Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid, a'i ddiben oedd rhoi gwybodaeth i'r Cyngor am weithredu Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2021-22 a nodi'r gofyniad i Gynghorau fabwysiadu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor 2021-22 (CTR) erbyn 31 Ionawr 2021, ynghyd â'r goblygiadau ariannu.
Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod CTR yn rhoi cymorth i'r rhai ar incwm isel sydd ag atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu un cynllun a ddiffiniwyd yn genedlaethol a nodir mewn rheoliadau ar gyfer darparu cymorth gyda'r Dreth Gyngor yng Nghymru. Mabwysiadodd y Cyngor y CTR ar gyfer 2020-21 yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a fydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2021. Ar hyn o bryd roedd 13,216 o aelwydydd yn derbyn CTR, roedd 8,454 o'r rhain o oedran gweithio ac roedd 4,762 o oedran pensiwn. O'r 13,216 o aelwydydd a oedd yn derbyn CTR, roedd gan 10,212 hawl i ostyngiad CTR llawn.
Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod y cynllun CTR yng Nghymru yn cael ei bennu gan reoliadau a wnaed o dan Atodlen 1B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (fel y'i mewnosodwyd gan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012). Roedd Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2021 bellach wedi'u gosod ac wedi gwneud diwygiadau i:
· gwneud darpariaeth bod taliadau iawndal a wneir o dan y Cynllun Iawndal Windrush yn cael eu diystyru o gyfalaf wrth benderfynu a yw ceisydd yn gymwys i gael gostyngiad, a swm y gostyngiad hwnnw.
· darparu sut y mae taliadau credyd cynhwysol i hawlwyr sydd wedi cyrraedd oedran cymhwyso credyd pensiwn y wladwriaeth yn cael eu hystyried wrth benderfynu a ydynt yn gymwys i gael gostyngiad a swm y gostyngiad.
Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd y rheoliadau newydd yn cynnwys unrhyw newidiadau sylweddol o safbwynt yr hawlwyr i'r cynllun presennol, ac roedd uchafswm y cymorth y gallai hawlwyr cymwys ei gael yn parhau i fod yn 100%. Esboniodd y disgresiwn cyfyngedig a roddwyd i'r Cyngor, i gymhwyso elfennau dewisol a oedd yn fwy hael na'r cynllun cenedlaethol fel a ganlyn:-
· Y gallu i gynyddu'r cyfnod lleihau estynedig safonol o 4 wythnos a roddir i bersonau ar ôl iddynt ddychwelyd i'r gwaith (lle maent wedi bod yn derbyn CTR o'r blaen sydd i ddod i ben o ganlyniad i ddychwelyd i'r gwaith);
· Disgresiwn i gynyddu swm Pensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiynau Gweddwon Rhyfel sydd i'w ddiystyru wrth gyfrifo incwm yr hawlydd; ac
· Y gallu i ôl-wneud y defnydd o CTR mewn perthynas â hawliadau hwyr cyn y cyfnod safonol newydd o dri mis cyn yr hawliad.
Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid ei bod yn ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu Cynllun CTR pa un a yw'n cymhwyso unrhyw un o'r elfennau dewisol ai dim. Os bydd y Cyngor yn methu â gwneud cynllun, yna bydd cynllun diofyn yn gymwys. Dim ond os yw'n gwneud ei gynllun ei hun o dan y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig y gall y Cyngor gymhwyso disgresiwn.
Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod ymgynghoriad ar y Rheoliadau Gofyniad Rhagnodedig wedi'i gynnal yn 2016 a bod y canlyniadau wedi'u nodi yn adroddiad y Pennaeth Cyllid i'r Cyngor ar Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar 11 Ionawr 2017. Gan y cynigiwyd peidio â newid yr elfennau dewisol, nid oedd ymarfer ymgynghori pellach wedi'i gwblhau. Cynigiwyd bod yr elfennau dewisol yn parhau fel a ganlyn:
· Cynhelir y cyfnod talu estynedig ar y safon ofynnol o 4 wythnos.
· Caiff Bensiynau Anabledd Rhyfel a Phensiynau Gweddwon Rhyfel eu diystyru’n llawn wrth gyfrifo’r hawl i CTR. Amcangyfrifir mai cost y cynnig hwn o fewn y flwyddyn ariannol yw £9,100.
· Mae ôl-dyddio'n cael ei gynnal ar y safon ofynnol o 3 mis.
Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid mai cyfanswm y gost amcangyfrifedig i'r Cyngor ar gyfer y tri chynnig hyn yw £9,100 ar gyfer 2021-22. Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid wrth y Cyngor fod yn rhaid iddo ystyried a ddylid disodli neu ddiwygio ei gynllun CTR a'i bod yn ofynnol iddo wneud cynllun o dan ofynion y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. Mae'r rhwymedigaeth yn ddyletswydd statudol ac mae'n berthnasol hyd yn oed pe bai'r Cyngor yn dewis peidio â chymhwyso unrhyw un o'r disgresiynau sydd ar gael iddo. Dywedodd mai'r dull a argymhellir gan y Cyngor o ymdrin â'r disgresiwn sydd ar gael yw cymhwyso'r argymhellion yn Nhabl 1, ym mharagraff 4.23 o'r adroddiad. Nid oes arian ychwanegol ar gael gan Lywodraeth Cymru i ariannu'r elfennau dewisol.
Adroddodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid ei bod yn ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu cynllun erbyn 31 Ionawr 2021 o dan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, pa un a yw'n dewis cymhwyso unrhyw un o'r elfennau dewisol ai peidio. Os bydd y Cyngor yn methu â gwneud cynllun, yna bydd cynllun diofyn yn gymwys o dan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a Chynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2013.
Hysbysodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid y Cyngor o oblygiadau ariannol y cynllun gan fod Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro 2021-22 yn dangos bod y swm a ddarperir ar gyfer CTR ledled Cymru ar yr un lefel â 2020-21. Mae setliad dros dro 2021-22 y Cyngor hwn gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys £13.088 miliwn i ariannu'r cynllun CTR, gostyngiad o £96,000 o'r dyraniad o £13.184 miliwn yn 2020-21; nid oedd y swm hwn yn ystyried unrhyw gynnydd mewn taliadau treth gyngor ond fe'i dosberthir yn seiliedig ar wariant ar gynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor mewn blynyddoedd blaenorol ac mae'n annhebygol o newid yn y setliad terfynol. Yn seiliedig ar y llwyth achosion presennol, amcangyfrifir mai cyfanswm cost y cynllun ar gyfer 2021-22 yw tua £15.8 miliwn (gan gynnwys cost yr elfennau dewisol), sydd £2.712 miliwn yn uwch na'r arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2021-22 ar hyn o bryd yw £15.654 miliwn, sy'n cynnwys cyllid ychwanegol i fodloni'r cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor yn yr MTFS. Byddai hyn yn cael ei adolygu'n barhaus yn ystod y flwyddyn ariannol.
PENDERFYNWYD: Bod y Cyngor wedi:
(a) Nodi Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, a rheoliadau diwygio 2014 i 2021.
Mabwysiadu cynllun 2021-22 Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a nodir ym mharagraffau 4.18 i 4.23 o'r adroddiad.
Dogfennau ategol: