Agenda item

Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl - Adroddiad ar Gynnydd a Datganiad o'r Sefyllfa

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y newyddion diweddaraf am gamau a gymerwyd i fwrw ymlaen â gwelliannau i'r gwasanaeth Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (DFG). Rhoddodd wybodaeth hefyd am y sefyllfa bresennol o ran paratoi i benderfynu ar y model darparu gorau i Ben-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod adroddiadau blaenorol i'r Pwyllgor wedi amlinellu'r angen hollbwysig i ail-lunio a gwella darpariaeth y gwasanaeth DFG ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Gan nad yw'r gwasanaeth wedi llwyddo i gyrraedd ei dargedau dangosydd perfformiad ers cryn amser, ar ôl ystyried ffactorau a godwyd gan yr Aelodau, y swyddogaeth Graffu, y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, ac o ymchwilio mewn awdurdodau lleol eraill, casglwyd bod angen newid sylfaenol i'r model darparu ar gyfer y gwasanaeth. Dywedodd nad yw'r amseroedd ar gyfer darparu DFGs, yn enwedig mewn achosion cymhleth a oedd yn cynnwys plant, yn gyson â dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, a bod y Cyngor yn chwartel isaf Cymru o ran amseroedd darparu.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod gwaith ymchwil a dadansoddi yn cael ei gynnal ar amryw o lefelau i fwrw ymlaen â'r newidiadau sydd eu hangen er mwyn gwella darpariaeth y gwasanaeth DFG.  Mae hyn wedi cynnwys ymagwedd systemau 'syniadaeth ddarbodus', gan ddysgu oddi wrth awdurdodau lleol eraill fel Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf, a thrafodaethau a dadansoddi mewnol. Dywedodd mai nod y gwaith hwn yw penderfynu ar y model gorau i ddarparu'r gwasanaeth o fewn y Cyngor. Cafwyd cydnabyddiaeth fod angen newid sylfaenol ym mhob agwedd ar y gwasanaeth cyfredol er mwyn gwella, ac mae camau wedi cael eu cymryd yn y meysydd a ganlyn hyd yma:

 

·         Rôl yr asiant

·         Gwaith dewisol

·         Cydweithio a chefnogaeth

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod angen gwneud gwaith dadansoddi pellach er mwyn cwblhau'r trefniadau i Ben-y-bont ar Ogwr ar gyfer y dyfodol, a phennu'r model gwasanaeth gorau i ddisodli'r hyn sydd ar waith ar hyn bryd,  Bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad sy'n amlinellu'r camau nesaf er mwyn newid o'r model cyfredol i unrhyw fodel newydd.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth wrth y Pwyllgor y bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar leoli'r dinesydd wrth wraidd y gwasanaeth, p'un a yw'n gwneud cais am fân waith addasu neu waith addasu graddfa fawr i'w alluogi i aros gartref. 

 

Cyfeiriodd aelod o'r Pwyllgor at y ffaith nad oedd yr adroddiad yn cynnwys unrhyw oblygiadau ariannol, a gofynnodd a fyddai modd i adroddiad arall yn y dyfodol adlewyrchu graddfa ariannol y grantiau, yn ogystal â'r cyfraniad strategol tuag at gyflawni amcanion y Cyngor.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth wrth y Pwyllgor fod DGFs gwerth hyd at £36k yn cael eu cynnig a'u bod yn ddibynnol ar brawf modd.  Dywedodd fod nifer o gyllidebau'n cael eu defnyddio i gefnogi DFGs, gan gynnwys helpu dinasyddion sy'n gadael yr ysbyty i ddychwelyd adref.  Dywedodd y byddai'r adroddiad i'r Pwyllgor yn amlinellu'r modd y defnyddir y cyllidebau hyn i gefnogi'r grantiau hynny.

 

Pwysleisiodd aelod o'r Pwyllgor yr angen i gydweithio'n well ag ysbytai wrth ryddhau dinasyddion o'r ysbyty, a'r angen i osgoi ail-wneud gwaith wrth asesu'r addasiadau angenrheidiol.  Yn ogystal â hyn, roedd angen monitro safon y gwaith er mwyn sicrhau bod contractwyr yn broffesiynol ac yn gymwys i gyflawni'r gwaith, er mwyn osgoi gwaith o safon wael. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Pwyllgor fod angen perchnogi'r system gyfan, a bod yr holl brosesau wedi'u cynnwys ar siart lif. Bellach roedd angen neilltuo arian yn erbyn yr holl brosesau / llifau gwaith hyn i gyflymu a dwyn holl rannau'r broses ynghyd.  Dywedodd nad oedd cynnwys asiantau yn y broses wedi bod yn effeithiol, a bod hynny wedi achosi oedi a gwariant yn erbyn y grantiau. Cafwyd hefyd enghreifftiau o ail-wneud gwaith ac o waith gwael. Mae angen sicrhau, wrth ddefnyddio asiant, fod y broses yn mynd rhagddi'n briodol. Sicrhaodd y Pwyllgor fod y pryderon yn cael eu hystyried.   

 

PENDERFYNWYD:              Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd hyd yma i wella'r gwasanaeth DFG a'r sefyllfa gyfredol, ac y dylid cyflwyno adroddiad ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl gerbron cyfarfod y Pwyllgor ym mis Ebrill.   

Dogfennau ategol: