Agenda item

Perfformiad y Cyngor yn erbyn ei Ymrwymiadau yn Chwarter 2 2020-21

Gwahoddwyr:

Pob Aelod Cabinet a CMB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a roddai drosolwg i’r Pwyllgor ar berfformiad y Cyngor yn 2020-21, fel yn chwarter 2. Roedd yn cymharu perfformiad yn erbyn yr ymrwymiadau a wnaed i gyflawni’r amcanion llesiant yng Nghynllun Corfforaethol 2018-22, a adolygwyd ar gyfer 2020-21.

 

Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau canlynol:

 

Teimlai Aelod, mewn perthynas â phwynt 4.1.5.1, na ddylid newid y targed gan y derbynnid bod y flwyddyn wedi bod yn eithriadol.

 

Cydnabu’r Prif Weithredwr fod y pandemig wedi effeithio’n negyddol ar berfformiad ar rai dangosyddion. Roedd hon yn enghraifft lle roedd cael mwy o bobl yn gweithio mewn ffordd ystwyth wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol, yn enwedig ar salwch tymor byr, er bod salwch hirdymor weithiau wedi aros yr un fath neu wedi codi. O ran y targedau, roedd y rhain wedi cael eu gosod am y flwyddyn, ychydig yn is na ffigurau y llynedd. Roedd y Prif Weithredwr yn awyddus i sicrhau ffocws gwell oedd yn edrych ymlaen, gan symud i lawr a lleihau’r targed yn raddol flwyddyn ar ôl blwyddyn i’r lefel a ddymunid. Dylai’r targed aros yr un fath eleni ac fe ragorid arno, ond yr oedd achos cryf dros adolygu’r targedau hynny yn y dyfodol.

 

Holodd yr Aelod a oedd salwch hirdymor, afiechydon ac anableddau sylfaenol yn cyfrannu at y salwch, a nodwyd ym mhwynt 6. O ran yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, dywedwyd nad oedd goblygiadau o ran cydraddoldeb yn yr adroddiad.

 

O ran yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, cymerodd y Prif Weithredwr y pwynt a dywedodd y byddai’n hapus i’w ddiwygio pe bai Aelodau’n teimlo y dylid cynnwys y mathau hynny o effeithiau. Roedd hon yn ddadl reolaidd a nododd, os oedd rhai effeithiau penodol wedi cael eu canfod, y byddai’n hapus i edrych ar y rheiny.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd swm cronfa Covid-19 fel y nodwyd ar dudalen 8 yr adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y gronfa wrth gefn wedi’i neilltuo ar £3 miliwn, gyda £500 mil wedi cael ei roi mewn cronfa benodol ar gyfer materion Covid-19 brys. Bu’r Cyngor yn llwyddiannus o ran y grant caledi yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo, ond mae’n debyg mai dim ond 75% - 80% o’r costau y byddai’n eu cael yn ôl. Roedd y dreth gyngor yn rhedeg bron i 2% i lawr ar incwm, oedd yn achosi diffyg o £2 filiwn, ac nid oedd yn hysbys a ellid adennill hyn erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt WBO1.2.4 ar dudalen 8 yr adroddiad ac esboniodd nad oedd yn eistedd yn dda iawn a gofynnodd a oedd modd ei esbonio ychydig yn fwy trylwyr.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod hyn yn ymwneud â’r pecyn mwy o faint i fusnesau, a rhoi hwb i gychwyn yr economi, a bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio cefnogi busnesau gyda chyfres o grantiau. Gallent hefyd wneud cais am gymorth o’r gronfa cadernid economaidd, ond o ran cefnogaeth a chymorth ariannol, dyna oedd y cynnig ar hyn o bryd.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol, mewn perthynas â’r economi sylfaenol, y bu cynllun i wneud partneriaeth, oedd wedi cael ei ohirio o ganlyniad i Covid-19. Roedd y prosiect yn ôl ar y gweill ac roedd y Rheolwr Caffael Corfforaethol yn paratoi adroddiad ar gyfer y Cabinet, i roi amlinelliad o ble roedd y Cyngor gyda’r gwahanol brosiectau.

 

Gwnaeth yr Arweinydd y pwynt bod y Cyngor, ar adeg benodol, yn gobeithio ac yn cynllunio ar gyfer adferiad posibl ond nododd ei fod ar hyn o bryd yn wynebu rhai o’r dyddiau tywyllaf. Yr hyn oedd wedi cael ei ddatblygu oedd y Grant Cic i Gychwyn, oedd yn ychwanegol at y cyllid oedd ar gael gan Lywodraeth y DU a LlC, ac oedd yn dod o adnoddau’r Cyngor ei hun. Roedd y Gronfa Gwella Eiddo wedi cael ei chyflwyno ar draws y fwrdeistref sirol hefyd. 

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod swm enfawr o waith wedi cael ei wneud gyda’r gymuned fusnes a’r sector manwerthu drwy gydol y pandemig ar ei hyd, er y bu ychydig o oedi yn y Rhaglen Canolfannau Cyflogaeth. Roedd rhyddhad rhent a gostyngiadau rhenti wedi digwydd ar draws unedau yn y fwrdeistref. Roedd cefnogaeth aruthrol hefyd i ganol trefi. Gwnaed gwaith ar daflenni cyngor, sgriniau, hylendid a thaflenni gwybodaeth. Bu ymdrech aruthrol gan y tîm i sicrhau, hyd yn oed drwy’r pandemig ac wrth symud ymlaen, fod busnesau’n cael blaenoriaeth, gan eu bod yn rhan hanfodol o’r adferiad economaidd.

 

Nododd y Cadeirydd ar dudalen 9, mewn perthynas â DOPS25(a), canran y genedigaethau a gofrestrwyd o fewn 42 diwrnod, fod angen symud tuag at ddull digidol ac nid cofrestru’n bersonol yn unig.

 

Eglurodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol fod y ddeddfwriaeth wedi newid mewn perthynas â chofrestru Marwolaethau, ond na fu newid yn y ddeddfwriaeth yn ymwneud â chofrestru Genedigaethau, ac felly, fel yr oedd y gyfraith yn sefyll ar hyn o bryd, bod rhaid gwneud hyn wyneb yn wyneb. Roedd trafodaethau’n parhau ar lefel genedlaethol a oedd lle i newid hyn, ond roedd dwylo’r Cyngor ar hyn o bryd wedi eu clymu.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 10, PAM/045 - nifer yr anheddau ychwanegol a grëwyd o ganlyniad i adfer defnydd eiddo gwag a holodd ynghylch dosbarthiad y rhain, a gofynnodd beth oedd y ffactorau allweddol oedd yn atal Grantiau Cartrefi Gwag yng Nghwm Garw. Gofynnodd yr Aelod am gael ymateb ysgrifenedig.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau’r Dyfodol a Lles y byddai hi’n darparu ymateb ysgrifenedig.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 11, CED17 - canran ôl-ddyledion y dreth gyngor a gasglwyd o gymharu ag ôl-ddyledion heb eu talu, a gofynnodd a ellid esbonio hyn mewn termau syml.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod yna anawsterau gwirioneddol o ran ôl-ddyledion a’r dreth gyngor fel y’i pennwyd ar adeg penodol ac ar unrhyw un diwrnod, byddai’n ffigur gwahanol. Cesglid ffigurau’r dreth gyngor ar sail wahanol ac weithiau roedd y ffigurau’n camarwain. Yr hyn yr oedd hi wedi gofyn i adran Treth y Cyngor ei wneud oedd nodi math safonol o adroddiad yr oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn cydnabod bod arno ei angen, er ei fod yn cydnabod, waeth beth a nodwyd yn Chwarter 2, fod yr ôl-ddyledion yn uchel ar hyn o bryd a bod yr ôl-ddyledion yn Chwarter 3 hyd yn oed yn uwch. Byddai hi’n dod yn ôl at yr Aelodau unwaith y byddai wedi cael y templed ar gyfer symud ymlaen, fyddai’n egluro rhai o’r ffigurau. Y rheswm pam yr oedd yn wyrdd oedd bod y ffigurau wedi gostwng.

 

Nododd yr Aelod ei fod yn gwneud iddo edrych yn llewyrchus. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai’n cymryd y pwynt hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 11 CED34 a) gan nodi bod y naratif yn datgan bod y pandemig wedi atal y contractwr rhag mynd i ysgolion i gwblhau’r gosodiadau. Byddai wedi meddwl, yn ystod cyfnod o bresenoldeb isel, mai dyma’r amser gorau posibl i fynd i ysgolion a gofynnodd a oedd rheswm penodol pam roedd hyn yn parhau’n broblem.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod yn cytuno y byddai mynediad parod i ysgolion fel rheol pan nad oedd disgyblion i mewn. Yr her oedd cael rhai o’r adnoddau i mewn i ystafelloedd dosbarth wrth weithredu swigod tynn iawn gyda grwpiau blwyddyn o fewn dosbarthiadau i leihau unrhyw risg o drosglwyddo. Cydnabu fod hyn wedi cael ei gywiro rywfaint wrth symud ymlaen a bod cynnydd wedi bod arno, ond y cafwyd anawsterau o hyd i fodloni’r gofynion iechyd a diogelwch.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalennau 12 a 13, PSR002 (PAM/015) a PSR009a a dywedodd fod hyn wedi cael ei godi y llynedd ac nad oedd yn dderbyniol. Rodd yn cymryd blwyddyn i grant anabledd gael ei gymeradwyo ar gyfer Oedolion a bron i ddwy flynedd ar gyfer Plant a gofynnodd sut y gellid gwella’r ddau gategori hyn.

 

Cytunodd Aelod hefyd ac esboniodd fod y targed penodol hwn wedi dod i’r amlwg. Roedd yn debygol y byddai canran fawr o bobl anabl ar y rhestr gysgodi hefyd, felly roedd y neges aros gartref i bobl anabl yn gryfach nag erioed. Er ei fod yn cydnabod bod hyn yn broblem i nifer o awdurdodau lleol ac y gallai weld bod peth cynnydd wedi bod o ran Oedolion, roedd yn rhannu pryder yr Aelodau.

 

Cytunodd Aelod ymhellach ond roedd yn cydnabod fod gan y Cabinet adroddiad a gofynnodd i Aelod y Cabinet egluro sut y byddai hyn yn gwella’r niferoedd wrth symud ymlaen.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau’r Dyfodol a Lles fod adroddiad gan y Cabinet wedi cael ei gyhoeddi ar 13 Ionawr 2021 ac awgrymodd y dylai’r Aelodau ddarllen yr adroddiad. Y cynnig oedd gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot i ddatblygu gwasanaeth mewnol i fynd i’r afael â’r union bryder hwn gan mai asiantaethau allanol oedd yn gwneud y gwaith ar hyn o bryd a chyfyngedig oedd y mewnbwn a gâi’r awdurdod lleol i’r hyn a gâi ei gyflawni.

 

Ni allai’r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid anghytuno â’r sylwadau a wnaed gan Aelodau ar hyn a nododd fod y Pwyllgor Archwilio yn cadw llygad fanwl arno. Yn ei hanfod, byddai cyfres o adroddiadau wrth symud ymlaen a fyddai’n mynd i’r afael â phob rhan neilltuol o’r system. Y rhan gyntaf oedd dod â’r asiantaeth i mewn. Roedd hyn yn eithriadol o bwysig gan na ellid gwneud dim yngl?n â’r rhan fwyaf o gwynion am nad lle y Cyngor oedd gwneud hynny. Gobeithiai, ar ôl i adroddiad y Cabinet fynd drwodd, y byddai’r Aelodau yn dechrau gweld peth gweithredu gyda’r Cyngor yn cymryd rheolaeth dros ei ddyfodol ei hun. Os oedd ar unrhyw un eisiau mwy o fanylion, yna roedd hi’n hapus i drefnu sesiwn friffio.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 15, mewn perthynas â salwch, wedi ei rannu yn ôl maes gwasanaeth, a’r absenoldeb salwch wedi ei rannu yn ôl rhesymau. Eglurai’n glir yr anghydbwysedd ond hefyd y duedd bryderus o effaith absenoldeb salwch hirdymor. Beth ellid ei wneud i wneud pethau’n well i staff er mwyn lleihau’r achosion o salwch hirdymor cysylltiedig â straen, gorbryder, iselder ac iechyd meddwl, gan gymryd gofal arbennig mewn pandemig?

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd i’r Aelodau fod llesiant a lles staff yn brif flaenoriaeth ac roedd yn cydnabod bod staff wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed am gyfnod hir iawn mewn amgylchiadau dyrys. Roedd nifer gymharol fawr o staff â salwch hirdymor o hyd a chydnabyddid y byddai gweithio gartref o fudd i rai staff ond nid i bawb, ac felly roedd lles yn broblem wirioneddol. Roedd y Cyngor wedi sicrhau ei fod yn darparu pecyn cymorth oedd ar gael i’r staff i gyd a bod Rheolwyr yn dal i gael eu hyfforddi sut i reoli o bell. Byddai hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen.

 

Roedd yr Arweinydd yn arbennig o ymwybodol y byddai rhai aelodau o staff, er enghraifft, yn y gwasanaethau cymdeithasol, wedi gorfod delio â marwolaethau annisgwyl preswylwyr yr oeddent wedi darparu gofal ar eu cyfer. Roedd hyn, mewn rhai achosion, wedi bod yn brofiad trawmatig ac roeddent yn parhau i brofi pwysau difrifol yn eu gwaith ac roedd y Cyngor yn dal i asesu sut y gallai roi cymorth iddynt yn y tymor byr a’r tymor hir.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 19, DEFS29 – canran cynlluniau cymorth y Tîm o Amgylch y Teulu (TAT) sydd wedi’u cwblhau sy’n cau gyda chanlyniad llwyddiannus. Er ei fod yn deall ei fod yn wyrdd, pam oedd y targed wedi cael ei ostwng gan nad oedd ef yn teimlo ei fod yn ddigon heriol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod hwn yn sylw teg a bod angen cryfhau’r naratif. Yr hyn a ddigwyddodd gyda phroses TAT eleni oedd bod rhai o’r gofynion yn y broses wedi’u mireinio ac felly bod y ffordd y câi pethau eu gwneud wedi newid? Byddai’n werth ychwanegu hyn at y naratif i roi gwell eglurhad.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 23, nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd fesul CALl (cyfateb i amser llawn) oherwydd anaf diwydiannol, ac esboniodd fod hyn yn dangos llawer o goch, oedd yn peri pryder mawr. Sut roedd y Cyngor yn gweithio i leihau’r risg a pha mor realistig oedd sero fel targed.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y Cyngor wedi gosod targed heriol iawn iddo’i hun, y cytunwyd arno gan y Gr?p Llywio Iechyd a Diogelwch Corfforaethol (CHSSG). Roedd angen cadw hwn ac felly canolbwyntid yn fanwl arno er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei osod ar flaen meddyliau’r holl Gyfarwyddiaethau er mwyn lleihau hyn. Un o’r pethau eraill a gyflwynwyd ochr yn ochr â hyn, yn enwedig mewn ysgolion, oedd system adrodd ar-lein. Ei farn ef oedd cadw’r sero, gan fod hyn yn ffocws clir i’r Cyngor i leihau’r absenoldebau hyn oherwydd anafiadau diwydiannol, er ei fod yn disgwyl mai coch fyddai’r targed yn ei ddangos am y dyfodol rhagweladwy.

 

Nododd y Prif Weithredwr fod y rhan fwyaf o’r targedau iechyd a diogelwch wedi’u gosod yn fwriadol ar lefel hynod heriol, yn aml ar 100% neu ar 0% a bod hwn yn bolisi bwriadol, er y cydnabyddid y gallai hyn olygu dod allan yn goch o bryd i’w gilydd. Gellid adolygu hyn ond nid oedd ef yn gyfforddus yn gosod targedau y gellid eu gweld bron fel pe baent yn gosod targed ar gyfer damwain. Ar y cyfan yr ymagwedd hon a fabwysiadwyd yn gyffredinol.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 30, PAM/035 - nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i glirio achosion o dipio anghyfreithlon a gofynnodd sut yr oedd y targed yn wyrdd pan oedd yna lawer o alwadau nad ymchwiliwyd iddynt.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn deall pwynt yr Aelod ac efallai y gellid cryfhau’r naratif. Deallai ei fod wedi cael ei fesur ychydig yn wahanol eleni gan fod rhai galwadau y bu’n rhaid eu cau ond credai ei fod yn dal yn werth ei ddilyn a’i fesur er mwyn ei gadw yn nogfen y flwyddyn hon.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 31, WBO1.2. a nododd fod y sylw’n ymwneud â Chanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr pan oedd yn amlwg bod mwy o drefi a chanolfannau masnachol eraill.

 

Cytunodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio â’r Aelod a nodai fod Covid-19 wedi dangos bod yna ganolfannau masnachol eraill yr oedd pobl efallai’n eu gwerthfawrogi hyd yn oed yn fwy. Hoffai weld cyfleoedd grant menter treftadaeth treflun yn ehangu i ganol y pedair tref a bod ar gael mewn mannau eraill, a ystyrid yn bwysig.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau y gellid bod wedi diwygio’r testun i adlewyrchu safbwynt yr awdurdod lleol. Roedd hi’n cydnabod uwchgynllun Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr ond roedd canolfannau eraill ar draws y fwrdeistref yr un mor bwysig, yn enwedig yn ystod y pandemig, pan oedd siopa’n lleol yn hanfodol. Roedd hi’n awyddus i edrych ar y rhesi siopa lleol a chanol yr ardaloedd hynny oedd yn hanfodol i’r economi ac i’r gymuned leol ac ystyried gwella’r cynnig busnes yno. Roedd yn ymwybodol iawn o hyn ac eisiau cyfleu’r neges mai siopa’n lleol oedd yr ymagwedd tuag at adferiad economaidd.

 

Cytunai’r Cadeirydd â’r teimlad a nododd fod angen arfarnu popeth gan gynnwys hygyrchedd llwybrau troed.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 32, gyda golwg ar Ganol Trefi ac roedd yn pryderu am yr eiddo gwag a’r safleoedd gwag fyddai’n codi o ganlyniad i Covid-19.

 

Cytunai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau â’r Aelod a theimlai y byddai’r ffigur yn cynyddu ar gyfer adeiladau gwag, gan na fyddai busnesau efallai’n goroesi’r pandemig yn anffodus. Roedd angen gosod llinell sylfaen ar gyfer hyn fel, pan ddeuai’r pandemig i ben, y gellid gosod targedau ystyrlon ac y gellid annog busnesau newydd, er mwyn cael y bywiogrwydd a’r hyfywedd yn ôl. Roedd canol trefi yn fwy na chyrchfan manwerthu yn unig ond yn gyrchfan i gymuned, lles ac i bobl ddod at ei gilydd. Roedd yna economi’r dydd ac economi’r nos ac roedd angen cadw hyn mewn cof wrth symud i’r cyfnod o adferiad.

 

Eglurodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio fod gan bob un o’r tair tref fawr brosiectau’n mynd yn eu blaen a bod y prosiectau hynny wedi parhau drwy’r pandemig, gydag anhawster, a chyda mesurau diogelwch gofalus iawn. Roedd Neuadd y Dref Maesteg, Prif gynllun Pen-y-bont ar Ogwr a’r cynlluniau parhaus ar gyfer adfywio Porthcawl, i gyd yn mynd rhagddynt.

 

PENDERFYNWYD:      Bod y Pwyllgor yn nodi’r Perfformiad Corfforaethol hanner blwyddyn, yn amodol ar y sylwadau a wnaed gan yr Aelodau.

Dogfennau ategol: