Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu adroddiad, er mwyn darparu Aelodau â'r Datganiad o Fwriad diwygiedig ar gyfer y Gwasanaeth Maethu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n ofyniad dan Gyfansoddiad y Cyngor i gyflwyno'r rhain i'r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol eu cymeradwyo.
Eglurodd fod y Gwasanaeth Maethu yn darparu ystod o ofal maeth i blant a phobl ifanc y gofalir amdanynt gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r gwasanaeth yn cynnig y mathau o ofal teulu i blant a phobl ifanc o'u genedigaeth i 18 mlwydd oed, fel y nodwyd ym mharagraff 3.1 yr adroddiad.
Daeth darpariaethau perthnasol Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) i rym ar 2 Ebrill 2018. Diben y Ddeddf oedd adeiladu ar lwyddiant rheoliad yng Nghymru ac adlewyrchu byd newidiol gofal cymdeithasol. Mae'n rhoi ansawdd gwasanaethau a gwelliant wrth galon y cynllun rheoleiddio ac yn cryfhau diogelwch i'r rheiny sydd ei angen. Bydd rheoliad yn mynd y tu hwnt i gydymffurfio â lleiafswm y safonau, a chanolbwyntio mwy ar ansawdd gwasanaethau a'r effaith maent yn ei chael ar y bobl sy'n eu derbyn.
Daeth Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018 i rym ar 29 Ebrill 2019 ac mae'n nodi Gofynion yr Awdurdod Lleol i baratoi Datganiad o Fwriad a'i gadw dan adolygiad rheolaidd, yn flynyddol.
Yn unol â'r canllawiau i gasglu Datganiad o Fwriad a gafodd eu darparu dan y Ddeddf uchod gan Arolygiaeth Gofal Cymru (Ebrill 2019), paratôdd Gwasanaeth Maethu Pen-y-bont ar Ogwr ei Ddatganiad o Fwriad ac mae hwn wedi'i gynnwys fel Atodiad 1 i'r adroddiad.
Fis Ebrill 2020, cafodd y Datganiad o Fwriad ei adolygiad blynyddol ac mae'r newidiadau i'r datganiadau wedi'u manylu ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.
Yna rhannodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu rai o'r pwyntiau amlwg a nodweddion allweddol y Datganiad o Fwriad Diwygiedig gydag Aelodau.
Gofynnodd yr Arweinydd a ellir rhoi rhagor o adborth ar effaith Covid-19 ar Ofalwyr Maeth, gan fod y rhain yn darparu gofal i'r rhan fwyaf o blant yr oeddem yn eu cefnogi yn eu cartrefi eu hunain. Yn ogystal, ychwanegodd a oes angen adlewyrchu unrhyw fecanweithiau cefnogi gwahanol a weithredwyd ar gyfer y plant hyn ers i'r pandemig ddechrau yn Natganiad o Fwriad y Gwasanaeth Maethu.
Cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Lleoliadau a Darparu bod y Gofalwyr Maeth yn gwneud gwaith anhygoel yn enwedig ers dechrau'r pandemig.
Maent wedi dangos lefel uchel iawn o wytnwch yn cefnogi eu plant yn ystod y cyfnod anoddaf y gellir ei ddychmygu, yn ogystal â pharhau i orfod ymdrin â'u pryderon eraill. Ers mis Mawrth diwethaf mae staff Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn monitro sut mae Gofalwyr Maeth a Phlant Maeth yn ymdopi yn wythnosol o leiaf drwy gyswllt dros y ffôn neu e-bost, etc. yn bennaf. Yn ogystal, datblygodd yr adran statws coch, melyn a gwyrdd, er mwyn categoreiddio'r lefelau gwahanol o gefnogaeth yr oedd eu hangen ar y teuluoedd hyn yn ystod yr argyfwng cyfredol, rhag ofn bod angen unrhyw ymweliadau cartref brys ar gyfer lleoliadau â blaenoriaeth gan Weithwyr Cymdeithasol, ar sail anghenraid.
Ychwanegodd y cyhoeddwyd cylchlythyrau wythnosol i deuluoedd Gofalwyr Maeth, yn tynnu sylw at ddiweddariadau a newidiadau i'r ffordd yr oedd gwasanaethau a oedd ar gael yn cael eu cyflwyno, yn ogystal â rhoi enghreifftiau iddynt o syniadau am weithgareddau y gellid eu gwneud pan oedd teuluoedd yn dioddef o unigedd yn ystod cyfnodau clo llawn.
PENDERFYNWYD: Bod Pwyllgor y Cabinet yn nodi cynnwys yr adroddiad a chymeradwyo'r Datganiad o Fwriad diwygiedig ar gyfer Gwasanaeth Maethu Pen-y-bont ar Ogwr.
Dogfennau ategol: