Agenda item

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 2 2020-21

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid, mewn perthynas â diweddariad o'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y cyfnod chwarter a grybwyllir uchod.

 

Atgoffodd yr Aelodau, ar 26 Chwefror 2020, fod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2020-21 i 2029-30 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Cafodd y rhaglen gyfalaf ei diweddaru a'i chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ar 22 Gorffennaf 2020. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd canlynol:

 

  • Y diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 2 2020-21
  • Rhaglen Gyfalaf 2020-21 Ymlaen;
  • Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill;
  • Monitro'r Strategaeth Gyfalaf

 

Gan droi at y Rhaglen Gyfalaf, cyfeiriodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid at baragraff 4.1 o'r adroddiad. Roedd yr adran hon o'r adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21 ers i'r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ac mae'n ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 yn dod i gyfanswm o £53.541 miliwn, y mae £27.850 miliwn ohono'n dod o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi, gyda'r £25.691 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol.

 

Dangosodd Tabl 1 yn yr adran hon o'r adroddiad y rhaglen gyfalaf ar gyfer pob

Cyfarwyddiaeth o safbwynt cymeradwy'r Cyngor ym mis Gorffennaf 2020 (Chwarter 1) hyd at chwarter 2.

 

Yna, crynhodd Tabl 2 y tybiaethau ariannu presennol ar gyfer y rhaglen

gyfalaf ar gyfer 2020-21. Rheolir yr adnoddau cyfalaf i sicrhau’r

budd ariannol mwyaf posibl i'r Cyngor. Gall hyn gynnwys

adlinio cyllid er mwyn sicrhau'r grantiau mwyaf posibl gan y llywodraeth, eglurodd.

 

Yna cyfeiriodd Rheolwr y Gr?p – Cyllid, Perfformiad a Newid at Atodiad A yr adroddiad, a oedd yn rhoi manylion y cynlluniau unigol yn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos y gyllideb a oedd ar gael yn 2020-21 o gymharu â'r gwariant rhagamcanol.

 

Nodwyd eisoes bod angen llithriant cyllideb ar nifer o gynlluniau i flynyddoedd y dyfodol (2021-22 a thu hwnt). Yn chwarter 2, cyfanswm y llithriant y gofynnwyd amdano oedd £13.875 miliwn. Dangoswyd manylion y cynlluniau hyn ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Dywedodd fod nifer o gynlluniau newydd wedi'u cymeradwyo a'u hariannu'n fewnol ers yr adroddiad cyfalaf diwethaf ym mis Gorffennaf 2020, sydd wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf. Cafodd y rhain eu cynnwys ar dudalen 123/124 o'r adroddiad, gyda Rhaglen Gyfalaf Ddiwygiedig wedi'i chynnwys yn Atodiad B (i'r adroddiad).

 

Ym mis Chwefror 2020, cymeradwyodd y Cyngor y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2020-21, a oedd yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2020-21 i 2022-23 ynghyd â rhai dangosyddion lleol.

 

Roedd Atodiad C yr adroddiad yn manylu ar y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2019-20, yr amcangyfrif o'r dangosyddion ar gyfer 2020-21 a nodir yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor, a'r dangosyddion rhagamcanol ar gyfer 2020-21 yn seiliedig ar y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig. Dangosodd y rhain fod y Cyngor yn gweithredu yn unol â'r terfynau cymeradwy. 

 

Clodd Rheolwr y Gr?p – Cyllid, Perfformiad a Newid, drwy roi naratif byr ar Strategaeth Monitro Cyfalaf y Cyngor.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd mai rhaglen hirdymor 10 mlynedd oedd hon ac roedd yn falch o gyhoeddi y byddai'r £220m a ymrwymwyd i waith cyfalaf dros y cyfnod hwn yn chwarae rhan sylweddol yn ein hadferiad o'r sefyllfa bresennol. Byddai hyn yn cynnwys dilyniant o Raglen Ysgolion 21ain Ganrif, a fyddai'n parhau ac o fudd i'r genhedlaeth nesaf.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei fod yn falch o weld cyfeiriad at fuddsoddiad o £1.28m tuag at arbedion Effeithlonrwydd Ynni yn adeiladau'r Cyngor. Roedd hwn yn ymrwymiad i leihau allyriadau carbon deuocsid. Roedd hefyd yn falch o nodi bod yr Awdurdod wedi sicrhau £300k ar gyfer 11A Nolton Street lle'r oedd gwaith yn parhau i gael ei gynllunio yn dilyn y ‘cyfnod atal byr’ presennol. Yn olaf, cyhoeddodd ei fod hefyd yn falch o weld y buddsoddiad parhaus mewn adeiladau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr, gyda darparu 10 Cartref Fforddiadwy arall a darpariaethau Llwybrau Diogel mewn cymunedau lleol, yn ogystal â mentrau eraill y cyfeirir atynt yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNIAD:                           Bod y Cabinet wedi:

 

          Nodi rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21 ar gyfer y cyfnod hyd at 30 Medi 2020 yn Atodiad A i'r adroddiad;

           Cytuno y dylid cyflwyno'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad B) i'r Cyngor i'w gymeradwyo;

           Nodi’r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion eraill rhagamcanol ar gyfer 2020-21, yn Atodiad C i'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: