Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru, yn gynharach yr wythnos hon, wedi cadarnhau y bydd Cymru gyfan yn dechrau ar bythefnos o ‘gyfnod atal byr’ a fydd yn dechrau ddydd Gwener 23 Hydref, ac yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd.

 

Gyda chymaint â 2,500 o bobl yn dal y coronafeirws bob dydd yng Nghymru, cadarnhaodd y Prif Weinidog fod y camau'n hanfodol i drawsnewid hyn, ac i atal ysbytai ac unedau gofal critigol rhag cael eu llethu yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

 

Bydd y cam hefyd yn cefnogi ymdrechion i gyfyngu ar gyfyngiadau yn ystod cyfnodau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ac mae'n dilyn ymdrechion Llywodraeth Cymru i gadw Cymru'n ddiogel drwy atal pobl rhag teithio i Gymru o 'fannau poeth' y coronafeirws yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Bydd y cyfnod atal byr yn gosod nifer o gyfyngiadau ar aelwydydd a busnesau ledled Cymru drwy gydol ei hyd.

 

Bydd angen i bobl aros gartref a hefyd gweithio gartref lle bynnag y bo modd.

 

Dim ond am resymau hanfodol y gall pobl fynd allan, e.e. prynu bwyd neu gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn, a gallant hefyd adael y cartref i ymarfer corff naill ai ar eu pennau eu hunain, gydag aelodau o'r aelwyd neu gyda gofalwr.

 

Bydd oedolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu rieni sengl yn gallu ymuno ag un aelwyd arall i gael cymorth, ond ni fydd yn bosibl ymweld ag aelwydydd eraill neu gyfarfod â phobl nad ydych yn byw gyda hwy, dan do neu yn yr awyr agored.

 

Ni fydd digwyddiadau awyr agored, gan gynnwys gweithgareddau wedi'u trefnu fel Calan Gaeaf neu Noson Tân Gwyllt, yn gallu cael eu cynnal.

 

Fodd bynnag, bydd eithriad yn cael ei wneud ar gyfer digwyddiadau Sul y Cofio ar raddfa fach, sydd eisoes wedi'u trefnu.

 

Er y bydd angen i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu i gyd gau, gall parciau lleol, meysydd chwarae a champfeydd awyr agored aros ar agor.

 

O ran yr effaith ar ysgolion lleol, bydd ysgolion cynradd ac arbennig yn ailagor fel arfer ar ôl gwyliau hanner tymor mis Hydref, a bydd ysgolion uwchradd yn ailagor i blant ym mlynyddoedd saith ac wyth.

 

Bydd disgyblion yn gallu mynychu'r ysgol i sefyll arholiadau, ond bydd angen i blant eraill barhau â'u dysgu o'u cartref am wythnos ychwanegol.

 

Mae'n ofynnol i bob busnes manwerthu a lletygarwch di-fwyd, gwasanaethau cyswllt agos, a busnesau digwyddiadau a thwristiaeth gau yn ystod y cyfnod clo.

 

Bydd hyn yn cynnwys trinwyr gwallt, parlyrau prydferthu, gwestai, caffis, bwytai a thafarndai, ond bydd gwasanaethau cludfwyd a dosbarthu yn dal i allu gweithredu.

 

Bydd gwasanaethau iechyd a gwasanaethau'r GIG yn parhau i weithredu, a lle bydd mannau cyhoeddus dan do yn aros ar agor, rhaid gwisgo gorchuddion wynebau, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis.

 

I gefnogi busnesau yn ystod y pythefnos o gyfnod clo, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £300m.

 

Bydd pob busnes a gwmpesir gan y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael taliad untro o £1,000, tra bydd pob busnes manwerthu, hamdden a lletygarwch bach a chanolig ei faint sy'n rhaid iddo gau yn cael taliad untro o hyd at £5,000.

 

Mae cronfa a gyhoeddwyd yn ddiweddar i helpu busnesau i ddatblygu yn y tymor hwy yn cynyddu o £80m i £100m, gyda'r £20m ychwanegol wedi'i neilltuo i gefnogi busnesau twristiaeth a lletygarwch.

 

Bydd grantiau a chymorth dewisol ychwanegol ar gael hefyd, a bydd busnesau'n gallu defnyddio'r Cynllun Cadw Swyddi presennol neu'r Cynllun Cymorth Swyddi sydd newydd ei ehangu.

 

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn parhau i sicrhau bod cynlluniau cymorth cyflog ar gael.

 

Ynghyd â'n partneriaid, mae'r Cyngor yn paratoi ar gyfer dechrau'r cyfnod atal byr, ac i sicrhau y gallwn barhau i flaenoriaethu pobl sy'n agored i niwed a darparu gwasanaethau hanfodol.

 

Drwy gydol hyn, mae rhesymeg Llywodraeth Cymru dros gychwyn y cyfnod atal byr yn parhau'n glir iawn.

 

Nid oes neb am weld cyfnod clo arall, ond ledled Cymru, mae pandemig y coronafeirws yn gwaethygu, ac nid yn gwella.

Mae pobl yn marw, ac mae angen cymryd y sefyllfa'n llawer mwy difrifol ar draws pob lefel o'r gymuned.

 

Mae angen y cyfnod atal byr er mwyn atal ein hysbytai a'n gwasanaethau hanfodol rhag cael eu llethu gan achosion o’r coronafeirws yr hydref a'r gaeaf hwn.

 

Mae'r sefyllfa sy'n gwaethygu wedi golygu bod ysbyty maes Ysbyty'r Seren ar ystâd ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr eisoes wedi dechrau derbyn cleifion o Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty’r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru.

 

Fel y gwyddai’r Aelodau, mae'r ysbytai maes wedi'u cynllunio i leddfu'r straen ar ein prif gyfleusterau, ac i sicrhau y gallant barhau i ganolbwyntio ar gleifion y mae angen gofal mwy arbenigol arnynt.

 

Roedd angen i bawb chwarae eu rhan i gefnogi'r ymdrechion hyn er mwyn amddiffyn ein hunain, ein ffrindiau a'n teuluoedd, a'n cymunedau.

 

Fel arweinwyr cymunedol, gwyddai'r Arweinydd y bydd pob aelod yn cefnogi'r ymdrechion hyn, a bydd yn annog etholwyr i gadw at reolau’r cyfnod clo.

 

Er mwyn helpu pobl i ddeall hyn yn well, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres fanwl iawn o gwestiynau cyffredin ar eu gwefan.

 

Yn ogystal â darparu cyd-destun eang ar gyfer pam mae angen y cyfnod atal byr, mae hefyd yn rhoi atebion ac yn cadarnhau manylion am ystod eang o bynciau, ac mae'n adnodd defnyddiol os byddwch yn derbyn unrhyw ymholiadau.

Ar ôl diwedd y cyfnod atal byr, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi set newydd o reolau cenedlaethol y rhagwelwn y byddant yn ymdrin â sut y gall pobl gyfarfod, sut y gall y sector cyhoeddus a busnesau weithredu, a mwy.

 

Byddai rhagor o fanylion ar gael wrth iddynt ddod yn hysbys, ond gyda derbyniadau i ysbytai'n codi'n gyflym, unedau critigol eisoes yn llawn a risg wirioneddol y bydd y GIG yn cael ei lethu, mae'n amlwg bod rhaid cymryd camau'n awr, a bod rhaid inni i gyd weithredu gyda'n gilydd er mwyn gwneud iddo weithio ac achub bywydau.