Agenda item

Datganiad Sefyllfa - Adroddiad 'Gwella Ein Perfformiad - Mynd i'r Afael â Thwyll yng Nghymru'.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad yn rhoi datganiad ynghylch sefyllfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yng nghyswllt yr argymhellion a wnaed gan Archwilio Cymru yn ei adroddiad diweddar, 'Gwella Ein Perfformiad - Mynd i'r Afael â Thwyll yng Nghymru'. Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi amlinelliad o gynlluniau'r Cyngor ar gyfer y dyfodol.

 

Esboniodd fod yr adroddiad yn rhoi syniad i'r aelodau o weithgarwch y Cyngor wrth fynd i'r afael â thwyll, a hefyd yn rhoi cyfle i aelodau gyfrannu at ymdriniaeth y Cyngor â'r risg o dwyll.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y prif agweddau yn Adroddiad Archwilio Cymru. Ychwanegodd fod y Cyngor wedi llunio datganiad sefyllfa a oedd yn cymharu'r sefyllfa gyfredol o fewn yr awdurdod â'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Archwilio Cymru. Roedd hyn wedi'i gynnwys yn Atodiad A, ac Adroddiad Archwilio Cymru wedi'i gynnwys yn Atodiad B.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid mai argymhellion i Lywodraeth Cymru yn bennaf oedd yr argymhellion gan Archwilio Cymru, ond eu bod yn berthnasol i ni hefyd, am ein bod fel Cyngor yn gyfrifol am ein gweithgarwch Atal Twyll ein hunain.

 

Amlinellodd y thema'n gysylltiedig â'r Fframwaith Rheoli a Rheolaeth ar Risg, gan nodi y dylai'r holl gyrff cyhoeddus gynnal asesiadau cynhwysfawr o'r risg o dwyll, gan ddefnyddio staff â sgiliau priodol ac ystyried cudd-wybodaeth genedlaethol yn ogystal â chudd-wybodaeth penodol i'r sefydliad. Amlinellodd sefyllfa CBSPO yn hyn o beth, fel y rhestrwyd yn R3 yn atodiad A.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod gan CBSPO bolisïau, gweithdrefnau a mecanweithiau adrodd i atal, canfod ac adrodd am dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd. Roedd y rhain

yn cynnwys:-

  • Strategaeth a Fframwaith Twyll 2018/19 - 2020/21
  • Polisi Chwythu'r Chwiban
  • Cod Ymddygiad TGCh
  • Polisi Atal Twyll a Llwgrwobrwyo
  • Polisi Disgyblu
  • Roedd Polisi Atal Efadu Trethi hefyd yn cael ei ddrafftio.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y dylai staff sy'n gweithio ar draws sector cyhoeddus Cymru dderbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth twyll, fel bo'n briodol i'w rôl er mwyn i sefydliadau fod yn fwy effeithiol wrth atal, canfod ac ymateb i dwyll. Dywedodd y bu nifer o ddatblygiadau yn CBSPO yn dilyn hyn, a restrwyd yn R6 yn Atodiad A.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod twyll wedi bod ar gynnydd ers Covid-19. Dywedodd fod angen i bob corff cyhoeddus adeiladu digon o gapasiti i sicrhau adnoddau effeithiol ar gyfer gwaith atal twyll, fel bod ymchwiliadau'n cael eu cynnal mewn modd proffesiynol, ac mewn modd a oedd yn arwain at gosbi drwgweithredwyr yn llwyddiannus ac at adennill colledion. Ychwanegodd fod CBSPO ar hyn o bryd yn cyflogi un Uwch Ymchwilydd Twyll amser llawn. Byddai swydd Swyddog Twyll newydd amser llawn yn cael ei hysbysebu y mis hwn. Roedd Archwilio Mewnol hefyd yn ymwneud ag ymchwilio a helpu i atal twyll, gan gynnwys ymchwiliadau mewnol a'r Fenter Twyll Genedlaethol. Roedd gwybodaeth bellach am gapasiti ac arbenigedd wedi'i rhestru yn R8-R10.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod angen i'r holl gyrff cyhoeddus ddatblygu a chynnal ymatebion atal twyll deinamig ac ystwyth, a oedd yn cynyddu'r tebygolrwydd o gamau gorfodi llwyddiannus, ac y dylent archwilio a choleddu cyfleoedd i arloesi wrth ddadansoddi data er mwyn cryfhau'r trefniadau i atal a chanfod twyll.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro, Cyllid, Perfformiad a Newid fod CBSPO yn cael ei weld fel partner cadarnhaol o ran cydweithio i atal twyll ac roedd R13 yn yr adroddiad yn nodi sefyllfa CBSPO ar y pryd.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod adrodd a chraffu yn bwysig, a bod angen i CBSPO gasglu gwybodaeth am symiau a gafodd eu colli a'u hadennill, a rhannu cudd-wybodaeth am dwyll y naill â'r llall i sefydlu darlun cenedlaethol mwy manwl gywir, cryfhau rheolaethau, gwella trefniadau monitro a chefnogi camau wedi'u targedu. Dywedodd fod y Swyddogion Ymchwil Twyll yn CBSPO yn cofnodi gwybodaeth yn gysylltiedig â Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) ac achosion yn gysylltiedig â budd-dal tai, ac roedd unrhyw wendidau a nodwyd mewn systemau wrth ymchwilio yn cael eu hystyried a'u datrys os oedd angen. Rhoddwyd adborth i dimau perthnasol fel bo modd iddynt gryfhau eu systemau ymhellach i atal twyll. Ychwanegodd fod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio hefyd yn chwarae rhan hollbwysig wrth adrodd am systemau yn CBSPO a chraffu ar y systemau hynny.

 

Esboniodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod yr archwiliadau mewnol arferol yn bwysig fel mesur ataliol i sicrhau bod systemau digonol ar waith er mwyn ymdrin â thwyll. Roedd mesurau ataliol yn cael eu ffafrio bob tro yn hytrach nag ymdrin â twyll ar ôl i hynny ddigwydd.

 

Ychwanegodd fod angen newid y dull o ymdrin â thwyll yn barhaus, ac roedd gwella asesiadau risg yn agwedd bwysig ar atal twyll.

 

Gofynnodd Aelod a ellid trefnu sesiwn Hyfforddiant Datblygu'r Aelodau yn y dyfodol er mwyn derbyn hyfforddiant ar faterion yn gysylltiedig â thwyll a sut i'w atal. Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod hyn wedi cael ei ystyried, ond nad oedd unrhyw fanylion penodol ar y mater eto.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y cyngor wedi cael ei feirniadu am fod yn araf wrth dalu grantiau am wahanol resymau, ee, y grantiau ardrethi annomestig. Er ei bod yn deall y feirniadaeth, esboniodd fod yr angen i warchod arian y Cyngor ac atal twyll posibl yn bwysicach, felly roedd angen taro cydbwysedd rhwng hynny a brysio i dalu grantiau, a allai achosi mwy o broblemau.

 

Diolchodd yr Aelod Lleyg i'r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid am yr adroddiad cynhwysfawr, ac adleisiodd gais yr aelodau am hyfforddiant, yn enwedig ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. O gael hyfforddiant ychwanegol, dywedodd hefyd y gallai'r pwyllgor fod yn offeryn effeithiol i ddatblygu asesiadau risg y Cyngor, gan fod gan bob aelod gefndir a phrofiad gwahanol i'w gynnig. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol y byddai'n ymchwilio i'r hyfforddiant y gellid ei ddarparu.

 

Adleisiodd Rheolwr Archwilio Ariannol Archwilio Cymru y sylwadau hyn a nodi y byddai Archwilio Cymru yn hapus i weithio gyda'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol i ymchwilio i hyfforddiant a'i drefnu ar gyfer Aelodau a Swyddogion.

 

Soniodd Aelod fod Swyddog Heddlu wedi siarad flwyddyn diwethaf mewn Sesiwn Briffio cyn Cyfarfod y Cyngor gan rannu gwybodaeth am dwyll fu'n fuddiol iawn. Gofynnodd a ellid cysylltu â'r swyddog eto ar gyfer unrhyw drefniadau hyfforddi yn y dyfodol.

 

Esboniodd Ymchwilydd Twyll CBSPO ei fod wedi cael cyfarfod â Heddlu De Cymru yn fuan ym mis Rhagfyr i drafod trefniadau i ddarparu hyfforddiant o bell yn fuan yn 2021.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai'r asesiad risg twyll yn cael ei gynnal fesul cam, neu ei gynnal unwaith fel cynnyrch gorffenedig.

 

Esboniodd y Rheolwr Cleient Archwilio nad yw'r broses o asesu risg twyll ond megis dechrau, a'u bod yn ystyried casglu gwybodaeth am arfer da gan awdurdodau lleol eraill, felly byddai'r broses yn cael ei chynnal fesul cam, yn hytrach na chwblhau'r cyfan ar yr un pryd.

 

Pe ceid unrhyw ddatblygiadau cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor, gofynnodd y Cadeirydd a ellid rhannu'r rhain â'r aelodau er mwyn iddynt allu rhoi unrhyw adborth.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn nodi'r datganiad sefyllfa yn Atodiad A, ac adroddiad Archwilio Cymru 'Gwella ein Perfformiad - Mynd i'r Afael â Thwyll yng Nghymru yn Atodiad B.

 

Dogfennau ategol: