Agenda item

Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, a'i bwrpas oedd diweddaru'r Cabinet ar y cynnydd a wnaed o ran datblygu Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr a sicrhau nifer o benderfyniadau allweddol ynghylch dilyniant y prosiect.

 

Esboniodd fod Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i gynnwys fel prosiect yng Nghynllun Ynni Clyfar (SEP) CBSPAO (a gymeradwywyd gan y Cabinet yn Chwefror 2019).  Mae'r Cynllun Ynni Clyfar yn manylu ar y prosiectau y bydd CBSPAO yn cymryd rhan ynddynt yn ystod y cyfnod 2019 - 2025. Mae hyn yn cynnig profi amrywiol dechnolegau, cynigion defnyddwyr a modelau busnes i ddarparu llwybr i ddatgarboneiddio Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae hefyd yn cyfrannu'n allweddol at strategaeth datgarboneiddio Llywodraeth Cymru (cyhoeddwyd Mawrth 2019) “Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel”.  

 

Parhaodd trwy nodi bod cais grant cyfalaf wedi'i wneud i Lywodraeth y DU trwy'r Rhaglen Buddsoddi Rhwydwaith Gwres (HNIP) ym mis Ebrill 2019 a chymeradwywyd hyn ym mis Rhagfyr 2019 ar gyfer buddsoddiad cyfalaf o £1,000,000 tuag at adeiladu'r rhwydwaith gwres a £241,000 ar gyfer gweithgareddau cyn-adeiladu.

 

Trwy gydol 2020, aethpwyd ymlaen â'r prosiect trwy greu model ariannol newydd, paratoi cais cynllunio ar gyfer y storfa thermol, datblygu trwydded amgylcheddol ar gyfer y ganolfan ynni a chreu pecyn tendro ar gyfer caffael contractiwr dylunio, adeiladu a chynnal (DBOM) i reoli'r gwaith o adeiladu a gweithredu'r rhwydwaith.

 

Mae prosiect DHN Tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd cam tyngedfennol ac mae angen sawl penderfyniad carreg filltir hanfodol i sicrhau dilyniant yn unol â'r Rhag-amodaul a nodwyd yn y Cynnig Cyllid Grant a ddarparwyd gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i CBSPAO fel rhan o'r Amodau grant HNIP. 

 

Rhaid i hyn ddigwydd erbyn 19 Mawrth 2021 ac felly, mae’n hanfodol bod yn rhaid i'r caffael fod ar y gweill erbyn Mawrth 2021. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid lansio'r hysbysiad caffael ym mis Chwefror 2021.  

 

Yna, eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, y bydd achos busnes llawn yn cael ei baratoi ac y bydd yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet cyn penodi unrhyw gontractwr.  Yn ystod y broses gaffael bydd y Cyngor yn archwilio gwahanol opsiynau ac arloesedd o'r farchnad i'w hystyried yn yr achos busnes terfynol. Bydd manylion y Cyfrwng at Ddibenion Arbennig (SPV) sydd i'w sefydlu yn destun adroddiad pellach i'r Cabinet i'w gymeradwyo yn y dyfodol agos. Yn dilyn hyn, bydd y dogfennau tendro ar gyfer penodi'r DBOM yn cael eu rhyddhau, ond ni wneir unrhyw benodiad nes i'r Cyngor gymeradwyo'r cynllun a swm y benthyciad ychwanegol fel rhan o'r Rhaglen Gyfalaf. Nodwyd manylion y tasgau unigol hyn ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad ymlaen.

 

Yn unol â Chynllun Ynni Ardal Leol CBSPAO, sy'n nodi mai rhwydweithiau gwres yw'r opsiwn mwyaf technegol a manteisiol yn economaidd ar gyfer datgarboneiddio gwres yn Nhref Pen-y-bont ar Ogwr, mae'r Cyngor yn awyddus i ddatblygu Cam 2 o'r rhwydwaith gwres.  Byddai Cam 2 yn brosiect mwy uchelgeisiol na Cham 1 a byddai ganddo'r potensial i gysylltu dau ysbyty, pedair ysgol a chartref gofal yn ogystal â datblygiad newydd posib ynghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gwnaeth y Cyngor gais am arian grant gan Lywodraeth y DU (Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol) trwy ei Uned Cyflenwi Rhwydwaith Gwres (HNDU) ym mis Mehefin 2020 am £132,150 i gyfrannu tuag at gost paratoi Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Cam 2 y prosiect (£102,150) a chymorth adnoddau Rheoli Prosiect (£30,000).

 

Cymeradwyodd BEIS y cais am gyllid ym mis Medi 2020 ac mae pecyn tendro yn cael ei ddatblygu i gaffael yr ymgynghorwyr technegol, ariannol a chyfreithiol sydd eu hangen i baratoi'r achos busnes amlinellol ar gyfer Cam 2.   Amcangyfrifwyd bod cost datblygu'r achos busnes amlinellol yn £150,000.  Mae'r Cyngor yn darparu'r £47,850 sy'n weddill i baratoi'r achos busnes amlinellol.  Bydd y £47,850 yn cael ei ariannu o gyllideb y Rhaglen Gwres (SEP) o fewn y Gronfa Adfywio Strategol.

 

O ran goblygiadau ariannol yr adroddiad, roedd Adroddiad y Cabinet ym mis Ebrill 2018, yn nodi cost cyfalaf Cam 1 Blwyddyn 1 fel £1.959 miliwn, cynyddodd hyn i £4.229m ym mis Ebrill 2019 pan gafodd model ariannol diwygiedig ei greu fel rhan o'r cais am grant i Lywodraeth y DU trwy'r Rhaglen Buddsoddi Rhwydwaith Gwres.  Sbardunwyd y cynnydd yn bennaf trwy gynnwys y datblygiad Sunnyside newydd   Mae’r ffaith bod y datblygiad wedi tynnu’n ôl o'r cynllun wedi golygu bod gwariant cyfalaf Blwyddyn 1 yn £3.389 miliwn ar hyn o bryd.  Mae'r costau o fewn y prosiect yn wahanol i'r rhai a gyflwynwyd yn yr achos busnes amlinellol gwreiddiol i'r Cabinet ym mis Ebrill 2018 a'r rhai a gyflwynwyd i'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol ym mis Ebrill 2019 oherwydd nifer o ffactorau, yn fwyaf arbennig y ffaith bod datblygiad Sunnyside wedi tynnu’n ôl o'r prosiect, uwchraddiadau i’r newidydd sy'n ofynnol yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr, effeithiau chwyddiant a pharatoi ar gyfer cysylltiadau pellach y rhwydwaith yn y dyfodol. Amlinellwyd rhagor o wybodaeth am fanylion y costau ariannol ym mharagraffau 8 yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid yn fyr at gymhlethdodau'r adroddiad ynghylch y Cyngor yn gorfod diwygio ei Strategaeth Rheoli Trysorlys, er mwyn iddo fenthyg mwy na £1m i SPV ac er mwyn gwneud hynny, i fenthyca oddi wrth y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB).

 

Ychwanegodd y byddai adroddiad pellach felly yn cael ei roi gerbron Cyngor y Gyllideb ym mis Chwefror er mwyn cyflawni  hyn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Cymunedau fod yr adroddiad hwn yn ymwneud yn uniongyrchol ag eitem flaenorol yr agenda h.y. Strategaeth Datgarboneiddio Pen-y-bont ar Ogwr 2030, a fyddai'n ceisio gwella'r defnydd o ynni a datgarboneiddio ynni yn adeiladau'r Cyngor. Byddai prosiect Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys nifer o gyfnodau a chan fod y prosiect yn fenter newydd, pwysleisiodd y byddai'n dod gyda rhai heriau. Ychwanegodd hefyd, y byddai angen addasu rhai o weithdrefnau caffael y Cyngor, er mwyn darparu ar gyfer rhai o gynigion y prosiect.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd y bu paratoi a chynllunio enfawr ar gyfer y prosiect hwn gan ei fod yn gymhleth a'r cyntaf o'i fath ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr. Byddai’n croesawu adroddiadau cynnydd pellach wrth i'r prosiect esblygu.

 

PENDERFYNWYD:                          Bod y Cabinet:

 

           Yn cymeradwyo’r gwaith o symud Prosiect Rhwydwaith Gwres Ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn ei flaen.

           Yn cytuno y dylid cyflwyno adroddiad i'r Cyngor i'w gymeradwyo i ddiwygio'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer cynnwys prosiect Rhwydwaith Gwres Ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn y Rhaglen Gyfalaf ac yn cytuno ar y benthyciad i'r SPV, yn amodol ar gymeradwyaeth i newidiadau i Strategaeth Rheoli'r Trysorlys.

           Yn nodi y bydd angen diwygio'r Strategaeth Rheoli Trysorlys i alluogi'r Cyngor i roi benthyciad o £1.821 miliwn i'r SPV, a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Strategaeth Rheoli Trysorlys ddrafft 2021-22 a gyflwynir i'r Pwyllgor Archwilio ar 28 Ionawr 2021, ac i'r Cyngor i'w chymeradwyo ym mis Chwefror 2021.

           Yn cymeradwyo caffael a phenodi ymgynghorydd technegol/ariannol ac ymgynghorydd cyfreithiol i baratoi Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Cam 2 Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

           Yn dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i dendro am ymgynghorydd technegol/ariannol a'r Ymgynghorydd Cyfreithiol i baratoi Achos Busnes Amlinellol ar gyfer Cam 2 Prosiect Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr a dyfarnu'r contractau i'r cynigwyr llwyddiannus, telerau cytundebol y contractau i'w cymeradwyo gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio.

           Yn atal y rhannau perthnasol o Reolau Gweithdrefn Contractau’r Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i gaffaeliadau gael eu cynnal o dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a chymeradwyo caffael contractwr Dylunio Adeiladu Gweithredu a Chynnal ar gyfer Rhwydwaith Gwres Ardal Pen-y-bont ar Ogwr trwy ddefnyddio'r weithdrefn a negodwyd gyda galwad ymlaen llaw am gystadleuaeth o dan Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016.

           Yn cymeradwyo bod Brodies LLP yn rhedeg gwaith caffael y Contractiwr Dylunio Adeiladu Gweithredu a Chynnal o dan y weithdrefn a negodwyd gyda galwad ymlaen llaw am gystadleuaeth o dan Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016 ar ran y Cyngor.

           Yn dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i dendro'r contract ar gyfer y contractiwr Dylunio Adeiladu Gweithredu a Chynnal ar gyfer Rhwydwaith Gwres Ardal Pen-y-bont ar Ogwr, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog - Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio o dan y weithdrefn a negodwyd gyda galwad ymlaen llaw am gystadleuaeth o dan y Rheoliadau Contractau Cyfleustodau. 2016 ac yn nodi y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ar ôl cwblhau’r gwaith o gaffael y contractiwr Dylunio Adeiladu Gweithredu a Chynnal ar gyfer gwneud penderfyniad ar gyfer dyfarnu'r contract ai peidio.

           Yn nodi y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ym mis Chwefror 2021 ar greu'r Cyfrwng at Ddibenion Arbennig a fydd yn darparu'r mecanwaith cyflenwi masnachol ar gyfer y prosiect.

 

Dogfennau ategol: