ran yr adroddiad Rheoli Ansawdd Aer a ystyriwyd yn ddiweddar gan y Cabinet, eglurodd mai adroddiad diweddaru oedd yr adroddiad hwnnw ac oherwydd hynny, mae'n debyg nad oedd angen AEC llawn gydag ef.

 

PENDERFYNWYD:                             Y byddai Pwyllgor y Cabinet yn nodi'r cynnydd a wnaed yn y Cyngor yn ystod 2019/2020 wrth gwblhau Asesiadau Effaith Cydraddoldeb, y cynnydd a wnaed gyda hyfforddiant (e-ddysgu a datblygu hyfforddiant wyneb yn wyneb) a'r adolygiad o'r prosesau gweinyddu i gefnogi'r meysydd gwasanaeth.   

 

Dogfennau ategol: