Agenda item

Cynllun Gwres Caerau

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd adroddiad, er mwyn rhoi diweddariad i'r Cabinet ar hynt prosiect Cynllun Gwres Caerau; ceisio awdurdod gan y Cabinet i gynnal arfarniad opsiynau o ddulliau cyflwyno amgen ac i'r Cabinet gytuno i dderbyn adroddiad pellach gyda chynnig ar yr opsiwn a ffefrir a ffordd ymlaen. 

 

Fel rhywfaint o wybodaeth gefndir, cadarnhaodd fod Cynllun Gwres Caerau wedi'i sefydlu fel prosiect arloesol iawn a’i fod yn bwriadu tynnu gwres o dd?r a gynhwysir mewn hen weithfeydd pyllau glo dan dd?r, i ddarparu adnodd ar gyfer eiddo yng Nghaerau. 

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at Dabl 1 ym mharagraff 3.5 yr adroddiad, a oedd yn dangos pyrth y penderfyniadau, gyda'u dyddiadau amcangyfrifedig gwreiddiol a diwygiedig.   Dangosodd hefyd allbynnau’r prosiect a’r canlyniadau a fydd ar gael pe bai'r prosiect yn cael ei gau i lawr yn unrhyw un o'r gatiau penderfynu.

 

O ran y sefyllfa bresennol, dywedodd y Rheolwr Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd, fod rhai darnau allweddol o waith mewn perthynas â'r Cynllun wedi'u cwblhau yn ystod y 12 mis diwethaf. Amlinellwyd y rhain ym mharagraffau 4.2 i 4.5 yr adroddiad.

 

O ganlyniad i'r gwaith hwn ac yn unol â'r pyrth penderfyniadau ar gyfer y prosiect y manylir arnynt ym mharagraff 3.6 o'r adroddiad, cynigiwyd yn awr y dylid cynnal arfarniad opsiynau i bennu hyfywedd ac addasrwydd dulliau cyflwyno amgen.  Byddai'r arfarniad opsiynau yn seiliedig ar y set o feini prawf a restrir ym mharagraff 4.7 ac mae'n cwmpasu'r opsiynau y manylir arnynt ym mharagraff 4.8 o'r adroddiad.

 

Dywedodd y byddai barn gytûn ar yr arfarniad opsiynau yn cael ei ddatblygu gan aelodau'r Bwrdd Rhaglen Ynni, tra bod y camau nesaf ar gyfer y prosiect yn cael eu cynnig fel a ganlyn:

 

           Cynnal yr arfarniad opsiynau;

           Cyflwyno canfyddiadau'r uchod i WEFO i'w hystyried;

           Cyflwyno adroddiad i'r Cabinet ar ganlyniad yr arfarniad opsiynau ar gyfer penderfyniad ar sut i symud ymlaen ac, os oes angen, adroddiad dilynol i'r Cyngor.

 

Byddai hyn yn cymryd tua 6 mis i gyd, ychwanegodd y Rheolwr Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd.

 

Daeth yr adroddiad i ben trwy egluro'r goblygiadau ariannol sy'n deillio o argymhellion yr adroddiad.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet - Cymunedau ei bod yn bwysig nodi bod Prosiect D?r Mwyngloddiau Caerau yn brosiect arddangos, i'w sefydlu a dysgu ohono, a oedd wedi bod yn wir o ran y prosiect penodol hwnnw.

 

Er ei fod o'r farn ei bod yn siomedig na allai'r Cyngor edrych ar y Cynllun cyfredol yn ei gyfanrwydd fel y cynigiwyd yn wreiddiol, roedd yn falch o gadarnhau bod cynllun i gynnal elfen o brosiect D?r Mwyngloddiau o fewn lleoliad Caerau.

 

Roedd nifer o opsiynau i edrych arnynt fel rhan o'r Arfarniad a byddai'r rhain yn cael eu harchwilio'n ofalus yn unol â hynny, cadarnhaodd, yn unol â'r hyn a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd fod cryn dipyn o waith wedi'i wneud ar y Prosiect ac roedd hyn o werth wrth gwblhau Astudiaeth Ddichonoldeb, gan fod canlyniadau'r rhain ar brydiau, yn dangos bod angen dull gweithredu amgen neu adlinio'r prosiect penodol wrth symud ymlaen.  

 

PENDERFYNWYD:                            Bod y Cabinet:

 

     Yn nodi'r camau a gymerwyd gan swyddogion mewn perthynas â chyflawni'r prosiect ers yr adroddiad diwethaf i'r Cabinet.

     Yn cymeradwyo cynnal gwerthusiad opsiynau o fodelau cyflenwi amgen fel y manylir yn adrannau 4.7 a 4.8 o'r adroddiad.

     Yn dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i gytuno ar delerau terfynol yr arfarniad opsiynau mewn ymgynghoriad â Bwrdd y Rhaglen Ynni.

     Yn nodi y derbynnir adroddiad pellach ar ôl i'r arfarniad opsiynau gael ei gwblhau gyda chynnig ar yr opsiwn a ffefrir a ffordd ymlaen a, pe bai angen, argymell i'r Cyngor ddiweddariad i'r rhaglen Gyfalaf.

 

Dogfennau ategol: