Agenda item

Is-ddeddfau Harbwr Porthcawl

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gynnal proses i ddiwygio'r is-ddeddfau sy'n effeithiol ar hyn o bryd yn Harbwr Porthcawl, i adlewyrchu'r gweithrediadau a'r gweithgareddau presennol sy'n digwydd yn y lleoliad penodol hwn ac i ymgynghori ar unrhyw is-ddeddfau newydd arfaethedig a'u hysbysebu, o dan ddarpariaethau Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.

 

Fe'i cefnogwyd wrth gyflwyno'r adroddiad, gan Reolwr y Gr?p – Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd.

 

Amlinellodd yr adroddiad wybodaeth gefndir benodol, ac yn dilyn hynny dywedodd fod ardaloedd penodol o fewn ôl troed Harbwr Porthcawl (fel y'u diffinnir gan Ddeddf 1987) yn ddarostyngedig i is-ddeddfau lleol ar hyn o bryd sy'n nodi Mannau Ymdrochi Cyhoeddus ar draws Porthcawl. Sefydlwyd yr is-ddeddfau hyn ym 1953 gan Gyngor Dosbarth Trefol Porthcawl.

 

Yn seiliedig ar adolygiad diweddar o Iechyd a Diogelwch a digwyddiadau diweddar a adroddwyd yn yr ardal, ystyriwyd bod angen diwygiadau i'r is-ddeddfau presennol.  Wrth ymgymryd â phroses i ddiwygio'r is-ddeddfau, y bwriad yw peidio â gwahardd unrhyw weithgaredd penodol, ond rhoi set glir o reolau ar waith sy'n cyd-fynd ag amgylcheddau arfordirol a chei eraill sydd â diogelwch defnyddwyr fel blaenoriaeth.

 

Y bwriad yw y bydd yr is-ddeddfau sydd ar waith ar hyn o bryd felly yn cael eu dirymu, i'r graddau y mae'r is-ddeddfau hynny'n berthnasol i Harbwr Porthcawl ac yn cael eu disodli gan is-ddeddfau mwy diweddar.

 

Amlinellodd adrannau nesaf yr adroddiad y broses sy'n digwydd pan gaiff is-ddeddfau eu rhoi ar waith, gan gynnwys y gofynion deddfwriaethol y mae'n rhaid eu bodloni i'r perwyl hwn.

 

Amgaewyd copi o'r is-ddeddfau drafft arfaethedig y bwriedir ymgynghori arnynt yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywio'r adroddiad. Teimlai y byddai rhywfaint o eglurhad o ran yr hyn y byddai'r is-ddeddfau'n ei gwmpasu mewn gwirionedd ac yn sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o hyn, yn eu helpu i wybod pa weithgareddau a allai ac na allent ddigwydd yn ardaloedd Marina a Harbwr Porthcawl ac o'u cwmpas. Roedd yn ymwybodol, er enghraifft, fod problem wedi'i hadrodd o'r blaen gyda jet-sgïo yn y dyfrffyrdd yn ardal arfordirol Porthcawl. Teimlai ei bod yn bwysig i rai gweithgareddau o natur beryglus ddod i ben, gobeithio, yn y dyfodol, neu gael eu rheoleiddio (drwy, er enghraifft, fod is-ddeddfau ar waith).

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig nodi nad oedd y Cyngor ond yn bwriadu ymgynghori ar wneud is-ddeddfau diwygiedig ar hyn o bryd, yn hytrach na'u rhoi ar waith. Gobeithiai y byddai'r ymgynghoriad yn cynnwys partneriaid allweddol fel yr RNLI, gan y byddai'r is-ddeddfau, pe baent yn cael eu mabwysiadu, yn helpu i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu cadw'n ddiogel mewn ardal arfordirol a allai fod yn beryglus. Gobeithiai hefyd y byddai'r ymgynghoriad yn cael ei ymestyn i Gyngor Tref Porthcawl ac aelodau lleol Porthcawl, er mwyn sicrhau, pe bai'r is-ddeddfau'n cael eu dilyn, y byddent yn addas i'r diben ar gyfer yr ardal.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau, mai dyfroedd môr Hafren oedd gyda’r mwyaf peryglus yn y DU gyfan ac y dylid nodi bod is-ddeddfau'n bodoli ar hyn o bryd yn ardal Porthcawl. Yr hyn a oedd yn cael ei gynnig oedd diwygio'r rhain yn unig, er mwyn eu gwneud yn fwy addas i'r diben o bosibl, o ystyried datblygiad Porthcawl o ran rhai rhannau o dir yno ac o fewn yr ardal arfordirol.

 

PENDERFYNWYD:                                                    Bod y Cabinet wedi:

 

 ·  Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau, i gynnal proses ymgynghori, o dan ddarpariaethau Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012, ac i gymryd yr holl gamau angenrheidiol a ddisgrifir ym Mharagraff 4 o'r adroddiad i wneud is-ddeddfau newydd o dan Ddeddf Morgannwg Ganol 1987 mewn perthynas ag Harbwr Porthcawl i adlewyrchu'r gweithrediadau presennol a'r gweithgareddau a gynhaliwyd.

 ·  Nodwyd y byddai adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet unwaith y byddai'r broses a ddisgrifir ym mharagraff 4.7 o'r adroddiad wedi'i chwblhau. 

 

Dogfennau ategol: