Agenda item

Cynllun Ynni Clyfar - Prosiect Effeithlonrwydd Ynni Domestig

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd adroddiad, a'i bwrpas oedd cyflwyno i, a chadarnhau cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer cefnogaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i brosiect Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni eiddo domestig ym Mwrdeistref Sirol Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Esboniodd fod Llywodraeth Cymru (LlC) wedi gweithredu 3 cham yn ei rhaglen effeithlonrwydd ynni domestig er 2009. Adroddwyd yn flaenorol i'r Cabinet am fanylion y camau hyn, gan gynnwys lefel buddsoddiad a buddion y cynlluniau, ym mis Ebrill 2019.

 

Bydd cam cyfredol y rhaglen, Cam 3, yn rhedeg rhwng 2018 - 2023 ac yn gobeithio buddsoddi £54m dros y cyfnod hwn mewn dros 6,000 o gartrefi mewn ardaloedd lle mae tlodi tanwydd yn gyffredin. Daw'r cyllid ar gyfer y rhaglen o ffynonellau ERDF, LlC a chwmnïau cyflenwi ynni trwy'r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO). Prif ffocws y rhaglen yw lleihau tlodi tanwydd.  

 

Esboniodd fod Llywodraeth Cymru bellach yn barod i lansio Rhaglen cam 3 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.  Fe'i cyflwynir gan Arbed am Byth, sef cwmni menter ar y cyd rhwng Everwarm a'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.  Byddai Arbed am Byth yn gweithio gyda CBSPAO, gan adeiladu ar y dull partneriaeth presennol i gyflawni'r Cynllun Ynni Clyfar, i nodi ardaloedd o dlodi tanwydd lle gallai'r rhaglen gael yr effaith fwyaf.  Bydd Arbed am Byth, fel Rheolwr y Cynllun, yn rheoli'r rhaglen o'r dechrau i'r diwedd a bydd yn nodi ac yn datblygu'r cynlluniau trwy ddatblygu perthnasoedd lleol â rhanddeiliaid a chadwyni cyflenwi.

 

Hyd yn hyn, roedd Rheolwr y Cynllun wedi cynnal ymarfer mapio lefel uchel o ardaloedd posibl ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, lle gallai Rhaglen Llywodraeth Cymru gael yr effaith fwyaf gan nodi dwy ardal (bydd angen trafodaeth bellach ar y rhain i gytuno ar ffiniau ac ardaloedd gwirioneddol i’w hystyried).  Y ddwy ardal gychwynnol oedd Cwm Ogwr a Porthcawl (Dwyrain).

 

Byddai'r broses o gael gafael ar gymorth ar ôl penderfynu ar leoliad ardal, yn ei gwneud yn ofynnol i Reolwr y Cynllun gynnal asesiad o bob eiddo a dylunio pecyn o waith a allai wella effeithlonrwydd ynni'r cartref.  Rhoddwyd enghreifftiau o’r mesurau a allai dderbyn cyllid trwy'r rhaglen ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd fod y capiau cyllido a sefydlwyd ar gyfer y rhaglen gan LlC wedi'u gosod fel a ganlyn:

 

           Hyd at £5,000 ar gyfer eiddo gradd E ar nwy

           Hyd at £8,000 ar gyfer eiddo gradd F & G ar nwy

           Hyd at 8,000 ar gyfer eiddo gradd E ddim ar nwy

           Hyd at £12,000 ar gyfer eiddo gradd F & G ddim ar nwy

 

Yn wahanol i gamau blaenorol y rhaglen hon, ni fyddai gofyn i CBSPAO baratoi cynigion, rheoli taliadau grant, caffael contractwyr ac ati. Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud hyn.  Bydd rôl CBSPAO yn cael ei lleihau'n sylweddol ac yn lle hynny ei rôl fydd:

 

·         Cytuno ar yr ardal lle bydd y rhaglen yn cael ei chynnig.

·         Anfon llythyrau cychwynnol (wedi'u drafftio gan Arbed am Byth) gydag enwau preswylwyr arnynt yn eu gwahodd i gymryd rhan yn y rhaglen a mynychu digwyddiadau gwybodaeth.

·         Darparu cefnogaeth mewn digwyddiadau ymgysylltu â'r gymuned.

 

Nododd yr Aelod Cabinet - Cymunedau nad oedd hon yn rhaglen CBSPAO ac roedd ganddo rai pryderon felly, bod yr Awdurdod â gofal am weinyddu hyn ac oherwydd hynny, byddai'r preswylwyr o'r farn mai prosiect a arweiniwyd gan CBSPAO ydoedd mewn gwirionedd. Ni fyddai gan CBSPAO reolaeth lawn ar y gwaith a fyddai'n cael ei wneud fel rhan o'r prosiect. Roedd felly’n teimlo y dylid cael mwy o wybodaeth am union rôl CBSPAO yn y Cynllun a sut roedd hyn yn effeithio ar ein cyfrifoldebau i etholwyr a oedd yn gymwys ar gyfer y gwaith a fyddai'n cael ei wneud ar eu heiddo. 

 

Cefnogodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol yr uchod, ond ychwanegodd y byddai'r Cynllun pe bai'n cael ei ddatblygu yn y pen draw, yn gwella effeithlonrwydd ynni mewn eiddo yr oedd angen hyn arno, yn enwedig mewn lleoliadau difreintiedig yn y cymoedd.

 

PENDERFYNWYD:                          Mae’r Cabinet yn croesawu’r adroddiad ond cyn bwrw ymlaen ymhellach gofynnodd am gadarnhad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r rolau a'r cyfrifoldebau mewn perthynas â chyflawni ac ôl-gwblhau.

 

Dogfennau ategol: