Agenda item

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 3 2020-21

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, mewn perthynas â diweddariad am y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y cyfnod chwarter a grybwyllwyd uchod.

 

Atgoffodd yr Aelodau bod y Cyngor, ar 26 Chwefror 2020, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf a oedd yn cwmpasu'r cyfnod 2020-21 i 2029-30 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Roedd y rhaglen gyfalaf wedi'i ddiweddaru a'i chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ar 21 Hydref 2020. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y meysydd canlynol:

 

• Rhaglen Gyfalaf 2020-21 diweddariad Chwarter 3;

• Rhaglen Gyfalaf 2020-21 ac Ymlaen;

• Darbodus a Dangosyddion Eraill;

• Monitro’r Strategaeth Gyfalaf

 

Gan droi at y Rhaglen Gyfalaf, cyfeiriodd y Prif Swyddog - Cyllid, Perfformiad a Newid, at baragraff 4.1 yr adroddiad. Roedd yr adran hon o’r adroddiad yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar

raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21 ers i'r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ac mae'n ymgorffori unrhyw gynlluniau a chymeradwyaethau grant newydd. Ar hyn o bryd cyfanswm y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 yw £33.888 miliwn, y mae £17.960 miliwn ohono'n dod o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPAO), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi, gyda'r £15.928 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys Grant Cyfalaf Cyffredinol.

 

Mae Tabl 1 yn yr adran hon o'r adroddiad yn dangos y rhaglen gyfalaf ar gyfer pob

Cyfarwyddiaeth o’r man y cymeradwyodd y Cyngor yn Hydref 2020 (Chwarter 2) i chwarter 3.

 

Yna mae Tabl 2 yn crynhoi’r rhagdybiaethau cyllido cyfredol ar gyfer y rhaglen

gyfalaf ar gyfer 2021-21. Rheolir yr adnoddau cyfalaf i sicrhau’r budd ariannol mwyaf posibl i'r Cyngor. Gall hyn gynnwys ail-alinio cyllid i gynyddu grantiau'r llywodraeth i'r eithaf, esboniodd.

 

Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid at Atodiad A yr adroddiad, sy’n rhoi manylion y cynlluniau unigol yn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos y gyllideb sydd ar gael yn 2020-21 o'i chymharu â'r gwariant a ragwelir.

 

Mae nifer o gynlluniau eisoes wedi’u nodi fel rhai sy’n gofyn am lithriad o ran y

gyllideb i’r blynyddoedd i ddod, yn enwedig ers i'r pandemig ddod i'r amlwg. Yn chwarter 3 cyfanswm y llithriad y gofynnwyd amdano oedd £14.536 miliwn. Amlinellwyd manylion y cynlluniau hyn ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Dywedodd, ers yr adroddiad cyfalaf diwethaf ym mis Hydref 2020, bod nifer o gynlluniau newydd a ariannwyd yn allanol wedi’u cymeradwyo a rhai a ariannwyd yn fewnol, a oedd wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf. Mae’r rhain wedi’u cynnwys ar dudalennau 63/65 o'r adroddiad, gyda Rhaglen Gyfalaf Ddiwygiedig wedi'i chynnwys yn Atodiad B (i'r adroddiad).

 

Ym mis Chwefror 2020, cymeradwyodd y Cyngor y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2020-21, a

oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus 2020-21 i 2022-23, ynghyd â rhai dangosyddion lleol.

 

Mae Atodiad C i'r adroddiad yn manylu ar y dangosyddion gwirioneddol ar gyfer 2019-20, y dangosyddion amcangyfrifedig ar gyfer 2020-21 a nodir yn Strategaeth Gyfalaf y Cyngor a'r dangosyddion rhagamcanol ar gyfer 2020-21 yn seiliedig ar y Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig. Mae’r rhain yn dangos fod y Cyngor yn gweithredu yn unol â'r terfynau cymeradwy. 

 

I orffen, rhoddodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, naratif byr ar Strategaeth Gyfalaf y Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd fod pandemig Covid-19 wedi cael effaith niweidiol a sylweddol iawn ar Raglen Gyfalaf y Cyngor a bod hyn wedi bod y tu hwnt i reolaeth yr Awdurdod.

 

Dywedodd ei fod yn hapus i weld cyllid yn cael ei ddyfarnu gan LlC ar gyfer Canolfan Berwyn a golchfeydd Cwm Ogwr, a fyddai'n mynd tuag at wella cyfleusterau awyr agored yn yr ardal.  Croesawyd hyn gan drigolion Cwm Ogwr.

 

Yn yr un modd, roedd yr Arweinydd yn croesawu cyllid ar gyfer gwella diogelwch ffyrdd ar gyffordd Heol Mostyn, Pyle, a fyddai’n cynorthwyo modurwyr sy’n teithio yn y cyffiniau. Roedd yn gobeithio y byddai modd dwyn ymlaen yr arian hwn a'i ddefnyddio yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod gwir angen y cyllid ar gyfer datblygiad Trem-y-Mor ac os caiff ei wireddu, byddai'n manteisio ar y gwaith partneriaeth a ddatblygwyd gyda'r Awdurdod Iechyd a'r cyllid ICF a dderbyniwyd hyd yma, a oedd wedi cynorthwyo yn natblygiad y tîm Gofal Integredig yn Nhrem-y-Mor.

 

PENDERFYNWYD:                              Bod y Cabinet:

 

·         Yn nodi rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21 am y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2020 (Atodiad A i'r adroddiad);

·         Yn cytuno y dylid cyflwyno'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig (Atodiad B) i'r Cyngor i'w chymeradwyo;

·         Yn nodi’r Dangosyddion Darbodus ac Eraill rhagamcanol ar gyfer 2020-21 (Atodiad C i'r adroddiad).

   

Dogfennau ategol: