Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda item

Defnyddio Cytundebau Perfformiad Cynllunio a Mesurau Adennill Costau Eraill er mwyn Penderfynu ynghylch Ceisiadau Cynllunio

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu adroddiad, i gynghori Aelodau ynghylch y potensial i ddefnyddio Cytundebau Perfformiad Cynllunio (CPCau) gyda datblygwyr yn rhan o'r drefn i adennill costau wrth ymdrin â chynigion datblygu graddfa fawr (yn bennaf), a chymhwyso'r egwyddor i'r un graddau i ddatblygiadau graddfa lai.

 

Fel gwybodaeth gefndirol, cadarnhaodd mai prif ddiben CPC yw creu fframwaith cytunedig rhwng yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) a'r ymgeisydd neu'r darpar ymgeisydd, ynghylch y broses ar gyfer ystyried cynnig datblygu graddfa fawr. Roedd CPC yn ymagwedd hyblyg yr oedd modd ei haddasu i gynigion lle'r oedd y materion a godwyd yn gymharol syml hyd at gynigion lle'r oedd y materion yn fwy cymhleth, a allai gynnwys mwy o bartïon, a lle'r oedd y broses wedi'i threfnu fesul cam dros gyfnod hir. Yn achos cais Cynllunio, gallai hyn amrywio rhwng y cyflwyniad cyn-ymgeisio hyd at gytuno'n derfynol ar yr amodau Cynllunio. Nid oedd unrhyw CPC safonol, gan fod pob un yn debygol o fod yn unigryw i gyd-fynd â’i amgylchiadau neilltuol. Ystyrir CPC yn offeryn effeithlonrwydd sy'n creu amserlen glir i fwrw ymlaen â gwaith datblygu sylweddol a buddion economaidd cysylltiedig, yn ogystal ag adnoddau ychwanegol er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau lle bo angen.

 

Mae diffyg adnoddau digonol ar gyfer swyddogaethau Cynllunio mewn Awdurdodau lleol yng Nghymru yn broblem genedlaethol sydd wedi'i chydnabod gan Lywodraeth Cymru a'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI).  Mae'n amlwg bod sgiliau hollbwysig ym maes Cynllunio a meysydd cysylltiedig wedi cael eu colli o fewn Awdurdodau lleol, gan greu effaith gyfatebol ar y gallu i ddarparu datblygiadau cynaliadwy yn unol â pholisi cenedlaethol. Mae diffyg adnoddau digonol o fewn Awdurdodau Cynllunio hefyd wedi'i nodi fel un o'r prif resymau wrth wraidd oedi yn y system Gynllunio.

 

Cynhaliodd Archwilydd Cyffredinol Cymru archwiliad trylwyr o'r System Gynllunio yng Nghymru, ac yn benodol o’i gallu i gyflawni nodau ac amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru, Mehefin 2019). Yn ychwanegol at hyn, cododd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru (Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru, Mehefin 2020) a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2020) bryderon ynghylch gallu timau Cynllunio i gyflawni deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol allweddol. Cyfeiriwyd at ddiffyg adnoddau o fewn timau Cynllunio fel ffactor risg allweddol ar draws yr holl adroddiadau annibynnol hyn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, nad oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn eithriad i'r darlun cenedlaethol hwn, a bod lefelau staffio ym maes Cynllunio wedi gostwng dros 50% dros yr 8 mlynedd diwethaf. Roedd rolau arbenigol hefyd wedi cael eu colli, gan gynnwys rolau ym maes Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, Cynllunio Mwynau ac arbenigedd dylunio trefol. Roedd y gwasanaeth wedi cael ei resymoli a'i ad-drefnu droeon yn y gorffennol er mwyn goresgyn yr her o ddiffyg adnoddau wrth ddarparu gwasanaeth hanfodol yn erbyn cefndir heriol o newidiadau polisi a deddfwriaeth radical,

 

Aeth yn ei flaen i ddweud bod y llwyth gwaith yn feichus, y dogfennau technegol a gyflwynir yn fwyfwy cymhleth a bod yn rhaid gweithredu deddfwriaeth a pholisi cenedlaethol pellgyrhaeddol, gan gynnwys yr agenda creu lleoedd hollbwysig. Oherwydd hynny mae'r Gwasanaeth yn colli'r enillion effeithlonrwydd a sicrhaodd dros y degawd diwethaf, ac mewn perygl o fethu, ac o bosib yn ystyried gostwng lefelau gwasanaeth i ganolbwyntio ar swyddogaethau statudol craidd yn unig. 

 

Ychwanegodd fod nifer y ceisiadau cynllunio a gyflwynwyd ar gyfer datblygiadau graddfa fawr dros tua'r 12 mis diwethaf hefyd wedi ychwanegu at y pwysau uchod, yn ogystal â gwaith parhaus sy'n cael ei gyflawni ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl).

 

Byddai defnyddio CPC yn yr amgylchiadau hyn yn creu fframwaith cytunedig er mwyn bwrw ymlaen â'r cais o'r cyfnod cyn ymgeisio hyd at fodloni'r amodau, a gallai fod yn fodd i sicrhau adnoddau ychwanegol er mwyn helpu i lenwi dros yr aelodau hynny o staff sy'n rhoi eu holl amser i'r prosiect.

 

Ystyrir Pen-y-bont ar Ogwr yn ardal dwf allweddol, a nodir hynny yn

y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) neu Cymru'r Dyfodol sydd ar ddod. Mae'n debygol iawn y bydd cynigion mewnfuddsoddi eraill allweddol yn dod i'r amlwg. Yn ychwanegol at hyn ceir y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd sydd i fod i gael ei fabwysiadu yng nghanol 2022, a fydd yn nodi nifer o safleoedd strategol allweddol o fewn y Fwrdeistref Sirol, ynghyd â'r angen cyfatebol am ganiatâd cynllunio. Roedd hi'n amlwg bod angen cyflwyno system o CPCau mewn pryd er mwyn ymateb i'r her. Ar ben hynny, ceir tystiolaeth gynyddol o barodrwydd datblygwyr i ymrwymo i CPCau yn rhan o'r broses Gynllunio arferol.

 

Cynigiwyd felly y dylid ystyried y potensial am y system hon ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda golwg ar gyflwyno system o CPCau yn rhan o Wasanaeth Cynghori Cyn Ymgeisio diwygiedig wedi'i ddiweddaru.

 

Byddai CPCau yn cael eu defnyddio ar gyfer cynlluniau datblygu mwy yn bennaf (graddfa fawr ac uwch), ond gellid hefyd eu defnyddio ar gyfer unrhyw fath o ddatblygiad lle mae angen ymateb eithriadol oddi wrth yr ACLl.

 

I gloi, cadarnhaodd y Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod cais i'r Aelodau awdurdodi Swyddogion i archwilio'r defnydd o CPCau ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac i adolygu gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio'r Sir y mae'n rhaid talu amdano, gyda golwg ar geisio cymeradwyaeth ddiweddarach gan y Cabinet ar gyfer y strwythur codi tâl. Roedd hyn ar sail yr uchod, ac ar sail gwybodaeth arall a oedd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad. Byddai'r adnoddau ychwanegol a fyddai'n cael eu sicrhau drwy CPCau o gymorth i sicrhau hyfywedd a gwytnwch y maes gwasanaeth Cynllunio a Datblygu am y tymor hwy.

 

Ymatebodd wedyn i nifer o gwestiynau gan yr Aelodau, ac yna:

 

PENDERFYNWYD:                 (1) Bod yr Aelodau'n cytuno â'r egwyddor o gyflwyno system o Gytundebau Perfformiad Cynllunio ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn awdurdodi'r Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu i ofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu system ffurfiol ar gyfer cytuno a chodi tâl.

(2) Awdurdodi'r Rheolwr Gr?p - Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu i adolygu a gwneud newidiadau i'r Gwasanaeth Cynghori Cyn Ymgeisio cyfredol a'r raddfa daliadau.

 

 

Dogfennau ategol:

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z