Agenda item

Strategaeth Gyfalaf 2021-22 i 2030-31

Gwahoddwyr:

Cynghorydd Huw David, Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid (dros dro)

Nigel Smith, Rheolwr Gr?pPrif Gyfrifydd dros do

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, oedd yn rhoi’r Strategaeth Gyfalaf ddrafft 2021-22 i 2030-31 i’r Pwyllgor, oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus y mae’r Cyngor yn mesur ei hun yn eu herbyn yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid yr Aelodau mai strategaeth 4 blynedd oedd y SATC a bod y Strategaeth Gyfalaf yn strategaeth 10 mlynedd. Roedd cyfalaf yn cael ei lywodraethu’n drwm gan ddeddfwriaeth ac ers 2020, pan gyhoeddodd CPFA ychwanegiad newydd y cod darbodus ar gyfer ariannu cyfalaf, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol gael Strategaeth Gyfalaf yr oedd angen i’r Cyngor llawn ei chymeradwyo. Roedd angen i’r strategaeth ddangos bod yr holl fuddsoddiadau yn gynaliadwy ac yn ddarbodus a hefyd bod y dangosyddion darbodus rhagnodedig, a ddefnyddid i fonitro hyn ar gyfnod treigl o 3 blynedd, yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cadw o fewn y terfynau ac yn glynu wrth yr awydd i gael buddsoddiad doeth a chynaliadwy.

 

Nodwyd yr egwyddorion cyffredinol ym mharagraff 4.3 gan ganolbwyntio ar gyflawni’r amcanion a’r blaenoriaethau llesiant er mwyn sicrhau bod gwneud penderfyniadau dan reolaeth gref. Roedd y strategaeth yn gosod fframwaith a hefyd y meysydd canlynol yn fanwl:- Gwariant Cyfalaf a Chynlluniau Buddsoddi, y Dangosyddion Darbodus, y ddyled allanol a rheoli’r trysorlys. Tynnodd sylw’r Aelodau at 3 newid. Ym mharagraff 4.5.1 sy’n cyfrif am brydlesi. O ganlyniad i’r pandemig, roedd y broses o weithredu’r newid hwnnw wedi cael ei gohirio tan 2022/23. Un eithaf arwyddocaol yn 4.5.2 ar fenthyca ar gyfer gweithgareddau masnachol. Esboniodd fod yr awdurdod lleol yn ofalus iawn ynghylch cyfleoedd masnachol a phrynu pethau, y gallai rhai Cynghorau efallai fod wedi mynd i mewn iddynt, megis gwestai a chanolfannau siopa ac yn y blaen, er mwyn elw masnachol. Roedd y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) wedi rhoi moratoriwm ar fenthyca ar gyfer gweithgareddau masnachol. Nodwyd hyn yn glir iawn yn 3.4 o’r strategaeth ac anogodd yr Aelodau i edrych ar hyn am ei fod yn gosod cyfyngiad enfawr arni hi ei hun, fel Swyddog Adran 151 ac Aelodau i gadarnhau nad oedd bwriad i brynu buddsoddiad ac asedau, a fyddai’n cael eu defnyddio’n bennaf ar gyfer elw. Yn 4.5.3, yn dilyn adolygiad archwilio mewnol o wariant cyfalaf ac astudiaethau dichonoldeb, yr argymhelliad oedd ei gwneud yn ofynnol cynnal asesiad dichonoldeb manwl o brosiectau cyfalaf gyda’r angen am werthusiad ar ôl y prosiect er mwyn dysgu oddi wrth arfer gorau.

 

Gofynnodd yr Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 99, mewn perthynas â’r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (HAMP). Nododd ei fod yn sôn mai dogfen fyw oedd hon, oedd yn cael ei hadolygu a’i datblygu’n barhaus. Nododd yr Aelod fod yr un ar wefan yr awdurdod lleol wedi cael ei chyhoeddi ym mis Medi 2007 a gofynnodd a oedd fersiwn fwy diweddar ar gael.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid ei fod yn un o’r pethau yr oedd hi wedi anfon e-bost yn ei gylch y bore hwnnw, er mwyn sicrhau bod y dogfennau y cyfeirir atynt yn yr adroddiad ar gael ar y wefan. Cytunodd i ddilyn y mater hwn gyda Rheolwr Dros Dro y Gr?p – Y Prif Gyfrifydd.

 

Gofynnodd Aelod, mewn perthynas â sefyllfa’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB), a oedd yn atal yr awdurdod lleol rhag benthyca masnachol arall, ar gyfer gweithgareddau masnachol. Ai dim ond i’r PWLB yr oedd yn rhaid i’r awdurdod lleol roi sicrwydd?

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid mai ei dealltwriaeth hi oedd ei fod yn golygu unrhyw fenthyciad.

 

Teimlai’r Aelod fod hyn yn anghymhelliad gwirioneddol i awdurdodau geisio bod yn arloesol ac yn ymarferol yn y ffordd yr oeddent yn  symud ymlaen tra’n ceisio cynhyrchu incwm a oedd mewn gwirionedd yn gwella cymunedau.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Dros Dro y Gr?p  – y Prif Gyfrifydd fod y canllawiau gan y PWLB wedi newid ym mis Tachwedd 2020 a’r hyn yr oeddent wedi’i ddweud oedd bod yn rhaid i Swyddog Adran 151 gadarnhau nad oedd y Cyngor, ar gyfer y ddwy flynedd ariannol bresennol a’r dyfodol, yn bwriadu buddsoddi mewn asedau masnachol er mwyn ennill/elw. Nid oedd hyn yn dibynnu ar lle yr oedd yr asedau hynny yn cael eu hariannu. Yr hyn y byddai hynny’n ei wneud oedd atal yr awdurdod lleol rhag gallu gwneud cais i’r PWLB am fenthyciad. Nododd gynlluniau sylweddol yn y Rhaglen Gyfalaf yr oedd angen iddynt fenthyca ar eu cyfer e.e., Ysgolion yr 21ain Ganrif, gwelliannau i briffyrdd, prynu cerbydau, ac felly byddai’n achosi problem neilltuol. Ailadroddodd fod yr awdurdod lleol yn cael ei atal rhag benthyca o unrhyw le am resymau masnachol, neu fuddsoddiad drwy dderbyniadau cyfalaf, neu unrhyw ddull arall.

 

Gofynnodd yr Aelod o ran y Rhaglen Gyfalaf, sut yr oedd hyn yn effeithio ar y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM)? Gofynnodd sut yr oedd hyn yn cael ei herio am ei fod yn teimlo, o ran democratiaeth ac fel corff etholedig, y dylid herio’r ffaith fod corff yn cael rhoi gorchmynion i’r awdurdod lleol.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd yn atal yr awdurdod lleol rhag gwneud llawer o bethau, gan gynnwys Rhwydwaith Gwres Pen-y-bont ar Ogwr, gan fod hwn yn y cam cyntaf wedi cael ei ddosbarthu fel adfywio. Yr hyn yr oedd yn ei wneud oedd cyfyngu’n ddifrifol ar y rheiny a oedd efallai’n benthyca er budd masnachol. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid ei bod yn cytuno ag ef.

 

Eglurodd y Dirprwy Arweinydd mai ei ddealltwriaeth ef o’r darn hwn o arweiniad oedd nad oedd caniatâd i’r awdurdod lleol fenthyca am wobr ariannol ond mae’n amlwg bod yr awdurdod lleol yn buddsoddi ar gyfer gwobrau eraill e.e. byddai budd cymdeithasol yn dod o’r rhwydwaith gwres a bod angen cymryd hynny i ystyriaeth. Y cyfan yr oedd hyn yn ei wneud oedd atal yr awdurdod lleol rhag buddsoddi mewn cynllun gwobr ariannol.

 

Esboniodd yr Aelod ei fod yn deall bod y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, yn cytuno â hyn, ond nid oedd ef yn cytuno, ond ei farn bersonol ef ar bethau oedd hynny. Nododd fod gwahaniaeth rhwng elw ac ailfuddsoddi. Pe bai’r awdurdod lleol yn dewis prynu gwesty, a oedd yn rhan o adfywio canol tref, neu fuddsoddi mewn adeiladu gwesty yng nghanol tref, gellid defnyddio unrhyw elw a ddeuai o’r adeilad hwnnw ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant ond hefyd mewn perthynas ag ailddatblygu parhaus yng nghanol y dref. Yr oedd hynny’n synnwyr masnachol ond nid oedd yn golygu ymroi i wneud proffid, gan nodi’r cyfleoedd y gallai’r awdurdod lleol fod yn colli allan arnynt.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai pob cynllun unigol yn cael ei drin yn ôl ei deilyngdod ei hun ac y byddai buddsoddiad cymdeithasol yn un o’r pethau hynny a fyddai’n cael ei ystyried. Byddai Cynghorwyr y Trysorlys yn cynorthwyo gyda’r holl bethau hynny er mwyn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn aros ar ochr iawn y llinell ond roedd yn bennaf i ddiogelu rhag risg oherwydd bod llawer o awdurdodau lleol bellach oedd yn meddu ar westai gwag a bil hefyd. Nid oedd yn teimlo y byddai’n atal yr awdurdod lleol rhag gwneud yr holl bethau y soniwyd amdanynt o ran buddion cymdeithasol ond cytunai â phwynt y Dirprwy Arweinydd na allai’r awdurdod lleol, er enghraifft, redeg cwmni ynni er mwyn gwneud elw, gan y byddai hyn yn cael ei atal. Roedd yn gyfyngiad mawr ar yr awdurdod lleol ond roedd hi’n ei weld fel cyfyngiad angenrheidiol iawn ar gyllid cyhoeddus.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 100, 3.4, mewn perthynas â ‘chyfanswm gwerth Eiddo Buddsoddi yn £4.635 miliwn ar 31 Mawrth 2020. Byddai disgwyl i hyn gynhyrchu incwm rhent o £478,000 y flwyddyn ac eithrio unrhyw gyfnodau gwag neu ddi-rent’ a gofynnodd a oedd y ffigur hwn yn cau allan gost cynnal a chadw. Mewn perthynas â’r £1 filiwn o fewn y rhaglen gyfalaf, y cytunwyd arni gan y Cyngor yn ôl yn 2014, nid oedd yn credu y dylai’r awdurdod lleol fod yn edrych ar unrhyw fuddsoddiadau portffolio yn y Fwrdeistref Sirol, gan fod llawer o bethau y gallai Aelodau wario’r £480,000 arnynt yn eu wardiau fel prosiectau cyfalaf.

 

Dywedodd Rheolwr Dros Dro y Gr?p– y Prif Gyfrifydd, o ran y gost net, nad oedd ganddo’r lefel honno o fanylder ac y byddai’n dibynnu ar y prydlesi neu’r trefniadau a roddwyd yn eu lle gyda phob tenant unigol. Dywedodd y gallai geisio edrych i weld a oedd modd nodi hyn.

 

Cydnabu’r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y gellid cymryd y sylwadau hynny i ystyriaeth yn ystod dadl y Cyngor ynghylch y Rhaglen Gyfalaf.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 108 mewn perthynas â deall yn llawn beth oedd asesiadau dichonoldeb. Teimlai fod angen deall mai bwriad astudiaethau dichonoldeb weithiau oedd dangos pa mor aflwyddiannus fyddai prosiectau wedi bod ac nad oedd astudiaeth ddichonoldeb yn golygu bod rhywbeth yn bendant yn mynd yn ei flaen. Roedd yn bwysig i bobl ddeall nad oedd yr awdurdod lleol bob amser yn gyfarwydd â’r sefyllfa a dyna pam y cynhelid astudiaeth ddichonoldeb. Gofynnodd a ellid gwneud hyn ychydig yn fwy cadarn yn yr adran, fel bod pobl yn deall ei fod yn ‘bosibl’ ond hefyd efallai ‘ddim’.

 

Nododd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod hwn yn bwynt pwysig iawn a godwyd gan yr Aelod gan ei fod fel arfer yn cael ei ystyried yn fater o orwariant ar gynllun, yn enwedig gydag adnoddau sy’n lleihau.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r gwahoddedigion.

 

PENDERFYNWYD:      Bod y Pwyllgor yn nodi Strategaeth Gyfalaf 2021-22 i 2030-31 gan gynnwys y Dangosyddion Darbodus 2021-22 i 2023-24 a’i Hatodlenni cysylltiedig, yn amodol ar y sylwadau a wnaed gan Aelodau.

Dogfennau ategol: