Agenda item

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr - Caniatâd i ymgynghori ar gynnig statudol

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd adroddiad, a roddodd grynodeb i'r Cabinet o'r gwerthusiadau a gynhaliwyd ynghylch cynlluniau arfaethedig Moderneiddio Ysgolion ar gyfer ardal Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys rhai argymhellion allweddol mewn perthynas â'r eitem hon.

 

Cadarnhaodd fod y Cabinet ar 21 Ionawr 2020 wedi rhoi cymeradwyaeth i gynlluniau Pen-y-bont ar Ogwr gael eu dwyn ymlaen trwy'r trefniadau cyllido MIM. Y ffordd orau ymlaen ar gyfer cynllun Pen-y-bont ar Ogwr yw:

 

           yr opsiynau addysg a ffefrir ar gyfer darparu ysgol cyfrwng Saesneg â dau ddosbarth mynediad ar safle - sy'n addas ar gyfer Ysgolion Cynradd Afon y Felin a Corneli gyda'i gilydd) a;

 

           darparu ysgol cyfrwng Cymraeg â dau ddosbarth mynediad ar safle - sy’n addas ar gyfer Ysgol Y Ferch o’r ’Sgêr wedi’i hymestyn.

 

Penderfynwyd ar y safleoedd a ffefrir ar gyfer datblygu dichonoldeb yr ysgolion newydd gan y Cabinet gan mai Valleys to Coast (V2C) yw perchennog Ystâd Marlas a safle presennol Ysgol Y Ferch o’r Sgêr/Canolfan Plant Integredig Corneli/Ysgol Gynradd Corneli.

 

Mae swyddogion y Tîm Moderneiddio Ysgolion wedi cael cyfres o gyfarfodydd gyda V2C a LlC er mwyn symud ymlaen â chynllun MIM ‘Band B’ Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr ac i amlinellu rhaglen briodol (rhaglen grynodeb ddrafft yn Atodiad 1 i’r adroddiad y cyfeiriwyd ato).

 

Esboniodd fod un safle ar gyfer yr ysgolion newydd arfaethedig yn y Gorllewin wedi'i nodi fel tir ym Mhlas Morlais, sy'n eiddo i V2C.  Roedd y trafodiad tir yn seiliedig ar fargen ‘cyfnewid’ gyda V2C, lle mae CBSPAO yn cyfnewid safle Ysgol Gynradd Afon-Y-Felin ar gyfer safle Plas Morlais V2C.  Cytunwyd ar faterion tir gan y Cabinet a'r Cyngor ym mis Rhagfyr a'u cynnwys yn y rhaglen gyfalaf.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod Penawdau Telerau mewn perthynas â'r cyfnewid tir sy'n ofynnol ar gyfer y cynllun wedi'u cytuno â V2C.

 

Roedd LlC wedi cadarnhau bod Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru (CPAC) wedi'i sefydlu ym mis Medi 2020. O ganlyniad, roedd yr Awdurdod bellach yn gallu symud ymlaen i gyflawni prosiectau unigol trwy'r broses Cais am Brosiect Newydd, fel y nodwyd yn y Cytundeb Partneriaeth Strategol.

 

Yna eglurodd, ym mis Tachwedd 2020, bod LlC wedi cymeradwyo cyflwyniad Achos Amlinellol Strategol CBSPAO mewn perthynas â chynnig Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Er mwyn symud y cynlluniau arfaethedig Band B Pen-y-bont ar Ogwr i gam 2 LlG MIM a cham cymeradwyo achosion busnes, roedd yn rhaid yn gyntaf fod wedi cwblhau prosesau statudol angenrheidiol y Cod Trefniadaeth Ysgol.

 

Er mwyn sicrhau newid o'r natur arfaethedig, nododd fod y Cod yn mynnu bod ymarfer ymgynghori â chorff llywodraethu ysgolion, staff, rhieni, disgyblion a phartïon â diddordeb yn cael ei gynnal.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod nifer o opsiynau ar gael o dan y Cod, o ran cyflawni'r trefnidaeth ysgol sy'n angenrheidiol ar gyfer cynlluniau 'Band B' Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr a bod y rhain wedi’u manylu (ar gyfer y cyfrwng Gymraeg a'r cyfrwng Saesneg) ym mharagraff 4.12 o'r adroddiad.

 

O ran y cynnig cyfrwng Cymraeg, nid oedd angen cau unrhyw ysgol (byddai modd ehangu Ysgol Y Ferch O’r Sgêr bresennol yn ffurfiol).  O ran cyfrwng Saesneg, fodd bynnag, byddai un ysgol yn disodli dwy ysgol (gyda dau bennaeth).

 

Byddai adeilad y Ganolfan Plant Integredig (ICC) sydd wedi’i leoli ar safle Corneli ar hyn o bryd yn aros yn ei le o dan y cynnig ‘fel y mae’ ac o ganlyniad byddai wrth ymyl un o’r adeiladau ysgol newydd wedi cwblhau’r cynllun. Byddai gan yr adeiladau’r ddwy ysgol sydd newydd eu creu gyfleusterau cymunedol integredig. Rhagwelwyd felly ar hyn o bryd y byddai'r ddarpariaeth Dechrau’n Deg bresennol yn Ysgol Gynradd Afon y Felin yn trosglwyddo i adeilad yr ICC pe bai'r cynnig yn cael ei symud ymlaen.

 

Roedd llain galed ar y tir ym Mhlas Morlais (sy'n eiddo i V2C), a fyddai'n rhan o'r safle y mae'n ofynnol ei ddatblygu ar gyfer darparu adeilad newydd yr ysgol. Esboniwyd y byddai darpariaeth chwaraeon awyr agored hygyrch i'r gymuned yn cael ei chynnwys fel rhan o'r cynlluniau adeiladu newydd arfaethedig, a ddylai negyddu unrhyw anfantais sydd wedi'i chanfod sy'n gysylltiedig â datblygu'r safle.

 

Gorffennodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei adroddiad, trwy gyfeirio at y goblygiadau ariannol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio fod yr adroddiad ar hyn o bryd ond yn cynnig ymgynghori ar y cynigion a gynhwysir ynddo a'i fod yn gobeithio i'r perwyl hwnnw, y byddai pawb sy'n rhan o'r ymgynghoriad yn cymryd rhan yn hyn.

 

Ychwanegodd pe bai cynigion yr adroddiad yn cael eu symud ymlaen, yna byddai hyn yn dod ag Ysgolion Modern yr 21ain Ganrif i Ogledd Corneli ar gyfer cyfrwng Saesneg a Chymraeg, ynghyd â chynnydd mewn mannau gwyrdd wrth drawsnewid safle tir llwyd a thai fforddiadwy ychwanegol.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i ddarparu darpariaeth addysg o'r radd flaenaf yn ardal Corneli a'i fod yn gobeithio y byddai'r ymgynghoriad yn cael cefnogaeth sylweddol gan rai fel athrawon, disgyblion, rhieni a chyrff llywodraethu'r ysgolion, o ran cefnogi dyheadau'r Awdurdod i ehangu lleoedd cyfrwng Cymraeg yn ardal orllewinol y Fwrdeistref Sirol.

 

PENDERFYNWYD:                         Bod y Cabinet:

 

·                Yn nodi'r gwerthusiadau a gynhaliwyd fel y'u mynegwyd yn yr adroddiad;

 

·                Yn nodi'r dull a ffefrir i gyflawni'r trefniadaeth ysgol angenrheidiol, h.y.

cau’r ddwy ysgol cyfrwng Saesneg (Ysgol Gynradd Corneli ac Ysgol Gynradd Afon y Felin) a sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg â dau ddosbarth mynediad ynghyd ag ysgol feithrin cyfrwng Saesneg gyda 60 lle a mwy gyda Chanolfan Adnoddau Anghenion Dysgu Ychwanegol gyda 15 lle ar dir ym Mhlas Morlais (yn weithredol o fis Medi 2023) - ac i wneud newid rheoledig i'r ysgol Gymraeg (Ysgol Y Ferch O'r Sgêr) ar ffurf ei hengangu i fod â dau ddosbarth mynediad ag ysgol feithrin cyfrwng Cymraeg gyda 60 lle a mwy ar safle presennol Ysgol Gynradd Corneli/Ysgol Y Ferch O'r Sgêr (yn weithredol o fis Medi 2024) a;

 

·                Yn cymeradwyo cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar gynnig Gorllewin Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dogfennau ategol: