Agenda item

Asesiad Risg Corfforaethol 2021-22

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, gyda’r diben o roi Asesiad Risg Corfforaethol diweddaredig 2021-22 i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Pholisi Rheoli Risg Corfforaethol diweddaredig, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar Ddigwyddiadau ac Achlysuron ‘bron a bod’.

 

Atgoffodd yr Aelodau fod yr Asesiad Risg Corfforaethol yn cael ei ystyried a'i adolygu gan y Bwrdd Rheolaeth Corfforaethol (BRC), yr Uwch Dîm Rheoli, a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fel rhan o fframwaith Asesu Perfformiad Corfforaethol chwarterol y Cyngor, a'i fod yn cael ei ddefnyddio i lywio Rhaglen Waith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a phroses y gyllideb.

 

Atodwyd yr Asesiad Risg Corfforaethol yn Atodiad A o'r adroddiad. Nododd y prif risgiau sy'n wynebu'r Cyngor, eu cysylltiad ag amcanion llesiant corfforaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yr effaith debygol o’r risgiau hyn ar wasanaethau'r Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol ehangach, yn ogystal â nodi’r hyn sy'n cael ei wneud i reoli'r risgiau a phwy sy'n gyfrifol am ymateb y Cyngor. Roedd yr asesiad risg hefyd yn cyd-fynd â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr Asesiad Risg Corfforaethol, o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, yn cael ei adolygu'n barhaus i ystyried unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â COVID-19, ac yn nodi sut mae'r Cyngor yn ymateb i'r risgiau hyn, yn gorfforaethol yn ei gyfanrwydd ac ar sail Cyfarwyddiaeth fesul Cyfarwyddiaeth drwy lunio adroddiadau SITREP wythnosol.

 

Cytunwyd hefyd ar fesurau llywodraethu corfforaethol ychwanegol i sicrhau, lle bo hynny’n briodol, y gellir cynyddu risgiau i BRC. Mae'r Cyngor wedi sefydlu gr?p gweithredol 'Arian', sy'n cynnwys Penaethiaid Gwasanaeth yn bennaf, i ystyried materion priodol a gwneud argymhellion i BRC sydd, pan fo angen, yn cyfarfod ar wahân fel y gr?p 'Aur' strategol i wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â COVID-19, gydag unrhyw risgiau o gryn bryder i’w gynyddu ymlaen i'r Cabinet/BRC.

 

Ar hyn o bryd roedd y Cyngor yn profi pwysau aruthrol ar draws yr awdurdod, yn enwedig ym maes Gofal Cymdeithasol h.y. drwy ddarparu offer PPE a'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (TTP), ac roeddent yn archwilio ffyrdd o gryfhau adnoddau i flaenoriaethu a chefnogi'r swyddogaethau hanfodol hyn. Yn ogystal, mae'r awdurdod yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd i reoli'r gwaith o gyflwyno rhaglen frechu COVID-19. Roedd y Cyngor newydd agor ei Ganolfan frechu COVID-19 gyntaf, gan ganolbwyntio ar imiwneiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen ac roedd hyn yn gweithredu'n llwyddiannus.

 

Roedd llinell amser y Polisi Rheoli Risg Corfforaethol, sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad B o'r adroddiad, wedi'i diwygio ar gyfer 2021-22 a chytunwyd arni hefyd gan y BRC.

 

Mae'r tîm Yswiriant yn cadw cofnod o'r achosion ‘bron a bod’, yn unol â'r weithdrefn adrodd bresennol ‘bron a bod’. Amgaewyd cofnod o achosion a’u hadroddwyd yn ystod 2020, yn Atodiad C i'r adroddiad. Bu adrodd dau achos, un gwyrdd ac un ambr. Ni fu adrodd unrhyw achos coch yn y cyfnod.

 

Roedd modiwl E-Ddysgu newydd yn cael ei ddatblygu i godi ymwybyddiaeth o'r mater ac mae tudalen mewnrwyd y Cyngor yn cael ei ddiweddaru i ganiatáu cyflwyniadau rhyngweithiol o achosion a ffurflenni ‘bron a bod’.

 

Cychwynnodd Swyddog Yswiriant y Cyngor cyswllt rheolaidd â Phenaethiaid Gwasanaeth i wneud ymholiadau o fewn eu tîm am unrhyw ddigwyddiadau ac achosion ‘bron a bod’, er mwyn ceisio lleihau hysbysiad hwyr ohonynt.

 

Teimlai Aelod fod iechyd a lles staff y Cyngor yn ystod argyfwng Covid o'r pwys mwyaf, yn enwedig gan eu bod yn ceisio dod i delerau â chyfnodau clo hir i ffwrdd o drefn arferol bywyd, gan gynnwys amgylchedd swyddfa. Nododd fod rhai staff yn cael eu trosglwyddo i waith argyfwng, gan gynnwys cefnogi cyflwyniad y brechlyn Covid. Gobeithiai fod yr unigolion dan sylw yn cael eu diogelu wrth roi'r brechlyn i nifer fawr o unigolion, drwy gael y brechlyn eu hunain cyn cymryd rhan y gwaith hwn.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod staff a oedd yn cefnogi cyflwyno'r brechlyn wedi gwirfoddoli i wneud hyn, yn hytrach na’u bod yn cael eu gofyn i wneud. Wrth ymateb i’r ymholiad ond heb fod yn gwbl sicr, teimlai y byddent, yn ôl pob tebyg, yn cael eu brechu ar ôl iddynt dderbyn hyfforddiant ar gyfer gweinyddu'r brechlyn cyn iddynt gymryd rhan yn y gwaith cymorth hwn. Wrth ateb cwestiwn pellach ar les staff, ychwanegodd fod Mewnrwyd y Cyngor yn cynnig nifer o ffyrdd i gefnogi'r gweithwyr oedd yn ei chael hi’n anodd dros y cyfnod clo, a bod staff yn cael eu cyfeirio at y rhain drwy e-byst Corfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hyfforddiant wedi'i ddarparu hefyd ar gyfer uwch staff, ar sut i reoli staff o bell yn effeithiol.

 

Teimlai Aelod y byddai'n fuddiol, o ystyried yr amgylchedd gelyniaethus y wynebai awdurdodau lleol fel CBSPO yn ddyddiol fel sgil-effaith andwyol o’r pandemig, pe gallai Aelodau'r Pwyllgor Archwilio gael crynodeb, er enghraifft bob chwarter, o sut yr oedd yn lliniaru'r risgiau a wynebai fel rhan o'i Fframwaith Risg. Gallai hyn amlygu'r pwysau newidiol parhaus ac ychwanegol yr oedd Covid yn eu rhoi ar yr Awdurdod, yn ogystal â'r camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhain.

 

O ran Risg 2 ar y Cynllun Gweithredu sy’n atodol i’r adroddiad, a'r anhawster wynebai’r Cyngor o ran cyflawni trawsnewid/cynigion am ffyrdd gwahanol o weithio, gan gynnwys sicrhau’r arbedion ariannol y cytunwyd arnynt, gofynnodd pam yr oedd y lefel risg hon wedi gostwng o 16 i 4 ar gategorïau tebygolrwydd ac effaith. Roedd o'r farn bod hyn yn newid eithaf radical, o ystyried nad oes tystiolaeth ddigonol i gefnogi'r gostyngiad mewn risg. Teimlai’n ogystal y gallai arbedion ariannol gael eu gwireddu gan fecanweithiau eraill ar wahân i lefelau staffio'r sefydliad yn unig. Roedd ffactorau eraill ar wahân i elfen Adnoddau Dynol y sefydliad i sicrhau arbedion.

 

Dywedodd y Rheolwr Cyllid – Llywodraethu a'r Trysorlys fod hon yn bwynt dilys ac, felly, byddai'n adolygu'r risg hon ac yn ehangu gydag unrhyw wybodaeth bellach a allai fod ar gael i wneud arbedion ariannol, yn ychwanegol at y rhai a oedd yn ymwneud â staffio yn unig.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at Risg 6 yn y Cynllun Gweithredu yr oedd yn cael ei hystyried bellach fel risg hanesyddol, felly teimlai y gellid ei ddileu yn awr o'r Gofrestr Risg. Mewn perthynas â Risgiau 14 a 15 ar ysgolion, gofynnodd a oedd y rhain yn gysylltiedig â Covid.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, ei bod o'r argraff bod y risg gyntaf yn ehangach na Covid yn unig, tra bod yr ail risg fwy na thebyg yn fwy cysylltiedig â'r pandemig. Sicrhaodd y Cadeirydd, fodd bynnag, y byddai'n gofyn am ragor o wybodaeth am y ddau hyn y tu allan i'r cyfarfod gyda'r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd ac yn ei dro, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn unol â hynny gydag unrhyw ganfyddiadau.

 

PENDERFYNIAD: 

                         

  Fod y Pwyllgor:

 

(1)  Wedi ystyried yr Asesiad Risg Corfforaethol 2021-22 (Atodiad A yr adroddiad) a'r Polisi Rheoli Risg Corfforaethol (Atodiad B) wedi'i ddiweddaru, gan gynnwys yr amserlen yn Atodiad 2 (o fewn Atodiad B)

Wedi nodi’r achlysur a'r achosion ‘bron a bod’ o Atodiad C yn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: