Agenda item

Cymeradwyo'r Datganiadau o Fwriad ar gyfer Gwasanaethau Gofal Preswyl Plant

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a'i ddiben oedd darparu'r datganiadau o fwriad diwygiedig i Aelodau ar gyfer y ddarpariaeth gwasanaethau preswyl plant a phobl ifanc gyfredol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae'n ofyniad dan gyfansoddiad y Cyngor i gyflwyno'r rhain i'r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol eu cymeradwyo.

 

Dywedodd wrth Aelodau bod gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bedwar cartref preswyl i blant ar hyn o bryd sy'n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc rhwng 0-19 oed, sef:-

 

  • Maple Tree House;
  • Sunny Bank;
  • Bakers Way; a
  • T? Harwood

 

Daeth Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) i rym ar 2 Ebrill 2018. Diben y Ddeddf oedd adeiladu ar lwyddiant rheoliad yng Nghymru ac adlewyrchu byd newidiol gofal cymdeithasol. Mae'n rhoi ansawdd gwasanaethau a gwelliant wrth galon y cynllun rheoleiddio ac yn cryfhau diogelwch i'r rheiny sydd ei angen. Byddai rheoliad o'r fath yn mynd y tu hwnt i gydymffurfiaeth â lleiafswm y safonau, a chanolbwyntio mwy ar ansawdd gwasanaethau a'r effaith maent yn ei chael ar y bobl sy'n eu derbyn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu, yn nhymor yr hydref 2018, y cofrestrwyd holl wasanaethau cymdeithasol y Cyngor i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth newydd. Mae gan bob darpariaeth gwasanaeth mewnol ddatganiad o fwriad ei hun a chafodd y rhain eu hatodi yn Atodiadau 1 - 4 yr adroddiad.

 

Dywedodd wrth y Pwyllgor mai o ran y safleoedd y'u crybwyllwyd uchod, roedd gan Sunnybank a Maple Tree House yr un rheolwr.

 

Yn unol â'r Rheoliadau, cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu, bod y Datganiadau o Fwriad bellach wedi bod yn destun eu hadolygiad blynyddol ac mae'r newidiadau i'r datganiadau wedi'u manylu ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Nawr mae'r Datganiadau diwygiedig yn adlewyrchu lefel o gysondeb ar draws y 4 Cartref, rhywbeth na chyflawnwyd yn y gorffennol, ychwanegodd.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd bod yr adroddiad yn amserol iawn ac yn ddarlleniad difyr. Ynghyd â'r Datganiadau o Fwriad, rhoddwyd uchelgeisiau ar gyfer ein Cartrefi Gofal yn gadarn mewn lle, gyda phersbectif clir bellach o ran anelu am safon uchel yn y cyfleusterau hyn mae angen i'r Gyfarwyddiaeth weithio tuag ati.

 

O ran y Datganiadau o Ddiben diwygiedig, gofynnodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a oedd y staff yn y Cartrefi Gofal wedi cael gwybod am y rhain, yn ogystal ag a oedd unrhyw newidiadau i'w telerau ac amodau o ganlyniad iddynt yn cael eu cyflwyno.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu bod bob un o'r Rheolwyr Preswyl yn y Cartrefi wedi cadarnhau bod unrhyw newidiadau o'r fath wedi'u rhoi mewn lle gyda'r staff sy'n gweithio yno. O ran Maple Tree House a'r strwythur staffio diwygiedig yno, cafwyd ymgynghoriad â gweithwyr yno yngl?n â hyn.

 

Gofynnodd yr Arweinydd a oedd ein plant a phobl ifanc wedi cyfrannu at y Datganiadau o Fwriad diwygiedig er mwyn datblygu gwasanaeth, yn ogystal â chael peth gydnabyddiaeth bod 'eu lleisiau yn cael eu clywed.'

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant mai dyma oedd yr achos. Yna rhoddodd rai enghreifftiau o sut gyfrannodd plant a phobl ifanc a sut y gwrandawyd arnynt gan y gwasanaeth, er budd Aelodau. Ychwanegodd fod eu cyfraniad wedi'i gofrestru yn eu cofnodion, a oedd hefyd yn ffurfio rhan o unrhyw adroddiadau i'r CIW.  

 

PENDERFYNWYD:                            Y byddai Aelodau yn nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo'r Datganiad o Fwriad ar gyfer pob un o'r 4 ddarpariaeth gwasanaeth preswyl.

 

Dogfennau ategol: