Agenda item

Adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol (GAA)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, er mwyn cyflwyno Adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol (IRO) i Aelodau’r Pwyllgor, yn unol â Chanllaw Adolygu Annibynnol Swyddogion (Cymru) 2004, yn ogystal â Chynllun Gweithredu Gwasanaeth yr IRO.

 

Eglurodd ei bod yn ofynnol dan y gyfraith i Awdurdodau Lleol benodi Swyddogion Adolygu Annibynnol gan Awdurdodau a bod eu prif swyddogaethau’n cael eu rheoli gan y ddeddfwriaeth a’r canllawiau canlynol: 

 

           Deddf Fabwysiadu a Phlant 2002;

           Canllawiau Swyddogion Adolygu Annibynnol (Cymru) 2004.

 

Eglurwyd fod gan wasanaeth y Swyddog Adolygu Annibynnol (IRO) rôl awdurdodol wrth sicrhau ansawdd y cynllunio gofal a gyflawnir.

 

Roedd adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol (atodwyd yn Atodiad A yr adroddiad) yn ymwneud â gwaith gwasanaeth yr IRO o fis Ebrill 2019 tan fis Mawrth 2020.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth perfformiad o safbwynt yr angen statudol i adolygu’r Plant sy’n Derbyn Gofal, yn cynnwys plant a chanddynt gynlluniau Mabwysiadu a Phobl Ifanc â Gofal Gadael Plant sy’n Derbyn Gofal/Cynlluniau Pathway (o dan 18) gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont. Roedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am blant â chanddynt gynllun amddiffyn plant ac adolygiadau o’r cynlluniau yma mewn Cynadleddau Achos Gofal Plant.

 

Manylodd yr adroddiad ymhellach ar wybodaeth yn ymwneud â gofynion rheolaethol yng nghyswllt dod i benderfyniad yn sgil anghydfod, baich achosion y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol, cyfranogiad ac ymgynghoriadau pobl ifanc yn eu Hadolygiadau, sialensiau a chyflawniad yn ystod y cyfnod adrodd a blaenoriaethau’r gwasanaeth ar gyfer 2019-20.  

 

Yn ogystal â’r canllawiau y cyfeirir atynt ym mharagraff 3.1 o’r adroddiad, cyflwynwyd canllawiau ac arferion safonol pellach gan y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol ar ddechrau 2019. Roedd Swyddogion Adolygu Annibynnol wedi gweithio i wella’r system dracio a chynigiwyd arweiniad gan Swyddogion yn unol â’r Canllaw Safonau Ymarfer ac Arfer Dda, cadarnhaodd y Swyddog.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles, fod y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol wedi cadeirio/adolygu 2,022 cyfarfod rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cafodd 1,506 o archwiliadau ansawdd eu cwblhau yng nghyswllt y cyfarfodydd yma hefyd.

 

Wrth ddod i gasgliad yngly?n â’r adroddiad, eglurodd fod y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol yn dal i weithio ar y cyd â’r timau diogelu i wella arferion yng nghyswllt cynadleddau diogelu plant gan fynd ymhellach i gynnwys asiantaethau megis y gwasanaethau Ymwelydd Iechyd, Nyrsys Ysgol a’r Gwasanaethau Bydwragedd. Y cam nesaf oedd gweithio at wella ansawdd adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal ar lefel amlasiantaethol.

 

Wrth gloi, pwysleisiodd fod angen sicrhau fod y gwasanaeth yn parhau i wella o hyd ac o’r herwydd, byddai’r Gwasanaeth Adolygu Annibynnol yn anelu at barhau i gael effaith gynyddol o safbwynt gwella ansawdd y plant a’r bobl ifanc hynny oedd wedi cael profiad o’r gwasanaeth gofal. Mae Cynllun Gweithredu’r Gwasanaeth Adolygu Annibynnol yn cyfeirio at y meysydd sydd angen sylw er mwyn eu gwella o fewn y gwasanaeth yn ystod y 12 mis nesaf, ac y byddai’r rhain yn cael eu hadolygu’n gyson er mwyn sicrhau fod y camau gweithredu a awgrymwyd yn cael eu gweithredu.

 

Cafwyd cyflwyniad pwynt p?er (yn ogystal â fideo byr) i gefnogi’r adroddiad gan reolwr Gr?p yr IAA a Rheolwr Diogelu/Adolygu Annibynnol, gyda chefnogaeth cydweithwyr yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Roedd y cyflwyniad yn ymdrin â nifer o themâu a meysydd gwaith allweddol, yn cynnwys yr enghreifftiau isod:

 

  • Rôl a maes gwaith y Swyddogion Adolygu Annibynnol (IRO’s)
  • Poblogaeth amddiffyn plant yn ystod y 12 mis diwethaf, h.y. 185 ar gyfartaledd (189 ar hyn o bryd)
  • Cyfartaledd misol lleoliadau Gofal Maeth yn ystod y 12 mis diwethaf = 383, gyda’r rhai rhwng 10 a 15 oed ymysg y ganran uchaf a’r rhai rhwng 0 ac 1 oed, ymysg yr isaf
  • Rhai blaenoriaethau gofal a amlinellwyd yn y Cynllun Gweithredu:

 

1.    Mwy o gyswllt rhwng y Swyddogion Adolygu Annibynnol â phlant a phobl ifanc (i’r dyfodol);

2.    Sicrhau sefydlogrwydd a lleihau nifer y Plant sy’n Profi Gofal;

3.    Gwella ymgynghoriadau/cyfranogaeth plant;

4.    Gwella adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal a’r prosesau cynllunio gofal;

5.    Datblygu themâu dysgu a gwella arferion drwy Sicrhau Ansawdd;

6.    Datblygu gwasanaethau Eiriolaeth/cynnig byw i blant.

 

Holodd yr Aelod Cabinet – Lles a Chenedlaethau’r Dyfodol y Swyddogion os allent roi ychydig wybodaeth bellach yn ymwneud ag Ail-ddatganiadau, h.y. pam fod plant yn cael eu dadgofrestru oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Pant, cyn cael eu hail-gofrestru wedyn, weithiau’n sydyn iawn.

 

Eglurodd Swyddogion fod hwn yn faes Cyngor oedd yn cael ei adolygu’n gyson. Os oedd digon o dystiolaeth ar gael er mwyn dod i benderfyniad yngly?n â dadgofrestru plentyn, y prif reswm am roi enw nôl ar y gofrestr oedd bod rhieni’r plentyn wedi gwahanu ar y dechrau ond eu bod bellach nôl gyda’i gilydd. Yn ystod y cyfnod hwn, serch hynny, roedd y berthynas wedi dirywio unwaith eto, gyda’r plentyn yn cael ei roi nôl o fewn lleoliad gelyniaethus o bosib.

 

Yn sgil y fath sefyllfa, caiff y plentyn ei roi unwaith eto ar y Gofrestr Diogelu Plant er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn i’r dyfodol.

 

Mewn achosion o’r fath, mae eu sefyllfa wedyn yn cael ei hadolygu a’i sgriwtineiddio’n barhaus, gan gynnwys gweithio gyda rhieni a chefnogi diddordebau, iechyd a lles y plentyn.

 

Gan fod gwaith y Gwasanaeth Asesu Annibynnol yn weithred statudol, holodd yr Arweinydd sut oedd y gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda phlant iau er mwyn clywed eu llais a pha effaith yr oedd y pandemig Covid wedi ei gael ar y gweithio agos yma ymysg pobl ifanc o bob oed. Teimlai fod mwy o gyfle, yn enwedig ar hyn o bryd, i glywed lleisiau plant o oed Meithrin/Cynradd o fewn lleoliad yr ysgol. Yn ystod Covid, teimlai fod yn rhaid i ni barhau i ddarparu cefnogaeth a gwasanaethau yn enwedig i’r mwyaf agored i niwed o fewn cymdeithas, mewn ffyrdd gwahanol i’r arfer, wrth geisio sicrhau cydbwysedd rhwng heriau megis risgiau a rôl o safbwynt lles yr unigolion yma i’r dyfodol.

 

Cydnabu fod Trais yn y Cartref yn broblem fawr ac yn rhywbeth a oedd wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod clo. Er ei fod yn ymwybodol o beirianwaith i gefnogi dioddefwyr yn yr achos hwn, holodd os oedd rhywbeth wedi ei sefydlu i helpu’r rhai oedd yn cyflawni troseddau, am ei fod yn ymwybodol o’r Rhaglen Cyflawnwyr Trosedd (Perpetrator’s Programme).

 

O safbwynt cadw cysylltiad â phlant hy?n a pharhau â’u gofal a chynllunio gofal ar eu cyfer, cadarnhaodd Swyddogion fod cyswllt cyson â’r gr?p oedran hwn o bobl ifanc yn parhau drwy gyfrwng llwyfannau rhithiol, yn ogystal â thrwy fentrau a chefnogaeth megis y Tîm 16 Plws. Felly, doedd y pandemig ddim wedi llesteirio’r gr?p yma o safbwynt monitro parhaus a chefnogaeth. Er bod modd cadw cysylltiad heblaw am drwy ddulliau rhithiol, roedd y sefyllfa’n dal yn heriol yn sgil ymbellhau cymdeithasol. Roedd gwasanaethau Eiriolaeth wedi eu sefydlu er mwyn cefnogi lles y bobl ifanc yma, eglurodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaeth Asesu Annibynnol a Diogelu.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Adolygu Annibynnol fod sawl math o ddogfennau Ymgynghori yn cael eu defnyddio i gynnig cefnogaeth barhaus ac ymrwymo ag unigolion ifanc yn unol â’u hoedran. Gyda chynlluniau ar y gweill i ailagor ysgolion adeg hanner tymor, ar gyfer disgyblion iau i ddechrau, byddai rhyngweithio’n digwydd yn yr ysgolion er mwyn sicrhau parhad y gefnogaeth barhaus yn achos y plant mwyaf bregus a’r rhai mewn gofal maeth. Roedd cyfle hefyd drwy’r Cynlluniau Addysg Personol (PEP’s) i gyfeirio hefyd at y gefnogaeth barhaus, ychwanegodd. Roedd hyn yn helpu ac i raddau’n goresgyn unrhyw ddiffyg yn nifer yr ymweliadau gan y Rheolwyr Adolygu Annibynnol mewn lleoliad un i un mwy personol.

 

Awgrymodd Swyddogion hefyd fod nifer o raglenni wedi eu creu i fynd i’r afael â thrais yn y cartref, drwy weithio gyda’r dioddefwr a’r un sy’n gyfrifol am y trais, yn cynnwys y Rhaglen Teuluoedd Ysbrydoledig (Inspiring Families Programme).

 

Nododd Aelod, ar sail y wybodaeth gefnogol yn yr adroddiad, ac o safbwynt ystyriaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig i’r dyfodol, fod argymhelliad i leihau nifer y staff cefnogi swyddfa ar gyfer y Tîm Amddiffyn Plant. Holodd os oedd siawns y byddai hyn yn tynnu oddi ar y lefelau cefnogaeth gyfredol ar gyfer plant maeth, a.y.b.  

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyn yn rhywbeth a oedd dan ystyriaeth wrth symud ymlaen, ond bod cyfarfodydd Rheoli cyson yn cael eu cynnal o fewn y Gyfarwyddiaeth ar sail cylch parhaus, i gyfarfod â phob gwasanaeth wrth i’r heriau gynyddu o fewn y timau. Roedd hyn yn cynnwys y Rheolwyr Adolygu Annibynnol, yn enwedig er mwyn sicrhau fod cefnogaeth ddigonol ar gael o safbwynt eu gwaith yn cynnwys eu llwyth gwaith ar unrhyw adeg benodol.

 

Nododd y Cadeirydd fod esgeulustod yn ffactor gyffredin iawn ymysg Plant sy’n Derbyn Gofal. Holodd os oedd data ar gael i ddangos faint o blant oedd yn cael eu hesgeuluso a faint sy’n gallu hawlio prydau ysgol am ddim.

 

Eglurodd Swyddogion nad oedd y data hwn ganddynt wrth law, serch hynny, cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Plant y byddai’n trafod y mater gyda’r Gyfarwyddiaeth Blant ac yn darparu data i Aelodau maes o law, y tu allan i’r cyfarfod.

 

CYTUNWYD:                         Fod y Pwyllgor yn nodi adroddiad y Gwasanaeth Adolygu Annibynnol, cynnwys y cyflwyniad pwynt p?er a chynllun gweithredu’r Gwasanaeth Adolygu Annibynnol (atodir yn Atodiad A yr adroddiad).

 

Dogfennau ategol: