Agenda item

Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW - CSSIW Gynt) Arolwg o Gartrefi Gofal Preswyl Plant

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant adroddiad, er mwyn ei rannu â Phwyllgor y Cabinet, adroddiadau a Chynlluniau Gweithredu cysylltiedig yn dilyn arolygon CIW, ynghylch Maple Tree House (mis Medi 2019, mis Chwefror 2020 a mis Awst 2020) a Harwood House (mis Gorffennaf 2019).

 

Drwy beth wybodaeth gefndirol, dywedodd wrth Aelodau mai Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) sy'n gyfrifol am arolygu pob gwasanaeth gofal a chymorth rheoledig, gan gynnwys Cartrefi Plant, yng Nghymru.  Mae arolygiadau yn cynnwys pedwar cam allweddol: 1) cynllunio a pharatoi arolygon, 2) ymweld a chynnal yr arolwg, 3) adborth, a 4) adrodd.  Yn ystod y broses, byddai arolygwyr yn gwneud beirniadaethau yngl?n â pha mor dda mae'r gwasanaeth yn perfformio dan bedair thema graidd: 1) llesiant; 2) gofal a chefnogaeth; 3) amgylchedd; a 4) arweinyddiaeth a rheolaeth.

 

Yn achos cartrefi plant, byddai CIW yn gwneud arolygon blynyddol fel rhan o'u rhaglen dreigl.  Roedd dau brif fath o arolygon, sef Cyflawn a Chanolbwyntiedig, ac eglurir yr hyn sy'n cael ei gynnwys mewn perthynas â phob un o'r rhain ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.

 

Yna mae paragraff(au) 4 yr adroddiad yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau arolygon CIW o bob un o'r safleoedd dan sylw, a'r Adroddiadau Arolygon Cyflawn wedi'u cynnwys fel Atodiadau i'r adroddiad eglurhaol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaeth Gofal Plant yr Aelodau at baragraff 4.6 yr adroddiad, lle'r oedd y CIW yn cydnabod bod rhai gwelliannau a restrir yma wedi'u cyflawni yn Maple Tree House, yn dilyn arolygiad CIW pellach o'r Cartref hwn.

 

Yna cyfeiriodd at adran yr adroddiad gyda'r pennawd argymhellion a chamau nesaf.

 

Datblygwyd Cynlluniau Gweithredu i ymateb i'r argymhellion a wnaed gan CIW o ran Cartrefi ac mae'r rhain wedi'u cynnwys yn Atodiadau 5 a 6 yr adroddiad. Cafodd y rhain eu monitro gan y Rheolwr Gr?p - Tîm Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu, yn ystod goruchwyliaeth â'r Rheolwr/Rheolwyr Preswyl a'r Unigolyn Cyfrifol drwy eu hymweliadau rheolaidd. Fel y nodir yn yr adroddiad, nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn weddill ar gyfer Harwood House ac roedd cynllun gweithredu cynhwysfawr a phecyn cymorth yn hybu'r newidiadau a'r gwelliannau a oedd yn ofynnol yn Maple Tree House.  

 

Dywedodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant cyn yr ysgrifennwyd yr adroddiad gerbron yr Aelodau, y cynhaliwyd arolygiad dirybudd gan CIW yn Maple House a dywedodd yr Arolygwr wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol y gwnaethpwyd cynnydd enfawr ers y cynhaliwyd yr arolwg gwreiddiol. Ers y cynhaliwyd hwn, gwnaeth y Panel Gwella a Gorfodi gwrdd a phenderfynu codi'r cyfyngiadau yr oeddynt wedi'u rhoi mewn lle yn flaenorol yn Maple House (oherwydd bod y gwelliannau wedi'u cyflawni). Penderfynodd y Panel i beidio â gweithredu ymhellach oherwydd y cyflawnwyd materion diffyg cydymffurfio blaenorol. Ers hynny, cyflwynodd yr Arolygwr CIW adroddiad ysgrifenedig, yn dilyn ei arolygiad diweddaraf, yn cydnabod y newidiadau cadarnhaol a oedd wedi'u rhoi mewn lle gan gadarnhau bod gwelliannau wedi'u gwneud yn holl feysydd y cartref, heb law am nifer fechan o feysydd lle'r oedd gwaith yn mynd rhagddo.

 

Croesawodd Aelodau y diweddariad hwn a gofynnodd yr Arweinydd a oedd yr holl bwyntiau gweithredu wedi'u nodi yn y Cynllun Gweithredu perthnasol bellach wedi'u cyflawni.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu bod y rhan fwyaf o'r rhain wedi'u cadarnhau a'u cwblhau, er bod rhai meysydd yn dal i fod lle'r oedd gwaith yn parhau. Ychwanegodd fod y pedwar cartref bellach yn cydymffurfio'n llwyr o ran rheoliadau a nodwyd gan y CIW. Rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau y byddai'r safonau hyn yn cael eu cynnal.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at baragraff 4.1.3 yr adroddiad, lle amlinellwyd bod cynlluniau am gyfleuster newydd ar gyn-safle Ysgol Gynradd Brynmenyn. Gofynnodd a yw'r cyfleuster newydd hwn ar y trywydd cywir i'w agor ar y dyddiad targed, a beth fyddai buddion y cyfleuster hwn mewn cymhariaeth â'r un blaenorol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gofal Plant bod caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo bellach ar gyfer y cyfleuster newydd a'i fod ar y trywydd cywir i agor blwyddyn nesaf. Ychwanegodd y byddai hwn mewn lleoliad gwell, mwy rhannol-wledig, gyda man awyr agored gwell, a fyddai'n cynorthwyo llesiant emosiynol a chorfforol plant. Yn ogystal, mae'r adeilad yn fwy na'r cyfleuster presennol yn Maple House a byddai gwely brys ychwanegol yno, sy'n golygu y bydd tri gwely, a dim ond dau sydd yn y cyfleuster presennol.

 

PENDERFYNWYD:                               Bod Pwyllgor y Cabinet yn derbyn a chymeradwyo'r Cynlluniau Gweithredu wedi'u diweddaru, fel maent wedi'u hatodi i'r adroddiad.

Dogfennau ategol: