Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog, Gwasanaethau Adnoddau Dynol, Cyfreithiol a Rheoleiddio i geisio cymeradwyaeth y Cabinet i newidiadau arfaethedig i'r Cytundeb Cydweithio fel yr amlinellir yn yr adroddiad ac ymrwymo i Weithred Amrywio.
Amlygodd cefndir yr adroddiad fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Dinas Caerdydd, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, ym mis Ebrill 2015, wedi llofnodi Cytundeb Cydweithio ar gyfer darparu gwasanaethau rheoleiddio ar draws tair ardal y Cyngor. Crëodd y ddogfen y Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir a'r Cydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir.
Cafodd y Cytundeb Cydweithio ei amrywio wedyn gan bob parti drwy Weithred Amrywio yn 2017 y rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth iddo ar 28 Mawrth 2017.
Parhaodd drwy gadarnhau bod Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019 wedi dod i rym ar 5 Mai 2019. Ers 1 Medi 2019, rhwystrwyd asiantau gosod a landlordiaid sy'n rheoli eu heiddo eu hunain rhag codi unrhyw ffioedd cyn, yn ystod neu ar ôl tenantiaeth oni bai eu bod wedi'u heithrio'n benodol yn y Ddeddf.
Gallai'r Cyngor a Rent Smart Wales (fel yr Awdurdod Trwyddedu Sengl) ymgymryd â gorfodi'r rhain a gofynion penodol eraill fel y manylir arnynt yn yr adroddiad. Byddai hyn yn cyfrannu at brofiad tecach a mwy tryloyw i denantiaid sy'n dibynnu ar y sector rhentu preifat.
Esboniodd fod troseddau'n cael eu cyflawni lle mae landlordiaid a/neu asiantau yn methu â chydymffurfio â'r Ddeddf. Dirprwywyd y swyddogaethau i’r Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir. O ganlyniad, mae'r tri Chyngor yn dymuno diwygio'r Cytundeb Cydweithio i ychwanegu'r swyddogaeth hon at y rhestr o swyddogaethau a ddirprwywyd i'r Gwasanaeth Rheoleiddio a Rennir.
Ar 19 Tachwedd 2019, cymeradwyodd y Cabinet ddiwygio'r Cynllun Dirprwyo Swyddogaethau i gynnwys y swyddogaeth ganlynol ym mharagraff 3.56 i sicrhau bod y pwerau gorfodi statudol perthnasol o dan y Ddeddf yn cael eu defnyddio'n briodol: "Gwneud unrhyw beth y mae gan y Cyngor y p?er i'w wneud (gan gynnwys y p?er i gyflwyno unrhyw hysbysiad) sy'n angenrheidiol er mwyn gorfodi unrhyw ddarpariaethau a gynhwysir yn Neddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) 2019".
Mae unrhyw newidiadau i'r Cytundeb Cydweithio yn ddarostyngedig i Gymal 26 o'r Cytundeb sy'n nodi:
"Ni ellir amrywio'r Cytundeb hwn heb gymeradwyaeth a chydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr holl Gyfranogwyr. Pan fo'r Cyfranogwyr yn cytuno i wneud newidiadau i'r Cytundeb hwn, bydd Gweithred Amrywio yn cael ei chyflwyno rhwng y Cyfranogwyr a'i hatodi i'r Cytundeb hwn"
O ganlyniad, daeth y Prif Swyddog – Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio i'r casgliad ei bod yn ofynnol i'r Cyngor ymrwymo i Weithred Amrywio gyda'r Cynghorau eraill i ddiwygio'r Cytundeb Cydweithio. Mae angen i bob un o'r tri Chyngor dan sylw gadarnhau newidiadau o'r fath.
Canmolodd yr Aelod Cabinet – Cenedlaethau’r Dyfodol a Lles yr adroddiad
PENDERFYNIAD: Bod y Cabinet wedi:
(i) Cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i'r Cytundeb Cydweithio rhwng y tri Chyngor ar gyfer darparu Gwasanaethau Rheoleiddio;
(ii) Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Prif Swyddog – Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 i gytuno ar delerau'r Weithred Amrywio i'r Cytundeb Cydweithio ac i drefnu gweithredu'r Weithred Amrywio ar ran y Cyngor.
Dogfennau ategol: