Agenda item

Adroddiad Archwilio Mewnol - Cyllid Allanol

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol adroddiad, er mwyn rhannu gydag Aelodau'r Pwyllgor, adroddiad archwilio mewnol ddiweddar a adolygodd sampl o gynlluniau a’u hariannwyd yn allanol, er mwyn rhoi sicrwydd yngl?n ag agweddau caffael a llywodraethu'r cynlluniau.

 

Er gwybodaeth gefndir, dywedodd fod adolygiad archwilio mewnol o Gyllid Allanol wedi'i gynnal fel rhan o Gynllun Archwilio Mewnol blynyddol 2020/21. Amcan yr adolygiad oedd rhoi sicrwydd y glynir wrth bolisïau a gweithdrefnau'r Cyngor, yn ogystal â thelerau ac amodau ariannu, wrth reoli cyllid allanol a dderbyniwyd gan y Cyngor.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i'r Cabinet ar raglen Arbed, ar yr 17eg o Dachwedd 2020. Yn yr adroddiad hwnnw cyfeiriwyd at waith sy'n cael ei wneud gan yr Archwiliad Mewnol, gyda'r nod o roi sicrwydd bod agweddau caffael a llywodraethu’r cynlluniau a’u hariennir yn allanol yn cydymffurfio â pholisïau'r Cyngor yn ogystal ag unrhyw delerau ac amodau grant penodol.

 

Adroddodd yr adroddiad hwnnw wrth y Cabinet y byddai'r adroddiad archwilio gorffenedig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Atodwyd yr adroddiad archwilio mewnol gorffenedig yn Atodiad A o’r adroddiad.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod yr adroddiad hwnnw'n nodi'r 10 cynllun a’u hadolygwyd, yn ogystal â chanfyddiadau ac argymhellion o ganlyniad i'r archwiliad. Canfuwyd, o'r sampl dewisol a’i hadolygwyd, nad yw'r pryderon sy'n deillio o gynllun blaenorol a’i hariannwyd yn allanol wedi'u hailadrodd. Roedd dogfennau ar gael i gefnogi cydymffurfiaeth â Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor a chyfranogiad Caffael Corfforaethol wrth ymgysylltu â chontractwyr. Roedd tystiolaeth hefyd o fonitro, adrodd a llywodraethiad cyflenwyr ar draws yr holl brosiectau.

 

Rhoddwyd barn archwilio o sicrwydd rhesymol, hynny yw bod y rheolaethau allweddol yn bodoli, ond efallai y bydd rhywfaint o anghysondeb o ran cymhwysiad. Mae’n cloi trwy ddweud, o ganlyniad, dim ond 4 argymhelliad bach, 'yn deilwng o sylw' a wnaed.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw gynlluniau yn y tymor hir, i wneud gwaith pellach a’i cynigiwyd ar ffurf adolygiadau ar brosiectau a’u hariennir yn allanol.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol y byddai adolygiadau pellach, fel rhan o’r archwiliadau arfaethedig mewn perthynas â chaffael a phrosiectau/cynlluniau penodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw un o'r adolygiadau cafodd eu hymgymryd ynddynt ar brosiectau â chyfyngiad amser neu brosiectau a’u hariannwyd yn hwyr, gan y gallai hyn fod wedi bod yn ffactor yn ariannu’r prosiect Arbed.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod un o'r deg cynllun wedi bod yn destun cyllid hwyr. Gwaith mewn perthynas â phrosiect y Cynllun Teithio Llesol ym Mhencoed, lle'r oedd y Cyngor wedi gwneud cais am gyllid pellach i Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn cafodd ei fuddsoddi yn y prosiect yn gychwynnol.

 

Ehangwyd ar fanylion hyn gan Reolwr Cleient Archwilio er budd yr Aelodau.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid i'r Pwyllgor fod yr awdurdod lleol yn cael nifer cynyddol o grantiau wedi'u neilltuo yn hwyr yn y flwyddyn ariannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau penodol, gan gynnwys y rhai a’u cynhwyswyd yn y Rhaglen Gyfalaf.  

 

PENDERFYNIAD:                          

 

Nododd yr Aelodau yr adroddiad

Dogfennau ategol: