Agenda item

Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd T Giffard

Rhybudd o Gynnig

1. Cred y Cyngor hwn fod:

1.1. Coetiroedd a mannau gwyrdd agored yn chwarae rhan hanfodol yn ein lles corfforol, meddyliol ac emosiynol, yn ogystal â bod yn rhan annatod o fioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr.  

1.2. Pandemig Covid-19, a natur cyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol, wedi cynyddu’r angen am fannau hamdden awyr agored a hygyrch, a bod y rhain yn hanfodol ar gyfer adeiladau cymunedau cydlynol ac iach sy’n sicrhau lles cenedlaethau’r dyfodol.  

1.3. Gan lywodraeth leol ddyletswydd a chyfrifoldeb moesol i gyfyngu ar ddifrod ecolegol ac effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth leol.  

1.4. Unrhyw golli mannau gwyrdd neu goetiroedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn destun gofid mawr, a bydd yn cael effaith negyddol ar ecoleg a bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, a lles corfforol, meddyliol ac emosiynol ei thrigolion.  

1.5. Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu arwain Cymru a’r Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â cholli bioamrywiaeth, hyrwyddo effeithiau cadarnhaol mannau gwyrdd agored, a sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cael ei gyflawni mewn ffordd sy’n gwella, yn hytrach na thynnu oddi wrth hygyrchedd a bioamrywiaeth mannau agored gwyrdd a choetiroedd.  

2. Cydnabu’r Cyngor hwn fod:

2.1. Adolygiad yn cael ei gynnal o’r Archwiliad o Fannau Chwarae Plant a Chwaraeon Awyr Agored fel rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd sy’n dod i’r amlwg, gan sicrhau teipoleg categoreiddio mannau agored a amlinellir yn Nodyn Cyngor Technegol 16 Llywodraeth Cymru: Dilynir Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored, gan roi sylw arbennig i wahanu mannau gwyrdd awyr agored/naturiol a mannau gwyrdd amwynder.  

2.2. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i:  

2.2.1."gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol" Pen-y-bont ar Ogwr

2.2.2.cyfrannu at greu "cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau sy'n gweithio'n iach ac sy'n cefnogi gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a'r gallu i addasu i newid"

2.2.3.cyfrannu at greu "cymdeithas lle y deellir lles corfforol a meddyliol pobl i'r eithaf a lle y deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol"  

2.3. Mae Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr, y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn aelod sylweddol ohono, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor:  

2.3.1.sicrhau bod "cymunedau'n rhoi mwy o werth ar eu hamgylchedd a bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn materion lleol ac yn cydnabod pwysigrwydd mannau gwyrdd mewn lles ac fel ffactor atal"

2.3.2.hyrwyddo "pobl iach egnïol mewn cymunedau gwydn, gwirfoddoli, cadw pobl ifanc yn yr ardal leol, lleihau teithio i'r gwaith, mwy o ddefnydd ac ymwybyddiaeth o fannau gwyrdd"

2.3.3."cydweithio i sicrhau'r budd mwyaf posibl o asedau diwylliannol, adeiledig a naturiol"

2.3.4."sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gwybod am fanteision meddyliol a chorfforol treulio amser yn yr awyr agored"

2.3.5."gwarchod ac amddiffyn cynefinoedd, hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy ar fannau gwyrdd, atal colli asedau. Lliniaru yn erbyn newid yn yr hinsawdd, dirywiad bioamrywiaeth a pherygl llifogydd"

2.3.6."darparu asedau diwylliannol a gwyrdd diogel a hygyrch i bobl h?n, gofalwyr, pobl anabl, teuluoedd ifanc a phlant"

2.3.7."annog rhyngweithio cymunedol drwy ddarparu asedau diwylliannol a gwyrdd diogel a hygyrch. Mae cymunedau'n teimlo eu bod yn gysylltiedig â'u hamgylchedd ac yn ymgysylltu ag ef"

2.3.8."hyrwyddo chwaraeon a hamdden sy'n gysylltiedig ag amgylchedd naturiol"

2.3.9."lleihau dirywiad bioamrywiaeth"  

2.4. Mae Siarter Creu Lleoedd Cymru, y mae Llywodraeth Cymru wedi’i llofnodi, yn galw ar gynghorau a sefydliadau i sicrhau bod yr egwyddorion canlynol yn cael eu bodloni wrth gynllunio, dylunio neu reoli lleoedd newydd a phresennol:  

2.4.1."Mae'r gymuned leol yn ymwneud â datblygu cynigion. Ystyrir anghenion, dyheadau, iechyd a lles pawb ar y dechrau. Caiff cynigion eu llunio i helpu i ddiwallu'r anghenion hyn yn ogystal â chreu, integreiddio, diogelu a/neu wella ymdeimlad o gymuned a hyrwyddo cydraddoldeb"

2.4.2."Mae lleoedd yn tyfu ac yn datblygu mewn ffordd sy'n defnyddio tir yn effeithlon, yn cefnogi ac yn gwella lleoedd presennol ac wedi'i gysylltu'n dda"  

2.5. Bydd methu ag ymgorffori amcanion a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Chynllun Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain at golli mannau gwyrdd agored a choetiroedd hanfodol mewn cymunedau ledled Pen-y-bont ar Ogwr  

3. Felly, mae'r cyngor hwn yn penderfynu:

3.1. Dod yn un o lofnodwyr Siarter Creu Lleoedd Cymru  

3.2. Gweithio i ddiogelu mannau gwyrdd agored a choetiroedd mewn cymunedau newydd a phresennol ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  

3.3. Os mai colli mannau gwyrdd yw'r unig ddewis ar gyfer unrhyw brosiect adeiladu cyngor, y dylid cynnal refferendwm lleol o fewn ward y cyngor lle mae'r gwaith i fod i gael ei leoli i benderfynu ar gefnogaeth y gymuned i brosiect o'r fath

 

 

Cofnodion:

1. Mae'r Cyngor hwn yn credu:

1.1. Fod coetiroedd a mannau gwyrdd agored yn chwarae rhan hanfodol yn ein lles corfforol, meddyliol ac emosiynol, yn ogystal â bod yn rhan annatod o fioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr

 

1.2. Bod pandemig Covid-19, a natur y cyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol, wedi cynyddu'r angen am fannau hamdden awyr agored a hygyrch, a bod y rhain yn hanfodol ar gyfer adeiladu cymunedau cydlynol ac iach sy'n sicrhau lles cenedlaethau'r dyfodol

 

1.3. Bod gan lywodraeth leol ddyletswydd a chyfrifoldeb moesol i gyfyngu ar ddifrod ecolegol ac effeithiau negyddol ar fioamrywiaeth leol

 

1.4. Bod unrhyw golled o fannau gwyrdd agored neu goetir ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn destun gofid mawr, a bydd yn cael effaith negyddol ar ecoleg a bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, ac ar les corfforol, meddyliol ac emosiynol ei thrigolion

 

1.5. Gallai Cyngor Bwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fod ar flaen y gad yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig wrth fynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, wrth hyrwyddo effeithiau cadarnhaol mannau agored gwyrdd, ac wrth sicrhau bod pob datblygiad newydd yn cael ei gyflawni mewn ffordd sy'n gwella, yn hytrach na niweidio, hygyrchedd a bioamrywiaeth mannau gwyrdd agored a choetiroedd Pen-y-bont ar Ogwr

 

2. Mae'r Cyngor hwn yn cydnabod:

 

2.1. Fod adolygiad yn cael ei gynnal o'r Archwiliad o Fannau Chwarae Chwaraeon Awyr Agored a Phlant fel rhan o'r CDLl newydd sy'n dod i'r amlwg, gan sicrhau fod teipoleg categoreiddio mannau agored a amlinellir yn Nodyn Cyngor Technegol 16 Llywodraeth Cymru: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored yn cael eu dilyn, gan roi sylw arbennig i wahanu mannau gwyrdd awyr agored/naturiol a mannau gwyrdd amwynder.

 

2.2. Bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn galw ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i:

 

2.2.1. "gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol" Pen-y-bont ar Ogwr

 

2.2.2. Cyfrannu at greu "cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach sy'n cefnogi gwydnwch cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a'r gallu i addasu i newid"

 

2.2.3. Cyfrannu at greu "cymdeithas lle mae lles corfforol a meddyliol pobl cystal ag y gallai fod, a lle y deallir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol"

 

2.3. Mae Cynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr, bwrdd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn aelod sylweddol ohono, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyngor:

 

2.3.1. Sicrhau bod cymunedau'n rhoi mwy o werth ar eu hamgylchedd a bod mwy o bobl yn cymryd rhan mewn materion lleol ac yn cydnabod pwysigrwydd mannau gwyrdd mewn lles ac fel ffactor atal"

 

2.3.2. Hyrwyddo "pobl iach egnïol mewn cymunedau gwydn, gwirfoddoli, cadw pobl ifanc yn yr ardal leol, lleihau teithio i'r gwaith, mwy o ddefnydd ac ymwybyddiaeth o fannau gwyrdd"

 

2.3.3."cydweithio i sicrhau'r budd mwyaf posibl o asedau diwylliannol, adeiledig a naturiol"

 

2.3.4."sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gwybod am fanteision meddyliol a chorfforol treulio amser yn yr awyr agored"

 

2.3.5."diogelu a gwarchod cynefinoedd, hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy ar fannau gwyrdd, atal colli asedau. Lliniaru yn erbyn newid yn yr hinsawdd, dirywiad bioamrywiaeth, a pherygl llifogydd"

 

2.3.6."darparu asedau diwylliannol a gwyrdd sy’n ddiogel a’n hygyrch i bobl h?n, i ofalwyr, i bobl anabl, teuluoedd ifanc, a phlant"

 

2.3.7."annog rhyngweithio cymunedol drwy ddarparu asedau diwylliannol a gwyrdd diogel a hygyrch.  Cymunedau sy’n teimlo cysylltiad â'u hamgylchedd ac sy’n ymgysylltu ag ef"

 

2.3.8."hyrwyddo chwaraeon a hamdden sy'n gysylltiedig â’r amgylchedd naturiol"

 

2.3.9."Arafu dirywiad bioamrywiaeth"

 

2.4. Mae Siarter Creu Lleoedd Cymru, sydd wedi’i arwyddo gan Lywodraeth Cymru, yn galw ar gynghorau a sefydliadau i sicrhau bod yr egwyddorion canlynol yn cael eu bodloni wrth gynllunio, dylunio, neu reoli lleoedd newydd a’r rhai a oedd yn bodoli eisoes:

 

2.4.1."Mae'r gymuned leol yn cyfrannu at ddatblygiad cynigion. Ystyrir anghenion, dyheadau, iechyd, a lles pawb o’r cychwyn cyntaf. Caiff cynigion eu llunio i helpu i ddiwallu'r anghenion hyn yn ogystal ag i greu, i integreiddio, i ddiogelu, a/neu wella ymdeimlad o gymuned a hyrwyddo cydraddoldeb"

 

2.4.2."Mae lleoedd yn tyfu ac yn datblygu mewn ffordd sy'n defnyddio tir yn effeithlon, sy’n cefnogi ac yn gwella lleoedd presennol, a chan sicrhau cysylltedd da"

 

2.5. Bydd methu ag ymgorffori amcanion a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) a Chynllun Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr yn arwain at golli mannau gwyrdd agored hanfodol a choetiroedd mewn cymunedau ledled Pen-y-bont ar Ogwr

 

3. Felly, mae'r cyngor hwn yn penderfynu:

 

3.1. Dod yn un o lofnodwyr Siarter Creu Lleoedd Cymru

 

3.2. Gweithio i ddiogelu mannau agored gwyrdd a choetiroedd mewn cymunedau newydd a rhai h?n ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

3.3. Os mai colli mannau gwyrdd yw'r unig ddewis ar gyfer unrhyw un o brosiectau adeiladu’r Cyngor, dylid cynnal refferendwm lleol o fewn y ward lle mae'r gwaith i’w wneud er mwyn mesur cefnogaeth y gymuned i brosiect o'r fath.

 

Cafodd yr Hysbysiad o Gynnig ei eilio gan y Cynghorydd A Pucella.

 

Cynigiwyd gwelliant i'r Hysbysiad o Gynnig gan y Cynghorydd R Stirman, ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd T Thomas, sef y dylid ychwanegu'r geiriau "Bwrdeistref Sirol" ar ôl i'r gair "Pen-y-bont ar Ogwr" ym mharagraffau 1.1, 1.3 ac 1.5, ac i’r geiriau "a fyddai’n dod yn ystyriaeth gynllunio berthnasol pan wneir penderfyniadau" gael eu hychwanegu at ddiwedd paragraff 3.3.   

 

Dywedodd y Swyddog Monitro wrth y Cyngor na fyddai'r cynnig ar gyfer refferendwm, sydd wedi’i gynnwys yn yr hysbysiad o gynnig a’r gwelliant, yn briodol pan fo proses i gynigion fod yn destun ymgynghoriad statudol â'r cyhoedd.  Dywedodd y Swyddog Monitro hefyd na fyddai'r gwelliant yn gyfreithlon gan y byddai'n rhwymo dwylo'r Pwyllgor Rheoli Datblygu.  Tynnodd y Cynghorydd Stirman y gwelliant yn ôl. 

 

Mynegodd yr Aelod Gymunedau Cabinet ei bryder yngl?n â'r Hysbysiad o Gynnig, gan fod popeth a gynhwysir ym mharagraffau 1.1 i 1.5 eisoes yn cael ei wneud gan y Cyngor ac wedi'i wreiddio yn y system gynllunio.  Dywedodd fod paragraffau 2.3 a 2.3.1 hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.  Mae paragraff 2.3.3 eisoes yn rhan o'r broses gynllunio, tra bod paragraff 2.4, sy'n cyfeirio at y Siarter Creu Lleoedd, eisoes yn cael ei weithredu ac yn destun ymgynghoriad.  Dywedodd ei fod yn cytuno â byrdwn paragraffau 3.1 a 3.2, fodd bynnag mewn perthynas â pharagraff 3.3, dywedodd wrth yr Aelodau fod gan y Cyngor broses ymgynghori eisoes mewn bodolaeth, a'i fod yn rhyngweithio'n uniongyrchol â'r cyhoedd, a holodd pa rannau o'r Hysbysiad o Gynnig nad oedd y Cyngor yn cydymffurfio â hwy bellach, a chwestiynodd perthnasedd refferendwm gan na fyddai ganddo unrhyw statws nac unrhyw fudd amlwg. 

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai refferendwm lleol yn ddangosol, ond na fyddai'n rhwymo'r Pwyllgor Rheoli Datblygu, ac ni fyddai mor bwysig â’r broses ymgynghori statudol.  Aeth y Swyddog Monitro yn ei flaen i ddweud y gellir apelio unrhyw benderfyniad a wneir gan yr Arolygiaeth Gynllunio, a hynny oherwydd bod y Pwyllgor Rheoli Datblygu yn Bwyllgor statudol, . 

 

Rhoddodd Rheolwr y Gr?p Cynllunio a Datblygu trosolwg o gynllunio mewn perthynas â'r Hysbysiad o Gynnig, a dywedodd wrth yr Aelodau y bydd y mannau agored y Cyngor sy’n rhan o’r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) presennol yn cael eu diogelu yn y CDLl newydd, ac y byddent yn destun ymgynghoriad helaeth, a bod cyfnodau allweddol lle mae'n rhaid i'r Cyngor ymgysylltu â'r gymuned.  Bydd ymgysylltiad â'r cyhoedd yn digwydd ar y CDLl cyn iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, a bydden nhw wedyn yn ei gyfeirio at Arolygydd er mwyn craffu arno.  Bydd yr Arolygydd, ar ôl craffu ar y CDLl, yn ei gyfeirio at Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo cyn iddo gael ei fabwysiadu gan y Cyngor. 

 

Dywedodd aelod o'r Cyngor wrth yr Aelodau ei fod yn credu y byddai cynnal refferendwm ar y safle preswyl arfaethedig yn Nhondu yn arwain ar nifer sylweddol o wrthwynebiadau.

 

Dywedodd aelod o'r Cyngor fod gan y Cyngor brosesau cadarn eisoes ar waith ac y byddai cynnal refferenda lleol yn gynsail beryglus ac yn rhwystro'r Pwyllgor Rheoli Datblygu. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Cymunedau wrth yr Aelodau wrth yr Aelodau fod y Swyddog Monitro a Rheolwr y Gr?p Cynllunio a Datblygu wedi cynghori'r Cyngor mewn perthynas â'r Hysbysiad o Gynnig, ac na fyddai cynnal refferendwm yn dwyn unrhyw bwys mewn penderfyniadau cynllunio ac y byddai caniatáu'r Hysbysiad o Gynnig yn codi disgwyliadau'r cyhoedd.  Dywedodd wrth y Cyngor ei fod yn cytuno â'r rhagair yn yr Hysbysiad o Gynnig a chredodd y byddai Hysbysiad o Gynnig i lofnodi amcanion a nodau'r Siarter Gwneud Lleoedd yn cael cefnogaeth y Cyngor.

 

Wrth grynhoi, dywedodd y Cynghorydd Giffard fod geiriad yr Hysbysiad o Gynnig wedi bod yn destun ymgynghoriad â'r Swyddog Monitro.  Dywedodd y cydnabuwyd bod y Cyngor eisoes wedi ymrwymo i lawer o'r pwyntiau a amlygwyd yn rhagarweiniad yr Hysbysiad o Gynnig.  Dywedodd hefyd fod llawer o drigolion yn teimlo nad yw eu lleisiau'n bwysig a bod yr Hysbysiad o Gynnig yn rhoi'r p?er yn ôl yn nwylo pobl leol.     

                            

Yn dilyn pleidlais gan yr holl Aelodau a oedd yn bresennol, roedd yn:  

 

PENDERFYNIAD:           Bod yr Hysbysiad o Gynnig wedi'i wrthod.