Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Diweddariad ar y Blaenraglen Waith

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu'r adroddiad. Dywedodd, yn dilyn y cyfnod clo ym mis Mawrth, fod Pwyllgorau Craffu wedi'u gohirio i ddechrau arni gan fod y Cyngor yn canolbwyntio ar flaenoriaethau mewn ymateb i bandemig Covid-19. Gofynnodd adroddiad i'r Cabinet ym mis Mehefin fod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystyried creu Panel Adfer Trawsbleidiol, a gafodd ei gymeradwyo yn eu cyfarfod ym mis Gorffennaf. Sefydlwyd panel gyda'r nod o siapio, llywio a chynghori'r Cabinet ar gynllunio adferiad y Cyngor i ffurfio sail i gyfnod adfer y pandemig. Cyfarfu'r Panel chwe gwaith ym mis Awst a chynhyrchodd argymhellion i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ym mis Medi, a gafodd eu hadrodd i'r Cabinet wythnos yn ddiweddarach. Disgwyliwyd ymateb ffurfiol gan y Cabinet yn fuan. Roedd y Panel Adfer yn awr yn disgwyl i Asesiad o Effaith ar y Gymuned y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ystyried y canfyddiadau, cyn dewis ei faes ffocws nesaf i'w archwilio mewn mwy o fanylder.

 

Cynhaliwyd cyfarfod ar y cyd o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu 1 a 2 ym mis Gorffennaf i ystyried adroddiadau ar Addysg Ôl-16 a Theithio Dysgwyr. Roedd y cyfarfod hwn wedi'i ohirio ers mis Mawrth. Ystyriwyd argymhellion ar gyfer Addysg Ôl-16 gan y Cabinet ym mis Gorffennaf, a benderfynodd ar yr opsiwn a ffafriwyd. Ystyriodd yr argymhellion ar gyfer Teithio Dysgwyr ym mis Medi, gan ohirio'r penderfyniad i ddiwygio Polisi Teithio Dysgwyr yr Awdurdod Lleol tan ar ôl yr adolygiad o'r pellteroedd statudol cyfredol gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021.

 

Cynhaliwyd cyfarfodydd y Panel Ymchwilio a Gwerthuso Cyllideb ym mis Gorffennaf. Mae pedwar cyfarfod wedi cael eu cynnal hyd yn hyn, gyda'r cyfarfod terfynol wedi'i drefnu ar gyfer mis Rhagfyr.

 

Cytunwyd ar Amserlen Cyfarfodydd ar gyfer gweddill y flwyddyn drefol yn y Cyfarfod Cyngor Blynyddol ym mis Medi, a chan fod y Panel Adfer wedi'i sefydlu bellach, cydnabuwyd, wrth symud ymlaen, y byddai angen i gyfarfodydd Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu gael ffocws a bod yn strategol i osgoi dyblygu gwaith. 

 

Mae'r Cyngor ers hynny wedi cael gwybod y bydd y Setliad Ariannol Llywodraeth Leol gan Lywodraeth Cymru yn hwyrach na'r disgwyl. Golygai hyn y byddai angen i'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) gael ei hystyried gan y Pwyllgorau Craffu ar ôl i'r Cabinet ystyried y cynigion drafft ar 19 Ionawr ac nid yng nghylch cyfarfodydd mis Rhagfyr fel y cynlluniwyd yn wreiddiol. O ganlyniad, byddai trefniadau yn cael eu gwneud i symud dyddiadau cyfarfodydd mis Ionawr i hwyluso hyn, a byddai cyhoeddiad yn cael ei wneud yng Nghyfarfod y Cyngor ar 18 Tachwedd.  

 

Gyda'r newidiadau hyn mewn golwg, cynigwyd y byddai'n amserol, yn ei gyfarfod nesaf ar 17 Rhagfyr, fod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ar lafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol ynghylch effaith pandemig Covid-19 ar faes Gwasanaethau Cymunedol, a'r ymateb gweithredol.

 

O ran cyfarfodydd craffu ar ôl y MTFS, gofynnwyd i'r Pwyllgor adnabod unrhyw eitemau eraill i'w hystyried ar y Blaenraglen Waith dros dro ar gyfer gweddill y calendr trefol o gyfarfodydd.  Byddai angen pwyslais ar ystyried materion fel effaith, risg, perfformiad, cyllideb a chanfyddiad y gymuned wrth adnabod pynciau i'w hymchwilio. Byddai'r Pwyllgor yn cael cyfle ym mhob cyfarfod i ailedrych ar ei Flaenraglen Waith ac awgrymodd y Swyddog Craffu efallai y bydd aelodau yn dymuno disgwyl tan bwyllgor nesaf y Cyfarfod i bennu pynciau eraill, yn dilyn diweddariad ar lafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Roedd Hyfforddiant Sgiliau Cwestiynu ar gyfer Aelodau Craffu a Hyfforddiant ar gyfer Cadeiryddion Craffu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) wedi cael eu gohirio o ganlyniad i'r cyfnod clo cenedlaethol. Roedd WLGA bellach yn gallu cynnig yr hyfforddiant hwn drwy Microsoft Teams. Felly cynigwyd bod dwy sesiwn yn cael eu trefnu: un sesiwn Sgiliau Cwestiynu Craffu i'r holl Aelodau Craffu ac un sesiwn Hyfforddiant Cadeiryddion Craffu i'r holl Gadeiryddion Pwyllgor a Phanel. Dyddiadau i'w cadarnhau.

 

Gofynnodd Aelod i ddiweddariad ar Orfodaeth gael ei gynnwys fel rhan o'r cyflwyniad ar lafar, gan egluro ei fod wedi cael ei ohirio ar un adeg. Roedd yn ymwneud â gwybod ble'r ydym a phryd gallwn ddychwelyd i'r normal newydd, neu orfodaeth well yn y dyfodol.

 

Dywedodd un Aelod mai'r hyn yr hoffai ei ddeall nawr nad yw timau yn gweithio gyda'i gilydd, yw pa reolaethau sydd wedi cael eu llacio neu eu newid, a beth sydd wedi cael ei ymgorffori o'r newydd ar draws yr holl dimau i sicrhau bod goruchwyliaeth o'r camau gweithredu sydd wedi cael eu cymryd ar gyfer y ffyrdd newydd o weithio.  Yn ogystal, pa wasanaethau sydd wedi cael eu heffeithio fwyaf yn ystod Covid-19, e.e. graddfa a phoeth-fannau, a pha bwysau ydym yn mynd i'w wynebu a pha mor hir mae'n mynd i gymryd i adfer o'r oediadau yr ydym eisoes wedi'u profi.

 

Ni adnabuwyd unrhyw eitemau eraill i'w hystyried ar y Blaenraglen Waith ar gyfer gweddill y calendr trefol o gyfarfodydd yn defnyddio'r ffurf gytunedig, a gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:                      Bod y Pwyllgor yn cadarnhau'r eitemau cychwynnol a gynigwyd ar gyfer Blaenraglen Waith y Pwyllgor a nodir ym mharagraffau 4.3 a 4.4 yr adroddiad hwn.                                                                                                                     

 

Bod y Pwyllgor yn gofyn i'r wybodaeth benodol uchod gael ei chynnwys yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf; y diweddariad ar lafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z