Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a oedd yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd am Adroddiad Blynyddol drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â lefel ac ystod y gydnabyddiaeth ariannol y mae'n rhaid i'r Awdurdod ei darparu i'w Aelodau ar gyfer blwyddyn 2021/2022 y Cyngor.
Gofynnodd i'r Pwyllgor hefyd roi unrhyw sylwadau ac argymhellion i'r Cyngor mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol Drafft 2021/2022.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mai 2021/2022 oedd trydydd Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel), a'r degfed a gyhoeddwyd o dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (sydd wedi'i atodi fel Atodiad 1). Estynnodd y Mesur gyfrifoldebau'r Panel a'i bwerau o dan Adran 142 i benderfynu (rhagnodi) taliadau i aelodau awdurdodau perthnasol.
Ychwanegodd fod cynrychiolwyr y Panel wedi cynnal cyfarfodydd ymgynghori o bell ar eu cynigion, a fynychwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Dangoswyd penderfyniadau Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021 yn Atodiad 2 i'r adroddiad.
Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd er bod cyfyngiadau ariannol ar y sector cyhoeddus yn parhau, bod y Panel o'r farn bod cyfiawnhad dros gynnydd yn y cyflog sylfaenol a'i fod wedi cynnig cynnydd o £150 y flwyddyn (1.06%) i'r cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau’r prif gynghorau o 1 Ebrill 2021. Mae'r cynnydd arfaethedig a gymhwysir at gyflog sylfaenol aelodau’r prif gynghorau yn cydnabod y dyletswyddau sylfaenol a ddisgwylir gan bob Aelod Etholedig. Y cyflog sylfaenol yn 2021/2022 ar gyfer Aelodau Etholedig y prif gynghorau fydd £14,368, a dangoswyd hyn ym Mhenderfyniad 1.
Yn yr un modd, mae'r Panel wedi penderfynu y byddai cyflogau uwch yn cael eu cynyddu ar yr un gyfradd â chyflogau sylfaenol sef 1.06%, a ddangoswyd ym Mhenderfyniad 2. Ychwanegodd na fyddai unrhyw godiadau ychwanegol yn cael eu talu i ddeiliaid cyflog uwch yn 2021/2022. Roedd y Panel yn ystyried bod Arweinwyr ac aelodau'r weithrediaeth yn cario'r atebolrwydd unigol mwyaf. Cynigiodd y Panel gynyddu cyflogau'r Bwrdd Gweithredol, Cadeiryddion Pwyllgorau ac Arweinydd y Gr?p i'r lefelau canlynol:
Uwch gyflogau (gan gynnwys cyflog sylfaenol) |
|
Yr Arweinydd |
£49,974 |
Dirprwy arweinydd |
£35,320 |
Aelodau gweithredol |
£30,773 |
Cadeiryddion pwyllgorau (os cânt gydnabyddiaeth ariannol): |
£23,161 |
Arweinydd y gr?p gwrthblaid mwyaf3 |
£23,161 |
Arweinydd grwpiau gwleidyddol eraill |
£18,108 |
Penderfynodd y Panel hefyd ym Mhenderfyniad 3 y dylid talu cyflogau dinesig fel a ganlyn:
Cyflogau dinesig (gan gynnwys cyflog sylfaenol) |
|
Y Maer |
£23,161 |
Yr Arglwydd Faer |
£18,108 |
Gofynnodd Aelod mewn perthynas â thudalen 34, adran 3.22 o'r adroddiad lle mae'n nodi y dylai Aelodau eisoes ddefnyddio gwasanaethau e-bost electronig a'r gallu i gael gafael ar wybodaeth yn electronig, beth oedd barn yr Aelodau am hyn. Ychwanegodd bod angen i Aelodau weithio gartref yn ystod Pandemig Covid-19. A oedd disgwyl i Aelodau fod â chyfleusterau’r rhyngrwyd yn eu lle, neu a oedd yr Aelodau'n teimlo bod angen iddynt sefydlu hyn o ganlyniad i Covid-19.
Trafododd y Pwyllgor y pwynt hwn a daeth i'r casgliad bod cyfleusterau rhyngrwyd priodol yn rhywbeth y byddai Aelodau eisoes wedi'i gael cyn Pandemig Covid-19, a chredodd nad oedd angen ad-daliad arnynt am gostau sy'n gysylltiedig â band eang.
Cododd Aelod y mater nad oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn swydd â thâl, ond credai ei fod yn rhannu cyfrifoldebau tebyg â Chadeiryddion eraill ac felly y dylid ei dalu yn unol â hynny. Gofynnodd yr Aelodau i hyn gael ei godi yn y Cyngor fel y gellid edrych arno ymhellach.
Cododd Aelod fod rhyddhad treth ar gael mewn perthynas â phandemig Covid 19 nad oedd yn hysbys iawn. Cynigiodd y dylai gwybodaeth fod ar gael ar wefan y Cyngor i gyfeirio Aelodau at wefan Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gael rhagor o wybodaeth
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi gwneud sylwadau ar Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol Cymru 2021/2022 ac wedi darparu'r argymhellion canlynol i'r Cyngor:
Dogfennau ategol: