Agenda item

Cyd-bwyllgorau Corfforedig

Cofnodion:

           Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, er mwyn rhoi diweddariad i'r Cabinet ynghylch Cyd-bwyllgorau Corfforedig, a oedd yn nodwedd annatod o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).  

 

Er mwyn rhoi  gwybodaeth gefndir, eglurodd fod Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi'i basio gan y Senedd ar 18 Tachwedd 2020 ac y bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2021.  Mae’n ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth yn ymwneud â diwygio etholiadol, cyfranogiad y cyhoedd, llywodraethu a pherfformiad a gweithio rhanbarthol.

 

Mae'r dull newydd fel y'i nodir yn y Bil, wedi'i gynllunio i fod yn ddull symlach, mwy hyblyg, wedi'i arwain gan y sector tuag at berfformiad, llywodraethu da a gwella. Y bwriad yw i Gynghorau fod yn rhagweithiol wrth ystyried sut y dylai prosesau a gweithdrefnau mewnol newid er mwyn galluogi cynllunio, cyflawni a gwneud penderfyniadau yn fwy effeithiol i ysgogi canlyniadau gwell. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBCau) yn nodwedd annatod o'r Bil, sy'n mynd trwy broses Pwyllgor y Senedd ar hyn o bryd.  Mae'r Bil yn cyflwyno:

           

           Pwerau i gynghorau gychwyn sefydlu CBCau sy'n ymwneud ag unrhyw swyddogaethau;

           Pwerau i Weinidogion Cymru sefydlu CBCau sy'n cwmpasu pedair swyddogaeth lles economaidd, trafnidiaeth, cynllunio strategol a gwella ysgolion.

 

Mae gan CBCau ran i'w chwarae o ran dod â chydlyniant i lywodraethu rhanbarthol, cryfhau democratiaeth leol ac atebolrwydd trwy integreiddio'r broses o wneud penderfyniadau. Cynigiwyd y byddai pedwar CBC rhanbarthol ledled Cymru yn cynnwys De Ddwyrain Cymru, De Orllewin Cymru, Canolbarth Cymru a Gogledd Cymru. Y syniad fyddai adeiladu lle bynnag y bo modd, ar y trefniadau rhanbarthol presennol. 

 

Esboniodd adrannau nesaf yr adroddiad rai o'r egwyddorion o ran sut y byddai'r uchod yn cael ei gyflawni, gan gynnwys rhoi manylion ynghylch swyddogaethau penodol CBCau a sut y byddai'r rhain yn cael eu llywodraethu gan reoliadau sydd newydd eu cyflwyno ar gyfer Cyd-bwyllgorau.

 

Yn ôl y Prif Weithredwr, disgwylir y byddai Cabinet Prifddinas-Rhanbarth Caerdydd (CCRC) a'r strwythur staffio yn trawsnewid yn CBC De Ddwyrain Cymru. Mae’r CCRC yn Gyd-bwyllgor Cabinet sydd eisoes yn brofiadol a dyma'r man cychwyn sylfaenol ar gyfer strategaeth.  Nodwedd allweddol dull y CCRC, oedd cryfder model Cabinet Rhanbarthol sydd ag Arweinwyr (yn cynnwys deg Arweinydd Blaenau Gwent; Pen-y-bont ar Ogwr; Caerffili; Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taff; Torfaen; a Bro Morgannwg), ),yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i wneud penderfyniadau er lles gorau'r rhanbarth.

 

Gorffennodd y Prif Weithredwr ei gyflwyniad, trwy ddweud bod adroddiad wedi'i gyflwyno i'r CCRC ar 7 Rhagfyr 2020, yn nodi egwyddorion arfaethedig dull CCRC mewn perthynas ag agenda'r CBCau a dangoswyd manylion o’r hyn oedd dan sylw ym mharagraff 4.7 o'r adroddiad.

 

Teimlai'r Arweinydd fod yr adroddiad yn garreg filltir allweddol, yn yr ystyr bod y Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol, gan felly ganiatáu i CBCau ddod yn rhan o'r ffordd y byddai gwasanaethau rhanbarthol yn cael eu hehangu a'u darparu yn y dyfodol, fel datblygiad pellach i'r gweithio ar y cyd sydd eisoes yn bodoli yn rhanbarthol.

 

Un o'r egwyddorion allweddol fyddai y byddai CBCau yn cynnwys Arweinwyr awdurdodau lleol (ymhlith aelodau eraill), a fyddai'n caniatáu i fandad democrataidd gael ei roi ar waith ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â threfniadau Craffu effeithiol hefyd. Ychwanegodd ei fod yn cefnogi'r holl egwyddorion a amlinellwyd yn yr adroddiad, a fyddai'n gwella gweithio ar y cyd rhwng sefydliadau sydd wedi'u cynnwys yn y fenter, wrth symud ymlaen. Byddai cynllun trosglwyddo a fframwaith ar gyfer cytundebau cyfreithiol yn cael eu sefydlu er mwyn symud ymlaen gyda’r CBCau a oedd yn hanfodol. Fodd bynnag, pwysleisiodd y byddai gan hyn oblygiadau o ran cost.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol at baragraff 4.5 yr adroddiad, lle soniodd y byddai CBCau yn debygol o fod yn rhwym wrth ddeddfwriaeth fel Deddf Cydraddoldeb 2010,Deddf yr Iaith Gymraeg a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Roedd yn tybio y byddai'r rhain yn berthnasol yn awtomatig?

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei fod yn llwyr ddisgwyl i hyn ddigwydd ac mae'n debyg bod y derminoleg hon wedi'i defnyddio, gan fod y rheoliadau ar hyn o bryd yng nghamau olaf y fformat drafft yn hytrach na’u bod wedi cael eu cymeradwyo'n llawn.  

 

PENDERFYNWYD:        Bod y Cabinet yn nodi a chymeradwyo’r adroddiad.  

 

Dogfennau ategol: