Agenda item

Adroddiad Blynyddol 2019-20

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr a'i ddiben oedd cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2019-20 y Cyngor (yn Atodiad A) i'r Cyngor ei ystyried a'i gymeradwyo.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, yn unol â chanllawiau statudol Rhannu Pwrpas Rhannu Dyfodol (SPSF: 2) ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus unigol adolygu cynnydd eu hamcanion llesiant yn flynyddol a chyhoeddi adroddiad i asesu i ba raddau y mae'r amcanion hyn yn cyfrannu at y nodau llesiant yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

 

O dan adran 15 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac yn unol â'r canllawiau statudol cysylltiedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, rhaid i'r awdurdod hefyd gyhoeddi ei asesiad o berfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol cyn 31 Hydref.

II Esboniodd fod y Cyngor, ym mis Mawrth 2019, wedi cyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol 2018-22, a ddiwygiwyd yn 2019-20. Mae'r Cynllun yn nodi ei weledigaeth, sef gweithredu bob amser fel 'Un Cyngor yn cydweithio i wella bywydau', a'i dri amcan llesiant. Mae'r Cynllun hefyd yn ailadrodd yr amcanion llesiant ar gyfer 2019-20.

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, fod y Cynllun yn diffinio 41 o ymrwymiadau i gyflawni'r tri amcan llesiant ac yn nodi 56 o ddangosyddion sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i fesur y cynnydd ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Yn gyffredinol, perfformiodd y Cyngor yn dda iawn yn 2019-20, meddai. O'r 41 ymrwymiad, cwblhawyd 34 (82.9%) yn llwyddiannus gyda 3 (7.3%) yn cyflawni'r rhan fwyaf o'u cerrig milltir a 4 (9.8%) yn methu’r rhan fwyaf o'u cerrig milltir. Roedd rhesymau y gellir eu cyfiawnhau pam y methwyd â chyrraedd rhai targedau.

O'r 56 dangosydd a nodwyd ar gyfer y Cynllun Corfforaethol, gellir cymharu 52 â'u targed: cyrhaeddodd 35 (67.3%) eu targed, methodd 9 (17.3%) â chyrraedd eu targed o lai na 10% a methodd 8 (15.4%) â chyrraedd eu targed o fwy na 10%.  Cynhwyswyd gwybodaeth fanwl am berfformiad y Cyngor yn Atodiad A i'r adroddiad.  

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, ymhellach, oherwydd Covid-19, fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fyddai unrhyw gasglu data o Fesurau Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer 2019-20 felly ni wnaed unrhyw ddadansoddiad mewn perthynas â'r dangosyddion hyn.

Nodwyd crynodeb o gyllid a pherfformiad ariannol ar gyfer y flwyddyn, canfyddiadau a themâu rheoleiddwyr sy'n sail i waith y Cyngor hefyd yn yr adroddiad, a oedd, oherwydd y pandemig, wedi edrych ymlaen yn ogystal ag yn ôl. Dyma rywbeth nad oedd wedi bod yn arfer ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol, yn y gorffennol.

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 11 yr Adroddiad Blynyddol a'r Nod o greu canol trefi llwyddiannus. Nododd nad oedd nifer yr ymwelwyr â chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr o ran ei tharged o 7.2m ar gyfer 2019/20 wedi'i gyflawni a hynny o gryn dipyn. Nododd ymhellach fod nifer yr ymwelwyr yn nhref Porthcawl wedi cynyddu o 2018/19. Gofynnodd am rywfaint o eglurhad pam yr oedd hyn yn wir, yn enwedig o gofio bod GFK wedi cynyddu ym mhob rhan o'r DU.

Dywedodd yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr yn eu tro y byddent yn edrych ar y data perthnasol y tu allan i'r cyfarfod ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod yn unol â hynny gyda'r rhesymau dros hyn.

PENDERFYNWYD:                      Bod y Cyngor wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2019-20 (yn Atodiad A i'r adroddiad).     

 

Dogfennau ategol: