Agenda item

Cyflwyniad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a’r Rhaglen Cyflwyniadau i'r Cyngor

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr gyflwyniad i'r Cyngor gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a dywedodd wrth yr Aelodau y bydd trafodaethau'n cael eu cynnal gydag Arweinwyr Grwpiau ar raglen o gyflwyniadau yn y dyfodol gan bartneriaid y Cyngor yn 2021, i gynnwys partneriaid fel Awen a Halo o bosibl.  Cyflwynwyd aelodau'r Cyngor i'r Athro Marcus Longley, Cadeirydd, Paul Mears, Prif Weithredwr, ac Alan Lawrie, Prif Swyddog Gweithredu, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. 

 

Mynegodd Cadeirydd Cwm Taf ei ddiolch i'r Cyngor am ei waith mewn partneriaeth â'r Bwrdd Iechyd yn ystod y pandemig.  Rhoddodd wybod i'r Cyngor am benawdau allweddol y 12 mis diwethaf, gan gynnwys cyhoeddi'r Cydadolygiad ar Lywodraethu Ansawdd; yr ymateb i Ymyrraeth wedi'i Thargedu (Ansawdd a Llywodraethu) a’r Mesurau Arbennig (Gwasanaethau Mamolaeth); y defnydd o fodel gweithredu newydd; yr ymateb i Covid-19; penodi Prif Weithredwr newydd; lansio gwerthoedd ac ymddygiadau CTM a ffocws ar ymgysylltu â rhanddeiliaid.

 

Hysbysodd Prif Weithredwr Cwm Taf y Cyngor o'r penawdau allweddol dros y 12 mis nesaf, sef Strategaeth Iechyd a Gofal Integredig hirdymor glir ar gyfer y sefydliad; dysgu o'r model gweithredu newydd; parhau i reoli pandemig Covid-19; adfer llawdriniaeth ddewisol; ffocws ar iechyd y boblogaeth; gweithio i archwilio cyfleoedd pellach ar gyfer integreiddio a gweithio mewn partneriaeth ac i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd o'r agenda digidol.  Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr union gyfraddau heintio ar hyn o bryd, a dywedodd wrth y Cyngor fod y prosiect Profi Olrhain Diogelu yn enghraifft o weithio partneriaeth ar ei orau.  Mae profion poblogaeth gyfan ar y gweill ym Merthyr Tudful a Chwm Cynon Uchaf, a'r rhaglen frechu ar gychwyn, ac wedi dechrau ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Dywedodd fod y System Iechyd a Gofal dan straen sylweddol, gyda mwy o gleifion COVID-19 mewn ysbytai nag erioed o'r blaen, a bod Ysbyty'r Seren ar agor a 53 o welyau'n cael eu defnyddio.  Mae’r rheolaeth o oedi wrth drosglwyddo gofal yn cael ei wneud yn rhagweithiol mewn cydweithrediad â'r Cyngor. 

 

Amlinellodd Prif Weithredwr Cwm Taf eu huchelgais ynghyd â'u cenhadaeth, eu gweledigaeth, a'u hamcanion strategol. Soniodd am y broses ar gyfer integreiddio ardal Pen-y-bont ar Ogwr i Gwm Taf, ac mai egwyddor sylfaenol wrth newid y ffiniau yw’r cyfle i fanteisio i'r eithaf ar synergeddau ar draws y Bwrdd Iechyd sydd newydd ei ehangu yn hytrach na newid yn y gwasanaethau a ddarperir i gleifion,.  Cafwyd cyfle i ddysgu o astudio enghraifft flaenllaw o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae model gweithredu newydd wedi creu Ardal Integredig ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sy'n hwyluso cydweithio agos â chydweithwyr yn y Cyngor a'r sector gwirfoddol.  Amlinellodd enghreifftiau o gydweithio a chynlluniau integredig y gaeaf, y datblygiadau ym maes gofal sylfaenol, a'r gwelliannau a oedd wedi digwydd i Ysbyty Maesteg.  Rhoddodd wybod i'r Cyngor am y cynnydd sylweddol a wnaed yn y gwasanaethau mamolaeth.  Wrth symud ymlaen, hysbysodd y Prif Weithredwr gynlluniau'r Bwrdd Iechyd ar gyfer parhau i reoli pandemig COVID-19; cwblhad y gwaith rhagorol sy'n gysylltiedig ag integreiddio Pen-y-bont ar Ogwr; y gwaith gyda'r Cyngor ar ddatblygiadau pellach o ran integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol; y ffocws ardal ar iechyd y boblogaeth ac ymgysylltu ehangach â'r gymuned; a’r gwaith parhaus i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a'u cynnwys yn natblygiadau gwasanaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr.       

 

Talodd aelodau'r Cyngor deyrnged i holl staff y GIG sydd wedi gweithio'n ddiflino yn ystod y pandemig.  Cyfeiriodd aelod o'r Cyngor at 2 fwrdd iechyd yng Nghymru a gyhoeddodd ddoe am driniaeth hanfodol mewn ysbytai, a holodd pam nad oedd defnydd gwell a cynharach wedi'i wneud o ysbytai maes.  Gofynnodd aelod o'r Cyngor hefyd a allai'r bwrdd iechyd rannu gwybodaeth gyda'r Aelodau am fannau lle ceir cyfraddau covid uchel.  Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf wrth y Cyngor fod yr ysbyty maes wedi'i agor ym mis Hydref lle mae cleifion sy'n gwella yn cael eu derbyn, a hynny gan yr ystyriwyd ei bod yn well cael cyfleuster ar wahân ar gyfer pobl sy'n gwella o covid gan y gwyddid fod y bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty â covid.  Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'n cael sgwrs gyda'r Prif Weithredwr a'r Arweinydd ynghylch y ffordd orau o rannu gwybodaeth am fannau sydd â chyfraddau uchel i Aelodau.

 

Cyfeiriodd aelod o'r Cyngor at y diffyg dosbarthiadau cynenedigol ar hyn o bryd a allai effeithio ar wasanaethau blynyddoedd cynnar, a bod mamau'n colli cyfle i ennill sgiliau allweddol. Cyfeiriodd aelod o'r Cyngor hefyd at y cyfraddau cychwynnol o fwydo ar y fron yn y DU sydd wedi gostwng yn ddramatig, gan gael effaith ar fabanod yn ddiweddarach, a gofynnwyd beth ellir ei wneud i annog mamau i barhau i fwydo ar y fron.  Soniodd Prif Weithredwr Cwm Taf wrth y Cyngor am yr amser heriol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn ystod y pandemig, a bod yn rhaid adolygu gwasanaethau'n gyson i'w darparu'n ddiogel a'i bod wedi bod yn anodd i staff sy'n gweithio mewn timau ymweld.  Dywedodd fod y bwrdd iechyd yn annog bwydo ar y fron ac y bydd gwaith pellach yn cael ei wneud i wella cyfraddau bwydo ar y fron. 

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor pa gamau sy'n cael eu cymryd ledled Cymru i sicrhau bod clinigwyr yn derbyn yr hyfforddiant diweddaraf yn ystod y pandemig.  Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf wrth y Cyngor fod nifer o wasanaethau wedi gorfod peidio yn ystod y pandemig, ond tynnodd sylw at bwysigrwydd caniatáu i staff meddygol iau barhau i arsylwi ar lawdriniaethau sy'n cael eu cyflawni.  Dywedodd fod nifer o lawfeddygon wedi parhau i gyflawni llawdriniaethau.  Dywedodd wrth y Cyngor fod y Cyfarwyddwr Meddygol yn adolygu prosesau'n gyson i sicrhau bod meddygon iau yn arsylwi ar lawdriniaethau a bod llawfeddygon yn parhau i gyflawni llawdriniaethau. 

 

Holodd aelod o'r Cyngor am effaith trosglwyddo gwasanaethau patholeg o Ben-y-bont ar Ogwr i Abertawe, gan arwain at golli arbenigedd, a holodd a oedd cynigion ar gyfer y gwasanaeth hwnnw wedi'u datblygu.  Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredu wrth y Cyngor nad oedd y bwrdd iechyd wedi gwneud cymaint o gynnydd ag y byddai wedi ei ddymuno oherwydd y pandemig, ond roedd datblygu'r gwasanaethau patholeg yng Nghwm Taf yn parhau i fod yn flaenoriaeth yn sgil trosglwyddo'r gwasanaeth blaenorol i Abertawe. 

 

Holodd aelod o'r Cyngor a oes cynigion i ddatblygu rheoli poen yn y gymuned.  Soniodd Prif Weithredwr Cwm Taf am natur wanychol rheoli poen ac roeddent yn edrych ar sut y gellid symud mwy o wasanaethau i'r gymuned, a phan fo diffyg trafnidiaeth gyhoeddus byddai'n ystyried darparu cyfleusterau trafnidiaeth.

 

Cyfeiriodd aelod o'r Cyngor at y swm sylweddol o ddatblygiadau preswyl sy'n digwydd yn ardal porth y cymoedd, a holodd am y cynnydd o ran datblygu cyfleusterau gofal sylfaenol yn y lleoliad.  Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredu wrth y Cyngor fod Cwm Taf yn ymwybodol iawn o faint o dai sy’n cael eu hadeiladu yn y lleoliad hwnnw, ac ar draws coridor yr M4, a bod sgyrsiau wedi'u cynnal ar ddatblygu cyfleuster gofal sylfaenol newydd yng Nghorneli.  Dywedodd fod angen datblygu cyfleusterau gofal sylfaenol yn ardal porth y cymoedd.

 

Cyfeiriodd aelod o'r Cyngor at y cysylltiad rhwng tai ac iechyd, a gofynnodd beth allai’r bwrdd iechyd ei wneud i ryddhau tir dros ben ar gyfer datblygu tai cymdeithasol gan fod cysylltiad cryf rhwng iechyd da a darparu tai da.  Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf wrth y Cyngor y byddai'n edrych ar ryddhau tir dros ben wrth iddo ddatblygu ei fodel gweithredu, ac y byddai'n ceisio gweithio gyda swyddogion ar ddatblygu atebion arloesol.  Dywedodd y Prif Swyddog Gweithredu fod trafodaethau wedi'u cynnal gyda chymdeithasau tai ar gyfleoedd o dan nawdd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.

 

Holodd aelod o'r Cyngor am y camau sy'n cael eu cymryd gan Gwm Taf i drin pobl oedrannus sydd wedi cael diagnosis o ddementia. Dywedodd Prif Weithredwr Cwm Taf fod dementia wedi dod yn salwch sylweddol ac y gallai llawer sy'n gwella o covid fod â dementia.  Dywedodd wrth y Cyngor fod y bwrdd iechyd yn gweithio'n agos gyda Gofal Cymdeithasol i Oedolion i gefnogi'r rhai â dementia.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles wrth y Cyngor fod gwasanaethau dementia yn cael eu datblygu mewn ffordd integredig a bod datblygiad cadarnhaol wedi bod gyda Nyrsys Seiciatrig Cymunedol yn gweithio mewn clystyrau. 

 

Roedd aelod o'r Cyngor yn falch o nodi integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, a holodd am y broses ar gyfer talu taliadau uniongyrchol i deuluoedd milwrol sy'n trosglwyddo o un ardal i'r llall.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog Gweithredu fod ganddo brosesau ar waith o ran cynnal gofal parhaus trwy drosglwyddo cyllid rhwng byrddau iechyd ar gyfer personél milwrol a chyn-filwyr y lluoedd arfog.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles wrth y Cyngor fod y Cyngor, pan fo teuluoedd milwrol yn symud rhwng awdurdodau yng Nghymru, yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar daliadau uniongyrchol.                  

 

PENDERFYNIAD:           Fod y Cyngor wedi:

 

        (1)         nodi'r cyflwyniad gan Brif Weithredwr a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

(2)        nodi y bydd rhaglen o gyflwyniadau yn cael ei chyflwyno gan bartneriaid y Cyngor yn ystod 2021.                              

 

Dogfennau ategol: