Agenda item

Contract Rheoli Plâu

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a roddodd y cefndir, y sefyllfa bresennol a'r opsiynau i bennu'r ffordd orau ymlaen o ran gwasanaeth rheoli plâu.

 

Esboniodd fod gan CBSPAO gontract ar waith ar hyn o bryd a oedd yn darparu gwasanaeth rhad ac am ddim ar gyfer rheoli plâu domestig, a oedd yn cynnwys llygod mawr, llygod, chwilod gwely a chwilod duon. Ar hyn o bryd dim ond am wasanaethau i gael gwared â chwain a gwenyn meirch y mae CBSPAO yn codi tâl.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y contract cyfredol, a ddechreuodd yn 2017 ac a ddarperir gan y cwmni Rentokil, i fod i ddod i ben ym mis Ebrill 2021.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y contract cyfredol ychydig yn amhoblogaidd gyda thrigolion fel y nodwyd mewn arolygon a gynhaliwyd. Esboniodd, pan alwyd y contractwr allan, eu bod yn anelu at gyrraedd o fewn 3 diwrnod. Roedd hyn wedi arwain at roi’r gorau i 40% o alwadau.

 

Darparodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid ffigurau yn ymwneud â'r Awdurdodau Lleol yng Nghymru a pha wasanaethau rheoli plâu a ddarparwyd ganddynt, gyda manylion y rhain i'w gweld ym mharagraff 3.4 o'r adroddiad.

 

Hefyd, darparodd ffigurau ar yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2019 a gasglodd safbwyntiau ar gynigion i leihau cyllideb. Manylwyd ar y rhain ym mharagraff 3.5 yr adroddiad.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y bu mwy o geisiadau am ddarpariaeth rheoli plâu yn enwedig ers cyfnod clo cyntaf Covid-19 ar 23 Mawrth 2020. Roedd y rhain wedi cynyddu tua 47%, a bod hynny i’w ddisgwyl gyda mwy o breswylwyr yn gweithio gartref.

 

Darparodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid 3 opsiwn a amlinellwyd yn y tabl yn 4.6 yr adroddiad, a disgwylir y costau/arbedion canlynol:

 

Tâl adfer

Cost y

Gwasanaeth.

Incwm

Potential

Cost net i

CBSPAO

Rhaniad cymesur 50/50

£95,000

£71,250

£23,750

Rhaniad o blaid taliadau consesiwn 80/20

£95,000

£57,000

£38,000

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid yr argymhellwyd peidio â bwrw ymlaen ag opsiwn 3 gan fod hyn yn golygu’r gost uchaf i'r awdurdod ac y byddai angen ei ariannu o gyllideb graidd y Cyngor. Ychwanegodd fod Opsiwn 1 ac Opsiwn 2 yn golygu newid yn y ddarpariaeth gwasanaeth ac felly'n destun ymgynghoriad cyhoeddus, a fyddai'n cymryd 12 wythnos i'w gwblhau.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, er mwyn sicrhau parhad gwasanaeth yn y cyfamser, cynigiwyd y dylai'r Cabinet atal y rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Contract y Cyngor sy'n gofyn am ymarfer caffael cystadleuol a chytuno i ymrwymo i gontract tymor byr o 6 mis gyda'r darparwr gwasanaeth rheoli plâu cyfredol Rentokil. Dywedodd fod y cynnig hwn yn torri gofynion Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 ac yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i roi Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor o'r neilltu.

 

Esboniodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol fod y gwasanaeth wedi'i glustnodi fel arbediad posib fel rhan o'r MTFS, ond roedd yn ymddangos ei fod yn wasanaeth poblogaidd yn gyffredinol er gwaethaf y pwynt a nodwyd ynghylch yr amser aros hi yn dilyn galwad. 

 

Gofynnodd Aelod y Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a oedd opsiynau eraill ar gael a allai gynnwys elfennau o'r opsiynau a restrwyd. Esboniodd y gellid ystyried opsiwn a oedd yn cynnwys galwadau am ddim i lygod mawr yn unig, gan fod hyn yn cwmpasu'r mwyafrif o alwadau rheoli plâu.

 

Roedd yr Aelod y Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn rhannu safbwyntiau tebyg ag aelod y cabinet ac esboniodd ei bod yn ymddangos bod poblogaeth y llygod mawr wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf, yn enwedig gan fod bwytai wedi cau a bod eu ffynhonnell fwyd ynghanol trefi wedi lleihau. Dywedodd fod preswylwyr yn bryderus yngl?n â rhoi gwybod am lygod mawr gan nad oeddent am gymryd perchnogaeth o'r broblem ac felly o bosibl yn gorfod codi tâl. Teimlai'r Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y byddai hyn yn achosi problemau pellach ynghylch rhoi gwybod am broblem pe bai tâl am hyn.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio nad oedd yr opsiynau a restrir yn ymdrin â'r materion y mae aelodau'r cabinet a'r cyhoedd wedi'u hwynebu yn ogystal â'r ystyriaeth bosibl o opsiwn hybrid.

 

Gofynnodd y Dirprwy Arweinydd beth oedd cwmpas opsiwn 2 yn yr adroddiad.

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid y gellid ymgynghori ymhellach â darparwyr yn ogystal ag Awdurdodau Lleol i benderfynu pa opsiynau eraill y gellid eu darparu.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod materion pla weithiau yn ganlyniad i faterion iechyd amgylcheddol eraill. Cytunodd fod angen mwy o wybodaeth ar sut roedd Awdurdodau Lleol eraill yn delio â'r materion hyn a sut roedd y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir yn cyflwyno'r gwasanaethau hyn i Gaerdydd a Bro Morgannwg.

 

PENDERFYNWYD:                      Bod y Cabinet:

 

  • Yn cytuno i archwilio llwybrau pellach gyda'r Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir (sy'n darparu cymorth rheoli plâu i  Gynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg) ar opsiynau amgen posibl eraill i'w dilyn o ran Rheoli Plâu i'r rhai a nodwyd yn yr adroddiad.

 

  • Yn cymeradwyo atal y rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Contract y Cyngor mewn perthynas â'r gofyniad i ail-dendro ac awdurdodi'r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid i ymrwymo i gontract tymor byr o 6 mis gyda'r darparwr gwasanaeth rheoli plâu presennol, Rentokil.

 

Dogfennau ategol: