Agenda item

Polisi Atal Efadu Trethi

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, adroddiad er mwyn cyflwyno'r Polisi Atal Efadu Trethi newydd i'w gymeradwyo gan y Cabinet.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir, ac ar ôl hynny cadarnhawyd bod y Cyngor wedi ymrwymo i sefydlu a chynnal trefniadau effeithiol i ganfod achosion o lwgrwobrwyo, llygredd ac efadu trethi mewn perthynas â'i wasanaethau Cyngor. Mae'n ei gwneud hi'n ofynnol i bob Aelod Etholedig a chyflogai arddangos y safonau uchaf o onestrwydd ac uniondeb, gan gynnwys cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth berthnasol.

 

Esboniodd fod gan y Cyngor eisoes bolisïau Atal Twyll a Llwgrwobrwyo, ac Atal Gwyngalchu Arian mewn grym i gefnogi trefniadau effeithiol i atal a chanfod achosion o lwgrwobrwyo a llygredd. Roedd y rheiny'n cael eu monitro a'u hadolygu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Erbyn hyn, ychwanegodd fod polisi wedi cael ei ddatblygu'n benodol er mwyn ymdrin â'r angen i atal efadu trethi, a byddai'r polisi hwn yn cynnig ymagwedd gydlynol a chyson i bob cyflogai ac unrhyw un sy'n cyflenwi gwasanaethau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac ar ei ran. Roedd y Polisi Atal Efadu Trethi wedi'i atodi yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Roedd y datganiad polisi hwn yn atodol i Strategaeth Atal Twyll a Llwgrwobrwyo ehangach y Cyngor, a nodai'r prif gyfrifoldebau o ran atal twyll, a'r hyn i wneud pe  ceir amheuaeth o dwyll neu afreoleidd-dra ariannol, a'r camau a gymerir gan reolwyr o ganlyniad i hynny.

 

Diolchodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid i'r Rheolwr Cyllid - Llywodraethu a'r Trysorlys am ei gwaith caled er mwyn datblygu'r Polisi.

 

Cymeradwyodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a fyddai'n diogelu'r Awdurdod ac yn sicrhau bod pawb a ddylai dalu treth yn gwneud hynny go iawn. Gofynnodd a oedd darpariaethau'r Polisi'n berthnasol hefyd i aelodau lleol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid eu bod yn berthnasol.

 

Gofynnodd yr Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol a fyddai staff yn derbyn hyfforddiant ar y Polisi. Mewn ymateb i hyn, dywedodd y Rheolwr Cyllid - Llywodraethu a'r Trysorlys y byddai modiwl hyfforddi e-ddysgu yn cael ei roi ar waith ar gyfer hyn, fel y gwnaed â'r Polisi Atal Twyll a gyflwynwyd yn flaenorol.

 

Roedd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar yn dymuno gwneud pwynt ynghylch Taliadau Uniongyrchol a'r ymgyrch i gwsmeriaid bregus o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol dderbyn a newid i hyn. Dywedodd ei bod am gael sicrwydd y byddai digon o wybodaeth yn cael ei rhannu a hyfforddiant ar gael i'r rhai sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol er mwyn sicrhau na fyddai'r math hwnnw o gwsmer, yn benodol, yn gweithredu'n groes i'r gyfraith ar ddamwain. Dywedodd yr Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar fod angen cyfleu'n glir wrth yr unigolion hyn beth oedd eu cyfrifoldebau fel cyflogeion, a sicrhau bod ganddynt fynediad at yr wybodaeth gywir.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ymchwilio i'r trefniadau ar gyfer rheoli Taliadau Uniongyrchol a'r cyfrifon ar eu cyfer, er mwyn helpu i atal problemau tebyg i'r hyn y cyfeiriwyd ato uchod.

 

Daeth yr Arweinydd â'r drafodaeth ar yr adroddiad i ben drwy ddweud fod CaThEM ar hyn o bryd yn ymdrin ag 13 achos troseddol corfforaethol byw o dwyll trethi ar hyn o bryd, a bod 18 achos arall yn cael eu hadolygu. Roedd angen felly i'r holl gyflogeion yn y sefydliad gydnabod pwysigrwydd efadu trethi, hyd yn oed os oeddent yn gwneud hynny ar ddamwain yn hytrach nag yn fwriadol. Roedd hi'n ddyletswydd hefyd i'r Awdurdod, drwy ei Bolisi a'i weithdrefnau a'i brotocolau cysylltiedig, ymdrechu i sicrhau nad oes unrhyw gyflogai'n gweithredu'n groes i ddarpariaethau'r Polisi newydd, lle bynnag y bo modd.

 

 

PENDERFYNWYD:                              Bod y Cabinet:-

 

           Yn cymeradwyo'r Polisi Atal Efadu Trethi a geir yn Atodiad A yr adroddiad;

 

           Yn nodi'r diwygiadau a gynigir i'r Cylch Gorchwyl a'r Cyfansoddiad a geir yn Atodiad B i'w cyflwyno i'w cymeradwyo gan y Cyngor.

 

Dogfennau ategol: