Agenda item

Cynnydd yn Erbyn y Cynllun Seiliedig ar Risg Archwilio Mewnol (Ebrill y 1af 2020 i Hydref y 31ain 2020)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cleient Archwilio adroddiad, a roddodd ddatganiad sefyllfa i Aelodau'r Pwyllgor ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn y gwaith archwilio a’i cynhwyswyd a chymeradwywyd yng Nghynllun Archwilio Mewnol seiliedig ar Risg 2020-21.

 

Cynghorodd, yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, mai'r Pennaeth Archwilio Mewnol oedd yn gyfrifol am ddatblygu cynllun archwilio blynyddol yn seiliedig ar risg, sy'n ystyried fframwaith rheoli risg y Cyngor.  O fewn y Safonau roedd hefyd yn ofynnol i'r Pennaeth Archwilio Mewnol adolygu ac addasu'r cynllun, yn ôl yr angen, mewn ymateb i newidiadau ym musnes, risgiau, gweithrediadau, rhaglenni, systemau, rheolaethau ac adnoddau'r Cyngor.

 

Cyflwynwyd y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2020-21 i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i'w ystyried a'i gymeradwyo ar Fedi’r 10fed 2020.  Amlinellodd y Cynllun yr aseiniadau i'w cyflawni a fyddai'n rhoi digon o sylw i roi barn ar ddiwedd 2020-21, wrth ystyried effaith ddigynsail pandemig COVID.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Cleient Archwilio fod y cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill y 1af a Rhagfyr yr 31ain 2020 wedi'i atodi yn Atodiad A i'r adroddiad. Roedd hyn yn manylu ar statws pob adolygiad arfaethedig, y farn archwilio a nifer unrhyw argymhellion uchel neu ganolig a wnaed i wella'r amgylchedd reoli. Dylid nodi nad oedd gan rai adolygiadau caiff eu rhestru barn archwilio, er enghraifft cyngor ac arweiniad, adroddiadau'r Pwyllgor Archwilio a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB). Y rheswm am hyn oedd nad oedd y gwaith archwilio a wnaed mewn perthynas â'r eitemau hyn, er ei fod wedi'i gynllunio, yn arwain at brofion a ffurfiad barn archwilio.

 

Dangosodd Atodiad A bod 16 eitem o waith wedi'u cwblhau ar Ragfyr yr 31ain 2020, ac roedd 12 o’r adolygiadau archwilio hyn wedi arwain at ddarpariaeth barn. Roedd 3 adolygiad arall wedi'u cwblhau a chyhoeddi adroddiadau drafft ac roedd y rhain yn aros am adborth gan Adrannau Gwasanaeth. Roedd 15 adolygiad arall yn parhau ar hyn o bryd ac roedd 5 arall wedi'u dyrannu i ddechrau’n fuan.

 

Ychwanegodd, yn seiliedig ar asesu cryfderau a gwendidau'r meysydd a’u harchwiliwyd drwy brofi effeithiolrwydd yr amgylchedd rheolaeth fewnol, fod barn archwilio o sicrwydd sylweddol wedi'i rhoi i 1 adolygiad gorffenedig sicrwydd rhesymol i 10 adolygiad gorffenedig.  Rhoddwyd barn archwilio o sicrwydd cyfyngedig i weddill yr adolygiad archwilio a’u cwblhawyd. Roedd y maes hwn yn destun dadl yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, atgoffodd y Rheolwr Cleient archwilio'r Aelodau.

 

Nododd Atodiad A hefyd fod cyfanswm o 16 argymhelliad canolig (arwyddocaol) wedi'u gwneud i wella amgylchedd rheoli'r meysydd a’u hadolygwyd. Byddai gweithredu'r argymhellion hyn yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud.

 

Cydnabuwyd bod rhai meysydd gwasanaeth o dan bwysau mawr ar hyn o bryd a lle y bo'n bosibl, mae gwaith archwilio wedi'i gynllunio yn cael ei aildrefnu i ddarparu ar gyfer unrhyw geisiadau am wasanaeth. Adlewyrchodd Atodiad A hefyd bod llawer o'r adolygiadau archwilio arfaethedig bellach wedi'u dyrannu ac roedd yn ymddangos y bydd digon o sylw'n cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn i ffurfio barn archwilio.

 

Cwblhaodd y Rheolwr Cleient Archwilio ei chyflwyniad, drwy roi résumé o rai o’r manylion allweddol yn Atodiad A, er budd yr aelodau.

 

PENDERFYNIAD:    

                        

Nododd y Pwyllgor gynnwys yr adroddiad a'r cynnydd a wnaed yn erbyn

Cynllun Seiliedig ar Risg Blynyddol Archwilio Mewnol 2020-21.   

Dogfennau ategol: