Agenda item

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Roedd yr Arweinydd yn falch o hysbysu'r Aelodau bod y Cynghorydd John Spanswick wedi'i ryddhau o Ysbyty Tywysoges Cymru a'i fod adref bellach yn gwella.  Yn dilyn prawf cadarnhaol am coronafeirws, bu’r Cynghorydd Spanswick yn wael iawn, a chafodd ei dderbyn i uned ofal dwys ar ôl datblygu niwmonia.  Darllenodd yr Arweinydd ddatganiad yr oedd y Cynghorydd Spanswick wedi'i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.   

 

"Ychydig dros bythefnos yn ôl, profais yn bositif am Covid, ac am yr wythnos ganlynol bues i’n swatio a chysgu.  Wythnos yn ddiweddarach, a minnau’n methu anadlu'n iawn, cefais fy nanfon i Ysbyty Tywysoges Cymru, gan adael i staff anhygoel y GIG gymryd yr awenau a rhoi'r driniaeth orau a fynnwn erioed.

 

Wedi sawl moment frawychus, a minnau’n meddwl efallai na fyddwn yn dychwelyd adref, yr wyf wedi bod yn un o'r rhai lwcus iawn.  Diben y neges hon yw rhoi sylw haeddiannol i'r holl staff sy'n gweithio yn yr ysbyty, sy'n dod i’r gwaith bob dydd i frwydro’r firws ofnadwy hwn, ac i'r holl gleifion sydd angen eu cymorth yn ddybryd.  Mae'r rhan fwyaf o'r staff wedi cael Covid eu hunain, ond maen nhw’n parhau i ddod i’r gwaith, a hynny er mwyn gwneud gwahaniaeth mewn amgylchiadau sydd bellach yn anodd iawn.  Ni fyddaf byth yn gallu diolch digon i holl staff y GIG am y gofal a'r driniaeth y maent wedi'u rhoi imi, ond hwy yw gwir arwyr ein gwlad.  Nawr, mae angen i ni i gyd chwarae ein rhan i helpu i atal Covid rhag lledaenu’n gyflymach."

 

Gofynnodd yr Arweinydd i'r Aelodau ymuno ag ef i ddymuno'n dda i'r Cynghorydd Spanswick wrth iddo barhau i wella gartref.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor fod y sefyllfa'n mynd yn enbyd yn gyflym. Ychydig oriau'n ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod Cymru'n symud i lefel rhybudd pedwar, ac y bydd cyfres o newidiadau cenedlaethol newydd yn cael eu gweithredu.  Bydd yr holl fanwerthwyr nad ydynt yn hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau lle ceir cyswllt agos a phob canolfan hamdden a ffitrwydd, yn cau ar Noswyl Nadolig, a bydd pob safle lletygarwch yn cau o 6pm ar Ddydd Nadolig.  Ar 28 Rhagfyr, bydd cyfyngiadau llymach ar gymysgu cartrefi, a bydd cyfyngiadau aros gartref, llety gwyliau, a theithio hefyd yn dod i rym.

 

Dywedodd wrth y Cyngor y bydd £340m ar gael i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan gyfyngiadau yn y Flwyddyn Newydd, ac addawyd cymorth pellach i fusnesau y mae'r cyfyngiadau newydd yn effeithio arnynt.  Mae rhai gwasanaethau pwysig gan y cyngor bellach mewn perygl oherwydd bod achosion lleol o coronafeirws yn parhau i godi.  Mewn llai na phythefnos, mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi symud o fod yn un o'r awdurdodau lleol sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru i fod y drydedd ardal uchaf ar gyfer achosion cadarnhaol o Covid-19.

 

Ar hyn o bryd mae Cyfarwyddiaethau wrthi'n nodi gwasanaethau sy'n gwbl hanfodol ar gyfer atal bygythiadau, naill ai ar sail niwed difrifol i les pobl, neu ar sail difrod difrifol i'r amgylchedd.  Diffiniadau o argyfwng yw'r rhain fel y'u diffinnir gan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl, a dyma'r tro cyntaf i'r Cyngor hwn roi ystyriaeth o ddifrif i gamau mor radical.  Mae hyn yn arwydd amlwg o lefel yr argyfwng y mae'r Cyngor wrthi'n delio ag ef.  Cyn bo hir, bydd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn gwneud cyhoeddiad o safbwynt y gwasanaethau cymdeithasol.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod y nifer uchel o staff ysgolion sy'n hunanynysu neu'n sâl gyda coronafeirws eisoes wedi gorfodi un ysgol gyfun, un ysgol arbennig, a chwe ysgol gynradd i gau'n gynt na'r disgwyl.  Mae staff y Cyngor eisoes yn gweithio'n ddi-baid i ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn amgylchiadau anodd, ond bydd unrhyw leihad pellach yn y gweithlu yn cael effaith fawr ar allu'r Cyngor i wneud hynny.  Dywedodd fod y Cyngor bellach mewn sefyllfa lle mae'n cael ei orfodi i ddechrau ystyried pa wasanaethau fydd angen eu cwtogi a'u lleihau.

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth y Cyngor fod cydweithwyr yn y maes iechyd yn profi pryderon tebyg, ac mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau y gallai fod angen cyfyngiadau symud cenedlaethol pellach ar ôl y Nadolig.  Dywedodd mai cyfrifoldeb trigolion y fwrdeistref sirol oedd penderfynu beth sy'n digwydd nesaf, os bydd angen i fesurau mor eithafol ddigwydd yn lleol ai peidio.  Gobeithiai y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r frwydr yn erbyn lledaeniad y coronafeirws drwy ddweud wrth etholwyr fod yn rhaid iddynt ei gymryd o ddifrif.  Dywedodd fod angen i bawb feddwl am ganlyniadau posibl eu gweithredoedd, a dilyn y rheolau ar wisgo mwgwd, ymbellhau'n gymdeithasol, golchi dwylo, a dilyn y canllawiau ac mae angen cymryd camau brys yn awr i amddiffyn ffrindiau, teulu a chymdogion.