Agenda item

Cynllun Bysiau Brys - Trefniadau Cam 2

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yr adroddiad y bwriedwyd iddo nodi'r cyd-destun ehangach, y cefndir a'r rhesymau dros y Cynllun Bysiau Brys (BES) a cheisio cytundeb i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPAO) gytuno i egwyddorion cytundeb BES2 a sefydlu perthynas â'r awdurdod rhanbarthol arweiniol a’r llofnodydd sy'n sicrhau bod y cyllid brys parhaus yn cwrdd â blaenoriaethau CBSPAO ac yn cael ei gyflawni ar ran CBSPAO.

 

Esboniodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod pandemig Covid-19 wedi effeithio'n ddifrifol ar deithio ar fysiau. Roedd nifer y teithwyr wedi gostwng yn sylweddol, tra bod pellhau cymdeithasol a gofynion glanhau ychwanegol wedi rhoi beichiau a chostau ychwanegol ar weithredwyr.

 

Esboniodd bod Llywodraeth Cymru (LlC) ac awdurdodau lleol (ALl) wedi camu i'r adwy, i gefnogi’r sector gyda chymorth ariannol sylweddol. Hefyd, bu deialog barhaus, ragorol rhwng yr holl bartïon i drafod a chytuno ar drefniadau cymorth, ychwanegodd.

 

Parhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, trwy gynghori bod y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, wedi cyfarfod ag Arweinwyr pob un o’r 22 ALl, ynghyd â’i swyddogion, i amlinellu cyfeiriad teithio LlC.  Mae manylion pellach wedi'u cynnwys yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (WTS) sydd wedi bod yn destun ymgynghori. Yn fwy diweddar, cyfarfu’r Dirprwy Weinidog, Lee Waters AS, â’r holl Arweinwyr i drafod y WTS ond hefyd i annog ALlau i ymuno â Chynllun Bysiau Brys 2 (BES2). Hwn oedd y cam diweddaraf o gymorth ariannol i helpu gweithredwyr trwy gyfnod y pandemig.

 

Ochr yn ochr â hyn, camodd LlC i mewn i helpu gweithredwyr i ddelio â llai o incwm ar lwybrau a weithredir yn fasnachol a'r costau ychwanegol yr eir iddynt.  I ddechrau, roedd LlC yn sicrhau bod £29m ar gael o Gronfa Caledi, a oedd yn gweithredu o Ebrill 2020 am dri mis. Crëwyd y gronfa hon o arian a fyddai fel arall wedi cael ei dalu trwy'r Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau (BSSG), ad-daliad Pris Siwrnai Consesiynol Gorfodol a chynllun ‘Fy Ngherdyn Teithio’.

 

Yna cyflwynwyd y Cynllun Bysiau Brys ym mis Gorffennaf i ddarparu cefnogaeth barhaus.  Daeth hyn yn hysbys fel ‘BES 1’ a pharhaodd i gynnal incwm gweithredwyr ar lefelau hanesyddol, yn seiliedig ar yr hyn a oedd yn cael ei dalu iddynt o dan gynlluniau grant blaenorol. Yn gyfnewid am y gefnogaeth ariannol hon, nododd LlC ei fod yn disgwyl i weithredwyr gyfrannu at ail-lunio gwasanaethau bysiau yng Nghymru, i gynnwys gwell rhwydweithiau rhanbarthol gyda mwy o integreiddio â gwasanaethau rheilffyrdd, system docynnu glyfar ac amserlennu.

 

Gan droi at y sefyllfa bresennol, dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol, y bydd BES 2 yn parhau i fynd i’r afael â cholli refeniw o werthu tocynnau a’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag ymateb i’r pandemig. O dan BES 2 bydd cyllid LlC yn eistedd ochr yn ochr â chyllid awdurdodau lleol a ddarperir trwy'r Cynllun Teithio Rhatach a thrwy Grant Cymorth Refeniw, gyda'r Grant Cymorth Gwasanaethau Bws i wneud iawn am y diffyg. 

 

Byddai LlC yn cyd-lofnodwr cytundeb BES 2 gyda gweithredwyr bysiau, ynghyd â Thrafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn dal i gael ei drafod ar hyn o bryd a gall fod yn destun newidiadau cyn iddo gael ei gwblhau. Mae ALl yn cadw cyfrifoldebau cyfreithiol am wasanaethau bysiau ac felly'n parhau i fod yn ganolog i benderfyniadau ynghylch pa wasanaethau lleol sy'n derbyn y gefnogaeth hon. Byddai angen iddynt gytuno ag egwyddor y cytundeb a'r berthynas â'u Hawdurdod Arweiniol, wrth sicrhau bod y cyllid brys parhaus yn gyflawn eu blaenoriaethau ac yn cael ei gyflawni ar eu rhan.

 

Byddai hyn yn darparu'r sylfaen gyfreithiol i LlC wneud taliadau i'r gweithredwyr. Yn y modd hwn, gallai LlC ddefnyddio'i phwerau i gefnogi gweithredwyr, ond byddai'r cyllid ychwanegol yn torri terfynau de minimis ALl ar gyfer contractau dyfarnu uniongyrchol (manylion pellach yn y nodyn briffio yn Atodiad 1 a'r Cytundeb arfaethedig llawn yn Atodiad 2, i'r adroddiad). Byddai ALlau yn parhau i fod yn gyfrifol am y gwasanaethau hynny y maent ar hyn o bryd yn eu contractio'n uniongyrchol gyda gweithredwyr bysiau. Byddai angen i ALlau ystyried cynllunio ar gyfer hapddigwyddiadau, fel os nad yw'r cytundeb BES2 wedi'i lofnodi neu os yw lefel y cyllid ar gyfer BES2 yn cael ei ostwng yn ystod cyfnod y cytundeb.

 

Dangoswyd nodweddion allweddol BES 2 ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Gorffennodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol ei gyflwyniad, trwy gynghori bod costau BES2 yn cael eu hariannu trwy LlC i Gyngor Sir Fynwy fel awdurdod arweiniol. Wrth ymuno â BES2, roedd awdurdodau lleol felly'n cytuno i gymorth ariannol gael ei ddarparu i'r sector bysiau.

 

Cadarnhaodd Aelod y Cabinet - Cymunedau ei fod yn hapus gyda'r adroddiad, y byddai ei ddarpariaethau yn caniatáu i gwmnïau bysiau gael gafael ar rai llwybrau cyllido.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei fod hefyd yn cefnogi'r cyllid ar gyfer y diwydiant bysiau trwy fuddsoddiad arian parod gan Lywodraeth Cymru.

 

Ychwanegodd ei fod hefyd yn cefnogi'r dull gwasanaeth bysiau rhanbarthol a fabwysiadwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle darparwyd gwasanaethau i/o'r Fwrdeistref Sirol i ardaloedd cyfagos, gan fod hyn yn sicrhau parhad cynllun trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol i ddefnyddwyr.

 

PENDERFYNWYD:                                   Bod y Cabinet:

 

           Yn cytuno ag egwyddorion cytundeb BES 2 (Atodiad 2 i'r adroddiad) i sicrhau cefnogaeth ariannol (amodol) i'r sector bysiau a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau i sefydlu perthynas gyda'r awdurdod arweiniol rhanbarthol a'r llofnodydd, sy’n sicrhau bod y cyllid brys parhaus yn cwrdd â blaenoriaethau CBSPAO ac yn cael ei gyflawni ar ei ran.

 

           Yn derbyn adroddiad pellach ar gynigion diwygio bysiau sy'n ymwneud â rheoli gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y dyfodol maes o law.

 

Dogfennau ategol: