Agenda item

Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (DFG)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ar y cynnig i ddatblygu a gweithredu model newydd o ddarparu gwasanaethau ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (DFG) a

chymeradwyo hyn.

 

  • Gweithredu model gweithio newydd a fydd yn gweld y Cyngor yn mewnoli swyddogaethau'r broses DFG ar gyfer plant ac oedolion

 

  • Defnyddio'r gyllideb gyfalaf i gefnogi mewnoli'r Broses DFG

 

  • Awdurdod dirprwyedig i ymrwymo i Gytundeb Cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot am gyfnod o hyd at ddwy flynedd i ddarparu cefnogaeth wrth i fodel mewnol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei ddatblygu a'i sefydlu.

 

Esboniodd, yn dilyn Adroddiad Archwilio Cymru yn 2018, fod swyddogion wedi ymgymryd â gwaith sylweddol wrth adolygu darpariaeth y gwasanaeth DFG ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ystyried yr argymhellion a wnaed.

 

Ychwanegodd fod ymweliadau â Chynghorau cyfagos yn cael eu cynnal i ddysgu o'u hadolygiadau a’r gwaith o ail-fodelu eu gwasanaethau DFG wedi hynny. Roedd Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at un o'r awdurdodau fel enghraifft o arfer da. Roedd yr holl awdurdodau yn gweithredu gwasanaeth DFG mewnol i oruchwylio'r cais o'r dechrau i'r diwedd.

 

Roedd y modelau ariannol ar draws Cynghorau yng Nghymru yn amrywio, fel a ganlyn:

 

  • Mae rhai Cynghorau brigdorri’r gyllideb i dalu costau

 

  • Mae rhai Awdurdodau eraill yn codi canran benodol o ffioedd yn amrywio o 10% i 15% o gostau gwaith

 

  • Mae rhai awdurdodau yn codi ffi weinyddu hefyd yn ogystal â chanran benodol o'r ffioedd

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod cyllideb gyfalaf DFG Pen-y-bont ar hyn o bryd yn ariannu ffioedd gweinyddiaeth y Cyngor o £395 y cais ac, ar ben hynny, yn talu ffioedd i asiantau trydydd parti allanol a benodir yn unigol gan yr ymgeisydd. Ceir cefndir pellach yn adran 3 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod Dangosyddion Strategol Cenedlaethol yn cael eu defnyddio i fesur perfformiad awdurdodau lleol ar lefel genedlaethol. Dywedodd fod Pen-y-bont ar Ogwr yn yr 20fed safle yng Nghymru a chyflwynodd y tabl yn 4.2.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, gyda'r ymchwil a wnaed a chysylltu â Craffu ac Aelodau, fod Swyddogion wedi dod i'r casgliad bod angen newid y gwasanaeth. Felly, argymhellwyd sefydlu prosiect peilot i fewnoli'r gwasanaeth DFG. Darparwyd mwy o fanylion am y gwasanaeth a'i weithrediad ym mharagraff 4 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, er mwyn darparu'r capasiti angenrheidiol ar gyfer y prosiect, cynigiwyd y dylid llunio cytundeb cydweithredol gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot (CNPT). Esboniodd fod gan CNPT wasanaeth mewnol a allai ddarparu'r capasiti ac y byddai'r ddau barti yn elwa trwy ddysgu ar y cyd a rhannu adnoddau. Esboniodd fod y risgiau a nodwyd o newid y model darparu gwasanaeth wedi'u rhestru yn 4.15 yr adroddiad a rhestrwyd rheolaeth o’r risgiau hyn gan gynnwys y buddion i'r gwasanaeth, yn 4.16 o'r adroddiad.  

 

Darparodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y goblygiadau ariannol fel y nodir yn adran 8 yr adroddiad. Dywedodd y byddai'r newid yn y gwasanaeth yn gost-effeithiol a’i bod yn disgwyl arbedion pellach ac effeithlonrwydd i ddod i’r amlwg dros y blynyddoedd i ddod.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol i'r Swyddogion a oedd yn rhan o'r adroddiad hwn. Mynegodd fod angen newid ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Nodwyd gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu diweddar, bod yn rhaid i aelodau'r cyhoedd aros cryn dipyn o amser am arian grantiau neu i’w cartref gael ei addasu i weddu i'w hanghenion meddygol.

 

Ychwanegodd fod nifer o faterion wedi cael eu hamlygu yn yr adroddiad ac roedd yn falch gweld bod y rhain yn cael eu hystyried wrth ailfodelu'r gwasanaeth.

 

Croesawodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yr adroddiad a chytuno â phwyntiau aelodau'r Cabinet ar natur fyrfyfr y gwasanaeth. Esboniodd fod pob diwrnod y mae'n rhaid i berson aros i DFG neu addasiadau cartref gael eu gwneud yn ddiwrnod arall o ddioddef ac felly roedd yn wasanaeth yr oedd angen iddo fod yn gweithio'n effeithiol er mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithlon a safonol.

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar sut olwg fyddai ar lywodraethu'r gwasanaeth newydd a sut y byddai'n welliant ar yr hyn oedd ar waith ar hyn o bryd.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid ei bod wedi cymryd amser hir i gyrraedd y cam hwn oherwydd dad-wneud pob rhan o'r broses i sefydlu faint o amser a oedd yn ei gymryd i ddarparu gwasanaethau a'r hyn oedd ei angen er mwyn cyflawni gwelliannau. Ychwanegodd y byddai cael tîm prosiect o amgylch pob rhan o'r broses yn caniatáu dadansoddiad a chraffu priodol arno. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth, gyda pherfformiad isel y gwasanaeth yn y gorffennol, bod y ffocws wedi bod ar symud ymlaen, gwella ar yr amser gweithredu ar geisiadau ar gyfer pob unigolyn, yn ogystal â darparu mwy o DFG bob blwyddyn.

 

Gofynnodd yr Arweinydd pa asesiad a wnaed ar wasanaeth Cyngor CNPT a pha sicrwydd y gellir ei roi y gallai CBSPAO, wrth symud ymlaen, ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i drigolion Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr Awdurdod, ynghyd â'r DP, wedi edrych ar bob elfen o'r gwasanaeth a ddarparwyd gan Gyngor CNPT i weld pa feysydd yr oedd angen i ni eu gwella fwyaf, ac wrth symud ymlaen, y byddai BCBC yn edrych tuag at fanteisio ar yr arbenigedd o'r meysydd hyn yn ei wasanaeth yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD:                       Bod y Cabinet:

 

  • Yn cymeradwyo mewnoli'r gwasanaeth DFG;

 

  • Yn cymeradwyo defnyddio'r gyllideb gyfalaf i gefnogi mewnoli'r Broses DFG;

 

  • Yn cymeradwyo ymrwymo i'r cytundeb cydweithredu â CNPT ac atal y rhannau perthnasol o reolau gweithdrefn contract y Cyngor mewn perthynas â'r gofynion sy'n ymwneud â chaffael y gwasanaeth DFG y bydd CNPT yn ei gyflawni;

 

Yn dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, i gymeradwyo telerau terfynol y cytundeb cydweithredu â CNPT ar ran y Cyngor ac i drefnu bod y cytundeb cydweithredu yn cael ei weithredu ar ran y Cyngor, yn ddarostyngedig i arfer yr awdurdod dirprwyedig hwnnw mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio

Dogfennau ategol: