Agenda item

Canlyniad yr Ymgynghoriad ‘Parod at y Dyfodol’

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb adroddiad, a'i bwrpas oedd hysbysu'r Cabinet o ganlyniad yr ymgynghoriad 'Parod at y Dyfodol' 2020 a ofynnodd i ddinasyddion rannu eu barn ar sut y dylai'r Cyngor lunio ei wasanaethau yn eu barn nhw wrth symud ymlaen, fel rhan o'i strategaeth 'Ailgychwyn, Adfer ac Adnewyddu', mewn ymateb i bandemig Covid-19. Y bwriad oedd deall sut roedd y cyhoedd yn teimlo y gallai'r Cyngor edrych a sut y gallai ddarparu gwasanaethau cynaliadwy ac effeithiol am y 5 i 10 mlynedd nesaf.

 

Esboniodd fod yr ymgynghoriad ‘Parod at y Dyfodol’ 2020 yn ceisio cael barn ar gyfeiriad y Cyngor yn y dyfodol yn dilyn pandemig Covid-19. Byddai dyraniad adnoddau ariannol yn pennu gallu'r Awdurdod i gyflawni ei amcanion llesiant.

 

Yn dilyn sawl blwyddyn o ostyngiadau mewn cyllid gan lywodraeth ganolog, a phwysau ariannol parhaus, ynghyd â mynd i’r afael ag adferiad ôl-Covid-19, mae pob Cyngor ledled y wlad yn parhau i newid y ffordd y maent yn gweithio a’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, fel bod sefydliadau yn gallu ymdopi gyda llai. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPAO) wedi gwneud gostyngiadau o £22 miliwn o'i gyllideb dros y pedair blynedd diwethaf (2017-18 i 2020-21), gyda disgwyliad y bydd gostyngiadau pellach sylweddol yn ofynnol dros y pedair blynedd nesaf.

 

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori cyhoeddus dros gyfnod o wyth wythnos rhwng 19 Hydref 2020 a 13 Rhagfyr 2020. Gofynnwyd i'r ymatebwyr rannu eu barn ar ystod o feysydd gan gynnwys:

 

           Ymateb i bandemig COVID-19;

           Busnes a’r economi;

           Iechyd a llesiant;

           Mynediad cwsmeriaid i swyddfeydd Dinesig;

           Digideiddio;

           Lefelau Treth Gyngor;

           Y dyfodol.

 

Esboniodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb, er mwyn casglu barn pobl ifanc, bod y tîm ymgynghori wedi mynychu cyfarfod Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar 24 Tachwedd 2020. Cymerodd y Cyngor Ieuenctid ran mewn trafodaethau ynghylch rhai o'r cwestiynau allweddol yn yr ymgynghoriad ac fe’i hanogwyd i gwblhau'r ymgynghoriad llawn ar-lein.

 

Nod yr ymgynghoriad hefyd oedd cyrraedd y rhanddeiliaid allweddol canlynol, y cyhoedd/preswylwyr, aelodau Panel y Dinasyddion, aelodau etholedig, gweithwyr CBSPAO, busnesau Pen-y-bont ar Ogwr, cynghorau tref a chymuned, llywodraethwyr ysgolion, aelodau Fforwm Cydlyniant Cymunedol a Chydraddoldeb Pen-y-bont ar Ogwr (BCCEF), grwpiau diddordeb/cymunedol lleol, Cymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO), Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, partneriaid, ysgolion uwchradd (gan gynnwys penaethiaid) a’r cyfryngau yn lleol.

 

Yn ogystal â chynnwys cyfryngau cymdeithasol cyffredinol, crëwyd pedwar arolwg barn ar Twitter a gynhyrchodd 122 pleidlais i gwestiynau allweddol yn yr arolwg ymgynghori ar y gyllideb, ychwanegodd.

 

Roedd yr Adroddiad Ymgynghori ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad eglurhaol ac yn nodi'n fanwl y safbwyntiau a fynegwyd gan y rhai a gymerodd ran yn hyn.

 

At ei gilydd, mae’r cyngor wedi derbyn 1,831 rhyngweithiad sef cyfuniad o gwblhau arolygon, ymgysylltu mewn amrywiol gyfarfodydd, ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol a thrwy Banel Dinasyddion yr awdurdod. Oherwydd effaith Covid-19, mae hwn yn ostyngiad o 5,606 (75%) ar y 7,437 rhyngweithiad o'r llynedd. Derbyniwyd cyfanswm o 1,421 o ymatebion i'r arolwg, sy'n ostyngiad o 58% ar y nifer o arolygon a gwblhawyd y llynedd.

 

Yna amlinellodd y Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb er budd yr Aelodau, rai o'r prif ffigurau a themâu a gododd o'r ymgynghoriad. Roedd y rhain yn ymwneud yn bennaf â:

 

  • Ymateb i’r pandemig;
  • Busnes a’r economi;
  • Iechyd a llesiant;
  • Mynediad cwsmeriaid i Swyddfeydd Dinesig;
  • Digideiddio;
  • Lefelau Treth Gyngor;
  • Nodau’r Cyngor i’r dyfodol

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Rheolwr Ymgynghori, Ymgysylltu a Chydraddoldeb am y gwaith caled yr oedd wedi'i wneud mewn perthynas â manylion yr adroddiad ac roedd yn falch iawn o glywed bod awdurdodau lleol eraill wedi defnyddio Ymgynghoriad 'Parod at y Dyfodol' CBSPAO eleni fel model o 'arfer da.'

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd ei ddiolch am yr hyn a deimlai a oedd wedi bod yn Ymgynghoriad diddorol iawn o ran rhai o'i ganlyniadau. Roedd wedi bod yn ddiddorol nodi, nad oedd mwy o etholwyr nag yr oedd yn credu, wedi methu’r ffaith bod Swyddfeydd Dinesig ar gau o ganlyniad i'r pandemig a bod 6 o bob 10 ymatebydd wedi cadarnhau y byddent yn defnyddio gwasanaethau ar-lein y Cyngor wrth symud ymlaen. Roedd yn falch hefyd gweld nifer y tanysgrifwyr ar gyfer y gwasanaeth ‘Go Delivery’.

 

Er bod yr Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol yn nodi bod y nifer a ymatebodd i’r Ymgynghoriad wedi gostwng 75% o'i gymharu â'r llynedd, yn wyneb yr ymgysylltiad cynyddol blaenorol a welwyd o flwyddyn i flwyddyn cyn hyn, roedd hi'n dal i deimlo bod yr ymateb wedi bod yn dda iawn o ystyried Covid-19, ac wedi rhagori ar y disgwyliadau.

 

Gorffennodd yr Arweinydd y drafodaeth ar yr eitem trwy ychwanegu ei fod yn teimlo ei bod yn bwysig adeiladu ar ymgynghori wyneb yn wyneb yn y dyfodol hefyd, h.y. ar-lein yn yr hinsawdd sydd ohoni, er mwyn datblygu elfennau pellach o'r broses Ymgynghori.

 

PENDERFYNWYD:              Nododd y Cabinet ganlyniad yr ymgynghoriad gyda phartïon â diddordeb fel y manylir yn yr adroddiad ymgynghori sydd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad.

 

Dogfennau ategol: