Agenda item

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Hanner Blwyddyn 2020-21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd adroddiad yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor am yr adolygiad canol blwyddyn a'r sefyllfa alldro hanner blwyddyn ar gyfer gweithgareddau rheoli'r trysorlys a dangosyddion rheoli trysorlys 2020-21. Tynnodd sylw hefyd at gydymffurfiaeth â pholisïau ac arferion y Cyngor a oedd wedi'u hadrodd gerbron y Cabinet a'r Cyngor, a rhoddodd y newyddion diweddaraf am y newidiadau arfaethedig i Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020-21 a fyddai'n cael eu cyflwyno i'w cymeradwyo gan y Cyngor. 

 

Esboniodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd fod y Pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau craffu effeithiol ar y Strategaeth a'r polisïau Rheoli Trysorlys. Dywedodd ei bod hi'n ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys cyn cychwyn pob blwyddyn ariannol sy'n nodi cyfrifoldebau a threfniadau dirprwyo ac adrodd y Cyngor a'r Prif Swyddog Ariannol. Yn dilyn ymarfer aildendro diweddar i ddewis cynghorwyr rheoli trysorlys y Cyngor, dywedodd wrth y Pwyllgor mai Arlingclose oedd y tendrwr llwyddiannus, ac y byddai'n parhau i gynghori'r Cyngor am y 4 blynedd nesaf.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd fod y Cyngor wedi cydymffurfio â'i ofynion deddfwriaethol a rheoleiddio yn ystod hanner cyntaf 2020-21, a bod y Strategaeth Rheoli Trysorlys ar gyfer 2020-21 wedi'i hadrodd gerbron y Cyngor ar 26 Chwefror 2020  a'r Alldro Hanner Blwyddyn yn cael ei adrodd gerbron y Cyngor ar 18 Tachwedd 2020. Yn ogystal â hyn, cafodd adroddiad monitro chwarterol ei gyflwyno gerbron y Cabinet ym mis Gorffennaf 2020.  Rhoddodd grynodeb o'r gweithgareddau rheoli trysorlys ar gyfer hanner cyntaf 2020-21, a hysbysu'r Pwyllgor nad oedd y Cyngor wedi derbyn unrhyw fenthyciadau hirdymor ers mis Mawrth 2012, ac nid oedd disgwyl y byddai angen unrhyw fenthyciadau newydd hirdymor yn 2020-21.  Roedd llifau arian ffafriol wedi darparu cyllid dros ben i fuddsoddi, a gweddill y buddsoddiadau ar 30 Medi 2020 oedd £64.29 miliwn ar gyfradd llog gyfartalog o 0.24%.   

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Prif Gyfrifydd wrth y Pwyllgor ei bod hi'n ofynnol yn y Cod Rheoli Trysorlys i'r Cyngor bennu ac adrodd ar nifer o Ddangosyddion Rheoli Trysorlys, sydd naill ai'n rhoi crynodeb o'r gweithgarwch disgwyliedig neu'n gosod terfynau ar y gweithgarwch hwnnw. Dywedodd ei bod hi'n ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal adolygiad canol blwyddyn o'i bolisïau, ei arferion a'i weithgareddau rheoli trysorlys ac mai canlyniad yr adolygiad yw bod angen newid terfynau buddsoddi, sef cynyddu cyfanswm y balans y gellir ei fuddsoddi yng Nghronfeydd y Farchnad Arian (MMFs) o £20 miliwn i £30 miliwn. Bydd hynny'n galluogi'r Cyngor i gynyddu nifer yr MMFs sydd ar gael, gan gynorthwyo'r Cyngor i fuddsoddi balansau arian parod positif mewn portffolio buddsoddi llawer ehangach.  Yn ogystal â hynny, bydd diwygio'r terfyn buddsoddi ar gyfer Darparwyr Cofrestredig o £3 miliwn i £5 miliwn yn creu mwy o gyfle i ddefnyddio'r math hwn o fuddsoddiad nag a geir ar hyn o bryd.  Gan fod y Cyngor wedi bod â balansau arian parod positif yn ei feddiant bydd hyn yn ei gwneud hi'n fwy posibl i'r Cyngor fuddsoddi ar lefel ymarferol, a hefyd yn creu mwy o amrywiaeth

 yn yr arian a fuddsoddir. Amlinellodd y Strategaeth Rheoli Trysorlys ddiwygiedig a gynigiwyd, a'r diwygiadau arfaethedig. Mae'r diwygiadau hyn wedi bod yn destun trafodaeth â Chynghorwyr Rheoli Trysorlys y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:   Bod y Pwyllgor:

           Yn nodi gweithgareddau rheoli trysorlys 2020-21 ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2020 hyd 30 Medi 2020, a'r Dangosyddion Rheoli Trysorlys a ragamcanwyd ar gyfer 2020-21.

           Argymhellir y dylid cyflwyno'r newidiadau arfaethedig i Strategaeth Rheoli Trysorlys 2020-21 i'r Cyngor i'w cymeradwyo ym mis Tachwedd 2020.

Dogfennau ategol: