Agenda item

Adroddiad Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Archwilio Cymru

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad gyda’r diben o gyflwyno nifer o ddiweddariadau ac adroddiadau gan Archwilio Cymru i'r Pwyllgor, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad sydd wedi’i ei wneud, ac sydd i'w wneud, gan Archwilio Cymru, yn ystod 2020-21.

 

Cafodd aelodau eu hatgoffabod Archwilio Cymru yn ymgymryd â rhaglen waith yn ystod y flwyddyn i helpu'r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 (Deddf 2004) a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Mae swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys archwilio cyfrifon a gwneud gwaith archwilio perfformiad lleol mewn ystod eang o gyrff cyhoeddus, ochr yn ochr â chynnal rhaglen o archwiliadau ac astudiaethau gwerth am arian cenedlaethol. Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn asesu i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy wrth bennu a chymryd camau i gyflawni eu hamcanion lles.

 

Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn cynnwys dyletswydd gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gwella Cymreig wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth iddynt ymarfer eu swyddogaethau. Roedd yn ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal Asesiad Gwella blynyddol i benderfynu os yw'r Cyngor yn debygol o gydymffurfio â gofynion Rhan 1 o'r Mesur.

 

Cynhyrchodd Archwilio Cymru nifer o adroddiadau i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eu hystyried. Dangoswyd y rhain ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad ac fe'u hatodir fel atodiadau i'r adroddiad, fel a ganlyn:-

 

  • Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Archwilio Cymru(Atodiad A); 
  • Crynodeb Archwilio Blynyddol (Atodiad B);
  • Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i Bandemig Covid-19 (Atodiad C)

 

Cyfeiriodd Swyddog Arweiniol Archwilio Perfformiad, Archwilio Cymru, yr Aelodau at dudalen 23 o’r adroddiad a'r archwiliad o'r Grantiau a Ffurflenni, a’i cwblhawyd gydag ond ychydig o fân waith sy'n ofynnol mewn perthynas â'r darn hwn o waith.

 

O ran archwilio Datganiad Cyfrifon 2020/21, roedd y gwaith cynllunio mewn perthynas â hyn wedi dechrau eisoes ac felly byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei nodi yn adroddiad y Cynllun Archwilio, a gafodd ei drefnu i’w gyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

Yn dilyn hyn, cynghorodd Archwilio Cymru fod y Rhaglen Waith Archwilio Perfformiad ar gyfer 2019-20 wedi bod yn destun trafodaeth flaenorol ac y byddai'n cael ei gwblhau heddiw. Roedd y Rhaglen Waith Archwilio Perfformiad ar gyfer 2020-21 yn parhau a byddai crynodeb Archwilio Blynyddol yn dod i ben erbyn mis Tachwedd/Rhagfyr 2021 ac nid Mehefin/Gorffennaf, fel sy’n cael ei nodi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd Swyddog Arweiniol Archwilio Perfformiad, Archwilio Cymru, fod y gwaith ar Aswiriant ac Asesiadau Risg bron a bod wedi'u cwblhau ar gyfer 2020-21 a bod y cyfarfod nesaf gyda Bwrdd Rheoli Corfforaethol y Cyngor am gael ei drefnu at Chwefror 10fed, a byddai'r canlyniadau'n llywio'r risgiau a’u hamlygwyd o'r gwaith a wnaed drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys unrhyw fewnbwn gan arolygwyr y Cyngor fel Estyn ac AGC. Yna, yn deillio o hyn, byddai Cynllun Archwilio'n cael ei lunio, ynghyd â rhaglen gytûn o waith ar gyfer y dyfodol.

 

O ran y gwaith archwilio ar Gynllun Adfer y Cyngor, dywedodd hi fod hwn yn waith oedd ar y gweill a byddai'r gyfran nesaf o waith ar Gynaliadwyedd Ariannol yr Awdurdod yn dechrau ar ôl i CBSPO gael Setliad Terfynol gan Lywodraeth Cymru. Ychwanegodd Swyddog Arweiniol Archwilio Perfformiad, Archwilio Cymru, fod gwaith ar yr Adolygiad Digidol a Phrosiect Dysgu Covid-19 yn parhau.

 

Gofynnodd Aelod am y wybodaeth ddiweddaraf am yr Archwiliad Ariannol, pryd y byddai'r Pwyllgor yn cael gwybodaeth derfynol am y gwaith a chafodd ei wneud yn nhermau Grantiau.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod hawliadau grant wedi'u cwblhau ac y byddai'r rhain yn cael eu llofnodi fel y cyfryw gan CBSPO, ac yn dilyn hynny byddai Archwilio Cymru yn cwblhau archwiliad o'r rhain, gydag unrhyw ganlyniadau wedyn yn cael eu rhannu mewn adroddiad i'w gyflwyno i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf. Cafwyd dau hawliad grant o'r fath a oedd wedi'u cymhwyso, ychwanegodd, a rhoddodd rywfaint o fanylion byr am y rheini.

 

Yn dilyn hyn, rhoddodd y Swyddog Arweiniol Archwilio Perfformiad, Archwilio Cymru, atodiad C o’r adroddiad i’r Aelodau, gan esbonio bod rhaglen waith parhaus ar Gynaliadwyedd Ariannol awdurdodau lleol ar waith, a oedd yn dyddio'n ôl i lymder tua 11 mlynedd yn ôl. Felly, roedd hyn wedi bod yn risg allweddol i gyrff cyhoeddus fel y Cyngor ers cryn amser, a oedd ond wedi'i ddwysáu ymhellach gan bandemig Covid-19.

 

Caeodd y Cadeirydd y ddadl ar yr eitem hon, drwy ddweud y byddai'n ddefnyddiol ar gyfer adroddiadau o'r math hwn yn y dyfodol, pe gellid cynnwys gwybodaeth bellach yn y manylion am 'ganfyddiadau a chyd-destun ychwanegol' yr adroddiadau. Teimlai y byddai hyn yn caniatáu i'r cyhoedd, ynghyd ag unrhyw un arall sy'n darllen adroddiadau o'r math hwn, gael mwy o ddealltwriaeth ohonynt.       

 

PENDERFYNIAD:           

                

Nododd y Pwyllgor Adroddiadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn

Atodiadau A, B a C o'r adroddiad.

Dogfennau ategol: