Agenda item

Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr 2020

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau, a'i ddiben oedd amlinellu canfyddiadau'r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (GTAA) a cheisio caniatâd i gyflwyno'r Asesiad i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo. Byddai hyn yn caniatáu i'r Awdurdod Tai Lleol gyflawni ei ddyletswydd statudol ac yn galluogi'r ymgynghoriad statudol ar y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) i fynd rhagddo yn unol â'r Cytundeb Cyflawni.

 

Dywedodd fod gan yr Awdurdod Tai Lleol ddyletswydd statudol i gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy'n byw yn ei ardal neu sy'n troi at ei ardal o dan Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Tai Lleol ymgymryd â GTAA o leiaf bob 5 mlynedd, er bod hyblygrwydd i ymgymryd â GTAAs yn amlach os nodwyd newid sylweddol yn lefel yr angen yn yr ardal. Rhaid i'r GTAA fod yn destun ymgynghoriad a'i gyflwyno i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo. Os bydd asesiad cymeradwy yn nodi'r angen am leiniau ychwanegol o fewn ardal Awdurdod, mae gan yr Awdurdod Tai Lleol ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod angen yn cael ei ddiwallu drwy arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.

 

Cyhoeddodd y Cyngor GTAA ddiwethaf yn 2016 (ar gyfer y cyfnod hyd at 2031) ac felly byddai wedi bod yn ofynnol i'r Awdurdod Tai Lleol adolygu'r Asesiad hwn yn 2021. Fodd bynnag, gan fod y CDLl Newydd yn cwmpasu'r cyfnod 2018-2033 a bod ymgynghoriad ar y CDLl adneuo wedi'i drefnu ar gyfer dechrau 2021, mae angen adolygiad ychydig yn gynnar o'r GTAA er mwyn cydymffurfio â Chytundeb Cyflawni'r CDLl.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau ymhellach, drwy hysbysu'r Cabinet fod GTAA diwygiedig yn amcangyfrif bod angen 5 llain ar y Fwrdeistref Sirol am 5 mlynedd gyntaf cyfnod y GTAA a 2 lain arall ar gyfer gweddill cyfnod y CDLl. Nodwyd bod cyfanswm y ddarpariaeth o leiniau sydd ei hangen ar Sipsiwn a Theithwyr ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn 7 llain hyd at 2033. Y cyfanswm hwn oedd swm rhagamcanol y ddarpariaeth sy'n angenrheidiol er mwyn i'r Awdurdod Tai Lleol gyflawni ei rwymedigaethau statudol tuag at anghenion adnabyddadwy'r boblogaeth sy'n codi yn yr ardal. Roedd yr angen yn cynnwys cyfuniad o aelwydydd sydd wedi dyblu, symud o gartrefi brics a morter a ffurfio cartrefi newydd. Gellid cynnwys yr angen hwn ar draws dau safle newydd a thrwy ddwysáu safleoedd sy'n bodoli eisoes, fel yr esbonnir ym mharagraff 4.2 o adroddiad y Swyddog.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol, yr adroddiad a diolchodd i Swyddogion am ymgysylltu â'r gymuned Sipsiwn a Theithwyr nad oedd bob amser yn dasg hawdd, o ran eu hanghenion presennol ac unrhyw weledigaethau hirdymor sydd ganddynt. Nododd mai'r angen a nodwyd yn awr oedd darparu 6 safle, er bod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer 7 (safle). Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol, ei bod yn cefnogi'r cynnydd hwn, oherwydd demograffeg a phoblogaeth Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn tyfu o ran maint. 

 

Cytunai'r Arweinydd â hyn ac roedd yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiad diweddaru i'r Cabinet ar unrhyw ymgysylltu pellach yn y tymor hwy gan y gallai anghenion Sipsiwn a Theithwyr newid dros amser.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet – Cymunedau hefyd yr adroddiad a'r adolygiad a amlinellwyd ynddo, a gyflwynwyd ar y cyd â'r adolygiad o CDLl y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:                                                  Bod y Cabinet wedi:

 

(a) Cymeradwyo canfyddiadau'r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr a'r Adroddiad Terfynol (Atodiad 1 i'r adroddiad), a;

(b) Cymeradwyo cyflwyno’r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr i Weinidogion Cymru er mwyn galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i ddiwallu anghenion asesedig.

 

Dogfennau ategol: