Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a roddodd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Cabinet am sefyllfa ariannol refeniw'r Cyngor ar 31 Rhagfyr 2020. Ceisiodd gymeradwyaeth ar gyfer trosglwyddiadau cyllidebol rhwng £100,000 a £500,000 fel sy'n ofynnol gan Reolau Gweithdrefnau Ariannol y Cyngor.
Dechreuodd ei chyflwyniad trwy atgoffa'r Cabinet fod y Cyngor, ar 26 Chwefror 2020, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £286.885 miliwn ar gyfer 2020-21. Fel rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad, mae rhagamcanion y gyllideb yn cael eu hadolygu'n rheolaidd a'u hadrodd i'r Cabinet bob chwarter. Mae’r gwaith o sicrhau gostyngiadau cytunedig yn y gyllideb hefyd yn cael ei adolygu a'i adrodd i'r Cabinet fel rhan o'r broses hon.
Roedd Tabl 1 yn yr adroddiad yn nodi cyllideb refeniw net y Cyngor a'r alldro amcanol ar gyfer 2020-21 ar 31 Rhagfyr 2020. Roedd hyn yn dangos tanwariant net o £691,000, yn cynnwys gorwariant net o £1.187m ar gyfarwyddiaethau a tanwariant net o £7.177m ar gyllidebau corfforaethol. Roedd adran nesaf yr adroddiad yn esbonio manylion yr hyn yr oedd y sefyllfa ragamcanol yn seiliedig arno, a rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid grynodeb o hyn er budd yr Aelodau.
Roedd rhan nesaf yr adroddiad yn amlinellu’r pwysau ariannol yr oedd y Cyngor wedi ei wynebu ers Covid-19 a'r amrywiol ffyrdd negyddol yr oedd hyn wedi effeithio ar sefyllfa ariannol yr Awdurdod. Byddai'r pwysau hwn hefyd yn parhau i’r dyfodol hyd y gellir rhagweld, ychwanegodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid.
Rhoddodd Tabl 2 yn yr adroddiad grynodeb o hawliadau gwariant Covid-19 hyd at fis Tachwedd 2020, tra rhoddodd Tabl 3 grynodeb o’r incwm a gollwyd o ganlyniad i'r pandemig hyd at Chwarter 2 2020-21, mewn perthynas ag Ysgolion a Chyfarwyddiaethau’r Cyngor.
Yna rhannodd yr adroddiad wybodaeth ar feysydd Trosglwyddiadau Cyllidebol/Addasiadau Technegol a chynigion Lleihau Cyllideb.
Mae Tabl 4 yn yr adroddiad yn nodi Gostyngiadau Cyllideb y Flwyddyn Flaenorol sydd heb eu cyflawni, a oedd yn dangos o'r gostyngiadau o £2.501m sydd heb eu cyflawni, ei bod yn debygol y byddai £1.792 miliwn yn cael ei gyflawni yn 2020-21, gan adael diffyg o £709k. Dangoswyd rhai o'r cynigion sy'n dal i fod yn annhebygol o gael eu cyflawni ym mharagraff 4.2.2 o'r adroddiad.
Amlinellodd paragraff 4.2.4 y cynigion i leihau’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, sef cyfanswm o £2.413m, wedi'u dadansoddi yn Atodiad 2 a'u crynhoi yn Nhabl 5 yn yr adroddiad. Y sefyllfa bresennol yw diffyg rhagamcanol ar y targed arbedion o £490k, neu 20.3% o'r gostyngiad cyffredinol yn y gyllideb.
Roedd crynodeb o'r sefyllfa ariannol ar gyfer pob prif faes gwasanaeth ynghlwm yn Atodiad 3, tra crynhowyd prif effaith Covid-19 ar y gyllideb, pe tybiwyd nad oedd cyllid pellach ar gael gan Lywodraeth Cymru, yn Nhabl 6 ym mharagraff. 4.3 o'r adroddiad.
Roedd paragraffau olaf yr adroddiad yn canolbwyntio ar faterion cyllidebol yn ôl Cyfarwyddiaeth (gan gynnwys ysgolion), cyllidebau ledled y Cyngor ac adolygiad o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.
Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i Swyddogion yn yr Adran Gyllid am eu rheolaeth ddarbodus o'r gyllideb mewn blwyddyn a oedd wedi bod yn anodd iawn lle'r oedd y Cyngor wedi wynebu pwysau ariannol digynsail. Estynnodd ei ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyllid yr oeddent wedi'i ddyrannu i CBSPAO yn ystod y cyfnod mwyaf heriol hwn, o gofio bod yr Awdurdod i bob pwrpas wedi cau ei swyddfeydd fis Mawrth diwethaf. Roedd yn falch hefyd bod y Cyngor wedi cyflwyno Cronfa Adferiad Covid-19.
Adleisiodd yr Arweinydd hyn ac ymdrechion parhaus staff i ddyrannu cyllid grant i filoedd o fusnesau ledled y Fwrdeistref Sirol, er mwyn iddynt oroesi’r pwysau ariannol sy’n dod yn sgil y pandemig. Fodd bynnag, rhybuddiodd nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai'r lefelau cyllid a roddwyd yn ddiweddar yn cael eu cynnal wrth symud ymlaen. Roedd hyn yn dibynnu ar lefel y cyllid a fyddai'n parhau i gael ei ddarparu yn ystod y misoedd i ddod.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet:
• yn nodi'r sefyllfa refeniw a ragwelir ar gyfer 2020-21
• yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng £100,000 a £500,000 fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1.19 o'r adroddiad.
Dogfennau ategol: