Agenda item

Diweddariad Cynllun Gwella Cyfiawnder Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chefnogaeth Deuluol, er mwyn diweddaru’r Pwyllgor Rhianta Corfforaethol yngly?n â’r cynnydd wrth weithredu’r cynllun gwella Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont a ddatblygwyd yn dilyn arolwg gan Arolygaeth Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Western Bay ym mis Rhagfyr 2018.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chefnogaeth Deuluol, fel cefndir, fod Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont (Bridgend YJS) yn bartneriaeth amlasiantaethol statudol a chanddo gyfrifoldeb cyfreithiol i gydweithio er mwyn sicrhau gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid lleol addas. Ariannwyd y gwasanaeth gan amrywiaeth o ffynonellau yn cynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a phartneriaid statudol (h.y. Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont, Heddlu De Cymru, y Gwasanaeth Prawf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg). 

 

Cafodd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Western Bay (WBYJEIS) ei arolygu’n llawn ar y cyd gan Arolygaeth Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) yn ystod mis Rhagfyr 2018, a chyhoeddwyd y canfyddiadau ym mis Mawrth 2019. Daeth yr arolwg i’r casgliad fod Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Western Bay wedi derbyn graddfa derfynol o annigonol. Daeth Arolygaeth Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) i’r casgliad fod naw o’r deuddeg maes arolygu wedi eu graddio fel bod yn annigonol, bod un yn ddigonol, a bod un yn arbennig.

 

Argymhellodd Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chefnogaeth Deuluol, ar 19 Ebrill 2019, y dylai’r Cabinet gytuno i ddadgyfuno’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Western Bay (WBYJEIS) ac y dylai’r drefn newydd fod ar gyfer Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont i eistedd o fewn portffolio un o’r rheolwyr gr?p presennol o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chefnogaeth Deuluol.

 

Ychwanegodd fod y gwasanaeth yn dal i gael ei fonitro gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB) ac yn cael ei sgriwtineiddio’n helaeth gan amrywiol ffynonellau yn cynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Serch hynny, yn sgil effaith COVID-19, nid yw’n hysbys ar hyn o bryd pryd fydd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont yn cael ei arolygu o’r newydd.

 

Daeth y gwaith o ailstrwythuro Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont i ben ym mis 2019. Arweiniodd yr ailstrwythuro at y gwasanaeth yn dod yn rhan o hwb y Tîm Atal Amlasiantaeth Integredig Achosion Cymhleth (IMPACCT) gan weithio’n agos gyda’r timau gofal. Roedd y drefn newydd hon yn cynnig gwelliant o safbwynt cydweithio, rhannu sgiliau ac adnoddau gan leihau dyblygu gwaith i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Roedd yr ad-drefnu hefyd wedi arwain at greu swyddi ymarferwyr arweiniol, a oedd yn cynnig y gwasanaeth gyda’r cyfle i ddarparu arolygiaeth gadarn, sicrwydd ansawdd gwaith a rheolaeth llinell ar gyfer staff. Dyma feysydd a gafodd eu tanlinellu gan yr arolygiad fel bod yn achos pryder. Recriwtiwyd ar gyfer y swyddi ymarferwyr arweiniol yn ystod mis Hydref 2019, gyda’r ddau ymarferwr arweiniol yn dechrau yn eu swyddi ym mis Ionawr 2020.

 

Aeth ymlaen i egluro’r gwaith sicrhau Ansawdd a oedd wedi dechrau o fewn y gwasanaeth. Roedd yr adborth a gafwyd wedi tanlinellu fod gwelliant wedi digwydd a safbwynt ansawdd yr asesiadau. Serch hynny, gwelwyd bod angen gwneud gwaith pellach o safbwynt mynd i’r afael â’r risg o niwed a diogelwch a lles. Mewn ymateb i hyn, comisiynwyd hyfforddiant annibynnol cydnabyddedig gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid (YJB) er mwyn cefnogi staff yn y maes hwn. Yn ogystal ag asesiadau, gwelwyd yr angen am ddatblygu cynlluniau amserol wedi eu harwain gan anghenion ac sy’n mynd i’r afael â’r materion a danlinellwyd o fewn asesiadau fel maes ar gyfer gwelliant. Mae datblygu ymyriadau a rhaglenni sy’n lleihau’r perygl o aildroseddu yn feysydd sy’n dal angen eu gwella o fewn y gwasanaeth, fel yr eglurwyd gan y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chefnogaeth Deuluol.

 

Mae paragraffau nesaf yr adroddiad yn cadarnhau sut mae’r uchod yn cael eu cyflawni.

 

Cynhaliwyd hunanasesiad o Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ym mis Ebrill 2020. Ychwanegwyd meysydd yr oedd angen eu gwella i’r Cynllun Gwella a atodir yn Atodiad 1. Pwysleisiodd fod gwaith yn dal i gael ei wneud yn rhai o’r meysydd. Ymysg y meysydd y cyfeiriwyd atynt o fewn yr adroddiad roedd gwelliannau parhaus ym maes asesu, cynlluniau cefnogi, ymyriadau, gweithio ar y cyd a gwerthuso ffurflenni adborth oddi wrth bobl ifanc.

 

Serch hynny, cadarnhaodd paragraff 4.6 o’r adroddiad sut yr oedd y pandemig Covid-19 wedi effeithio ar wireddu rhai o’r gwelliannau oedd wedi eu cynllunio i raddau, er bod ffyrdd i fynd i’r afael â’r broblem honno wedi eu gweithredu.

 

Yn Atodiad 2 o’r adroddiad, atodir adroddiad o’r fframwaith perfformiad a drafodir yng nghyfarfodydd misol Bwrdd Rheoli’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Cadeiriwyd y Bwrdd Rheoli ar y cyd gan Brif Weithredwr y Cyngor a’r Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau. Atodir cylch gorchwyl y Bwrdd Rheoli yn Atodiad 3, eglurodd Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chefnogaeth Deuluol.

 

Daeth y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chefnogaeth Deuluol â’i gyflwyniad i ben drwy egluro fod rhywfaint o’r data a atodwyd i’r adroddiad wedi’i ddiweddaru’n ddiweddar ac roedd yn hapus i rannu hwnnw gyda’r Aelodau, yn ôl y gofyn.

 

Eglurodd y Cadeirydd ei bod wedi mynychu dau gyfarfod Bwrdd Rheoli’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, ac roedd yn falch o weld lefel ymgysylltiad y partneriaid ar y Bwrdd.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet – Addysg ac Adfywiad ei fod yn falch o’r duedd tuag at welliannau parhaus a wnaed ers i’r tîm Cefnogi Teuluoedd gymryd awenau’r gwasanaeth ers yr arolygiad a’i fod yn hyderus iawn y byddai gwelliannau’n cael eu gwneud eto i’r dyfodol.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod hithau hefyd wedi bod yn ymwneud ers cryn amser â Bwrdd Rheoli’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid gan ddod i’r casgliad ei fod yn mynd o nerth i nerth. Roedd yn hynod falch o’r modd yr oedd y Bwrdd yn gweithredu mewn ffyrdd blaengar, er mwyn goresgyn heriau’r pandemig, h.y. ymbellhau cymdeithasol a.y.b., gan olygu ei bod yn anodd ymwneud yn agos iawn a3 chleientiaid a phobl ifanc. 

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at argymhelliad 13 Arolygaeth Gwasanaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) yn ymwneud â lefelau sgiliau llythrennedd a rhifedd y bobl ifanc o fewn y system. Holodd sut oedd mynd i’r afael â hyn, ac os oedd yn cael ei gyflawni.

 

Eglurodd y Rheolwr Gr?p Gweithio Integredig a Chefnogaeth Deuluol fod llawer o blant a phobl ifanc yn gwneud yn dda, ond roedd eraill nad oedd yn llwyddo cystal. Cyflogwyd therapydd llefaredd ac iaith yn y gorffennol. Roedd mater arall hefyd wedi effeithio ar gynnydd, yn benodol fod rhai o oed ysgol statudol nad oedd, drwy eu haddysg, yn derbyn yr isafswm o 25 awr statudol o addysg yr wythnos. Roedd yr awdurdod lleol felly wedi herio’r ysgolion oedd yn rhoi addysg iddynt yngly?n â hyn, er mwyn cynyddu eu horiau. Roedd rhai o’r bobl ifanc hefyd wedi bod yn ymwneud a3 throseddu a/neu ymddygiad heriol. Roedd materion fel y rhain hefyd wedi llesteirio eu cynnydd o safbwynt cyrraedd targedau addysgol craidd. Roedd Tîm Ymrwymiad Addysgol bellach wedi’i ffurfio, gan lenwi’r gofod yng nghyswllt yr uchod, felly roedd mwy o gynnydd yn cael ei wneud, a fyddai, gobeithio, yn parhau i’r dyfodol, ychwanegodd.

 

Holodd y Cadeirydd sut oedd y gwasanaeth yn sicrhau fod plant o fewn y system yn gallu cael gafael ar ddeunydd darllen addas, er mwyn eu hannog i wella eu sgiliau llythrennedd.

 

Eglurodd y Rheolwr Cymorth Gwasanaeth Teulu fod hyn yn rhywbeth yr oedd y gwasanaeth llyfrgell yn mynd i’r afael ag ef, a gallai’r Cadeirydd ddarparu manylion pellach y tu allan i’r cyfarfod.

 

Mewn ymateb i nifer o bwyntiau a godwyd gan yr Arweinydd, cynigiodd y Rheolwr Cymorth Gwasanaeth Teulu y sylwadau canlynol:

 

O safbwynt yr asiantaethau oedd yn rhan o Fwrdd rheoli’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, cadarnhaodd eu bod yn cynnwys sylwadau gan asiantaethau statudol yn ogystal ag anstatudol. Roedd yn falch i allu ychwanegu fod cefnogaeth i’r cyfarfodydd yn gryf a bod llawer yn eu mynychu. Prin oedd y rhai oedd yn mynychu cyfarfodydd yn y gorffennol o safbwynt Gofalwyr Cymru a Charchar y Parc. Serch hynny, roedd mwy yn mynychu o’r asiantaethau yma bellach. O safbwynt cynnig cefnogaeth i ddioddefwyr troseddau yn ogystal â’r rhai sy’n cyflawni troseddau,  dywedodd fod hyn mewn lle, ond cydnabu y gellid gwneud gwelliannau pellach o safbwynt y maes cefnogi hwn. O safbwynt lefelau capasiti o fewn y tîm i gefnogi’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, roedd pethau’n anodd yn enwedig yng nghyswllt y ffaith fod y gwasanaeth wedi cymryd yr awenau yn sgil yr archwiliad beirniadol blaenorol (o safbwynt y gwasanaeth). Roedd Gweithiwr Cymdeithasol pellach wedi’i recriwtio er mwyn cryfhau’r tîm. Serch hynny, roedd effaith hyn wedi’i leihau i raddau, gan fod Gweithiwr Asiantaeth newydd adael y gwasanaeth. Felly, er bod gwasanaethau’n cael eu cyflawni, roedd lefelau gwaith yn heriol.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am ddiweddariad pellach ar y gwasanaeth yng nghyfarfodydd y Pwyllgor i’r dyfodol, ar ffurf adroddiadau cynnydd, er mwyn rhoi’r sicrwydd i Aelodau fod y camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt fel rhan o’r arolygiad diweddaraf wedi eu cwblhau. 

 

Daeth y Prif Weithredwr â’r drafodaeth ar yr eitem hon i ben drwy gadarnhau fod rhai heriau a gwaith sylweddol i’w gyflawni eto i’r dyfodol, er gwaetha’r ffaith fod gwelliannau diamheuol o fewn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wedi eu cyflawni, cyn unrhyw ragarolwg a allai ddigwydd yn weddol fuan. Cydnabu, serch hynny, fod y gwaith yn mynd yn ei flaen.

 

CYTUNWYD:                           Y dylid nodi’r adroddiad a’r gwaith a wnaed hyd yn hyn o safbwynt Cynllun Gwella Gwasanaeth Cyfawnder Ieuenctid Pen-y-bont.  

 

Dogfennau ategol: