Agenda item

Diweddariad llafar gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Gwahodd

Claire Marchant, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cynghorydd

Nicole Burnett, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant

Pete Tyson, Rheolwr Grwp - Contractau Comisiynu a Monitro Contractau

Andrew Thomas, Rheolwr Grwp - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol

 

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Corfforaethol - y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant a Rheolwr y Gr?p - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol gyflwyniad ar effaith Covid-19 ar y Gyfarwyddiaeth a’r ymateb.

 

Gofynnodd Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Gofynnodd Aelod a fyddai cyswllt â Phlant sy’n Derbyn Gofal (LAC) a’u rhieni yn briodol yn ôl lefel Haen Covid-19, gan nodi’r newid posibl i Haen 4 yn fuan gan Lywodraeth Cymru. Gofynnodd hefyd a oedd asesiadau risg yn ddogfen fyw ac a oedd gwiriadau’n cael eu cynnal gyda rhieni a gofalwyr maeth i sicrhau bod plant yn ddiogel ac nad oedd unrhyw symptomau o Covid-19.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol y Plant ei fod wedi bod yn benderfyniad anodd atal pob cyswllt wyneb yn wyneb o blaid cyswllt o bell. Unwaith y caniateid i gyswllt wyneb yn wyneb ailddechrau, rhoddid blaenoriaeth i grwpiau fel plant newydd-anedig a rhieni wedi gwahanu, plant oedd wedi eu hailsefydlu gyda’u rhieni bedydd a brodyr a chwiorydd gyda pherthnasau agos. Roedd yr holl gysylltiadau wedi cael eu hailgychwyn. Roedd y Gyfarwyddiaeth yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar yr asesiad dau gam, lle câi pob sefyllfa ei hasesu er mwyn canfod i ba raddau yr oedd yn angenrheidiol a graddau’r risg. Polisi’r Gyfarwyddiaeth oedd bod pob plentyn yn cael cysylltiad yn y lle cyntaf a, phe bernid bod hynny’n angenrheidiol, cynhelid yr asesiad dau gam. Gallai cyswllt ddigwydd yn yr awyr agored ond roedd hyn yn anodd yn ystod y gaeaf. Roedd canolfannau bellach yn cael eu defnyddio ac, mewn partneriaeth â Landlordiaid Corfforaethol, Iechyd a Diogelwch ac Iechyd yr Amgylchedd, câi glanhau dwfn ei gynnal ar ôl pob sesiwn gyswllt. Roedd y staff yn gwisgo cyfarpar diogelu personol a chynorthwyid y plant a’u teuluoedd i sicrhau bod yr holl ganllawiau’n cael eu dilyn. Câi asesiadau risg eu hadolygu’n barhaus fel, pe bai yna ragor o gyfyngiadau / newid yn y canllawiau, y câi trefniadau lleol eu hadolygu gan ymarferwyr a rheolwyr yn unol â hynny, e.e. datblygwyd atodiad pan osodwyd cyfyngiadau llym Covid-19 ym Mhen-y-bont ar Ogwr ym mis Hydref.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw fesurau diogelwch ar waith ar gyfer cyfnewid rhoddion rhwng teuluoedd ac a fyddai’r rhain yn destun cyfnod cwarantin o 72 awr.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol y Plant fod hyn yn her a bod trafodaethau’n parhau. Roedd yn ddealladwy y byddai rhieni’n dymuno rhoi anrhegion. Pe bai plant yn symud i gyswllt corfforol, byddai angen rheoli’r sefyllfaoedd hyn ac asesu’r risg.

 

Roedd Aelod yn deall bod Pen-y-bont ar Ogwr yn arafach nag awdurdodau lleol eraill yn aildrefnu cyswllt i blant a gofynnodd beth oedd y rheswm dros yr oedi hwn. Yn ail, gofynnodd a fyddai Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried ychwanegu plant ag anghenion arbennig at eu grwpiau blaenoriaeth ar gyfer cyswllt wyneb yn wyneb oherwydd bod cyswllt ar-lein yn anaddas ar gyfer ymgysylltu. Gofynnodd sut yr oedd plant yn cael eu gweld fel blaenoriaeth pan nad oedd gan y rhai oedd yn mynychu ysgolion arbennig Weithiwr Cymdeithasol. Yn drydydd, gofynnodd yr Aelod faint o gartrefi gofal i oedolion oedd wedi caniatáu ymweliadau tu mewn. Canmolodd yr Aelod y Rheolwr Comisiynu, oedd wedi derbyn adroddiadau da iawn gan reolwyr cartrefi gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr am ei waith caled yn ystod Covid-19, ac i’r awdurdod lleol am ei broses taliadau cyflym. Ar wahân i’r sefydliadau oedd wedi darparu cymorth lles, dymunai hefyd sôn am unigolion a gyfrannodd at les pobl eraill, gan sôn yn benodol am Lyfrgell y Safleoedd Bysiau ym Mhorthcawl.

 

Dywedodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol y Plant y byddai’n tynnu’n ôl y pwynt am gynnwys plant sy’n derbyn gofal/plant ag anableddau ac anghenion cyfathrebu fel gr?p blaenoriaeth ar gyfer cyswllt wyneb yn wyneb. Yr egwyddor oedd y byddai plant oedd yn derbyn gofal i gyd yn cael cyswllt wyneb yn wyneb. Yn ail, yr oedd yn anodd rhoi sylwadau ar y sefyllfa mewn awdurdodau lleol eraill. Roedd pob Pennaeth Gwasanaeth wedi bod mewn trafodaethau drwy gydol Covid-19 ac roedd Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â grwpiau Penaethiaid Gwasanaeth rhanbarthol. Nid oedd Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith fod Pen-y-bont ar Ogwr yn profi oedi o’i gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Roedd rhai teuluoedd wedi mynegi eu pryderon a’u rhwystredigaeth am nad oedd cysylltu wedi ailgychwyn, ac roedd y materion hyn yn derbyn sylw. Yn drydydd, eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol y Plant fod model trosiannol gydag un rheolwr safle ar y gweill. Pe bai plant yn derbyn cymorth gan y Tîm Anableddau, byddai asesiad yn cael ei gynnal a, phe bai angen cymorth hyd at fod yn oedolyn, byddai asesiad pellach yn cael ei gynnal. Byddai’n hapus i drosglwyddo ymholiadau ynghylch achosion unigol i’r rheolwr priodol. Cadarnhaodd yr Aelod nad oedd ei hymholiad yn ymwneud ag achosion unigol ac roedd yn croesawu’r cyfle i siarad â Phennaeth Gofal Cymdeithasol y Plant yn dilyn y cyfarfod.

 

Mewn perthynas ag ymweliadau â chartrefi gofal i oedolion, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod asesiadau risg yn cael eu cynnal ar lefel ranbarthol a’u hystyried gan y Tîm Rheoli. Roedd angen i gartrefi gofal gynnal eu hasesiadau risg eu hunain. Un her oedd pe bai staff/preswylwyr yn profi’n gadarnhaol, y weithdrefn safonol oedd i’r cartref gofal fynd i mewn i gyfnod clo am ddau gyfnod heintus o’r feirws (28 diwrnod). Roedd Llywodraeth Cymru yn adolygu hyn ar hyn o bryd. Polisi Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd na ellid hwyluso ymweliadau wyneb yn wyneb pe bai cartref gofal yn mynd i mewn i gyfnod clo oherwydd Covid-19. Ar 9 Rhagfyr, roedd naw cartref yn y sefyllfa honno, gydag un o bosibl (yn disgwyl am gadarnhad), ac un yn penderfynu peidio â hwyluso ymweliadau. Roedd chwe chartref yn hwyluso ymweliadau, tra roedd dau yn rhan o gynllun peilot ar gyfer profion cyflym. Roedd hon yn sefyllfa symudol oherwydd bod posibilrwydd i unrhyw gartref gofal symud o achosion asymptomatig i achosion cadarnhaol o covid-19.

 

Nododd yr Aelod ymhellach y cyfleusterau newydd ac amrywiol ar gyfer cyswllt yr adroddwyd amdanynt yn y newyddion a holai a fyddai Pen-y-bont ar Ogwr yn hwyluso pebyll mawr, er enghraifft, i roi rhywfaint o dawelwch meddwl i deuluoedd.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles mai sefyllfaoedd lle nad oedd teuluoedd yn gallu gweld ei gilydd oedd y rhai mwyaf heriol ac anodd. Bu datblygiadau arloesol drwy lwyfannau digidol ond nid oedd hyn wedi bod cystal â chyswllt wyneb yn wyneb. Roedd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn pod mewn un cartref gofal. Roedd rhai cartrefi gofal yn gallu hwyluso cyswllt wyneb yn wyneb yn well nag eraill. Dyna pam roedd asesiadau risg mor bwysig. Drwy’r Tîm Comisiynu, roedd y Gyfarwyddiaeth yn dal i weithio mewn partneriaeth er mwyn hyrwyddo arfer da a diogel.

 

Nododd yr Aelod yr anfantais i’r bobl hynny nad oeddent yn defnyddio TG. Roedd hi wedi derbyn darn o wybodaeth drwy ei drws a gofynnodd a fyddai unrhyw wybodaeth bellach ar bapur yn cael ei dosbarthu.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i sesiynau digidol gael eu cynnal gyda gofalwyr a bod rhai yn fwy cyfforddus gyda TG nag eraill. Dywedodd fod angen edrych eto ar ddosbarthu gwybodaeth, ac ategu efallai â chylchlythyrau a gohebiaeth.

 

Cytunai’r Aelod Cabinet ar Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod angen i’r awdurdod lleol estyn allan at y rhai nad oedd ganddynt gystal cysylltiad digidol. Roedd Evergreen Hall yn gweithio gyda chylchgronau ffisegol a chyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Gwasanaethau Cymdeithasol i geisio dosbarthu gwybodaeth a chyngor yngl?n â lles. Gofynnodd i’r Aelodau feddwl am unrhyw unigolion yr oeddent yn eu hadnabod oedd angen derbyn gwybodaeth ar bapur.

 

Awgrymodd Aelod arall ei bod yn werth cysylltu â’r Ganolfan Gofalwyr i nodi unigolion oedd angen gwybodaeth ar bapur.

 

Gofynnodd Aelod, fel rhiant corfforaethol, a oedd modd gwrando ar ein plant, ac a allai’r awdurdod lleol sicrhau bod pob plentyn ac oedolyn ifanc wedi cael ei osod yn ddiogel a hynny ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Sicrhaodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant y Pwyllgor fod y Gyfarwyddiaeth yn ymrwymedig i wrando ar blant ac oedolion ifanc a sicrhau eu diogelwch. Roeddent wedi ceisio gwneud hyn drwy gydol y pandemig drwy gadw mewn cysylltiad o bell ac wyneb yn wyneb gymaint â phosibl. Cafwyd adborth cadarnhaol gan blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal ynghylch y ffyrdd newydd o weithio drwy dechnoleg fodern, a byddai’r dulliau hyn yn parhau. O ran diogelwch plant, roedd Gweithwyr Cymdeithasol yn pryderu’n benodol am beidio â gweld plant wyneb yn wyneb ac roeddent yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i gael adborth ar eu harsylwadau. Roedd plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn mynychu’r ddarpariaeth yn yr hwb, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed a phlant sy’n derbyn gofal. Roedd perfformiad Pen-y-bont ar Ogwr o ran nifer y plant sy’n derbyn gofal sy’n cael eu lleoli o fewn y fwrdeistref yn gadarnhaol o gymharu ag awdurdodau lleol eraill. Gosodwyd y rhan fwyaf o’r plant sy’n derbyn gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’u blaenoriaethu i aros yn y fwrdeistref, gyda chynlluniau ar waith i ofalwyr ychwanegol gefnogi hyn. Mewn achosion lle roedd plant sy’n derbyn gofal yn cael eu gosod y tu allan i Ben-y-bont ar Ogwr, roedd hyn oherwydd byw gyda pherthnasau.

 

Gofynnodd yr Aelod sut roedd y Gyfarwyddiaeth yn cadw mewn cysylltiad â’r plant oedd yn derbyn gofal oedd yn byw y tu allan i’r fwrdeistref.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod y Gyfarwyddiaeth wedi cadw mewn cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal sy’n byw y tu allan i’r fwrdeistref drwy gyswllt o bell ac, o fewn canllawiau Covid-19, drwy ymweliadau statudol.

 

Holodd Aelod yngl?n â’r newid mewn modelau gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Dydd a’r effaith y byddai hyn yn ei chael ar ofalwyr, yr oedd y ddarpariaeth hon yr unig seibiant y byddent yn ei gael.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod Gwasanaethau Dydd yn faes heriol ond bod y Gyfarwyddiaeth wedi ceisio lliniaru’r risg drwy barhau i redeg gwasanaethau. Roedd wedi edrych ar y nifer fwyaf posibl o bobl y gallai eu cefnogi mewn ffyrdd diogel, gydag ymbellhau’n gymdeithasol. Roedd hyn yn golygu llai o niferoedd bob dydd a llai o ddiwrnodau ar gael. Edrychodd y Gyfarwyddiaeth hefyd ar y cymorth arall oedd ar gael, e.e. cymorth allgymorth gyda gofalwyr. Parhaodd y ddarpariaeth ddydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weithredu o gymharu â rhai ardaloedd.

 

Roedd yr Aelod yn falch o glywed am barhad y gwasanaethau a ddarperir gan ei bod yn ymwybodol o ba mor hanfodol oedd y gwasanaethau dydd.

 

Gofynnodd Aelod i’r Pwyllgor nodi’r canlynol. Un mater a ddaeth i’r amlwg ymhlith trigolion yn ystod y pandemig oedd yr iaith ddryslyd ac anodd i egluro sut y gallai pobl gael mynediad at Gynorthwyydd Personol a’r ddarpariaeth gymorth ar gyfer lles eu teulu eu hunain, yn enwedig i’r rhai ag anawsterau iaith. Pe bai Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd i mewn i Haen Covid-19 wahanol yn y dyfodol, gofynnodd yr Aelod a ellid defnyddio iaith haws i esbonio’r rheolau’n gliriach ac a ellid eu hanfon at bobl fel eu bod yn gwybod a oedd ganddynt eu Cynorthwyydd Personol i’w helpu.

 

Nododd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar mai hwn oedd ei Phwyllgor Craffu cyntaf fel Aelod Cabinet. Dymunai ddiolch i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, Rheolwr y Gr?p – Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion a’u timau perthnasol am eu hymrwymiad a’u hymroddiad. Ni allai bwysleisio digon gymaint yr oedd y Gyfarwyddiaeth wedi canolbwyntio yn ystod cyfnod heriol a llawn straen. Dymunai sicrhau’r Aelodau bod ganddi’r un pryderon a’i bod yn gofyn cwestiynau’n rheolaidd i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu hystyried a bod y staff yn cael eu cefnogi.

 

Diolchodd y Pwyllgor i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a’i thîm am eu gwaith yn ystod Covid-19.