Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, a'i bwrpas oedd cyflwyno'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig drafft 2021-22 i 2024-25 i'r Cabinet, sy'n nodi blaenoriaethau gwariant y Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd y gyllideb sydd wedi'u targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Mae'r strategaeth yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2021-2025 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2021-22.
Dywedodd fod yr adroddiadau chwarterol i'r Cabinet ar y sefyllfa refeniw ar gyfer 2020-21 wedi amlinellu'n fanwl effaith y pwysau cost ychwanegol a'r golled incwm a wynebir gan y Cyngor trwy gydol y flwyddyn o ganlyniad i'r pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan sylweddol wrth liniaru mwyafrif y colledion hyn trwy eu gwahanol ffrydiau cyllido, yn fwyaf arbennig Cronfa Caledi Covid-19.
Fodd bynnag, mae angen i'r Cabinet a'r Cyngor nawr ystyried effaith tymor hwy'r pandemig a sut y bydd yn siapio’r Cyngor fel rhan o'i Raglen Adferiad.
Roedd effaith y pandemig wedi effeithio ar y lefelau incwm y byddai'r Cyngor wedi'u cael fel rheol, felly roedd gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2021-22 hyd yn oed yn fwy heriol na'r arfer, yn enwedig yn dilyn 10 mlynedd o arbedion cyllidebol sylweddol ers cyni.
Dros y 10 mlynedd diwethaf, roedd yr Awdurdod wedi gwneud dros £65m o ostyngiadau yn y gyllideb, fel y dangosir ym mharagraff 4.1.1 o'r adroddiad. Roedd hyn bron i 25% o gyllideb bresennol y Cyngor.
O ran treth y cyngor, mae'r gyfran o hyn sy'n ofynnol i gydbwyso cyllideb y Cyngor wedi cynyddu'n gyson dros y blynyddoedd diwethaf ac ar hyn o bryd mae’n ariannu bron i 30% o'r gyllideb.
Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid at baragraffau 4.1.2 i 4.1.7 o'r adroddiad, meysydd gwasanaeth y Cyngor lle amlinellwyd cyfleoedd i arbed arian; mae Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb y Cyngor (BREP) wedi archwilio’r cynigion arbedion hyn yn ystod y flwyddyn, yn ogystal â Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu.
Bydd barn y cyrff hyn yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet yn ei gyfarfod ddechrau mis Chwefror, cyn i'r Cabinet wedyn argymell y Gyllideb i'r Cyngor yn ddiweddarach ym mis Chwefror 2021.
Mae Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS) y Cyngor wedi'i gosod yng nghyd-destun cynlluniau gwariant economaidd a chyhoeddus y DU, blaenoriaethau a rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Mae’r MTFS yn cynnwys:
Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, fod Cynghorau wedi derbyn eu setliadau dros dro gan Lywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr 2020. Y prif ffigur yw cynnydd cyffredinol, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau, o 3.8%, ledled Cymru ac, ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, cynnydd o 4.3% mewn Cyllid Allanol Cyfun (AEF), neu £9.064 miliwn. Er bod hyn yn well na'r disgwyl, byddai angen rheoli cyllid yn ddarbodus ac yn llwyddiannus wrth symud ymlaen.
Yna rhoddodd wybod am y sefyllfa o ran cyllid grant yr oedd y Cyngor wedi'i dderbyn, gan gynnwys y grantiau hynny a ddyfarnwyd o ganlyniad i'r pandemig.
Paragraff 4.7 o'r adroddiad, a chyfeiriodd wedyn at sefyllfa ariannol canol blwyddyn yr Awdurdod ar 31 Rhagfyr 2020.
Y sefyllfa gyffredinol ragamcanol ar 31 Rhagfyr 2020, oedd tanwariant net o £691,000, yn cynnwys £1.187 miliwn o or-wariant net ar gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £7.177 miliwn ar gyllidebau corfforaethol, wedi'i wrthbwyso gan ddyraniad net i gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi o £5.299 miliwn, gan gynnwys £2.5 miliwn i gefnogi buddsoddiad cyfalaf.
Roedd paragraff 4.8 yr adroddiad, yn rhoi manylion y MTFS am y cyfnod 2021-22 i 2024-25, tra bod paragraff 4.9 yn cynnwys manylion y 13 Egwyddor MTFS, a adolygwyd y llynedd.
O ran y Dreth Gyngor, mae Cyllideb Refeniw ddrafft 2021-22, a ddangosir yn Nhabl 6 yr adroddiad, yn rhagdybio cynnydd yn y Dreth Gyngor o 3.9%. Mae hyn yn is na'r cynnydd arfaethedig o 4.5% a gynhwyswyd yn MTFS 2020-21 i 2023-24 ym mis Chwefror 2020, oherwydd y setliad dros dro gwell na'r disgwyl ac o ganlyniad i'r ymatebion a gafwyd trwy'r ymgynghoriad ar y gyllideb.
Mae adran nesaf yr adroddiad yn cynnwys manylion Senarios MTFS ar gyfer ei chyfnod cyfredol o 2021-22 i 2024-25 o un flwyddyn i’r llall, gan gynnwys amcangyfrifon o'r Senario Gorau, Senario Mwyaf Tebygol a Senario Gwaethaf.
Dangosodd Tabl 4 ym mharagraff 4.13.1 yr adroddiad y sefyllfa bresennol o ran mynd i'r afael â'r gofyniad lleihau cyllideb mwyaf tebygol a ragwelir sef £22.095 miliwn.
Mae Tabl 5 yr adroddiad yn rhoi cynigion a nodwyd i leihau’r gyllideb ar gyfer y cyfnod 2021-22 i 2024-25.
Fel yr oedd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid eisoes wedi crybwyll yn ei chyflwyniad, roedd y MTFS wedi bod yn destun dadansoddiad sylweddol trwy broses trosolwg a chraffu'r Cyngor. Roedd hefyd wedi bod yn destun ymgynghori allanol gydag etholwyr CBSPAO fel rhan o ymgynghoriad ‘Parod at y Dyfodol’ y Cyngor.
Mae Tabl 6 yn yr adroddiad wedyn yn rhoi manylion y Gyllideb Refeniw Ddrafft 2021-22ar gyfer CBSPAO ac yn seiliedig ar y gyllideb arfaethedig o £298.956m, byddai'r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer y cyfnod hwn yn 3.9%, a oedd yn is na'r hyn a amcangyfrifwyd o'r blaen.
Yna rhoddodd paragraff 4.17 rai manylion ynghylch Cyflog, Prisiau a Demograffeg. Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, mai amcangyfrifon oedd y rhain ar hyn o bryd, yn hytrach na manylion cywir.
Amlygwyd gwybodaeth mewn perthynas â Phwysau ar y Gyllideb ym mharagraff 4.19 o'r adroddiad, tra bod 4.20 yn nodi bod cynigion lleihau o £1.760m ar gyfer 2021-22 wedi'u nodi o gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol i sicrhau cyllideb gytbwys.
Mae Tabl 7 yn yr adroddiad yn dangos Cronfeydd Wrth Gefn y Cyngor, a rhannwyd gwybodaeth yn dilyn hynny gyda'r Aelodau mewn perthynas â'r Rhaglen Gyfalaf a'r Strategaeth Ariannu Cyfalaf, fel yr eglurwyd yn fanylach mewn eitem gynharach ar yr agenda a ystyriwyd gan y Cabinet.
Mae Tabl 8 yn rhoi manylion y Dyraniadau Ariannu Cyfalaf Blynyddol ar gyfer 2020-21 a 2021-22 ac esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid yn fyr Dderbyniadau Cyfalaf a Darbodus (Benthyca Digymorth) y Cyngor.
Gorffennodd ei hadroddiad trwy gadarnhau, fel Swyddog Adran 151, bod gan yr Awdurdod,ddigon o adnoddau i gyflawni ei rôl fel sy'n ofynnol o dan A114 Deddf Llywodraeth Leol 1988.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod eleni wedi bod yn ddigynsail a chanmolodd y Swyddogion Cyllid felly am y gwaith paratoi a'r ymrwymiad a oedd wedi mynd i'r adroddiad gerbron yr Aelodau. Ychwanegodd fod yn rhaid i'r Cyngor baratoi ar gyfer dyfodol ansicr fodd bynnag, oherwydd y pandemig parhaus a'r pwysau y byddai hyn yn ei roi ar gyllideb y Cyngor wrth symud ymlaen.
Diolchodd hefyd i'r Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb (BREP) am eu mewnbwn i'r MTFS, a oedd wedi cynorthwyo'r Cabinet yn eu trafodaethau a'u penderfyniadau ar y Gyllideb. Teimlai fod hyn i gyd wedi arwain at gydbwysedd yng nghynigion yr adroddiad.
Byddai adroddiad MTFS nawr yn cael ei gyfeirio at Trosolwg a Chraffu lle byddai eu mewnbwn hwy hefyd yn cael ei groesawu. Pe bai hyblygrwydd digonol i fwrw ymlaen ag unrhyw gynigion a wnaed gan Aelodau Craffu ac o ganlyniad i hyn, gwneud unrhyw addasiadau i'r MTFS, yna byddai'r rhain yn cael rhywfaint o ystyriaeth. O ran adran Cyflog, Prisiau a Demograffeg yr adroddiad, cadarnhaodd y byddai'r Cabinet yn rhoi ymrwymiad i gyflog byw go iawn i weithwyr y Cyngor.
Adleisiodd Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y mater ynghylch y cyflog byw go iawn yr ymrwymwyd iddo ar gyfer darparwyr Gwasanaethau Cymdeithasol. Dywedodd fod Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Phlant yn feysydd cyfnewidiol ac felly roedd angen rheoli'r gyllideb yn ofalus yn y meysydd gwasanaeth hyn. Ychwanegodd hefyd rai pryderon ynghylch effaith Covid hir ar unigolion, gan gynnwys y genhedlaeth iau, gan ychwanegu y gallai fod angen pecynnau i baratoi'r ffordd ar gyfer adferiad y cleifion hyn o'r agwedd hon ar y salwch, a fyddai'n golygu ymrwymiad ariannol.
Cydnabu'r Arweinydd faint y pwysau ariannol, yn enwedig y rhai o fewn gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, a oedd wedi bod yn bwysau hanesyddol nid yn unig i CBSPAO, ond i awdurdodau lleol eraill hefyd. Byddai'r maes gwasanaeth cyllideb hwn yn cael ei fonitro'n agos wrth symud ymlaen, fel y byddai holl feysydd gwasanaeth eraill y Cyngor.
Adleisiodd y diolch a roddwyd gan y Dirprwy Arweinydd i Swyddogion Cyllid wrth baratoi adroddiad MTFS, yn ogystal ag Aelodau BREP, a oedd yn Banel Trawsbleidiol. Dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at sylwadau'r Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar y cynigion cyllidebol yn y ddau gyfarfod pwyllgor a fydd yn cael eu cynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon.
PENDERFYNWYD: Bod y Cabinet yn cyflwyno cyllideb flynyddol 2021-22 a datblygiad MTFS 2021-22 i 2024-25, fel y nodwyd yn yr adroddiad, at y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar gyfer ymgynghori, cyn cyflwyno fersiwn derfynol i'w chymeradwyo gan y Cyngor ym mis Chwefror 2021.
Dogfennau ategol: