Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Diweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Gwahoddwyr:

 

Lindsay Harvey – Cyfarwyddwr CorfforaetholAddysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Charles Smith – Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Nicola Echanis – Pennaeth Addysg a Chefnogaeth i Deuluoedd

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddiweddariad ar y sefyllfa bresennol cyn symud ymlaen i brif themâu y canolfannau gofal plant a dysgu cyfunol, ysgolion fel amgylcheddau diogel o ran Covid, a’r prif heriau oedd yn dal i gael eu hwynebu. Yn dilyn y cyhoeddiad gweinidogol a wnaed ar 18 Mawrth i gau ysgolion, roedd yn ofynnol i bob awdurdod lleol ddarparu gofal plant brys ar gyfer plant gweithwyr allweddol o 23 Mawrth. Dilynodd cyfnod gwyllt o brysur i agor y canolfannau gofal plant ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cysylltwyd â thros 4,000 o staff (yn yr ysgol a chymorth canolog) o fewn 72 awr i ddarparu cymorth eang i oddeutu 23,000 o blant a phobl ifanc. Roedd hyn yn heriol iawn oherwydd bod y sefyllfa’n newydd. Roedd nifer o heriau allweddol ar unwaith yn cynnwys glynu at ofynion Iechyd a Diogelwch oedd yn   datblygu’n gyflym, darparu prydau ysgol am ddim o bell i tua 5,000 o blant, cynnal cyfleusterau gofal plant i blant gweithwyr allweddol, ailddechrau addysgu a dysgu ar gyfer pob dysgwr, a pharhau â chymorth diogelu hanfodol i blant a phobl ifanc oedd yn agored i niwed.

 

Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn falch iawn o’r hyn a gyflawnodd Pen-y-bont ar Ogwr o ran darparu gofal plant ar frys. O 23 Mawrth hyd 19 Mehefin, darparwyd gofal plant brys o 8 a.m. hyd 6 p.m., 7 diwrnod yr wythnos, oedd yn cefnogi dros 900 o blant yn ei wyth canolfan seiliedig mewn ysgolion a phedwar lleoliad Dechrau’n Deg.  Roedd cymorth gofal plant brys ar gael i’r holl blant agored i niwed ac i blant yr oedd o leiaf un o’u rhieni/gofalwyr yn ‘weithiwr allweddol’.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y sefyllfa newydd a achoswyd gan Covid-19 yn neilltuol o anodd i staff, a bod ar Ben-y-bont ar Ogwr eisiau sicrhau bod staff yn elwa o gymorth proffesiynol. Ym mis Ebrill 2020, sefydlwyd tri gr?p proffesiynol (Lles Staff, Cefnogi Dysgwyr Agored i Niwed ac Addysgu a Dysgu o Bell) i gefnogi gwaith ysgolion a chanolfannau gofal plant. Parhaodd y rhain i gyfarfod i ledaenu arfer da ymhlith y staff, a derbyniodd y Gyfarwyddiaeth lawer o ganmoliaeth am y gwasanaethau a ddarparwyd. Fe wnaeth y staff i gyd elwa o gefnogaeth arbenigol Adnoddau Dynol, Iechyd a Diogelwch a chymorth strategol. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn ddiolchgar i’r Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio am ymuno ag ef mewn cynadleddau fideo ddwywaith yr wythnos, oedd yn parhau i gael eu cynnal gyda Phenaethiaid, partneriaid a Swyddogion gwella Consortiwm Canolbarth y De, i sicrhau cyfathrebu effeithiol a chysondeb o ran dull gweithredu. Cafodd pob gr?p fudd o gynrychiolaeth arbenigol ysgolion a chymorth amlasiantaethol.

 

Roedd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn cynnwys cyfarfodydd ddwywaith yr wythnos gyda’r holl Brifathrawon (a gynhelid yn ddyddiol i ddechrau), adborth llais y dysgwr drwy Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a chynghorau ysgol, arolwg ar-lein i rieni/gofalwyr, deialog barhaus â phartneriaid cyflenwi allanol (e.e. Llywodraeth Cymru (LlC), Estyn, Consortiwm Canolbarth y De ac Undebau Llafur), ymgysylltu ag Aelodau Etholedig, a dull cyson Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei lywodraethu gan uwch arweinwyr a’i oruchwylio gan Aelodau’r Cabinet.

 

Y chwe mater allweddol i’r Gyfarwyddiaeth oedd cadw pellter cymdeithasol, cludiant, arlwyo, glanhau, hylendid a diogelwch. Roedd cadw pellter cymdeithasol yn ei gwneud yn angenrheidiol sicrhau bod y canolfannau gofal plant a’r ysgolion yn amgylcheddau diogel. Roedd asesiadau risg yn organig ac yn cael eu newid yn aml. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn falch iawn o’r polisi clir a’r canllawiau i arweinwyr. Nid oedd gan bob ysgol ofynion cludiant sylweddol, ond roedd y rhai oedd ag anghenion yn achosi heriau sylweddol i’r adran. Roedd gan Ben-y-bont ar Ogwr wasanaeth arlwyo gwych ac roedd canllawiau wedi eu sefydlu ar gyfer y staff, oedd wedi gweithio’n arbennig o galed ers mis Mawrth i sicrhau bod y plant yn cael eu bwydo a’u bwydo’n dda. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi gweithio gyda nifer o gyflenwyr masnachol i sicrhau bod bwyd priodol yn cael ei ddarparu. Roedd glanhau yn fater allweddol ym mhob ysgol ac roedd protocolau wedi cael eu mabwysiadu’n gyffredinol. Roedd caffael offer glanhau priodol a sicrhau bod cyflenwyr allanol yn cwrdd â pholisi’r awdurdod lleol yn her sylweddol. Roedd pwysigrwydd hylendid yn neges gyson i ddysgwyr, yn enwedig dysgwyr ifanc, ac roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio gyda LlC i gael arian ychwanegol ar gyfer hylif glanhau dwylo. Roedd caffael PPE yn heriol ar y dechrau ac roedd y polisi wedi newid ers mis Mawrth. Roedd gorchuddion wyneb wedi cymryd cryn dipyn o amser i’w gweithredu, a pharhaodd y Gyfarwyddiaeth i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mesurau yn eu lle. Mabwysiadwyd masgiau y gellid eu hailddefnyddio ond ni fyddai’r rhain yn para am byth. Roedd gwisgo masgiau yn fater o addysgeg i athrawon ac yn achosi heriau cyfathrebu.

 

Roedd effaith Covid-19 ar boblogaeth ysgolion yn sylweddol ac roedd yn parhau i fod yn sefyllfa heriol. Ar 4 Rhagfyr 2020, roedd profion Covid-19 cadarnhaol wedi effeithio ar 24 o ysgolion. Yn ystod wythnos 30 Tachwedd 2020, profodd 50 o ddisgyblion a 28 o staff ar draws ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn gadarnhaol. Ar hyn o bryd, roedd 2,181 o ddisgyblion a 124 o staff o ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn hunanynysu, oedd yn dod i 10%. Anfonwyd llythyr at rieni oddi wrth y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd i gadarnhau y byddai ysgolion yn aros ar agor tan 18 Rhagfyr. Er bod cefnogaeth gan rai rhieni i aros ar agor, derbyniwyd negeseuon gan eraill yn nodi na fyddent yn anfon eu plant i’r ysgol yn ystod wythnos olaf y tymor.

 

Bu cynnydd yn y galw gan y cyhoedd am wasanaethau. Roedd hyn yn cynnwys Cymorth Cynnar, yn enwedig mewn perthynas â chymorth lles emosiynol, a chymorth ar gyfer iechyd a lles meddyliol. Bu cynnydd o 10% yn nifer y disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim (5,396 o ddisgyblion cymwys) ond dim ond chwarter yr ysgolion oedd bellach yn gweini brecwast am ddim oherwydd gostyngiad yn y galw, a nifer cyfyngedig o ‘glybiau’ oedd ar agor. Bu cynnydd yn nifer y ceisiadau i drosglwyddo rhwng ysgolion o fewn y flwyddyn (fel arfer oherwydd symud t?) a gafodd eu dal yn ôl ar ddechrau’r pandemig. Roedd mwy o alw oddi wrth rieni i ysgolion ddarparu dysgu ar-lein byw a syncronaidd ar gyfer eu plant, oedd yn benderfyniad yr ysgol yn unol â LlC.

 

Y prif heriau oedd y galw i gefnogi lles corfforol ac emosiynol plant, staff, rhieni a gofalwyr gan gynnwys 1,500 o staff ALl (seiliedig mewn ysgolion yn bennaf) a seicolegwyr; ymgysylltu a chefnogi rhieni a barn amrywiol y rhieni; argaeledd staff a phenderfyniadau a wnaed p’un a oedd modd i ysgolion weithredu’n effeithiol gyda Phenaethiaid ac athrawon yn hunanynysu; darparu cymorth dysgu cyfunol (ar-lein a chorfforol) a chymorth dysgu hybrid (hanner dosbarth yn yr ysgol, hanner yn hunanynysu) a’r dechnoleg gysylltiedig; materion arholiadau (e.e. graddau a asesid yn y ganolfan a chymedroli); rheoli gofynion rhai plant ag anghenion dysgu cymhleth ac ychwanegol; Cymorth Busnes dan straen ac ansicrwydd ynghylch sut y bydd yn edrych yn y dyfodol (e.e. arlwyo a chludiant i’r ysgol); a phwysau cost parhaus (e.e. costau sy’n gysylltiedig â Covid-19 a heriau cyllidebol ‘arferol’).

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd a’i dîm am eu holl waith caled, yn enwedig dros y naw mis diwethaf, ac roeddent yn gofyn am i’w diolchiadau gael eu cyfleu i’r tîm cyfan. 

 

Cwestiynodd Aelod bolisi’r ysgol i beidio ag anfon plant adref ond pan oeddent yn ymgyflwyno gyda phedwar prif symptom Covid-19 (peswch newydd, parhaus, tymheredd uwch, colli blas a cholli arogl) pan y gallai plant ymgyflwyno â symptomau eraill fel dolur gwddf a chur pen ond dal i brofi’n gadarnhaol. Cododd yr Aelod bryderon sylweddol hefyd am les athrawon a gofynnodd pa gymorth oedd ar gael. Cododd bryderon hefyd ynghylch rheoli amser digyswllt i Brifathrawon dros wyliau’r Nadolig o gofio’r angen i ddibynnu ar bersonél uwch.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod arwyddion a symptomau Covid-19 yn fater anodd i ysgolion. Er bod gweithdrefn rhoi diogelwch yn gyntaf wedi cael ei sefydlu a bod ysgolion yn sicrhau bod yr holl ragofalon yn cael eu cymryd, dim ond os oeddent yn ymgyflwyno â’r pedwar symptom y gallai ysgolion anfon dysgwyr adref. Roedd rhai ysgolion yn anfon plant adref oedd yn ymgyflwyno â symptomau eraill. Roedd hyn wedi cael ei feirniadu gan rieni mewn rhai achosion am fod yn rhy ofalus. Un broblem oedd y gallai plant fod yn asymptomatig ar y dechrau ond arddangos symptomau yn ddiweddarach.

 

O ran lles, roedd hyn yn hollbwysig a gwnaed ymdrech aruthrol gan staff ysgolion a swyddogion yr awdurdod lleol. Cafodd y Gr?p Lles Athrawon dderbyniad da ac roedd wedi gwahodd darparwr allanol i mewn yn ddiweddar. Lleihawyd nosweithiau rhieni i’r isafswm statudol, a lleihawyd gweithgareddau allgwricwlaidd hefyd. Roedd amrywiaeth o bolisïau wedi’u rhoi yn eu lle i sicrhau nad oedd ysgolion yn cael eu herio’n ormodol yn ystod y Nadolig, ac roedd Cynghorwyr Her bellach wedi symud i rôl fugeiliol.

 

Gyda golwg ar gymorth yn ystod cyfnod y Nadolig, roedd yr Adran yn gweithio drwy hyn ar y pryd. Cawsai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd gyfarfod gyda’r holl Benaethiaid yr wythnos ddiwethaf, a chytunwyd ar brotocol gyda Phrifathrawon a Phrofi, Olrhain a Diogelu (POD). Roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn un o’r tri awdurdod yng Nghymru i fabwysiadu’r polisi na fyddai POD yn cysylltu â hwy yn uniongyrchol dros y Nadolig. Yn hytrach, roedd tîm bychan o swyddogion wedi cael ei ffurfio a byddai POD yn mynd drwy’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd a’i staff. Byddai swyddogion yn cynnal gwiriadau yn y lle cyntaf, a dim ond os byddai hynny’n gwbl angenrheidiol y byddid yn cysylltu â Phenaethiaid (dros ffôn symudol). Roedd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd wedi gwneud darn aruthrol o waith yr wythnos ddiwethaf gyda chydweithwyr POD i gyfyngu ar gyswllt ar ôl 18 Rhagfyr. Byddai’r polisi hwn yn cyfyngu ar gyswllt â Phenaethiaid dros y Nadolig ac yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.

 

Nododd y Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn gyntaf ei bod yn hapus i fynd â chwestiwn yr Aelod i’w chyfarfod wythnosol ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a POD ynghylch plant yn cael eu hanfon adref o’r ysgol dim ond pan oeddent yn ymgyflwyno â’r pedwar prif symptom. Drwy gydol Covid-19, roedd yr Adran wedi ceisio gweithio i raddau helaeth fel tîm Cwm Taf Bro Morgannwg a chael prosesau a phrotocolau tebyg. Cafwyd deialog agored gyda POD, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Cydwasanaethau Rheoleiddiol drwy gydol Covid-19.

 

Roedd prosesau wedi cael eu nodi i’w gwneud mor syml â phosibl i Benaethiaid, a oedd yr unig bersonél a allai nodi grwpiau ar gyfer POD. Byddai asesiad cychwynnol byr iawn yn cael ei gwblhau gan rywun yn yr ysgol cyn i Swyddog Iechyd a Diogelwch o’r Uned Iechyd a Diogelwch Corfforaethol gysylltu i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i’r ysgol ynghylch achosion disgyblion. Roedd yr awdurdod lleol yn rhedeg rota gyswllt gyda’r Uwch Dîm Rheoli oedd yn cynnig cymorth. Roedd sefyllfaoedd / ymholiadau unigryw yn dal i godi, ac roedd Penaethiaid/Uwch Arweinwyr yn gweld y trafodaethau’n ddefnyddiol.

 

Roedd Aelod yn pryderu nad oedd y wybodaeth wedi cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor yn gynharach, a fyddai wedi bod yn ddefnyddiol yn gynt, er nad oedd hyn yn feirniadaeth ar yr Adran am eu bod wedi gwneud gwaith clodwiw ac wedi rhoi diweddariadau rheolaidd i’r Aelodau. Gofynnodd yr Aelod yn gyntaf beth oedd yn cael ei wneud yngl?n â’r bwlch cyrhaeddiad yn dilyn y cyfnod hir pan nad oedd ysgolion wedi bod ar agor a’r golled ddilynol o ran gallu/cyrhaeddiad addysgol. Yn ail, beth ellid ei wneud ar ôl Covid-19 e.e., a ddylai fod mwy o bwyslais ar lanhau dwylo ac yn y blaen i leihau peswch ac annwyd?

 

Mewn ymateb i bwynt cyntaf yr Aelod, eglurodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd roi gwybodaeth i Aelodau SOSC 1 am y cynlluniau ar gyfer ailagor ysgolion cyn i’r ysgolion ailagor. Er iddo ddweud y byddai wedi bod yn well gwneud hyn mewn fformat mwy ffurfiol, nid oedd hyn yn bosibl gan nad oedd y gallu i gael fformat Pwyllgor llawn yn ei le ar y pryd. Cafodd aelodau SOSC 1 gyfle i fynychu’r sesiwn wybodaeth a gofyn cwestiynau i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol cyn i’r ysgolion gael eu hailagor fel y bwriedid.

 

Gyda golwg ar gyrhaeddiad addysgol, roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd wedi cyfarfod gydag Estyn yn yr wythnos yn dechrau ar 30 Tachwedd 2020. Bu newid amlwg o bwyslais ar les emosiynol i ganolbwyntio ar addysgu/dysgu/deilliannau, yn enwedig o gwmpas yr arholiadau yn haf 2021. Yn ddiweddar, roedd yr awdurdod lleol wedi derbyn grant o £150 mil gan Lywodraeth Cymru drwy Grant Gwella Ysgolion y Consortia Rhanbarthol i gefnogi gwell addysgu. Roedd y canolbwynt ar y pedwar maes a nodwyd yn y cynllun gweithredu ôl-arolygiad, oedd yn cynnwys ysgolion oedd yn peri pryder a llythrennedd/rhifedd. Roedd dysgu cyfunol wedi gwella’n sylweddol ers ei sefydlu ar ddechrau’r pandemig, gyda gweithgareddau trawiadol a oedd wedi cael eu canmol gan rieni. Roedd y Gyfarwyddiaeth wedi delio â sefyllfaoedd anodd, ac roedd yn parhau i ddelio â hwy. Roedd gwersi wedi cael eu dysgu, e.e. golchi dwylo a dysgu cyfunol, a’r bwriad oedd adeiladu ar y pethau cadarnhaol. Byddai adroddiad ar gael i’r Aelodau ar y Cofnod Penderfyniadau a Gweithredu, yr oedd y Gyfarwyddiaeth wedi’i roi ar waith er mwyn lledaenu arferion da ymhlith ysgolion. Roedd y Gyfarwyddiaeth yn dal i ddysgu, ac roedd problemau heriol yn dal i ddod i’r amlwg.

 

Gofynnodd Aelod a oedd pwysau cyllidebol parhaus yn dal i fod ar offer digidol, e.e. gliniaduron a Wi-Fi, a oeddem bellach yn fwy parod ar gyfer pandemig yn y dyfodol, a sut y byddai cynnydd addysgol dysgwyr yn cael ei werthuso yn absenoldeb arholiadau y flwyddyn nesaf.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Llywodraeth Cymru, ar ddechrau’r pandemig, wedi sefydlu cronfa allgau digidol ar gyfer y rheiny oedd angen offer TG ychwanegol, i alluogi cannoedd o ddysgwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gael cymorth gyda gliniaduron a dyfeisiadau mifi cludadwy. Roedd yn falch i adrodd bod 600 o unedau wedi cael eu rhannu. Ymwelodd yr Adran ag ysgolion ym mis Medi i asesu priodoldeb yr offer TG. O ganlyniad i grant seilwaith canolfannau Llywodraeth Cymru a’r grant allgau digidol, roedd ysgolion mewn sefyllfa well o lawer ac nid oedd angen unrhyw gyllid ychwanegol sylweddol ar hyn o bryd. Roedd pob ysgol bellach yn fwy parod o lawer oherwydd bod asesiadau risg cadarn ar waith ers dechrau’r pandemig. Ers mis Medi, roedd Cynlluniau Cydnerthedd Busnes wedi cael eu rhoi yn eu lle ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a oedd wedi cael eu rhannu ag awdurdodau lleol eraill. Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd, gyda chefnogaeth yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio, wedi cyfarfod â CBAC a Chymwysterau Cymru i gynrychioli Pen-y-bont ar Ogwr ac i ddeall y broses yn gynnar er mwyn rhoi adborth i rieni ac ysgolion. Roedd hyn wedi bod yn heriol ac roedd arno eisiau dileu’r problemau a wynebwyd yn flaenorol. Roedd adborth cynnar gan CBAC a Chymwysterau Cymru yn gadarnhaol, gyda’r cyfleuster asesu graddau yn y ganolfan a gallu’r system i gymedroli mewn sefyllfa well o lawer i ddarparu system gadarnach wrth symud ymlaen.

 

Croesawodd Aelod bresenoldeb y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd mewn Panel Adferiad Trawsbleidiol ar gyfer y dyfodol i gael y cyfle i amlinellu i’r Panel yr hyn a oedd wedi newid a’r hyn yr oedd angen newid wrth symud ymlaen. Gofynnodd yr Aelod beth oedd yr awdurdod lleol yn ei wneud i gydnabod Covid-19 fel ACE (profiadau andwyol mewn plentyndod) fel na fyddai dysgwyr yr oedd Covid-19 wedi effeithio arnynt yn cael eu hanwybyddu.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd y byddai’n hapus i fynychu’r Panel Adferiad Trawsbleidiol. Eglurodd mai un peth yr oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn ffodus iawn ynddo – a chydnabuwyd hyn gan Estyn - oedd bod Cymorth Cynnar a Chymorth i Deuluoedd yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Addysg. Roedd gan Ben-y-bont ar Ogwr synergedd da rhwng darparwyr/cymorth plentyndod a chyfleusterau ymylon gofal a oedd mor aml yn ganolog ym mywydau pobl. Ynghyd â gwasanaethau mewnol, roedd gan yr Adran berthynas dda iawn â darparwyr trydydd parti ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

O ran Profiadau Andwyol mewn Plentyndod (ACE), nododd Pennaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd, oherwydd bod Cymorth Cynnar yn rhan o’r Gyfarwyddiaeth Addysg, fod hyn yn golygu y gellid adnabod plant, yr oedd eu hanghenion yn ymestyn y tu hwnt i’r anghenion cyffredinol ond nad oeddent ac na fyddent byth yn cyrraedd statws ACE, cyn gynted â phosibl drwy gyswllt addysgol. Yn ystod Covid-19, bu mwy o bwysau ar les, anghenion iechyd meddwl lefel isel a phryder. Roedd yr awdurdod lleol wedi gallu cynyddu adnoddau oherwydd rhywfaint o arian ychwanegol, e.e. Gweithwyr Cymorth Lles cysylltiedig â phob ysgol gynradd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ychwanegol at y rhai a oedd eisoes yn gysylltiedig ag ysgolion uwchradd, yn ogystal â chyllid ychwanegol ar gyfer cwnsela mewn ysgolion. Roedd Cymorth Cynnar wedi gweld cynnydd sylweddol mewn atgyfeiriadau ond disgwylid hyn ar ôl i’r plant ailddechrau mynychu’r ysgol. Roedd y Gyfarwyddiaeth yn awr yn edrych ar sut y gallai ail-gyfeirio rhai o’i gwasanaethau, newid y ffocws ychydig a monitro effaith hyn, yn ogystal â datblygu ei hadnoddau ar gyfer rhieni fel bod rhieni yn cael eu harfogi’n llawn o ganlyniad i’r problemau unigryw a achoswyd gan Covid-19. Bu’n rhaid i’r Gyfarwyddiaeth addasu ei gwasanaethau yn unol â hynny ers mis Mawrth. Roedd y cysylltiad ag agenda ACE wedi ei ddatblygu’n dda iawn ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Gallai ACE ddod mewn amrywiol ffurfiau, e.e. iechyd meddwl, afiechyd, cael profedigaeth o fewn teuluoedd, ac roedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweithio’n galed iawn ar agenda ACE ac yn ardal beilot. Yr hyn a wnaethai Covid-19 oedd rhoi tystiolaeth o natur unigryw a mantais y ffaith fod Cymorth Cynnar yn seiliedig mewn ysgolion ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd yr Aelod ei fod yn falch fod effaith Covid-19 ar ACE ar radar yr awdurdod lleol oherwydd yr effaith gymdeithasol ar blant. Gobeithiai y byddai effaith lawn Covid-19 ar genedlaethau yn cael ei deall ymhen amser.

 

Gofynnodd Aelod y canlynol: Beth oedd effaith rhannu dyfeisiadau a mynediad at ddysgu cyfunol ymhlith plant ar yr un aelwyd? Beth fyddai effaith diwygio ADY a beth oedd effaith Covid-19 ar allu Seicolegwyr Addysg i gynnal asesiadau? Beth oedd ffigurau presenoldeb yr ysgol? Beth oedd y capasiti o fewn ysgolion hyd at a chan gynnwys gwyliau’r Nadolig?

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fel a ganlyn:

 

Roedd rhannu dyfeisiadau ymhlith dysgwyr – yn ogystal â rhieni’n rhannu band eang o ddyfeisiadau lluosog ar yr un aelwyd – wedi achosi problemau cysylltedd. Roedd ysgolion wedi gofyn ac wedi cael offer ychwanegol yn yr achosion hyn. Roedd ysgolion hefyd wedi rhoi pecynnau etifeddol i ysgolion mewn angen. Roedd dysgwyr hefyd wedi cael dyfeisiadau mifi lle nodwyd cysylltiad rhyngrwyd gwael.

 

Roedd y Bil Diwygio ADY yn cymryd amser. Roedd egwyddorion y Bil yn dda ond byddai mwy o bwysau ar awdurdodau lleol i weithredu’r egwyddorion. Ni chafwyd effaith anffafriol ar allu Seicolegwyr Addysg i gwblhau asesiadau unigol ond roedd wedi effeithio ar gyswllt wyneb yn wyneb ac wedi oedi’r defnydd o weithwyr proffesiynol o wasanaethau eraill. Roedd y Gyfarwyddiaeth wedi cael ei hailstrwythuro cyn Covid-19, gan ganolbwyntio ar fecanweithiau cymorth ar gyfer ADY.

 

Nid oedd Llywodraeth Cymru yn gofyn am ffigurau presenoldeb ysgolion ond roeddent yn cael eu casglu. Yn arwyddocaol, roedd 50 o ddysgwyr yn cael eu haddysgu gartref ers mis Medi ac felly bu’n rhaid i’r Gyfarwyddiaeth sicrhau bod canllawiau priodol yn eu lle. At hynny, roedd 280 o ddysgwyr (10%) i ffwrdd o’r ysgol, gan olygu bod angen canllawiau diogelu priodol a chymorth addysgol.

 

Cafwyd trafodaethau sylweddol ledled Cymru yngl?n â threfniadau diwedd y tymor. Penderfyniad CLlLC oedd y byddai ysgolion yn cau ar 18 Rhagfyr, er y gallai hyn fod yn gynharach pe bai amgylchiadau yn gwneud hynny’n anochel, e.e. lefelau annigonol o staff i gynnal amgylchedd iach a diogel. Gallai’r Corff Llywodraethu, yr awdurdod lleol a’r ysgolion eu hunain wneud y penderfyniad i gau’n gynnar, a byddai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn cefnogi’r penderfyniad hwnnw.

 

Dywedodd yr Aelod y byddai’r dysgwyr hynny nad oeddent yn mynychu’r ysgol (y 50 dysgwr oedd yn cael eu haddysgu gartref a’r 10% nad oeddent yn mynychu) yn cael effaith arwyddocaol ar gyllidebau ysgolion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd y câi adroddiad Addysg Ddewisol yn y Cartref (EHE) ei ddosbarthu i’r Aelodau yn dilyn y cyfarfod.

 

Gofynnodd Aelod y cwestiwn canlynol ar ôl i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd adael y cyfarfod: Beth ellid ei wneud ynghylch y diffyg cyfathrebu ymysg ysgolion pan oedd brodyr a chwiorydd oedd yn mynychu ysgolion gwahanol wedi profi’n gadarnhaol? Sut gellid mynd i’r afael â diffyg cydymffurfiaeth rhieni oedd yn cynnal gweithgareddau cymdeithasol yn groes i ganllawiau Covid-19? Roedd angen cyfathrebu clir er mwyn rheoli’r gyfradd drosglwyddo.

 

Cytunai’r Cadeirydd a’r Swyddog Craffu y câi cwestiynau’r Aelod eu hanfon ymlaen i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd i’w hateb yn dilyn y cyfarfod.

 

Siaradodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ar dair thema, sef yr hyn a fyddai’n digwydd pe ceid pandemig pellach, dysgu cyfunol ac arholiadau. Teimlai fod i wleidyddion sôn am Covid-19 fel digwyddiad unwaith mewn 100 mlynedd yn gamgymeriad o ystyried bod y cyfleoedd i deithio yn cynyddu’r posibilrwydd o drosglwyddo haint. Roedd cymdeithas wedi dysgu ymdopi er gwaethaf negeseuon croes i’w gilydd a llawer o newidiadau mewn polisi gan lywodraeth genedlaethol a rhanbarthol. Roedd Tîm Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnull ei staff yn gyflym iawn ac roedd ei gryfder wedi disgleirio drwodd. Roedd yn rhaid i’r penderfyniadau a gâi eu gwneud fod yn glir, yn gyson ac yn gynaliadwy o ddydd i ddydd, a gellid defnyddio’r model hwn yn awr yn y dyfodol. Roedd dysgu cyfunol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi’i weithio i mewn i gynigion chweched dosbarth cyn y pandemig a byddai’n dod yn normal newydd ar draws pob ysgol a gr?p oedran. Roedd dysgu cyfunol yn wahanol i ddysgu o bell oherwydd bod yn rhaid cael rhywfaint o gyswllt wyneb yn wyneb hefyd. Roedd dyfeisiadau TG gan gynnwys Wi-Fi yn hanfodol i’r model dysgu cyfunol.

 

Un o’r meysydd pwysicaf i ysgolion oedd y system arholiadau, a oedd yn gofyn am ailgydbwyso i ffwrdd oddi wrth arholiadau terfynol tuag at asesiadau ffurfiannol, gwaith cwrs a’r defnydd o raddau athrawon. Ar ôl i’r arholiadau gael eu canslo eleni, cyfarfu’r 22 Aelod Cabinet trawsbleidiol dros Addysg ledled Cymru a lobïo’r Gweinidog Addysg i ddefnyddio graddau athrawon ac nid algorithmau. Defnyddiwyd y system algorithm i gymedroli graddau / marciau niferoedd mawr o fyfyrwyr, gan sicrhau bod arholiadau yn gyffredinol yn adlewyrchu’r canlyniadau blaenorol. Yr hyn na allai’r system ei wneud oedd sicrhau tegwch i fyfyrwyr unigol, a thrwy ddefnyddio tystiolaeth gan athrawon yn unig y gellid cyflawni hyn. Canmolodd yr Aelod Cabinet y Gweinidog Addysg am ei phenderfyniad i ddileu algorithmau o blaid graddau athrawon. Byddai hyn yn dod i rym o haf 2021. Roedd methodoleg yn ei lle ar gyfer graddau athrawon er mwyn osgoi’r methiannau a ddigwyddodd yn haf 2020. Credai’r Aelod Cabinet y byddai ymddiriedaeth yng ngraddau athrawon yn dod yn normal newydd.

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z