Agenda item

Cynllun Corfforaethol 2018-2023 Adolygwyd ar gyfer 2021-22

Gwahoddwyr:

Pob Aelod Cabinet a CMB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i’r Pwyllgor oedd yn rhoi Cynllun Corfforaethol 2018-2023 oedd wedi ei adolygu ar gyfer 2021-22 i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid a dywedodd fod yna fanylion nad oeddent wedi cael eu cynnwys eto yn y Cynllun Corfforaethol ac felly na allai’r Pwyllgor roi sylwadau ond ar yr hyn a oedd ar gael, ar hyn o bryd, oherwydd yr amserlennu.

 

Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau canlynol:

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 57, y 5 Ffordd o Weithio - i ganolbwyntio adnoddau sy’n lleihau ar y cymunedau a’r unigolion â’r angen mwyaf ond gofynnodd sut y câi anghenion cymunedau ac unigolion eu hasesu ac adnoddau eu dyrannu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod hon yn broses gymhleth ac y byddai’n wahanol ar gyfer gwahanol wasanaethau. Roedd yn egwyddor sylfaenol i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas mewn gwahanol ffyrdd a châi adnoddau eu cyfeirio at y bobl hynny oedd fwyaf mewn angen. Teimlai fod hon yn egwyddor dda ac yn un y byddai’r rhan fwyaf o Aelodau’n ei chefnogi, ond nid oedd yn credu mai un broses ydoedd, ond ystod eang o ystadegau a thystiolaeth a phrosesau a fyddai’n arwain at y casgliad hwnnw. 

 

Esboniodd yr Arweinydd fod Aelodau lleol yn gwybod bod unigolion agored i niwed a phobl mewn angen ym mhob cymuned, p’un a oedd y cymunedau hynny’n cael eu disgrifio fel rhai cyfoethog neu ddifreintiedig.  Roedd yna unigolion â lefelau uchel o angen yn rhai o’r cymunedau cyfoethocaf ac unigolion â lefelau isel o anghenion yn rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig ac roedd yr anghenion hynny’n wahanol ar draws y gwahanol feysydd gwasanaeth. Roedd yn ddarlun cymhleth a fyddai’n amrywio, boed hynny’n wasanaethau iechyd meddwl, addysg, tai ac yn y blaen, ac roedd yn adlewyrchu cymhlethdod y cymunedau.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 61, a gofynnodd am eglurhad o’r ardal oedd wedi ei chynnwys ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn cwmpasu ardal Porth Cymoedd Garw, Ogwr a Llynfi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Parc Gwledig Bryngarw a Gwarchodfa Natur Parc Slip oedd dau o’r prosiectau pwysicaf.

 

Cyfeiriodd Aelod at sylw ar dudalen 46, paragraff 4.1 lle roedd y rhai oedd wedi bod yn ymwneud â llunio’r Cynllun Corfforaethol yn cydnabod yr amgylchedd heriol presennol a holai pa mor ystwyth a hyblyg fyddai’r cynllun yn parhau a pha gyfle gâi’r Pwyllgor i ailedrych arno, pan ddeuai tystiolaeth ddogfennol o ba effaith a gafodd y pandemig, ar gael.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod modd adnewyddu ac adolygu’r Cynllun Corfforaethol ar sail amgylchiadau fel y gwnaed eleni. Roedd hon yn ddogfen bwysig ac yn ddogfen statudol ac, o ganlyniad, pe bai effaith y pandemig yn golygu bod yn rhaid ei hadnewyddu a’i hadolygu, yna byddai hynny’n cael ei wneud.

 

Cyfeiriodd Aelod at y dangosyddion llwyddiant ar dudalen 61 o dan faes blaenoriaeth: gwella deilliannau dysgwyr a gofynnodd a oedd y dangosyddion llwyddiant ar gyrhaeddiad addysgol yn dibynnu ar lwyddiant y cynlluniau dysgu cyfunol, ac a fyddai cyfle i graffu ar lwyddiant gwirioneddol dysgu cyfunol ochr yn ochr â’r adroddiad.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod yna ddau fater. O ran y dangosyddion llwyddiant, roedd y golofn derfynol yn wag oherwydd bod gan yr awdurdod lleol gyfarwyddeb oddi wrth Lywodraeth Cymru i beidio â chyhoeddi data cymharol mewn perthynas â dysgwyr. O ran materion eraill, roedd cyfathrebu cyson ynghylch trefniadau ar gyfer asesu ar lefel ysgolion cynradd ac arholiadau ar lefel uwchradd eleni ac roedd Consortiwm Canol y De (CSC) yn pwyso’n drwm am ymateb. Cyn gynted ag y derbynnid diweddariad a safbwynt cadarn, câi’r wybodaeth ei chylchredeg i’r Aelodau.

 

O ran dysgu cyfunol, roedd hyn yn rhywbeth yr oedd yr awdurdod lleol yn awyddus iawn i’w wneud. Fe wnaeth CSC gynnal adolygiad o ddulliau dysgu cyfunol ar draws y rhanbarth ym mis Tachwedd 2020 ac roedd hynny wedi cael ei rannu ag Ysgolion. Ar hyn o bryd roedd CSC yn gweithio gyda phob ysgol yn edrych ar effeithiolrwydd y dull dysgu cyfunol a hefyd i fonitro canlyniadau. Roedd gan Lywodraeth Cymru ac Estyn ddiddordeb mawr yn y cynnig dysgu cyfunol a’r wythnos ddiwethaf roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno canllawiau newydd gyda golwg ar ffrydio gwersi’n fyw. Y peth allweddol oedd cael ffydd yn arbenigedd Prifathrawon ac Athrawon i gyflwyno’r cynnig annibynnol oedd yn gweithio orau i’w lleoliadau a’u dysgwyr hwy. Cyn gynted ag y derbynnid y wybodaeth gan Gymwysterau Cymru, Estyn a LlC, byddai’n cael ei rhannu ag Aelodau.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet – Addysg ac Adfywio fod hwn yn amlwg yn bwnc pwysig, oedd yn bwysig iawn yn ystod Covid-19 ac yn parhau’n bwysig wedyn. Un peth a ddarganfuwyd oedd bod gan bobl ddisgwyliadau gwahanol yngl?n â’r elfen ar-lein o ddysgu cyfunol a’u bod weithiau’n gwneud rhagdybiaethau, oedd yn anghywir. Awgrymodd y byddai’n werth gwahodd cydweithwyr o CSC i sesiwn cyn y cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 66 mewn perthynas â dangosyddion llwyddiant, ‘canran y bobl oedd yn ymgyflwyno fel pobl ddigartref neu a allai fod yn ddigartref, yr oedd dyletswydd gyfreithiol derfynol ar yr awdurdod lleol i sicrhau llety addas iddynt’. Gofynnodd ai 30% oedd nifer y rhai y llwyddodd yr awdurdod lleol i ddod o hyd i lety addas ar eu cyfer. Nododd hefyd mewn perthynas â ‘nifer yr anheddau ychwanegol a grëwyd o ganlyniad i adfer defnydd eiddo gwag’ fod yr awdurdod lleol wedi dechrau’n dda yn 2019-20, ond nad oedd yn ymddangos fel pe bai’n gosod targedau uchelgeisiol iawn ar gyfer 2021-22. Roedd y syniad o adfer defnydd priodol eiddo gwag yn mynd law yn llaw ag atal digartrefedd. Roedd ar bobl angen eiddo i fyw ynddo ac roedd ganddo ddiddordeb mewn cael gwybod pam yr oedd y targed mor isel.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid na allai’r awdurdod lleol o reidrwydd ddweud wrth berchnogion preifat beth i’w wneud wedyn gyda’r eiddo. Bu’r awdurdod lleol yn cydymffurfio â’r canllawiau newydd o ran llety dros dro ac roedd yn sefydlog ar hyn o bryd gydag oddeutu 150 o deuluoedd wedi cael eu cartrefu mewn llety dros dro. Nid oedd hynny’n mynd i bara am byth a byddai’n rhaid defnyddio amrywiaeth eang o lety i wneud hynny. Ar yr un pryd, cafwyd trafodaethau helaeth gyda chymdeithasau tai. Erbyn hyn, roedd yna brotocol tai ar y cyd lle gallai’r awdurdod lleol weithio i gartrefu cynifer o bobl ddigartref â phosibl. Ceid y sbectrwm cyfan o’r rhai oedd yn ddigartref ac roedd rhai yn anodd eu gosod.

 

Yr un pryd, roedd yr awdurdod lleol wedi cyflwyno llu o geisiadau i gael arian Cyfalaf, oedd yn dal yn destun craffu gan Lywodraeth Cymru.  Chwaraeai’r awdurdod lleol rôl gyfryngol ond roedd yn rhan o’r broses ymgeisio ac yn rhoi eiddo addas gerbron, ac roedd y rheiny wrthi’n mynd drwy’r broses craffu ac yna byddai angen iddynt gael caniatâd cynllunio. Roedd hon yn broblem barhaus ac yn bwysau enfawr ar y rhai oedd yn ddigartref ac ar y Cyngor hefyd, o ran y ddyletswydd gofal a hefyd yr adnoddau ariannol oedd eu hangen i ddarparu ar eu cyfer. Rhoddodd sicrwydd i’r Aelodau fod nifer o wahanol ffyrdd o fynd i’r afael â hyn a bod yr awdurdod lleol yn gwneud cymaint ag oedd modd i gaffael y llety dros dro, oedd yn addas ac, yn bwysicach na hynny, y llety parhaol, er nad oedd ar bawb eisiau llety parhaol ac mewn rhai achosion roedd yn anodd iawn oherwydd bod arnynt angen gwasanaethau ychwanegol. Nid oedd hon yn broblem y gellid ei datrys yn syml bob amser drwy godi t?. 

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau’r Dyfodol a Lles mewn perthynas â’r naratif, i esbonio’r targed o 30%, mai dangosyddion cenedlaethol oedd rhai a rhai yn ddangosyddion lleol. Nid oedd yn glir, ond teimlai efallai mai dangosydd cenedlaethol oedd hwn ac mai dyna pam y cafodd ei eirio yn y fath fodd. Eglurodd y byddai’n mynd â’r mater hwn i ffwrdd ac yn edrych arno a phe bai yna unrhyw beth y gellid ei wneud er mwyn i’r geiriad fod yn fwy eglur, yna byddai’n pwyso am hynny. O ran y dangosydd llwyddiant, roedd yn seiliedig ar amcanestyniadau ac ehangu’r ddyletswydd ac roedd y targed yn seiliedig ar gyfartaledd cenedlaethol Cymru. Yn 2019-20, y cyfartaledd cenedlaethol oedd y targed ac fe gyflawnodd yr awdurdod lleol fwy na’r targed, ac felly gosodid y targed bob amser ar y cyfartaledd cenedlaethol. Nododd y pandemig dros gyfnod 2020-21 ac ni welai hynny’n newid llawer ar gyfer 2021-22 wrth i’r economi ailgychwyn ac felly teimlai fod y ffigur hwn yn geidwadol, ond dyna lle roedd y ffigur wedi dod. 

 

Nododd Aelod fod yr Alban wedi dileu’r statws anghenion blaenoriaethol gyda’r canlyniad bod pawb fwy neu lai yn angen blaenoriaethol ac roedd yn meddwl tybed pa fath o baratoadau oedd yn cael eu rhoi ar waith gan yr awdurdod lleol, pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu mynd i’r cyfeiriad hwn, fel yr argymhellwyd yn ei adolygiad yn 2020.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai’n rhaid iddi ddod yn ôl ar y mater hwnnw, gan nad oedd Llywodraeth Cymru wedi datgan hyn ar hyn o bryd. Roedd dau gasgliad o ganllawiau eleni. Roedd yr ail gasgliad o ganllawiau’n cwmpasu pawb fwy neu lai  ond nid oeddent wedi nodi y byddent o reidrwydd yn symud i lawr y llwybr hwnnw.

 

Dywedodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau’r Dyfodol a Lles ei bod yn debygol, mae’n debyg. Dywedodd fod tîm tai cyflym gyda’r holl Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn eu lle a’u bod yn bwriadu eu cadw yn eu lle fel y gellid symud pobl i lety yn gyflym a dyma un o’r pethau oedd yn cael ei ystyried.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 66/67 mewn perthynas â maes blaenoriaeth: iechyd a lles gwell. Roedd yn ymddangos yn eithaf rhyfedd nad oedd yna gyfeiriad at iechyd meddwl, gan mai drwy’r awdurdod lleol, yn ogystal â phartneriaid, y byddai un o’r pwyntiau mynediad at wasanaethau iechyd. Fu gan yr awdurdod lleol ddangosydd iechyd meddwl erioed ac a oedd angen un yn awr?

 

Dywedodd yr Arweinydd y byddai’r awdurdod lleol yn datblygu strategaeth iechyd meddwl ar gyfer plant, pobl ifanc a hefyd ar gyfer oedolion ac y byddai hon yn cael ei hadlewyrchu yn y Cynllun Corfforaethol a’r broses gynllunio. Byddai’n strategaeth ac yn ddull amlasiantaethol, fyddai’n canolbwyntio ar ymyrryd ac atal yn gynnar, ac roedd yn arbennig o amserol o ystyried y pwysau a rôl y trydydd sector ac iechyd, fyddai’n hanfodol i hyn hefyd, fel y byddai partneriaid eraill gan gynnwys yr heddlu a thai. Dyna pam yr oedd yn strategaeth a allai fynd drwy’r BGC ac a fyddai angen cefnogaeth partneriaid i’w datblygu.

 

Cadarnhaodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant fod swyddogion arweiniol mewn Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles wedi cael eu dewis i ymgymryd â’r gwaith a’u bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd a rhannau eraill o’r awdurdod lleol, i yrru’r darnau hynny o waith yn eu blaen. Rhoddwyd adroddiadau i gadeiryddion y BGC a’r bwrdd partneriaeth, i gytuno bod y gwaith yn flaenoriaeth a’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y rheiny. Pwysleisiodd yr angen i gynnwys dinasyddion yn y gwaith hwn hefyd, a chynnal llawer o ymgysylltu ac ymgynghori â phlant, pobl ifanc ac oedolion. Byddai hyn yn dylanwadu ar y gwasanaethau sydd i’w datblygu yn y dyfodol yn ogystal â rhan o’r strategaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 70 a chefnogai ddatgarboneiddio a chynaliadwyedd amgylcheddol a gofynnodd, mewn perthynas â thrawsnewid ystâd y cyngor, a oedd digon o staff i allu ymdopi.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod rhan allweddol o agenda 2030 yn ymwneud â gwella adeiladau a cheisio lleihau carbon hyd at sero net, ond bod angen rhywfaint o fuddioldeb yn erbyn cefndir yr adnoddau oedd ar gael. Roedd angen partneriaeth ar gyfer hyn, ac nid oedd yn golygu adnoddau mewnol yn unig yn cyflawni’r mentrau hyn, gan na fyddai digon o gapasiti; felly dyma lle byddai dull partneriaeth yn cael ei ystyried. Byddai’r awdurdod lleol hefyd yn ystyried defnyddio arbenigwyr yn y maes hwn i ddod ymlaen, yn enwedig gan roi peth o’r gwaith allan i gontract er mwyn symud yn gyflym. Byddai’n cael ei ddatblygu mor effeithiol ag yr oedd modd ond yr oedd angen bod yn realistig hefyd.

 

Esboniodd yr Aelod ei fod yn sôn am y broses gyfan, ac felly roedd hyn hefyd yn cynnwys cael gwared neu ryddhau tir ac adeiladau nad oedd eu hangen. Felly, yr oedd yn cyfeirio at yr angen am gydweithio rhwng adrannau a’r adnoddau i wneud hynny’n fuddiol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod gan yr awdurdod lleol adran Landlord Corfforaethol ond bod rhai swyddi gwag ynddi ar hyn o bryd. Fodd bynnag, roedd yr awdurdod lleol yn defnyddio arbenigwyr gwaredu ac yn tynnu syrfewyr ac yn y blaen i mewn, yn ôl yr angen, i gynorthwyo gyda rhai o’r gwarediadau a phobl oedd yn meddu ar y wybodaeth fasnachol e.e., E J Hales a Saville, ac yn y blaen, ar brosiectau neilltuol. Roedd yn iawn i ddod â’r arbenigedd hwnnw i mewn, yn ôl yr angen er mwyn sicrhau’r ystyriaeth orau i’r tiroedd a’r adeiladau, i gael gwared arnynt mewn ffordd gyfrifol.

 

Esboniodd Aelod y Cabinet – Cymunedau fod pedwar maes o fewn y strategaeth hon oedd yn cael eu hystyried, nid yn unig y tir a’r adeiladau ond ynni, trafnidiaeth, a mannau agored hefyd. Roedd y strategaeth yn enfawr ac roedd yr her yr oeddent yn ymgymryd â hi yn anferth. Roedd yn cynnwys popeth ac nid oedd un garreg yn cael ei gadael heb ei throi. Yn y pen draw yr oedd y fwrdeistref sirol yn arweinydd yn y gymuned a dylai fod yn arwain ar agenda y newid yn yr hinsawdd.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn derbyn yn llawn fod yr awdurdod lleol yn bwriadu, o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol, sicrhau swm neilltuol i’w ailfuddsoddi mewn gwasanaethau ond bod angen iddo gofio hefyd bod yr ystyriaeth orau o gwmpas y gwerth, yn hytrach na bod yn swm o arian yn unig.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn cytuno â’r Aelod ac esboniodd fod hynny i raddau yn digwydd eisoes. Nid cael yr uchafswm o arian yn unig oedd yr ystyriaeth bob tro. Roedd yn ymwneud â chydnabod effaith fasnachol, weithiau ynghylch y dyluniad, yr effaith ar y gymuned ac yn y blaen, ac roedd y materion hynny’n cael eu cymryd i ystyriaeth.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod ar yr awdurdod lleol eisiau sefydlu cyfres o fesurau gwerthoedd cymdeithasol, oherwydd bod rhai o’r cynlluniau a oedd yn cael eu cyflwyno, yn enwedig y cynlluniau ynni, yn golchi eu hwyneb yn ariannol, ond bod ganddynt hefyd werth cymdeithasol aruthrol. Yn ogystal, roedd gan yr agenda ddi-garbon net werth cymdeithasol enfawr ac nid yn ariannol yr oedd mesur rhai o’r pethau hynny e.e. beth yw’r ôl troed carbon, beth yw’r lleihad mewn carbon, faint o swyddi sydd wedi cael eu creu, a yw’n lle agored, effaith llesiant ac yn y blaen. Nid ariannol oedd y pethau hynny, ond yr un mor bwysig i’w mesur wrth symud ymlaen.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol fod yr ystyriaeth orau wedi cael ei nodi mewn cyfraith a bod cryn dipyn o gyfraith achos o’i hamgylch. Yn anffodus, roedd dwylo’r awdurdod lleol wedi eu clymu o ran yr hyn y gallai eu hystyried ond roedd yna ffyrdd eraill y gellid ystyried gwerth cymdeithasol a’r effaith ehangach ar y gymuned.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 72, mewn perthynas â dangosyddion llwyddiant ar ddefnydd nwy a thrydan ac roedd yn synnu nad oedd unrhyw ddata llinell sylfaen hanesyddol. O ran yr ardaloedd datgarboneiddio, roedd yn falch bod yr awdurdod lleol yn edrych tuag at ynni hydrogen a phwyntiau gwefru trydan ond roedd hyn yn uchelgeisiol iawn ac nid oedd yn mynd i ddigwydd dros nos. Teimlai hefyd y byddai’n elwa o gael nifer o dargedau ar reoli fflyd, mewn perthynas â datgarboneiddio, dim ond i ddangos y cyfeiriad yr oeddent yn symud ynddo ac i ba raddau yr oedd cynnydd yn cael ei wneud yn y maes hwn.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau mai rhan o’r cynllun gweithredu oedd amlinellu amserlenni ar gyfer cyflawni pethau fel newid y fflyd, symud drosodd i gerbydau trydan. Roedd trydan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer fflyd lai ac o bosibl wrth edrych i’r dyfodol gweld p’un a ellid defnyddio hydrogen yn y fflyd HGV. Byddai hyn o fewn y cynllun gweithredu ac unwaith y câi ei gymeradwyo, gellid ei ymgorffori fel targed yn y Cynllun Corfforaethol yn y dyfodol. Gyda golwg ar rai o’r dangosyddion, yn enwedig gyda’r darn am ddefnydd, bu’n flwyddyn ryfedd iawn gan na chafwyd y defnydd o ynni a ddisgwylid fel arfer. Y syniad oedd gosod gwaelodlin o fis Ebrill ymlaen, pan welid, gobeithio, ddychwelyd i normal newydd. Byddai hon wedyn yn cael ei defnyddio fel llinell sylfaen i edrych ar leihau allyriadau carbon, yn hytrach nag edrych yn ôl ar y defnydd.

 

Eglurodd y Prif Weithredwr y byddai’n adeiladu ar yr hyn yr oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau wedi ei ddweud a’r pwynt allweddol oedd y ffaith fod hon wedi bod yn flwyddyn unigryw, nid yn unig o ran defnyddio ynni mewn adeiladau ond, yn amlwg, bu llai o symud cerbydau ac ystod eang o bethau. Roedd hynny’n golygu bod defnyddio’r defnydd o ynni ar gyfer y flwyddyn flaenorol bellach, mae’n debyg, yn amherthnasol ar gyfer gosod llinell sylfaen i ffyrdd newydd o weithio. Roedd y data ar gael, ond mae’n debyg bod angen ei roi mewn cyd-destun gwahanol. 

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 72, a theimlai y dylai’r awdurdod lleol, mewn perthynas â’r dangosyddion llwyddiant, ymuno â Meysydd Chwarae Cymru, a sefydlwyd i ddiogelu ardaloedd o le agored i’r cyhoedd eu defnyddio. Roedd yn rhywbeth, targed efallai, y dylai’r awdurdod lleol fod yn edrych arno. Mewn perthynas â’r targedau hyn, teimlai’r Aelod y dylai’r rhain fod yn fwy uchelgeisiol ac y dylid eu geirio’n wahanol hefyd fel bod pobl yn deall beth oedd angen ei gyflawni.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr, mewn perthynas â phwynt yr Aelod am Feysydd Chwarae Cymru, y byddai angen ymchwilio ymhellach i hyn. Rhoddodd sicrwydd i’r Aelodau ynghylch yr uchelgais hirdymor yngl?n â mannau gwyrdd ond atgoffodd yr holl Aelodau mai un o’r heriau wrth bennu’r Cynllun Corfforaethol eleni oedd bod y prif flaenoriaethau’n parhau i fod o gwmpas iechyd y cyhoedd a’r pandemig.

 

O ran gosod targedau uchelgeisiol, roedd trafodaethau wedi cael eu cynnal yngl?n â gosod targedau mwy uchelgeisiol ond yn realistig tra roedd blaenoriaethau’n parhau i droi o gwmpas iechyd y cyhoedd, cyflwyno’r brechlyn, amddiffyn pobl, roedd rhai pethau, er nad oeddent yn ddibwys, na ellid eu blaenoriaethu am ychydig amser. Dyna oedd yr her ar hyn o bryd ac un o heriau’r ail gyfnod clo oedd bod disgwyliadau’n wahanol iawn i’r cyntaf, ac y bu’n rhaid i’r awdurdod lleol ddal i weithredu fel yr oedd wedi gwneud erioed, ynghyd â’r gwasanaethau ychwanegol hyn, a oedd yn her enfawr.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 82, o dan yr Asesiad Lles, lle nodwyd ‘fanteision ein rhaglen plannu coed’ a nododd nad oedd Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn cynnwys y Fwrdeistref Sirol gyfan. Awgrymodd y dylid diwygio’r testun i ddangos bod y Fwrdeistref Sirol gyfan yn cael ei hystyried, ac nid yr hanner gogleddol yn unig.

 

Cyfeiriodd yr Aelod hefyd at Dudalen 83, mewn perthynas â ‘Cymru o gymunedau cydlynol’. Teimlai fod angen cyfeirio mewn Cynlluniau Corfforaethol yn y dyfodol at arolwg y BGC, a gynhaliwyd ym mis Awst 2020, gan nodi bod 95% o bobl wedi dweud y byddent yn defnyddio  mannau gwyrdd fwy yn y dyfodol.

 

Teimlai’r Cadeirydd fod yr Aelodau i gyd yn cytuno a bod mannau gwyrdd yn bwysig iawn a bod y pandemig hwn wedi pwysleisio’r ffaith honno.

 

Roedd Aelod, na allai aros tan y pwynt hwn yn y cyfarfod wedi gofyn mewn perthynas ag Atodiad B, adran 3, oni ddylai fod asesiad ar gyfer Plant oherwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac a yw’r awdurdod lleol yn cwrdd â’i ofynion deddfwriaethol?

 

Cadarnhaodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd – Craffu y byddai’n trefnu i’r cwestiwn gael ei gadarnhau a’i anfon ymlaen at Bennaeth y Gwasanaeth Plant a’r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn gwybod bod craffu’n anwleidyddol ond bod hon yn ddogfen bwysig iawn a sylwodd nad oedd Cadeirydd Craffu ac Arweinydd y Gr?p Ceidwadol yn bresennol mwyach. Awgrymodd, os oedd Aelodau’n gadael y cyfarfod, y dylid cyhoeddi hynny, neu o leiaf y dylent ddweud eu bod yn gadael. Nododd fod distawrwydd oddi wrth rai pobl ac yr oedd hon yn ddogfen bwysig iawn a dylai pob plaid fod yn cymryd rhan.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod yr Aelod wedi nodi bod ei gyfrifiadur yn cau i lawr, ac felly mae’n debyg ei fod wedi cael anhawster i fewngofnodi yn ôl.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn teimlo mai hwn oedd y Cynllun Corfforaethol pwysicaf yr oedd y Cyngor erioed wedi ei gyflwyno yn ei hanes oherwydd mai dyma sut yr oedd yn mynd i symud ymlaen ar ôl Covid-19. Credai mai un peth yr oedd angen ei ofyn oedd a oedd yr awdurdod lleol mewn sefyllfa fwy cadarn heddiw i addasu i unrhyw feirws neu bandemig newydd oedd ar y ffordd.

 

Cytunai’r Cadeirydd a dywedodd y dylai hon fod yn eitem ar y Flaenraglen Waith yn y dyfodol i bob Pwyllgor Craffu ei harchwilio mewn gwirionedd, a ydym wedi dysgu ac a ydym wedi addasu ac a ydym wedi gwella.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am eu presenoldeb. Teimlai ei bod yn bwysig nodi ar hyn o bryd nad oedd y Pwyllgor wedi cael y Cynllun Corfforaethol cyflawn gyda gwybodaeth SATC wedi ei chwblhau ac na allai’r Pwyllgor ystyried ond yr argymhellion a’r adroddiad gyda’i gynnwys presennol.

 

PENDERFYNWYD:                Bod y Pwyllgor yn nodi Cynllun Corfforaethol drafft 2018-2023 a adolygwyd ar gyfer 2021-22 i’w hystyried yn y Cabinet a’r Cyngor ym mis Chwefror 2021, yn amodol ar y sylwadau a wnaed gan Aelodau.

 

Dogfennau ategol: