Agenda item

Y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-22 i 2024-25

GwasanaethauCymdeithasol a Lles

 

Gwahoddwyr:

Cynghorydd Huw David, Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Cabinet Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cabinet Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid (dros dro)

Claire Marchant, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cynghorydd

Mark Shephard Prif Weithredwr

Kelly Watson Prif SwyddogGwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio

 

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Deborah Exton Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant

Christopher Morris - Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

 

CyfarwyddiaethPrif Weithredwyr

 

Gwahoddwyr:

Cynghorydd Huw David, Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Cabinet Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid (dros dro)

Mark Shephard Prif Weithredwr

Kelly Watson Prif SwyddogGwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio

 

Deborah Exton, Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro

Martin Morgans, Pennaeth Gwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Christopher Morris, Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid drosolwg o’r adroddiad, a’i ddiben oedd cyflwyno Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC/y Strategaeth) ddrafft 2021-22 i 2024-25 i’r Pwyllgor, oedd yn nodi blaenoriaethau gwario’r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb oedd wedi cael eu targedu ar gyfer yr arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2021-2025 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2021-22.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid am ei throsolwg cryno o’r adroddiad. Gofynnodd yr Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

 

Nododd Aelod fod gan yr adroddiad ddau Atodiad, un yn cynnwys Pwysau Cyllidebol ac un gyda Chynigion Lleihau’r Gyllideb. Ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (SSWB) cynigiwyd pwysau o £5 miliwn, ac eto ar arbedion y gyllideb, roedd y cyfanswm tua degfed rhan. Roedd yn hysbys bod Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn adran adweithiol ac y gallent weld gorwariant o ryw £2 filiwn. Gofynnodd i’r Swyddogion roi sylwadau ar y gwahaniaeth rhwng y ddau ffigur.

 

Cydnabyddai’r Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn wasanaeth oedd yn cael ei arwain gan y galw a bod pwysau cyson ar y gyllideb. Roedd llawer o ddarnau o waith ar y gweill i reoli’r galw hwnnw, ond roedd hwn yn un o’r gwasanaethau yr effeithiodd Covid-19 yn ddifrifol arnynt. Roedd yna gyfleoedd a ddylai ei gwneud yn bosibl cyflawni mwy o arbedion effeithlonrwydd, ond byddai hynny’n cymryd amser. Nid oedd yr arbedion a’r pwysau yn gysylltiedig o reidrwydd, roedd gwahanol resymau drostynt, felly byddai pwysau yn dal i fod o hyd, ond nid oedd hynny’n atal cyfleoedd i sicrhau arbedion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hon wedi bod yn flwyddyn wahanol i bob un arall. Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn wasanaeth oedd yn cael ei arwain gan y galw ac roedd yn ymateb yn statudol i anghenion yr unigolion a’r cymunedau oedd yn cael eu gwasanaethu. Roedd ymarfer wedi cael ei drawsnewid dros nifer o flynyddoedd, gan weithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar gryfder a chanolbwyntio ar yr hyn y gallai pobl ei wneud. Câi pobl â lefel uchel iawn o anghenion gofal a chymorth eu cysylltu â chymunedau, a châi eu hanghenion eu hateb mewn ffyrdd a olygai nad oeddent mor ddibynnol ar wasanaethau gofal a chymorth traddodiadol. Bu gostyngiadau yn nifer y bobl oedd wedi dod i mewn i gartrefi gofal, oherwydd buddsoddi mewn gwasanaethau ailalluogi ac roedd hwn yn un o’r meysydd o arbedion. Roedd cyfleoedd i ddarparu gweithgareddau yn ystod y dydd i bobl yn cael eu gweld yn wahanol iawn. Nid oedd yn golygu bod y pwysau wedi diflannu ond roeddent yn ymwneud â chwantwm y gwasanaeth a ddarperid, oedd yn gysylltiedig â’r ddemograffeg. Roedd yna boblogaeth oedd yn heneiddio oedd yn golygu bod gofyn cynyddol am ofal a chymorth i rai ac adlewyrchwyd hynny ym mhwysau’r gyllideb. Yn ogystal, roedd hyn yn ymwneud â chost darparu gwasanaethau. Roedd y gweithlu gofal cymdeithasol wedi bod ar flaen yr ymateb i’r pandemig a chafodd gwerth y gweithlu ei gydnabod ym mhwysau’r gyllideb y gyllideb o ran y cynnydd. Bu creadigrwydd cynyddol yn ystod y pandemig. Defnyddiwyd taliadau uniongyrchol yn hyblyg ar gyfer plant ac oedolion oedd ag anghenion gofal a chymorth, er mwyn iddynt reoli eu hanghenion cymorth eu hunain, ac adlewyrchwyd y rheiny yn y pwysau. Byddai trawsnewid o hyd o ran y gwasanaethau a ddarperid tra’n parhau i adeiladu ar y cryfderau oedd yn ei gwneud yn bosibl cyflawni pethau yn fwy cost effeithiol, a dyna pam roedd arbedion o ran ymarfer ac o ran cyfleoedd dydd, y tynnwyd sylw atynt yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (y Strategaeth).

 

Cynigiodd yr Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar ei sicrwydd i’r Aelodau fod hwn yn gyfnod o drawsnewid cadarnhaol. Roedd swyddogion yn meddwl ymlaen ac yn brofiadol, ac yn gweithio ar newidiadau oedd yn seiliedig ar dystiolaeth, ond nid oeddent wedi gweld manteision yr arbedion oedd wedi cael eu nodi. Roedd ffrydiau arian grantiau newydd yn dod i’r amlwg drwy’r amser, oddi wrth Lywodraeth Cymru (LlC) ac roedd yn ymwneud ag ymateb iddynt a beth fyddai’r blaenoriaethau ariannu newydd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y tîm yn ymateb i bwysau oedd yn gwbl anhysbys ac yn awr, oherwydd Covid-19 hir, byddai pwysau gofal cymdeithasol oddi wrth oedolion llawer iau. Nid oedd syniad o gwbl beth fyddai’r galwadau ar y gwasanaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 43, SSW3 a chyfeiriodd at y Cyflog Byw Cenedlaethol a gofynnodd am eglurhad ai dyma’r cyflog byw gwirioneddol ynteu’r un sylfaenol, ac a fyddai telerau ac amodau’r holl wasanaethau a gomisiynid yn cael eu gweithredu o dan y cyngor caffael moesegol a phartneriaeth y gweithlu.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles i’r Aelod fod hyn yn seiliedig ar y cyflog byw cenedlaethol. Roedd cydnabyddiaeth ariannol i’r Sector Gofal Cymdeithasol yn fater oedd yn derbyn sylw sylweddol gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Roedd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar Bapur Gwyn oedd yn nodi rhai o’r heriau yr oedd y Sector Gofal Cymdeithasol yn eu hwynebu, gan gydnabod bod angen gwneud rhai newidiadau sylweddol fesul cam yn y ffordd y câi gwasanaethau eu comisiynu wrth symud ymlaen. Ar lefel Genedlaethol Llywodraeth Cymru, cydnabyddid bod angen peth buddsoddiad cynaliadwy yn y gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael â’r materion oedd yn cael eu hwynebu. Soniai Strategaeth y Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol am weithio tuag at barch cydradd â’r GIG o fewn cyfnod o 5 mlynedd, ond roedd hwn yn gynnig heriol. Rhoddodd sicrwydd bod yr Awdurdod Lleol, mewn perthynas a gwasanaethau a gomisiynid, yn gweithio i raddau helaeth yn ôl yr egwyddorion a nodwyd yn y Papur Gwyn. Roedd yna ddealltwriaeth bod problemau polisi sylweddol ar lefel genedlaethol, oedd yn dal heb eu datrys o hyd, ac y byddai’r Papur Gwyn yn ceisio casglu barn yn eu cylch, o ran datrysiad.

 

Nid oedd yr Aelod yn teimlo bod y cwestiwn wedi cael ei ateb. Gofynnodd am warant, o ran y gwasanaethau a gomisiynid, y dylid talu’r cyflog byw sylfaenol i’r holl staff a phob contractwr.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles na allai roi gwarant ar hyn o bryd, gan nad dyna oedd yn cael ei adlewyrchu yng nghynigion y Strategaeth yr oeddent yn craffu arni. Seiliwyd cynigion y strategaeth ar y cyflog byw cenedlaethol.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 39, SSW2 a gofynnodd am eglurder yngl?n â’r ffigur gan ei fod yn cwmpasu llu o feysydd ac roedd arno eisiau gwybod faint oedd yn gysylltiedig â Thaliadau Uniongyrchol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y pwysau yn eu cyfanrwydd yn gysylltiedig â Thaliadau Uniongyrchol. Cyfeiriwyd at gymhlethdod oherwydd bod gwaith achos yn gymhleth yn ogystal â bod cynnydd yn y cwantwm. Roedd yr heriau a wynebid yn golygu bod angen bod yn hyblyg o fewn y capasiti a’r galluoedd, oedd wedi arwain at gynnydd yn y defnydd o Daliadau Uniongyrchol, er mwyn rhoi hyblygrwydd i unigolion sicrhau eu cefnogaeth mewn ffordd oedd yn gweithio iddynt hwy. Teimlai fod y disgrifiad yn gywir gan ei fod yn ymwneud â chynnydd yn nifer y Taliadau Uniongyrchol yn ogystal â chymhlethdod yr anghenion yr oedd y Taliadau Uniongyrchol hynny’n eu cefnogi.

 

Nododd yr Aelod fod y ffigur yn y golofn oedd yn codi dro ar ôl tro, ond na châi ei ddangos ar draws y blynyddoedd i ddod.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid na fyddai’r ffigur yn mynd dros bob un o’r blynyddoedd, fe’i rhoddid i mewn unwaith, ac yna roedd yn mynd i mewn i’r gyllideb sylfaenol.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 39, SSW3 a dywedodd fod cwestiwn mawr ynghylch comisiynu contractau. Pan gawsant eu cyflwyno, roedd hynny oherwydd arbediad ariannol, gan nad oedd pobl yn derbyn yr isafswm cyflog cenedlaethol. Nododd ei fod yn £429 mil ar gyfer 2020-21 ac yna’r swm yn cael ei ailadrodd. Teimlai fod angen adolygiad difrifol o ran y contractau a gomisiynid er mwyn dechrau edrych ar fodelau cydweithredol, defnyddio adnoddau mewnol ac yn y blaen gan nad hon oedd yr unig ffordd. Teimlai ei fod yn swnio fel pe na bai’n arbed arian mewn gwirionedd, er mai dyna oedd y syniad pan gafodd ei gyflwyno.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles mai un o’r blaenoriaethau strategol oedd adolygu’r ffordd y comisiynid Gofal Cartref. Yn debyg i lawer o awdurdodau eraill, bwriadai’r Awdurdod Lleol symud tuag at ffordd o gomisiynu oedd yn canolbwyntio mwy ar ganlyniadau, fyddai’n herio rhai o’r ffyrdd traddodiadol oedd yn seiliedig ar dasgau ac amser. Gwelwyd arloesedd a chreadigrwydd yn ystod y pandemig gyda grwpiau o ddarparwyr yn cydweithio. Roedd hi wedi siarad yn gynharach am ymarfer oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac a oedd yn seiliedig ar gryfderau; roedd angen i hyn gael ei adlewyrchu yn y ffordd y câi gwasanaethau eu comisiynu. Byddai’n rhoi’r hyblygrwydd angenrheidiol i’r gweithwyr gofal, oedd yn gweld pethau ar y rheng flaen. Roedd y berthynas â darparwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn golygu, pan fyddai’r Awdurdod Lleol yn dod i ailgomisiynu darpariaeth gofal cartref yn ffurfiol, y byddai mewn sefyllfa dda i symud i fodel gwahanol.

 

Eglurodd yr Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar mai ei huchelgais hi, a’r Cabinet, oedd i’r adran gaffael edrych ar ganlyniadau eraill, ar wahân i rai ariannol, gan gynnwys manteision cymunedol, manteision cymdeithasol, y ffocws ar yr unigolyn a’r cymunedau oedd yn cael eu gwasanaethu. Roedd hynny’n bendant yn rhywbeth oedd yn cael ei ystyried ac roedd hi’n cwestiynu hyn ar bob pwynt. Roedd hi’n ymrwymedig i sicrhau bod gweithwyr gofal cartref ar gontract allanol yn derbyn cyflog byw da, gan eu bod yn aelodau pwysig iawn o’r gymuned, a llawer ohonynt yn gweithio oriau hir. Nododd ei fod yn effeithio ar ferched yn arbennig, rhywbeth yr oedd yr argyfwng wedi’i ddangos.

 

Cytunai’r Cadeirydd â’r Aelod o’r Cabinet a dywedodd mai’r bobl hyn oedd rhai o’r gweithwyr pwysicaf, yn enwedig yn ystod y pandemig hwn, ac yn sicr y dylent dderbyn yr union dâl yr oedd ganddynt yr hawl iddo.

 

Roedd yr Aelod yn derbyn ac yn gwerthfawrogi’n llawn yr hyn yr oedd yr Aelod o’r Cabinet wedi’i ddweud ond teimlai fod angen eglurder ynghylch y tâl yr oedd pobl yn ei dderbyn yn y contractau hyn, gan nad oedd yn swnio fel pe bai’n cyd-fynd â’r hyn yr oedd y Cyngor wedi ymrwymo iddo.

 

Dywedodd y Cadeirydd mai’r gobaith o hyn ymlaen oedd y gellid sicrhau’n bendant y byddai pawb ymhob contract yn derbyn y tâl yr oedd ganddo hawl iddo a’r hyn a ddylai gael ei dalu iddo.

 

Gofynnodd Aelod a oedd staff asiantaeth wedi cael eu defnyddio yn ystod y pandemig, pan oedd staff wedi bod yn sâl, a beth oedd y gost.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod gweithlu’r asiantaethau wedi cael ei ddefnyddio. Roedd y pandemig hwn wedi effeithio’n aruthrol ar staff y rheng flaen, o ran natur eu gwaith. Roeddent wedi bod yn agored i’r feirws, oherwydd eu bod yn byw ac yn gweithio yn yr un cymunedau. Roedd pobl wedi mynd yn sâl eu hunain ac roedd yn ofynnol i rai hunanynysu, ac felly roedd hynny wedi golygu bod angen dod â gweithlu’r asiantaethau i mewn. Roedd y Cyngor wedi elwa o gronfa galedi’r gofal cymdeithasol i gefnogi’r sector. Bu arian ychwanegol i fynd i ofal cartref ac i ddarparwyr gofal preswyl, i’w galluogi i wrthbwyso effaith y costau ychwanegol hynny yn ymwneud â’u gweithlu a’r costau ychwanegol yr oeddent wedi gorfod mynd iddynt.

 

Dywedodd yr Aelod y byddai’n dal i hoffi cael y costau, os yn bosibl, o ran staff asiantaethau a pha gyflog yr oeddent arno. A oeddent yn gyfartal â staff awdurdodau lleol; oedden nhw’n cael mwy ynteu’n cael llai?

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 42, SSW1 a’r arbediad o £90 mil. Er mai dim ond 3% o’r gyllideb ydoedd, cyn y gellid cytuno ar bethau fel hyn teimlai fod angen i’r Pwyllgor gael gwybod beth oedd yr effaith a beth oedd y dulliau eraill o ddarparu’r gwasanaethau.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y byddai’r Aelodau’n cofio adroddiadau Craffu blaenorol ar yr adolygiad o gyfleoedd yn ystod y dydd ochr yn ochr â’r agenda atal a lles. Mae’r pandemig wedi atal rhai o’r cynlluniau hynny o ran cydnerthedd cymunedol. Roedd y ddarpariaeth gyffredinol o gyfleoedd yn ystod y dydd yn dal i gael ei hystyried a’i hadolygu’n gyson, gyda’r profiad dros y 10 mis diwethaf yn ail-lunio sut y byddai hynny’n cael ei wneud. O ran y £90 mil, yr hyn oedd wedi cael ei wneud oedd edrych ar lefelau cyfredol y gyllideb, yn y meysydd hynny, a lle roedd swyddi gwag, lleihau’r cyllidebau heb unrhyw effaith uniongyrchol ar ddarparu gwasanaethau. Byddai hyn yn gyraeddadwy yn y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Gofynnodd yr Aelod ai arbediad staff oedd y £90 mil a beth oedd y staff hynny’n ei wneud o’r blaen ac a oedd y gwaith hwnnw’n mynd i gael ei ychwanegu at waith pobl eraill.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion i’r Aelod y gallai hi ddod yn ôl at yr Aelod gydag esboniad llawnach ond bod y rhain yn swyddi gwag oedd yn cael eu dal o fewn y gwasanaeth.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig i Aelodau wybod bod y galw am wasanaethau dydd wedi newid. Roedd rhan o hyn yn adlewyrchu’r pwysau y soniwyd amdanynt yn gynharach o ran taliadau uniongyrchol. Gwelwyd bod rhai preswylwyr yn dewis defnyddio taliadau uniongyrchol, yn lle hynny, i dalu am wasanaethau yr oeddent yn eu rheoli eu hunain. Roedd hyn wedi galluogi strwythur y gwasanaethau dydd hynny i newid. Roedd y gwasanaeth wedi esblygu dros y blynyddoedd, arbedion a mesurau effeithlonrwydd wedi eu gwneud, ond roedd hefyd wedi ymateb i wahanol ofynion gan ddefnyddwyr gwasanaeth, oedd yn bwysig. Awgrymodd y gellid dod â mwy o wybodaeth yn ôl i’r Aelodau yngl?n â hynny.

 

Cyfeiriodd Aelod at y modd yr oedd y galw am wasanaethau dydd wedi newid ac roedd yn meddwl tybed pa arbedion/effaith yr oedd hynny’n ei gael ar y ganolfan gofal dydd?

 

Esboniodd yr Arweinydd fod gwasanaethau dydd wedi parhau i gael eu darparu yn ystod y pandemig, ond mewn ffordd wahanol, gyda chymorth wedi’i gyfeirio at lawer o’r preswylwyr hynny gartref, oedd wedi achosi pwysau gwahanol. O ran newidiadau mwy hirdymor mewn gwasanaethau, roedd canlyniadau gwell wedi cael eu cyflawni i rai o’r trigolion hynny, oherwydd eu bod yn fwy annibynnol, gyda rhai’n manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth, ac roeddent wedi bod yn hapusach gyda’r canlyniadau. Roedd arbedion effeithlonrwydd eisoes wedi cael eu gwneud yn y gwasanaeth dydd, gyda nifer llai o safleoedd a’r strwythur staffio yn dal i gael ei ad-drefnu, i adlewyrchu hyn. Roedd yn hanfodol pwysleisio bod pobl yn dal i gael eu cefnogi, ond mewn ffordd wahanol. Roedd ar rai pobl eisiau mynd i un lle a gwneud yr un gweithgareddau ond roedd ar bobl eraill eisiau gweithgareddau mwy personol ac unigol, a dyna oedd yn cael ei gyflwyno a’i ddarparu iddynt.

 

O ran cefnogi pobl yn y gymuned gofynnodd yr Aelod ai trigolion, oedd yn derbyn taliadau uniongyrchol, oedd mewn gwirionedd yn talu am y cymorth hwnnw, ynteu a oeddent yn cael y cymorth hwnnw drwy’r gwasanaethau cymdeithasol.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y bu taith sylweddol o newid mewn cyfleoedd yn ystod y dydd ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion a bod dros £1 filiwn wedi cael ei arbed dros y 6 blynedd ddiwethaf.  Roedd cryn dipyn wedi cael ei wneud i wella datblygiadau cymunedol, rhai drwy gymorth drwy’r gwasanaethau cymdeithasol. Roedd rhywfaint o hyn yn ymwneud â hybu annibyniaeth oherwydd bod pobl yn gallu cael gafael ar yr hyn yr oedd arnynt ei angen yn y gymuned. Nid oedd un model yn addas i bawb, oherwydd bod gan bawb anghenion gwahanol. Erbyn hyn cafwyd 10 mis o brofiad o ddarparu rhywbeth gwahanol mewn cymunedau a chefnogi pobl mewn llawer o wahanol ffyrdd. Ar hyn o bryd, roedd y gwasanaeth yn myfyrio ar yr hyn a ddigwyddodd drwy siarad â phobl oedd wedi cael cymorth ac edrych ar y model, yng ngoleuni hynny. Gallai fod newidiadau sylweddol, neu newidiadau bychain, gallai rhai fod drwy daliadau uniongyrchol, ond dim ond un dewis oedd hwnnw ymhlith amryw oedd yn cael eu hystyried ar hyn o bryd.

 

Diolchodd yr Aelod i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion am ei hesboniad a gofynnodd beth fyddai dyfodol Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion mai hwn oedd un o’r adeiladau pennaf o ran yr hyn a ddarperid yno, gofal arbenigol iawn ar hyn o bryd, a hoffai i hynny barhau o ran gwella’r gofal arbenigol hwnnw ac o bosibl fel canolbwynt gyda phartneriaid eraill. Roedd angen rhai lleoedd arbenigol er mwyn cynorthwyo’r bobl â’r anghenion mwyaf cymhleth, gan gynnwys unigolion ag anabledd dysgu a dementia, ac felly dyna fyddai peth o’r modelu fyddai’n cael ei wneud dros yr ychydig fisoedd nesaf.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles y bu arloesedd a chreadigrwydd enfawr, dros y blynyddoedd, a chan adeiladu ar hynny, ei bod yn bwysig gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu ac anableddau eraill a theuluoedd a gofalwyr, wrth gynllunio’r gwasanaethau hynny ar gyfer y dyfodol. Roedd ar y rhan fwyaf o bobl ag anableddau dysgu eisiau gweithio a chyfrannu. Roedd yna rai cynlluniau gwych, y gellid adeiladu arnynt, ac roedd hi’n bwysig peidio â gosod patrwm heddiw, ond bod hyn yn cael ei wneud ochr yn ochr â’r bobl oedd yn defnyddio’r gwasanaethau mewn gwirionedd.

 

Gofynnodd Aelod sut y câi taliadau uniongyrchol eu monitro a’u hadolygu. 

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles eu bod yn cael eu harchwilio. O safbwynt ariannol, yn yr un modd ag yr oedd ar bawb oedd yn derbyn gofal a chymorth, roedd arnynt angen cynllun, a chaent adolygiad unwaith bob blwyddyn o leiaf gan eu gweithiwr cymdeithasol. Caent eu hadolygu yn y ffordd honno o ran adolygu’r cynllun gofal hefyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 42, SSW2 ac esboniodd na allai weld sut yr oedd y naratif yn ymwneud â’r gostyngiadau oedd yn cael eu cynnig yn y gyllideb a gofynnodd sut yr oedd y naratif yn perthyn i’r ffigurau.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod y rhain yn rhai anodd am nad oeddent yn ymwneud â gwasanaeth penodol, adeilad neu aelodau penodol o staff. Adeiladwyd yr arbedion yn gronnol drwy weithio yn y ffordd seiliedig ar gryfder, gan gefnogi pobl â gofal a chymorth mewn gwahanol ffyrdd, a olygai, yn gronnol, fod llai o arian yn cael ei wario. Drwy weithio gydag unigolion i ddeall yr hyn oedd yn bwysig iddynt, efallai y byddai’n well ganddynt gael mynediad i ganolfan gymdeithasol neu ganolbwynt cymunedol, yn ystod y dydd, gan leihau nifer yr ymweliadau gofal cartref y byddent yn eu cael bob dydd. Maent yn hapusach ac mae eu canlyniadau’n well ac mae peth gostyngiad yn y gyllideb. O ganlyniad, gallai fod 100 o bobl y mae addasiadau tebyg yn cael eu gwneud i’w cynllun gofal, gan adeiladu yn y ffordd sy’n seiliedig ar gryfderau. Roedd yn anodd rhestru’r holl newidiadau unigol hynny.

 

Eglurodd yr Aelod ei fod yn deall yr hyn yr oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn ei ddweud, ond gofynnodd pam eu bod yn goch am y ddwy flynedd ddilynol.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles eu bod yn goch oherwydd yr ansicrwydd o ran dod drwy gyfnod Covid-19 ac roedd yr hyn a welwyd yn eithaf anarferol o ran y ffordd y câi gofal a chymorth ei ddarparu. Bu gostyngiad sylweddol yn nifer y lleoliadau mewn cartrefi gofal, oedd yn ddealladwy a chynnydd yng nghymhlethdod y gofal a’r cymorth yn y gymuned oherwydd bod pobl yn aros yn eu cartrefi eu hunain. Er bod gobaith i’r brechlyn gael ei gyflwyno ac y gallai Llywodraeth Cymru leihau’r cyfyngiadau, nid oedd neb yn gwybod faint o amser y byddai hyn yn ei gymryd ac felly ni ellid cynllunio ar gyfer y bobl ag anghenion gofal a chymorth gystal ag arfer oherwydd effaith hynny.

 

Eglurodd yr Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod yr Awdurdod Lleol wedi bwriadu, cyn argyfwng Covid-19, dechrau gwthio agenda’r confensiwn, cydgynhyrchu, gweithio gyda chymunedau, drwy gyllid trawsnewid. Roedd Covid-19 wedi gohirio popeth ac nid oedd y ffordd honno o weithio yn bosibl nes y gallai pobl ddechrau dod at ei gilydd eto. Ni ellid tanbrisio’r elfennau anhysbys a ddaeth allan o Covid-19 ac felly bu’n rhaid i’r cynigion i leihau’r gyllideb aros yn goch.

 

Dywedodd Aelod nad oedd ef yn glir o gwbl ar SSW2 a theimlai fod angen mwy o eglurder yn y naratif.

 

Diolchodd Aelod i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles am ei sylwadau ond nid oedd yn teimlo y gallai wneud unrhyw gynigion yn seiliedig ar y ddogfennaeth a ddarparwyd, gan nad oedd dim i wneud unrhyw argymhellion yn ei gylch.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles ei bod yn derbyn y sylwadau am yr angen i fod yn llawer cliriach yn y nodiadau esboniadol ynghylch beth yn union a olygid a gobeithiai fod ei hesboniad cynharach yn cefnogi’r hyn oedd yn cael ei gynnig. Roedd taliadau uniongyrchol yn rhan o’r ateb hwnnw ond roedd mwy bob amser yr oedd angen ei wneud i ddatblygu’r modelau cymunedol. Tynnodd sylw’r Aelodau at y ffaith fod cyfres uchelgeisiol iawn o gynigion gan bartneriaid Pen-y-bont ar Ogwr, i adeiladu ar yr holl waith da oedd eisoes wedi cael ei wneud ac i fynd â’r awdurdod lleol i’r lefel nesaf, o ran trawsnewid ond byddai arian y flwyddyn nesaf yn llai na’r disgwyl a byddai hynny’n gosod heriau gwirioneddol i bartneriaid ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, o ran cyflawni’r agenda hon. Roedd angen edrych ar achosion busnes diwygiedig, y gellid eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu, er mwyn cyflawni’r amcanion hyn oedd yn ychwanegu at y sgôr RAG goch a nodwyd eisoes oherwydd Covid-19.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw ffordd o wella cyfathrebu, heb fradychu unrhyw fath o gyfrinachedd, fel y gallai’r cyhoedd gael gwell dealltwriaeth o’r hyn a ddarperid gan y Gyfarwyddiaeth. Roedd yna ganfyddiad bod praesept y Cyngor yn cael ei ddefnyddio ar gasglu gwastraff, gofalu am y ffyrdd, ac yn y blaen, pan oedd swm mawr o arian cyhoeddus, mewn gwirionedd, yn cael ei wario ar ofalu am bobl oedd yn agored i niwed.

 

Gofynnodd Aelod, gan esbonio ei phrofiad ei hun, a oedd yr Awdurdod Lleol yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am bob adolygiad o achosion cymhleth am ei fod yn un ffordd o arbed swm enfawr o arian.

 

Cytunai’r Aelod o’r Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar â’r Aelod blaenorol a dywedodd fod y Gyfarwyddiaeth wedi cynyddu ei chyfathrebu cadarnhaol dros y flwyddyn ddiwethaf ond bod lle bob amser i straeon cadarnhaol, oedd yn dangos yn union beth oedd yn cael ei wneud.

 

Cytunai’r Prif Weithredwr yn llwyr â’r her Gyfathrebu a gobeithiai fod y cynnydd sylweddol mewn Cyfathrebu wedi bod yn amlwg dros y flwyddyn ddiwethaf er mwyn sicrhau bod yr Aelodau a’r cyhoedd yn derbyn ffrwd o gyfathrebiadau a datganiadau i’r wasg. Roedd yr her yn her i bawb, gan gynnwys Cyfarwyddwyr ac Aelodau etholedig, nid y Tîm Cyfathrebu’n unig. Roedd yn amlwg bod diffyg o ran dealltwriaeth e.e. nid oedd pobl yn deall faint yr oedd pecyn gofal yn ei gostio yn yr un modd ag nad oeddent yn deall ei fod yn costio £5 mil y flwyddyn i anfon plentyn i’r ysgol. Roedd angen bod yn symlach a chael y negeseuon hynny allan i’r cyhoedd fel bod ganddynt well dealltwriaeth o’r pwysau ar yr Awdurdod Lleol a rhai o’r gofynion statudol, lle’r oedd angen dod o hyd i arian.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod cyfle o’r fath mewn perthynas â chyfathrebu, ar ôl Covid-19, oherwydd bod pobl yn gwerthfawrogi ac yn cydnabod cyfraniad y gweithlu gofal cymdeithasol ochr yn ochr â’r gweithlu iechyd, a byddai hi’n ymdrechu’n galetach fyth gyda chydweithwyr Cyfathrebu i sicrhau bod yr hyn a ddigwyddai ar lawr gwlad yn cael ei ddeall a’i gyfleu. O ran adolygiadau, roedd gwaith bob amser yn cael ei wneud yn y maes hwn mewn ffordd integredig gyda chydweithwyr iechyd. Roedd rhai lleoliadau’n ddrud, yn y gwasanaethau i Oedolion a’r Gwasanaethau i Blant. Roedd yr Awdurdod Lleol yn gweithredu o sail eithaf effeithlon ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gyda nifer y plant a phobl ifanc mewn lleoliadau preswyl y tu allan i’r ardal yn isel, o gymharu â gweddill Cymru. Golygai hynny, o safbwynt y gyllideb, nad oedd arbedion effeithlonrwydd pellach ar gael ond roedd yna rai sefyllfaoedd cymhleth, costus iawn, oedd yn cael eu hadolygu’n gyson ac oedd bob amser yn destun trafodaethau gyda chydweithwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu symud ymlaen a’u hadolygu yn y ffordd unigolyn-ganolog gywir gyda phartneriaid.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid bopeth oedd wedi cael ei ddweud ac ni fu erioed amser gwell, o ran cyfathrebu â’r cyhoedd a rhanddeiliaid, gyda’r ffocws enfawr ar ofal cymdeithasol. Roedd yr Awdurdod Lleol wedi anfon taflenni a llyfrau cyllideb yn y ffordd draddodiadol, ac wedi ymdrechu’n galed i fod yn arloesol wrth gysylltu â phobl, nad oedd ganddynt ddiddordeb efallai, mewn rhai achosion, yn yr hyn yr oedd y Cyngor yn ei wneud. Byddai’n edrych ar sut y gellid manteisio ar gyfle digidol ac yn gweld sut y gellid darparu gwell gwybodaeth am rai gwasanaethau statudol. Roedd yn un o’r tri pheth uchaf a ddaeth yn ôl o’r ymgynghoriad ar y gyllideb, ac felly efallai y byddai ychydig mwy o wybodaeth o gymorth.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod mwy o ymwybyddiaeth o’r gyllideb wedi bod yn thema ganolog go iawn yn yr hyn yr oedd ef wedi ceisio’i gyflawni. Byddai’n croesawu deialog adeiladol ar sut i gyfleu’r neges honno gyda mwy o eglurder yngl?n â’r hyn oedd yn cael ei ddarparu ar gyfer y cyhoedd.

 

Gofynnodd Aelod ble roedd yr Awdurdod Lleol o ran asesiadau gyda’r holl broblemau ychwanegol yn ymwneud â Covid-19.

 

Cytunodd  Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion i ddod yn ôl gyda’r ffigurau/manylion ar hynny.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Aelodau’n teimlo bod angen eglurder pellach ynghylch cefndir a sylwedd rhai cynigion er mwyn eu galluogi i wneud argymhellion ac yr hoffai’r Aelodau gael y cyfle i ailedrych ar y cynigion hyn gyda rhagor o fanylion cyn gwneud argymhellion. Roedd yr Aelodau’n cytuno a gofynnodd y Cadeirydd a oedd modd cael cyfarfod arall er mwyn gwneud argymhellion yn gyffredinol yn hyderus.

 

Yn dilyn trafodaethau, dywedodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol y gellid gohirio’r cyfarfod heddiw, ar y sail y byddai angen i’r Pwyllgor gyflwyno eu hymholiadau i’r Cyfarwyddwyr heddiw er mwyn gadael yfory iddynt i gasglu rhagor o wybodaeth ar gyfer yr Aelodau. Ar yr amod fod Aelodau a Swyddogion ar gael, gellid trefnu cyfarfod arall ar gyfer dydd Llun, y 25ain o Ionawr 2021 i ystyried yr adborth a gafwyd gan Gyfarwyddwyr. Byddai angen cwblhau’r adroddiad yn cynnwys argymhellion y Pwyllgorau Craffu Cyfunol i’w anfon ddydd Mawrth, y 26ain, er mwyn cyflawni’r gofynion statudol ar gyfer cyhoeddi’r Agenda ar gyfer Cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol oedd i’w gynnal ar y 1af o  Chwefror.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol a dywedodd y byddai Aelodau pob un o’r 4 Pwyllgor yn ddiolchgar.

 

Cytunodd yr Aelodau ar y trefniadau ar gyfer cynnal cyfarfod gohiriedig ar y dydd Llun canlynol, y 25ain o Ionawr, ac ar nodi cynigion yr oedd angen mwy o eglurder ar eu cyfer.

 

Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 40, CEX2 a gofynnodd a oedd hwn yn ymrwymiad wedi’i ariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru ac a fu cynnydd yn Setliad Llywodraeth Leol i ddarparu ar gyfer hyn.

 

Eglurodd Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod y rheoliadau wedi newid ddwywaith ac mai uchelgais Llywodraeth Cymru oedd dileu digartrefedd. O ganlyniad, rhoddwyd rhai canllawiau eithaf llym yn eu lle ar ddechrau Covid-19, a gafodd eu diweddaru a’u hatgyfnerthu oddeutu mis Gorffennaf, a olygai ddyletswydd i ddarparu llety dros dro a pharhaol. Defnyddiwyd amrywiaeth o atebion ac roedd swm anferth o waith wedi cael ei wneud gyda phartneriaid mewn Cymdeithasau Tai, yn ogystal â gwestai, Airbnb ac yn y blaen. Roedd cynghorau’n cael anhawster gwirioneddol gyda’r rheoliadau newydd ac roeddent yn gofyn am gyllid sylweddol. Roedd hynny wedi cael ei ariannu hyd yn hyn, am y flwyddyn, ond roedd wedi cael ei roi i mewn fel pwysau yn y gyllideb gan nad oedd yn hysbys a fyddai’n cael ei ariannu’n rhannol neu’n llawn. Efallai y byddai Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid yn dod yn ôl at yr Aelodau y flwyddyn nesaf ac yn dweud bod arian wedi dod i law ar ei gyfer, yn rhannol neu’n llawn, ond ni allai’r Awdurdod Lleol symud ymlaen gyda chyllideb, yn y sefyllfa honno. Roedd arwydd y gallai fod cynnydd yn y Grant Cynnal Tai, a allai negyddu rhywfaint o’r cyllid oedd yn ofynnol.

 

Dywedodd yr Aelod yr hoffai weld argymhelliad yn cael ei gyflwyno gan y Pwyllgor fod y Cabinet yn cael ei gefnogi, ochr yn ochr â CLlLC wrth lobïo Llywodraeth Cymru am becyn cymorth hirdymor, i gefnogi’r newidiadau deddfwriaethol hyn.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 40, CEX3 a gofynnodd am eglurder mewn perthynas â rôl swyddog polisi newydd, ond lleihau’r swyddogaeth Adnoddau Dynol.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr eu bod yn bethau gwahanol iawn. Roedd Adnoddau Dynol yn ymdrin yn bennaf â pholisïau mewnol ac efallai â pholisïau staff. Yr hyn oedd yn cael ei drafod yma oedd llu o anghenion i ymateb i filiau amrywiol, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Yn ogystal, roedd y swydd yn cynnwys swyddogaeth ymchwil a datblygu. Cadarnhaodd fod swyddog presennol eisoes yn cyflawni rhan o’r rôl, y telid amdano ar hyn o bryd drwy grant iechyd yn bennaf. Daeth y grant hwnnw i ben ddiwedd mis Mawrth ac roedd yn amlwg, oherwydd y strwythur rheoli darbodus, yr angen i gael rhywun a allai gynorthwyo i ymateb i ofynion deddfwriaethol yn ogystal â rhai o’r materion adfer y soniwyd amdanynt.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 40, CEX4 mewn perthynas â Trwyddedau’r Strategaeth Ddigidol TGCh a gofynnodd a oedd biliau TGCh wedi codi oherwydd bod pawb yn gweithio gartref.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth fod yr Awdurdod Lleol wedi’i gael ei hun yn ffodus o’r blaen ar ôl cael ei gloi i mewn i bris lefel isel gyda Microsoft. Yna, roedd Microsoft wedi symud ei fodel prisio i wasanaeth seiliedig yn y cwmwl, oedd wedi gweld twf dychrynllyd o ran y gost drwyddedu, gan orfodi’r Awdurdod i symud i’r cwmwl, ochr yn ochr â’r 22 Awdurdod Lleol arall. Codwyd y mater ar lefel Cymru gyfan, o ran y cynnydd yn y prisiau, ond p’un a fyddai staff yn gweithio ar safleoedd neu’n gweithio gartref byddai’r gost yn dal i fod yr un fath.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 43, CEX2 ac roedd yn bryderus, ar sail iechyd y cyhoedd, ynghylch tynnu’r gwasanaeth rheoli plâu domestig yn ôl. Gofynnodd i’r Prif Weithredwr ystyried model a fyddai’n diogelu’r rhai ar fudd-daliadau, fel y gallai’r rhai na allent fforddio talu gael gwasanaeth, tra gallai’r rhai a allai fforddio talu, wneud eu trefniadau eu hunain.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid at adroddiad y Contract Rheoli Plâu i’r Cabinet ar 19 Ionawr 2021, oedd yn rhoi manylion am Gynghorau eraill a sut yr oeddent hwy’n darparu’r gwasanaeth. Cyflwynwyd tri dewis, yr un yn y Strategaeth, gerbron yr Aelodau heddiw, sef dileu’r gwasanaeth. Roedd rhai Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn darparu’r gwasanaeth am ddim, roedd rhai yn darparu gwasanaeth ac yn codi tâl amdano ac roedd rhai yn darparu gwasanaeth oedd yn rhoi disgownt i bobl ar fudd-daliadau. Roedd y contractwr presennol wedi dweud y byddai’n ddrud eithriadol i barhau i ddarparu’r contract yn y ffordd bresennol, ar y sail eu bod yn cael nifer enfawr o alwadau oedd yn cael eu gwrthod oherwydd bod y gwasanaeth am ddim. Esboniodd fod y Cabinet wedi gofyn i’r dewisiadau gael eu hailystyried i weld pa fath o wasanaeth y gellid ei ddarparu. Roedd trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r Cydwasanaethau Rheoliadol (SRS), oedd yn darparu’r gwasanaeth yng Nghaerdydd a’r Fro, er na fyddent yn derbyn y gwasanaeth tra byddai’n gwbl am ddim oherwydd bod lefel y galwadau a wrthodid mor uchel, felly nid oedd yn gost-effeithiol iddynt wneud hynny. O ran y Strategaeth, byddai hwn yn un y byddai’n rhaid ei ddileu fel cynnig ar gyfer arbediad gan na chytunodd y Cabinet ar y dewis hwnnw ddydd Mawrth.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 44, CEX5 a gofynnodd am eglurder pellach gan fod y naratif yn sôn am fethiant i gwrdd â dyddiadau cau statudol, adborth negyddol gan archwilwyr allanol a chynyddu’r amser a gymerid i ddelio â’r dreth gyngor a thai, nad oedd yn dderbyniol.

 

Eglurodd Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod pob toriad er mwyn cynilo yn cael effaith. Roedd Cyllid wedi edrych ar bob un maes, i geisio canfod ble y gallai wneud arbedion ac a fyddai trefnu ailstrwythuro, na fyddai o reidrwydd yn arwain at ddiswyddiadau, ond fyddai’n ei gwneud yn bosibl symud gwasanaethau a swyddogaethau o gwmpas, er mwyn creu’r arbediad. Roedd yn ffaith syml y byddai arbedion, neu doriadau i nifer y bobl er bod y galw’n aros yr un faint, yn arwain at amserlenni hirach, oni ellid dod o hyd i ffyrdd eraill o wneud pethau e.e. drwy fynediad digidol, yr oeddent yn edrych i mewn iddo. Credai fod hwn yn arbediad y gellid ei gyflawni ond y byddai’n anochel y byddai rhywfaint o effaith.

 

Dywedodd yr Aelod na allai ef gefnogi oedi i Hawliadau’r Dreth Gyngor na Budd-dal Tai.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 43, CEX2 a nododd ei fod yn falch o weld yr adroddiad yn cael ei gyflwyno a gofynnodd sut y gwerthuswyd effeithiolrwydd y gwasanaeth, o ran dal llygod mewn carthffosydd.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth, o ran dal llygod mewn carthffosydd, mai D?r Cymru oedd yn talu amdano ac yn ei reoli drwy’r SRS. O ran perfformiad, câi hyn ei seilio ar alwadau allan. Nid oedd dangosydd perfformiad penodol, roedd yn ymwneud ag ymateb i gwynion gwirioneddol.

 

Gofynnodd Aelod sut yr oedd offer TG, oedd bellach yn nhai pobl, yn cael ei yswirio.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Partneriaeth fod yr holl offer TG yn dod o dan y polisi yswiriant corfforaethol, gyda gliniaduron wedi eu cofnodi ar gronfa ddata ganolog.

 

Atgoffodd Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid bawb fod llawer o reolau a rheoliadau yn ymwneud â’r defnydd personol o offer TG, a bod gan bob un ohonynt gyfrifoldeb hefyd.

 

Cyfeiriodd Aelod hefyd at Dudalen 44, CEX5 a dywedodd ei fod, fel Cynghorydd, yn amharod i gytuno i rywbeth a allai arwain at fethiant i gwrdd â therfynau amser statudol.

 

Dywedodd Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod pob arbediad yn cael effaith ond y byddai’n ceisio lleihau ei effaith gymaint â phosibl. Efallai y byddai’n gallu diwygio’r naratif, fel y byddai’n llai bygythiol.  Nid oedd yn arbediad yr oedd hi’n bersonol yn dymuno ei wneud, ond roedd angen i bob maes wneud cyfraniad fel un Cyngor.

 

Pwysau Cyllidebol ar draws y Cyngor

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 40, CW2 mewn perthynas â Phraesept y Gwasanaeth Tân a dywedodd ei bod yn hen bryd i’r Awdurdod Tân ddilyn yr Heddlu, o ran y ffordd y gosodid y praesept.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd y rheoliadau’n caniatáu hynny ac nad oedd yr un fath â’r Heddlu. Cadarnhaodd ei bod wedi ysgrifennu llythyr at yr Awdurdod Tân yn holi ynghylch y cynnydd, a’i bod wedi derbyn llythyr yn ôl. Roedd dau Gynghorydd ar yr Awdurdod Tân, a allai gyflwyno sylwadau, ond roedd yr Awdurdod yn parhau i fod ynghlwm wrth y rheoliadau presennol oedd yn gwneud pethau’n anodd.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 25, Tabl 3, a theimlai fod yr Awdurdod Lleol ychydig yn ofnus o fentro. Y senario orau, wrth edrych arni yn y dyfodol oedd +1% ond gobeithiai ef y byddai’n well na hynny, gan ei fod yn 4.3% eleni.  Yna cyfeiriodd yr Aelod at Dudalen 26, a gofynnodd a oedd gwir angen i’r Awdurdod Lleol gynyddu ffioedd a thaliadau ar gyfer eleni. Yna cyfeiriodd yr Aelod at dudalen 29 a nododd ei fod wedi gweld hyn o’r blaen, sef bod pob Cyfarwyddiaeth ar wahân i Gymunedau yn derbyn cynnydd net yn ei chyllideb. Yna cyfeiriodd yr Aelod at Dudalen 31, 4.19.3 mewn perthynas â’r ‘gronfa tir cyhoeddus’ a nododd fod yna gronfa flynyddol o £2 filiwn ar gyfer tir cyhoeddus, ond na allai ddod o hyd iddi yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.

 

Eglurodd Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid, o ran yr amcangyfrifon a’r tybiaethau, byth ers iddi hi fod yn y Cyngor, fod yr amcangyfrif wedi bod yn -3%. Dim ond ers y setliad teilwng y llynedd, a ailadroddwyd eleni, yr oedd yr amcangyfrif wedi cael ei ddiwygio er na theimlid y gallai hyn wella oherwydd yr holl arwyddion, nad oeddent o reidrwydd yn arwain unrhyw un i gredu bod llawer o arian ar ei ffordd i mewn i’r sector cyhoeddus. Roedd yn rhaid i’r Awdurdod Lleol fod yn realistig, ac mae’n debyg mai setliad arian gwastad oedd y lle iawn i ddechrau. Pe bai yna nifer o setliadau gwell, efallai y byddai yna hyder i adolygu hyn, ond byddai’n ffôl ar hyn o bryd i’w diwygio ymhellach ar sail dau setliad. O ran ffioedd a thaliadau roedd pwysau enfawr. Mewn gwirionedd, nid oedd rhai o’r ffioedd a thaliadau’n dod i mewn o gwbl a byddai’n rhoi pwysau sylweddol ychwanegol ar y gyllideb pe na bai’r rhain yn cael eu cynyddu yn unol â chwyddiant. O ran y cynnydd net mewn cyllidebau, roedd yr holl broses wedi mynd rhagddi ers mis Mai a rhoddwyd amryw o arbedion a phwysau amrywiol gerbron. Roedd pwysau sylweddol mewn rhai Cyfarwyddiaethau ac roedd angen ystyried lefel yr incwm grant ac arian atodol, oedd yn dod i mewn i Gymunedau, hefyd.  Roedd tir cyhoeddus yn ffigur oedd yn cael ei ailadrodd, gydag oddeutu £2 filiwn yn cael ei wario, yn bennaf mewn Cymunedau, er bod yna bethau gan Gyfarwyddiaethau eraill y gellid eu gwario allan o’r gronfa gyhoeddus. Pe na bai’r rheiny’n glir yn y gyllideb, yna dywedodd Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai’n dod yn ôl at yr Aelod, i dynnu sylw at y darn perthnasol ond sicrhaodd yr Aelod eu bod yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf ar sail ailadrodd.

 

Gofynnodd yr Aelod beth oedd y ffigur o ran ffioedd a thaliadau.

 

Dywedodd Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid y byddai’n rhaid iddi ddod yn ôl at yr Aelod.

 

Eglurodd yr Arweinydd fod yna fuddsoddiad, ac roedd yn bennaf yng Nghyfarwyddiaeth y Cymunedau o ran y gronfa tir cyhoeddus o £2 filiwn.  Teimlai’r Arweinydd ei fod yn gwestiwn teg o ran ffioedd a thaliadau, ac roedd yn sicr yn egwyddor yr oedd pob Aelod wedi cytuno iddi yn y Strategaeth, y byddai ffioedd a thaliadau’n cael eu cynyddu ar y gyfradd honno. O ran y Grant Cynnal Refeniw, dyna oedd yr ansicrwydd mwyaf, a faint fyddai hwnnw, ond pe bai gan yr Awdurdod symiau canlyniadol pellach a chanlyniad refeniw gwell gan Lywodraeth Cymru nag a ragwelid ar hyn o bryd, yna yn sicr byddai rhai o’r arbedion yn cael eu hystyried, yn enwedig yr arbedion yr oedd Aelodau wedi eu nodi.

 

Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro, mewn perthynas â sylw’r Aelod ynghylch y tir cyhoeddus, fod hwn yn bwysau cyllidebol y cytunwyd arno ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac felly ei fod yng nghyllideb sylfaenol y Gyfarwyddiaeth Gymunedau eisoes, ac felly na fyddai’n dangos fel pwysau cyllidebol newydd am ei fod yn un oedd yn ailadrodd o flwyddyn flaenorol.

 

Yna trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i’r Cynghorydd JP Blundell, Cadeirydd Pwyllgor Craffu Trosolwg Pwnc 3, ar gyfer y cwestiynau oedd yn weddill o’r cyfarfod y diwrnod cynt, mewn perthynas â Chymunedau.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 43, COM3 ac esboniodd ei fod yn bryderus ynghylch anallu’r Awdurdod Lleol i ymgymryd ag astudiaethau dichonoldeb.  Y pwynt ehangach, yn sicr ynghylch y cynnig cyllidebol, oedd bod cost rhywbeth yn hysbys, ond nid ei werth. Ni fyddai rhai o’r pethau mawr oedd yn digwydd yn y Fwrdeistref Sirol, yn sicr o ran adfywio, yn digwydd oni bai am astudiaethau dichonoldeb, a gofynnodd beth oedd y meddylfryd y tu ôl i hyn.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau ei bod wedi bod yn anhygoel o anodd llunio cynigion i leihau’r gyllideb. Nid oedd hyn yn golygu na châi astudiaethau dichonoldeb eu cynnal, gan eu bod yn rhan hanfodol o symud cynlluniau ymlaen, ond roedd yn golygu na fyddai cymaint o arian ar gael ag oedd o’r blaen, gan mai cronfa benodol oedd hon oedd ar gyfer arian cyfatebol yn unig. Byddai’n rhaid defnyddio’r adnoddau o fewn y Gyfarwyddiaeth, mewn ffyrdd eraill, er mwyn dod â chynlluniau yn eu blaen. Byddai ffocws i edrych yn fanylach ar geisiadau Bargen Dinas Ranbarth Caerdydd, rhai o gynlluniau Llywodraeth Cymru a meddwl yn fwy creadigol. Nid oedd yn credu y byddai hyn yn atal yr Awdurdod Lleol rhag symud ymlaen, ond roedd yn golygu gweithio ychydig yn galetach. Nid oedd yr arbediad i ddigwydd am flwyddyn neu ddwy ac roedd cryn dipyn o gynlluniau adfywio, gwaith cyfalaf ac yn y blaen o hyd oedd yn mynd i gael eu cynnal yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 42, COM1 a nododd fod cryn dipyn o drafod wedi bod yngl?n â hyn ddoe, ond fel Pwyllgor teimlai fod angen dadansoddi’r ffigurau.

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol mai’r hyn y gofynnwyd amdano oedd ffigurau penodol yn ymwneud â Chaeau Trecelyn ac union gost y cyfraniad y byddai hynny’n ei wneud tuag at Drosglwyddiadau Asedau Cymunedol. Roedd yr hyn yr oedd yr Aelod wedi gofyn amdano ychydig yn wahanol e.e. dadansoddiad o’r £300 mil. Nododd er mwyn eglurder mai targed oedd y £300 mil. Nid oedd llinell y byddai cymaint â hyn yn dod o CAT neu y byddai hyn yn dod o’r arbediad o dorri glaswellt, ac yn y blaen. Targed ydoedd a gellid dylanwadu ar rywfaint ohono ond dim ond i raddau gan fod llawer y tu hwnt i reolaeth y Gyfarwyddiaeth, am fod hyn yn dibynnu ar y newidynnau. Pe bai CATau yn mynd yn dda, ni fyddai angen arbed cymaint o dorri glaswellt neu fannau chwarae i blant. Os nad oedd llawer o CATau o gwbl wedi croesi’r llinell, yna byddai angen arbed mwy ar dorri glaswellt a mannau chwarae i blant.

 

Ymatebodd yr Aelod gan ddweud ei fod yn teimlo y dylid lleihau’r targed neu ei daenu dros y blynyddoedd, gan ei fod ef yn teimlo nad oedd yn mynd i ddigwydd y flwyddyn nesaf ac nad oedd yn realistig i’w gadw yno.

 

Eglurodd yr Aelod o’r Cabinet dros Gymunedau nad oedd ef yn dymuno gweld y targed yn cael ei leihau. Nid oedd y targed fel cwota, ac roedd yn rhywbeth y gellid methu â’i gyrraedd cyn belled â bod dealltwriaeth o pam y methwyd â chyrraedd y targed. Roedd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol yn gywir, po fwyaf o drosglwyddiadau CAT fyddai’n mynd drwy’r system, y lleiaf o arian fyddai angen ei arbed. Teimlai mai’r ffordd orau oedd gadael llonydd iddo ond bod angen ei fonitro.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau fod llawer o ddiddordeb mewn CATau ar draws y fwrdeistref. Roedd llawer o waith wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn a symudwyd ymlaen, gan gydnabod eu bod yn gymhleth ac na fyddai CAT yn cael ei basio nes bod popeth yn ei le a bod y cynllun busnes yn gadarn. Pe bai’r targed o 10 CAT yn cael ei leihau yna byddai angen chwilio am arbedion, fyddai’n creu mwy o bwysau mewn meysydd eraill.

 

Esboniodd yr Arweinydd fod y strategaeth ar gyfer mannau chwarae i blant yn cael ei hadolygu; gweithio gyda chynghorau tref a chymuned yn arbennig i wella’r cynnig chwarae i blant. Gellid cadw mannau chwarae i blant ac roedd yn gobeithio gweld buddsoddi yn y rheiny a byddai’n ceisio dod â gwybodaeth ychwanegol yn ôl i’r Aelodau cyn gynted ag y byddai’r wybodaeth honno ar gael.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 43, COM3, ac esboniodd ei fod yn eilio sylw Aelod blaenorol. Nododd benderfyniad y Cabinet yn gynharach yr wythnos honno fod papur y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau wedi’i gymeradwyo, lle roedd canllawiau ar gydweithio ac astudiaethau dichonoldeb. Cyfeiriodd at bwynt 7.3 o adroddiad y Strategaeth; roedd dull y cyngor o gyflawni ei rwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) ar gyfer y 5 ffordd o weithio yn cynnwys cydweithredu ac arbedion a gynhyrchwyd o gydweithredu a gweithio integredig. Roedd yna adran enfawr oedd yn symud yr Awdurdod Lleol i cyfeiriad cydweithio ac ymddangosai fod hyn yn cymryd rhan o’r gallu i wneud hynny’n llwyr.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau ei bod hithau hefyd yn bryderus ynghylch hyn wrth symud ymlaen. Roedd angen ffyrdd newydd o weithio yn y dyfodol. Teimlai y byddai’r bil newydd oedd wedi dod drwodd a’r gweithio rhanbarthol, yn enwedig gyda chynllunio strategol a thrafnidiaeth strategol, yn ategu’r hyn oedd eisoes yn cael ei wneud. Lle yr edrychid ar gynlluniau, roedd yr Awdurdod Lleol yn gweithio gydag awdurdodau cyfagos yn ogystal â gweithio gyda Rhanbarth Prifddinas Caerdydd (CCR) yn ehangach. Teimlai y gallai creu’r CCR agor cyfleoedd, yn hytrach na’i fod yn gweithio fel arall. Roedd yr Awdurdod Lleol yn gweithio mewn ffordd strategol, a theimlai fod y geiriau ‘cronfa adfywio strategol’ yn golygu rhywbeth gwahanol i weithio’n rhanbarthol yn llythrennol. Roedd strategol yn ymwneud ag edrych ar y dyfodol hirdymor yn ogystal â gweithio ar draws y rhanbarth. Roedd llawer o waith yn cael ei wneud i liniaru rhai o bwysau’r gyllideb a sicrhaodd yr Aelodau y byddai unrhyw astudiaethau dichonoldeb a gâi eu cynnal o ansawdd da.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid mai’r bwriad ar hyd yr amser oedd y byddai’n dod i ben ar yr adeg hon ond bod yna botiau dichonoldeb eraill a fyddai’n cymryd ei le’n fwy na digonol ac mai  dim ond am y cyfnod hwn y bwriadwyd iddo fod.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 42, COM1 a gofynnodd a allai gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â’r 10 hynny oedd â diddordeb mewn CAT gan gynnwys cyfanswm y gost fesul safle a nifer y datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau mai’r targed oedd cael 10 CAT arall drwodd eleni. Er bod llawer o ddiddordeb, eglurodd nad oedd rhywfaint o’r data hwnnw ar gael yn awr ond y byddai’n bendant ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan fyddai’r gwaith wedi cael ei gwblhau.

 

Gwnaeth Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol sylw mewn perthynas â Thudalen 43, COM5, a’r ffaith ei fod yn wyrdd. Y risg fwyaf oedd yn gysylltiedig â gadael Sunnyside House oedd costau dadfeilio, a bod cyllideb wedi’i neilltuo ar gyfer hynny. Cadarnhaodd fod popeth o fewn y gyllideb a’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 43, COM6 a gofynnodd ai’r awdurdod lleol oedd biau’r depo.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol mai BCBC oedd yn berchen ar y depo.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 43, COM7 a gofynnodd am eglurder yngl?n â hyn.

 

Eglurodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod yr Awdurdod Lleol wedi bod yn llwyddiannus gyda chyllid a olygai y gallai’r Awdurdod dalu am gerbydau y byddai Kier yn eu defnyddio’n effeithiol am weddill y contract presennol gyda’r gwasanaeth AHP. O ganlyniad, roedd gan Kier arbediad a fyddai’n mynd yn ôl drwy’r refeniw yn y contract presennol, a ddangoswyd fel arbediad MTFS. Byddai’r cerbydau’n eiddo i’r Awdurdod Lleol ar ddiwedd y contract presennol, ar gyfer contractau neu wasanaethau yn y dyfodol. Roedd hyn yn mynd rhagddo’n dda a byddai’n cael ei gyflawni.

 

Gofynnodd yr Aelod am addasrwydd y cerbyd.

 

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol y byddai’n anfon manylion llawn y cerbyd at yr Aelod, y tu allan i’r cyfarfod.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 43, COM8 a gofynnodd pa ganran o’r fwrdeistref oedd â goleuadau LED erbyn hyn.

 

Eglurodd Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod y mwyafrif llethol wedi cael eu gwneud, gyda tua 20 mil o oleuadau stryd, a’i fod yn credu bod tua 3 neu 4 mil eto i fynd. Gallai gadarnhau’r union nifer y tu allan i’r cyfarfod.

 

Nododd Aelod nad oedd wedi derbyn ateb mewn perthynas â Ffioedd a Thaliadau. Pe na bai ffioedd a thaliadau’n cael eu cynyddu, faint fyddai hynny.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid bod arni hi eisiau rheoli disgwyliadau ynghylch Ffioedd a Thaliadau oherwydd bod miloedd ohonynt a bod ganddynt i gyd reolau a rheoliadau gwahanol. Gofynnodd i’r Aelod ddarparu manylion penodol y tu allan i’r cyfarfod.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn beryglus iawn peidio â chodi ffioedd oherwydd y byddai’n arwain at ddau ganlyniad. Un oherwydd y byddai’n creu twll yn rhywle arall, y byddai’n rhaid ei lenwi, ac yn ail pan fyddai cynnydd mewn ffioedd, byddent yn cynyddu o symiau mwy. Drwy ei gadw i’r lleiaf posibl roedd yn dal i fod yn gynnydd a fyddai’n helpu’r gyllideb gyffredinol. Teimlai y dylai’r argymhelliad fod ar gyfer cynnydd mewn ffioedd.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 43, COM7 a dywedodd y byddai hithau hefyd yn hoffi cael manylion y cerbyd a gofynnodd am eglurder yngl?n â’r cerbydau oedd yn cael eu cadw gan yr Awdurdod Lleol ar ddiwedd y contract. Gofynnodd a oedd tractor wedi’i gadw yn depo Waterton.

 

Dywedodd Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol nad oedd yn gwybod am y tractor. Esboniodd fod rhai JCBs yn Nepo Waterton, a ddefnyddid gan yr Adran Briffyrdd mewn gwahanol weithgareddau priffyrdd, gan gynnwys ymateb i lifogydd. Roedd tractorau fel y cyfryw yn tueddu i gael eu defnyddio gan Adran y Parciau ac yn cael eu cadw yn Nepo Bryncethin. O ran yr hyn fyddai’n digwydd i’r cerbydau ar ddiwedd Contract Kier, yn gyffredinol ni fyddai’r Awdurdod Lleol yn berchen ar y fflyd gyfan o gerbydau ar ddiwedd Contract Kier. Roedd yr AHP ar wahân a byddent yn trosglwyddo i’r Awdurdod Lleol ar ddiwedd y contract.

 

Dywedodd yr Aelod y dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai’r cerbydau’n eiddo i’r Awdurdod Lleol, ac mai dyna oedd un o’r manteision. Gofynnodd a oedd unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i brynu cerbydau gyda’r mecanwaith bachyn ar y cefn ar gyfer biniau olwynion, ar gyfer angen yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol fod y rhan fwyaf o fflyd Kier, ac eithrio cerbydau casglu’r AHP y talwyd amdanynt gan Lywodraeth Cymru, o dan reolaeth Kier ac mai eu cerbydau hwy oeddent. Roedd yna ddewis ar ddiwedd y contract i brynu’r cerbydau gan Kier. O ran telerau prynu cerbydau ar gyfer casglu gwastraff yn y dyfodol, pe byddech yn gofyn i gerbydau gael eu newid i fedru codi biniau ar olwynion, fe fyddai yna gost ychwanegol a byddent hefyd yn eithaf anodd eu llwytho o safbwynt codi a chario â llaw. Byddech yn dewis pa wasanaeth oedd arnoch ei eisiau ac yna’n prynu’r cerbydau fyddai’n addas. Fyddech chi ddim yn eu cael rhag ofn, oherwydd i bob pwrpas ni fyddent yn dda iawn i’w defnyddio ar gyfer casglu sachau, er enghraifft.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod llawer iawn o benderfyniadau i’w gwneud mewn perthynas â’r contract gwastraff yn y dyfodol. Roedd angen gwneud llawer iawn o waith a gellid cael trafodaethau pellach ar adeg briodol.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 43, COM4 a gofynnodd am y dadansoddiad cost a budd. Roedd yn meddwl tybed a fyddai cwtogi ar y gwasanaeth yn arwain at lai o arian yn y pot ac yn yr economi leol yn y tymor hir.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau ei fod yn ymwneud â gosod llinell waelod i ddisgwyliadau, ar ôl y pandemig, ac ystyried ailadeiladu’r sector twristiaeth. Roeddent yn ystyried dull rhanbarthol a gweithio ar rai o’r cyfathrebiadau fel Awdurdod Lleol. Byddai dadansoddiad cost a budd yn cael ei wneud. Nid oedd hi’n teimlo bod yr Awdurdod yn cael digon o fudd o’r contract ac roedd yn ddoeth edrych ar bopeth oedd yn cael ei wneud. Y bwriad oedd i’r Awdurdod ymdrin â’r gwaith ynghylch y ffordd yr ydym yn cyfathrebu a sut mae marchnata yn cael ei wneud yn ehangach a defnyddio sefydliadau partner yn Llywodraeth Cymru a’r CCR, i’n cynorthwyo gyda’r holl waith marchnata hwnnw.

 

Dywedodd yr Aelod ei fod wedi’i galonogi gan yr ymateb, ond bod hwn yn ddarn mawr o waith a’i fod yn gobeithio y byddai’r cynigion yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu mwyaf perthnasol i’w mireinio.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau fod hon yn rhan eithriadol o bwysig o’r economi, a’r mesur, fel ffactor llwyddiant, oedd yr incwm oedd yn dod i mewn drwy dwristiaeth, a bod angen ei gadw mor gadarn â phosibl i ddenu ymwelwyr. Roedd twristiaeth yn rhywbeth yr oedd ar yr Awdurdod Lleol eisiau ei gael yn iawn.

 

Dywedodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd – Craffu wrth yr Aelodau y byddai unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani yn cael ei chyfleu drwy Gyfarwyddwyr ac Aelodau’r Cabinet ac y câi’r wybodaeth ei dosbarthu i’r Aelodau erbyn diwedd yr wythnos. Byddai trefniadau’n cael eu gwneud i ailgynnull y cyfarfod ddydd Llun, y 25ain o Ionawr a châi apwyntiadau eu hanfon. Yn y cyfarfod hwnnw, byddai angen i’r Pwyllgorau Cyfunol ganolbwyntio eu cwestiynau ar y cynigion yr oeddent wedi gofyn am wybodaeth ychwanegol yn eu cylch a gwneud argymhellion ar y Strategaeth (MTFS) i fodloni’r amserlen ar gyfer adrodd i COSC ar y 1af o Chwefror ac ymlaen i’r Cabinet.

 

Dogfennau ategol: