Agenda item

Cymorth i Blant Bregus yn ystod Covid 19

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi trosolwg i Aelodau o'r gefnogaeth a'r cynllunio parhaus ar gyfer ein plant mwyaf bregus yn ystod Covid-19.

 

Dechreuodd ei hadroddiad drwy dalu teyrnged i'r plant bregus a'u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am y ffordd maent wedi ymateb yn gadarnhaol mewn cyfnod sydd hyd heddiw yn hynod ddwys a thrallodus ar brydiau a blwyddyn anodd iddynt yn sgil y pandemig.

 

Teimlodd fod yr adroddiad yn adlewyrchu asesiad cynhwysfawr o sut weithiodd yr Awdurdod fel 'Un Cyngor' pan addasodd yn gyflym iawn i fygythiad y feirws fis Mawrth diwethaf. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, parhaodd y Gwasanaethau Cymdeithasol a'i bartneriaid i ddiogelu'r mwyaf bregus a'u teuluoedd, drwy ddulliau digidol newydd yn bennaf, gan nad oedd cyswllt wyneb yn wyneb yn bosibl yn y rhan fwyaf o achosion yn sgil Covid-19.

 

Er bod gofyn i'r rhan fwyaf o staff sy'n cefnogi cleientiaid i weithio gartref fel y mwyafrif o staff arall y Cyngor, parhaodd y tîm MASH i weithredu gyda thîm llai o'r swyddfa yn Ravens Court, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Ym mharagraff 3.3 yr adroddiad, ar ffurf tabl, ceir data ar weithgareddau Gofal Cymdeithasol Plant yn ystod y cyfnod rhwng mis Ebrill a mis Medi 2020. Mae'r data a ddengys yn y rhan hon o'r adroddiad yn rhoi darlun cadarnhaol o ran y lefelau uchel o berfformiad a gafodd eu cynnal yn ystod y cyfnod clo, o ran asesiadau, ymweliadau â phlant (o bell yn bennaf) a chynnal Cynadleddau Gwarchod Plant o fewn yr amserlenni statudol gofynnol.

 

Fel y cyfeirir ato uchod, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant bod y tîm MASH ynghyd â staff ymholiadau cyffredinol sy'n ateb ymholiadau a galwadau yn parhau i weithio yn y swyddfa. Cafwyd cyfarfodydd o bell gyda phlant a'u teuluoedd etc., ac er eu bod yn cyflawni eu diben, roeddynt yn fwy heriol na rhyngweithiadau wyneb yn wyneb fel y byddai'n digwydd dan amgylchiadau arferol cyn Covid.

 

Mae paragraff 3.6 yr adroddiad yn amlinellu'r mathau o gefnogaeth sydd mewn lle i ddysgwyr bregus drwy Dimau Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, er gwybodaeth Aelodau.

 

Atodwyd fersiwn ddiweddaraf y Cynllun Gwasanaeth Diogelu lawn i Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Yng ngoleuni Cyhoeddiad Llywodraeth Cymru y byddai "Cyfnod Atal Byr" neu "Atal Byr" yn dod i rym rhwng 6pm, dydd Gwener 23 Hydref 2020 hyd at ddydd Llun 9 Tachwedd 2020, gwnaed y penderfyniad i adolygu a diweddaru Cynllun y Gwasanaethau Plant yn unol â'r Canllawiau a oedd wedi'u cyhoeddi. Gweithredwyd ychwanegiad yn amlinellu newidiadau dros dro yn y dulliau gweithio ar gyfer y cyfnod penodol hwn a gellir dod o hyd iddo fel Atodiad (i'r adroddiad).

 

Yn ogystal â'r gwasanaethau/swyddogaethau statudol yr ymdrinnir â nhw yn y Cynllun Gwasanaeth, ymatebodd y Cyngor i'r angen i ddarparu cymorth i'n plant a phobl ifanc mwyaf bregus yn ystod gwyliau'r ysgol a sefydlwyd darpariaeth unigryw i gyflawni hyn.

 

Llwyddodd y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i wneud defnydd da o gyllid Llywodraeth Cymru i ddarparu gweithgareddau a chymorth yn ystod yr haf, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Darparwyd 20 diwrnod o weithgareddau, gan gefnogi 39 o bobl ifanc a oedd wedi'u cofrestru neu eu dosbarthu'n fregus, a gyda 259 sesiwn wedi'u cyflwyno i bobl ifanc dros y cyfnod o bedair wythnos.

 

Yn ogystal, dywedodd y cefnogwyd rhaglen i bobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol a fyddai fel arfer wedi manteisio ar y rhaglen seibiant Dyddiau Darganfod yn ystod yr haf.

 

Cymeradwyodd y Cadeirydd yr adroddiad ac roedd yn ymwybodol o'r gwaith achos yr oedd Swyddogion wedi bod yn ymgymryd ag o ers dechrau'r cyfnod clo a'r ymholiadau ac atgyweiriadau yr oedd Aelodau wedi ymdrin â nhw hefyd, yn enwedig o ran pryderon dros ddiffyg cyswllt rhwng asiantaethau cefnogi statudol a LAC. Wedi dweud hynny, mae'r adroddiad yn nodi sut gellir tawelu'r pryderon hyn nawr a bod cefnogaeth wedi'i chynnal ar gyfer ein mwyaf bregus yn y gymdeithas, er yn wahanol i'r gorffennol, yng ngoleuni'r coronafeirws.

 

Gofynnodd Aelod sut oedd Covid-19 a'i gyfyngiadau wedi effeithio ar weithgareddau bywyd bob dydd LAC etc., h.y. graddfa'r ymyriadau ar eu trefn arferol fel rhan o fywyd bob dydd.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant bod cefnogaeth i deuluoedd Maeth a Gofal Preswyl wedi parhau yn yr un modd â chyn Covid ac ar wahân i'r cyfyngiadau ymbellhau cymdeithasol ac unrhyw ymyriadau i addysg, roedd y drefn arferol yn parhau. Serch hynny, cafwyd rhai cyfyngiadau yr oedd pawb arall yn eu hwynebu hefyd, megis ymweliadau â'r deintydd a meddyg teulu lle'r oedd angen gwisgo cyfarpar diogelu personol ar gyfer unrhyw driniaeth fewnwthiol.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn falch o hysbysu'r Pwyllgor bod adolygiadau statudol ar gyfer LAC wedi'u cynnal ers diwedd mis Mawrth ac o fewn yr amserlenni perthnasol hefyd.     

 

PENDERFYNWYD:                           Y byddai'r Aelodau yn nodi'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: